Neidio i'r prif gynnwy

Mae enillwyr Gwobrau Dewi Sant eleni wedi cael eu datgelu yn ystod seremoni rithwir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Gwobrau Dewi Sant, yn ei 8fed flwyddyn, yn gyfle i gydnabod cyflawniadau eithriadol pobl yng Nghymru neu bobl sy’n dod o Gymru, a chydnabod y gweithredoedd a’r cyfraniadau mawr a wnaed gan bobl o bob cefndir, yn ystod blwyddyn eithriadol o anodd yr ydym wedi’i hwynebu.

Categorïau’r gwobrau eleni yw: Dewrder, Busnes, Ysbryd y Gymuned, Diwylliant a Chwaraeon, Gwobr Ddyngarol, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Person Ifanc, Gweithiwr Hanfodol a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.

Gan siarad yn y digwyddiad rhithwir, dywedodd Prif Weinidog Cymru:

“Mae teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant eleni yn grŵp ysbrydoledig o bobl yr ydym yn lwcus i’w cael yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod heriol. Mae pandemig y coronafeirws wedi achosi llawer o dristwch a thorcalon – ond mae hefyd wedi ysgogi’r gorau ymhlith llawer o bobl. Dim ond cyfran fach o’r rhai sydd wedi mynd y tu hwnt i’r galw yw’r enillwyr heno, ac maent yn ysbrydoliaeth wirioneddol i bob un ohonom."

Cyhoeddodd y Prif Weinidog fod yr Athro Keshav Singhal MBE yn derbyn Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.

Yr Athro Singhal yw Cadeirydd grŵp Asesu Risg COVID-19, a sefydlwyd ar ddechrau’r achosion o’r Coronafeirws, a arweiniodd at ddatblygu adnodd Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan.

Y rhestr o enillwyr Gwobrau Dewi Sant yw:

  • Dewrder: John Rees, Lisa Way ac Ayette Bounouri 
  • Busnes: Little Inspirations 
  • Ysbryd y Gymuned: Deial i Deithio Sir Ddinbych 
  • Gweithiwr Hanfodol: Cartref Gofal Cherry Tree 
  • Diwylliant a Chwaraeon: Delwyn Derrick 
  • Gwobr Ddyngarol: John Puzey 
  • Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Y Fenter Ymchwil Busnesau Bach / Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Person Ifanc: Molly Fenton – Ymgyrch Love Your Period
  • Gwobr Arbennig y Prif Weinidog: Yr Athro Keshav Singhal MBE