Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod pob bwrdd iechyd nawr mewn rhyw lefel o uwchgyfeirio yn sgil pryderon am yr heriau ariannol eithafol y maent yn eu hwynebu sy’n cael eu hachosi gan flynyddoedd o fesurau cyni Llywodraeth y DU a’r lefelau chwyddiant uchaf erioed.

Mae pedair lefel o ymyrraeth ar gael, sy’n sbarduno mwy o gymorth i sefydliadau’r GIG, o drefniadau arferol (y lefel ymyrraeth isaf); monitro uwch; ymyrraeth wedi'i thargedu, i fesurau arbennig (y gyfradd ymyrraeth uchaf).

Oherwydd yr hinsawdd ariannol eithriadol galed, nid yw byrddau iechyd wedi gallu cyflwyno Cynlluniau Tymor Canolig Integredig sy’n gytbwys yn ariannol. Bydd y byrddau iechyd hynny, nad oeddent eisoes ar ffurf ymyrraeth ar gyfer cynllunio a chyllid, yn cael eu huwchgyfeirio i fonitro uwch.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

Mae’n siomedig bod yr holl fyrddau iechyd wedi’u huwchgyfeirio ar gyfer cynllunio a chyllid. Nid ydym yn gwneud y penderfyniadau hyn yn ysgafn ac mae’n adlewyrchu’r sefyllfa ariannol anodd iawn rydym ynddi, o ganlyniad i chwyddiant a chyni, a’r heriau sy’n effeithio ar fyrddau iechyd.

Rydym yn gweld pwysau gweithredol, rhestrau aros hir, a sefyllfa ariannol eithriadol heriol yn y GIG – ond nid yw hyn yn unigryw i Gymru.

Byddwn yn cefnogi byrddau iechyd i wella eu sefyllfaoedd cynllunio ariannol, ond bydd angen gwneud rhai penderfyniadau anodd wrth i ni weithio drwy’r her ariannol galed iawn hon. Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ochr yn ochr â’r GIG, byddwn yn gweithio gyda’r cyhoedd i amlinellu lle mae angen gwneud arbedion i leihau’r diffygion sylweddol hyn yn y gyllideb.

Mae gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM), sydd wedi galluogi’r Gweinidog i leihau’r lefel ymyrraeth o ymyrraeth wedi’i thargedu i fonitro gwell ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Dywedodd fod y newid yn dyst i ymdrechion enfawr staff yr unedau i drawsnewid adran heriol iawn.

Mae’r swyddogaethau llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder wedi’u hisgyfeirio yn y bwrdd iechyd hefyd i fonitro gwell yn dilyn cynnydd sylweddol wrth fynd i’r afael â’r pryderon a’r argymhellion a godwyd yn adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru yn 2019.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd:

Er bod rhai meysydd o hyd lle mae angen gwelliannau pellach, mae’n amlwg bod cynnydd yn parhau i gael ei wneud ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rwyf wedi cael fy nghalonogi gan y gwelliannau hyn a hoffwn ddiolch i holl staff y bwrdd iechyd am eu holl waith caled yn cefnogi a thrawsnewid y gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a’r swyddogaethau llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder.

Mae lefelau uwchgyfeirio newydd Byrddau Iechyd eraill y GIG, yr ymddiriedolaethau a’r Awdurdodau Iechyd Arbennig yng Nghymru wedi'u datgan heddiw hefyd.