Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad cyntaf y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, mae'r Gweinidog Tai, Julie James, wedi ymrwymo i weithredu ar unwaith mewn ymateb i argymhellion tymor byr y Grŵp i helpu i dynnu mwy o bobl oddi ar y stryd y gaeaf hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Gweinidog hefyd wedi croesawu argymhellion yr adroddiad ar fesurau tymor hirach i fynd i’r afael â chysgu allan a’i atal, ac wedi ymrwymo i gamau pellach yn y dyfodol agos. 

Jon Sparkes, Prif Weithredwr Crisis ar lefel y DU, yw arweinydd y grŵp, sy'n cynnwys amrywiol arbenigwyr o'r sector sy'n gweithio i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru. 

Ymhlith argymhellion yr adroddiad mae:

  • canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â phroblem cysgu allan yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam
  • sicrhau bod digon o lety brys a dros dro priodol i'r rheini sy'n cysgu allan
  • cyllido a hyfforddi digon o weithwyr egnïol i gyrraedd allan at bobl sy'n cysgu ar y stryd a'u helpu i'w cael i mewn i lety priodol y gaeaf hwn
  • goresgyn rhwystrau a chamddealltwriaeth sy'n atal pobl sy'n cysgu allan rhag cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt; dylai cymdeithasau tai, cynghorau a Llywodraeth Cymru gydweithio i ddefnyddio eu hadnoddau i sicrhau bod cymaint â phosibl o gartrefi cymdeithasol ar gael i'w gosod i bobl ddigartref, yn enwedig i'r rheini a fyddai fel arall yn cysgu allan
  • sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod sut i helpu pobl sy'n ddigartref. 

Dywedodd Jon Sparkes:

Mae cael cartref diogel a chyfforddus yn angen sylfaenol, a dydy hi ddim yn iawn bod yna bobl ledled Cymru sydd heb hyn.

Cysgu allan yw’r ffurf fwyaf eithafol a pheryglus o ddigartrefedd. Dw i’n bles felly fod Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol a gwasanaethau cymorth yn mynd i gydweithio ar frys y gaeaf yma i helpu mwy o bobl oddi ar y stryd ac i mewn i lety sefydlog.

Y ffordd orau o ddelio â chysgu allan – a digartrefedd yn ei holl ffurfiau – yw stopio’r peth rhag digwydd yn y lle cyntaf. Dyna pam dw i’n edrych ymlaen at gam nesaf gwaith y Grŵp Gweithredu, a fydd yn gwneud argymhellion ar y camau y mae angen inni eu cymryd yng Nghymru i roi terfyn ar ddigartrefedd unwaith ac am byth.

Dywedodd Julie James: 

Dw i'n hynod ddiolchgar i'r grŵp am weithio mor gyflym i lunio argymhellion i'w rhoi ar waith y gaeaf yma.

Mae cysgu allan yn broblem ym mhob rhan o Gymru - fodd bynnag dw i'n derbyn awgrym y grŵp y dylen ni ganolbwyntio ar y pedair ardal lle mae niferoedd y rheini sy'n cysgu allan ar eu huchaf, ac eto heb anghofio nac anwybyddu'r anghenion mewn mannau eraill.

Dw i ddim o dan unrhyw gamargraff y gallwn ni ddatrys y broblem yma dros nos, ond dw i'n benderfynol o ymateb yr un mor gyflym a brwd â'r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd y gaeaf yma. Rydyn ni eisoes wedi dechrau gweithio i sefydlu'r argymhellion hyn.