Rhannwch eich barn ar gynigion ar gyfer gweithredu a gorfodi'r cyfyngiad ar werthu diodydd egni caffein uchel i blant dan 16 oed yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Ymgynghorodd y Llywodraeth Cymru flaenorol ar gynigion i wahardd gwerthu diodydd egni sy'n uchel mewn caffein i blant o dan 16 oed yng Nghymru, a chynhaliodd Alwad am Dystiolaeth yn ddiweddarach.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth a'r ymatebion a ddaeth i law mae'r Llywodraeth Cymru bresennol wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynigion hyn.
Roedd ymgynghoriad 2022 yn gofyn am farn ar isafswm oedran gwerthu ar gyfer diodydd egni sy'n uchel mewn caffein, y cynhyrchion a’r busnesau o fewn cwmpas gwaharddiad a’r amgylcheddau lle byddai gwaharddiad yn berthnasol, gan gynnwys peiriannau gwerthu.
Dangosodd yr ymgynghoriad gefnogaeth gan y mwyafrif i gyfyngiadau ar werthu diodydd egni uchel mewn caffein i blant. Roedd yr Alwad am Dystiolaeth ddilynol yn darparu tystiolaeth ychwanegol a oedd yn cefnogi’r cyfeiriad polisi yn fras ond gan nodi nifer o ystyriaethau gweithredu a gorfodi.
Rydym ni bellach yn ymgynghori i geisio barn ar gynigion ynghylch gweithredu a sut i orfodi gwaharddiad, gan gynnwys asesu cydymffurfiaeth, gwirio oedran, sancsiynau a monitro.
Dogfennau ymgynghori
Cyfyngu ar werthu diodydd egni caffein uchel i blant: asesiad o'r effaith ar hawliau plant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 211 KB
Cyfyngu ar werthu diodydd egni caffein uchel i blant: asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 209 KB
Cyfyngu ar werthu diodydd egni caffein uchel i blant: asesiad o'r effaith ar iechyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 211 KB
Cyfyngu ar werthu diodydd egni caffein uchel i blant: asesiad effaith integredig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 94 KB
Cyfyngu ar werthu diodydd egni sy’n uchel mewn caffein i blant: asesiad effaith rheoleiddiol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 457 KB
Help a chymorth
Mae fersiwn print bras, Braille ac ieithoedd amgen o’r ddogfen hon ar gael ar gais. Gellir cyflwyno ymatebion yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd unrhyw ymateb a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nag ymateb a gyflwynir yn Saesneg.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 17 Rhagfyr 2026, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Y Gangen Penderfynyddion Iechyd Ehangach:
Y Gyfarwyddiaeth Iechyd y Cyhoedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ.
