Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Enw

Enw'r Pwyllgor fydd Pwyllgor Meddygol Cymru.

Nodau ac amcanion

Darparu cyngor proffesiynol arbenigol i Weinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru ar bob mater sy’n ymwneud â’r proffesiwn meddygol; yn arbennig mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, ymgyngoriadau, deddfwriaeth a datblygu polisi.

Gweithredu fel arweinwyr i’r proffesiwn meddygol; yn arbennig mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, ymgysylltu â rhanddeiliaid, cynhyrchu canllawiau proffesiynol, ac annog ymateb clinigol eang i ymgyngoriadau cyhoeddus. 

Tynnu sylw’r Prif Swyddog Meddygol, a naill ai Prif Weithredwr y GIG neu Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, at faterion sy’n destun pryder sy’n ymwneud ag iechyd pobl Cymru fel y dylanwadir arnynt gan rôl y proffesiwn meddygol.

Hwyluso dosbarthu gwybodaeth ac arferion gorau sy’n ymwneud â’r proffesiwn meddygol, yn ogystal ag ategu’r gwaith o gyfathrebu materion cysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Aelodaeth

Mae’n rhaid i bob aelod o’r Pwyllgor gydymffurfio â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru a darparu ffurflen Cofrestru Buddiant wedi’i llenwi a’i llofnodi i Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor.

Mae’n rhaid i aelodau’r Pwyllgor feddu ar gymhwyster meddygol cydnabyddedig, bod wedi cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, meddu ar drwydded i ymarfer a bod yn gweithio yng Nghymru.

Bydd aelodaeth y Pwyllgor yn agored i bob aelod o’r proffesiwn meddygol sydd wedi cwblhau ei Hyfforddiant Blwyddyn Sylfaen. Bydd aelodau’n cael eu dethol ar ôl proses ymgeisio ffurfiol dan arweiniad Is-gadeirydd y Pwyllgor. Rhaid i hyn ddigwydd bob 2 flynedd o leiaf, os nad yn amlach. 

Er mwyn sicrhau tryloywder ni all detholwyr adolygu ffurflen gais gan ymgeisydd sy’n gweithio i’r un sefydliad. 

Mae’n rhaid i’r broses ddethol sicrhau amrywiaeth o arbenigeddau ac, os yn bosibl, bydd y prif bwyllgor yn cynnwys cynrychiolaeth o bob Bwrdd Iechyd.   

Bydd gan y Cadeirydd y pŵer i wahodd unrhyw berson neu bersonau dros dro fel bo angen i ddarparu gwybodaeth ar gyfer trafodion y Pwyllgor neu i gofnodi’r trafodion.   

Llywodraeth Cymru

Bydd y Prif Swyddog Meddygol, neu ei ddirprwy, yn mynychu holl gyfarfodydd cyffredin y Pwyllgor, holl gyfarfodydd y Grŵp Llywio, a gall fynychu cyfarfodydd eraill Pwyllgor Meddygol Cymru fel y bo’n briodol.

Mae gan y Prif Swyddog Meddygol, neu ei ddirprwy, hawl i dderbyn pob dogfen a phapur y byddai Aelodau’r Pwyllgorau neu’r grŵp yn ei dderbyn fel rheol, a gall gynnig eitemau i’w trafod a darparu cyngor arnynt.

Gall y Prif Swyddog Meddygol, neu ei ddirprwy, ofyn am gyngor drwy gysylltu’n uniongyrchol â Chadeirydd y Pwyllgor neu Aelodau unigol fel y bo’n briodol. Yn yr amgylchiadau hyn dylai’r Cadeirydd neu’r Aelod ymgynghori ag Aelodau eraill neu gydweithwyr proffesiynol a byddai’n briffio’r Pwyllgor yn y cyfarfod dilynol.

Bydd Llywodraeth Cymru’n darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth ar gyfer cyfarfodydd cyffredin y Pwyllgor. Gall Llywodraeth Cymru, yn ôl ei disgresiwn, gynnig lefel llai o wasanaeth i unrhyw gyfarfodydd eithriadol o’r Pwyllgor sydd eu hangen i gyflawni ei nodau a’i amcanion.

Y Prif Swyddog Meddygol fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer Swyddogion ac Aelodau mewn perthynas â Chylch Gwaith y Pwyllgor; fodd bynnag, yr Ysgrifenyddiaeth fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gweinyddiaeth y Pwyllgor.

 Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfodydd (naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb), darparu ystafell gyfarfod (naill ai ystafell rithwir neu go iawn), paratoi a dosbarthu papurau, briffio’r Cadeirydd, yn ysgrifenedig neu’n bersonol, ar gynnal cyfarfod y Pwyllgor a pharatoi cofnod o’r cyfarfod i’r Pwyllgor ei gymeradwyo fel y bo’n briodol. 

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cynnal Cylch Gorchwyl y Pwyllgor, rhestr yr aelodau, Cofrestr Buddiannau a chofnod o dreuliau. Bydd hefyd yn hwyluso cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cadeirydd a’r Prif Swyddog Meddygol, a chyfarfodydd pellach gyda’r Gweinidog perthnasol o Lywodraeth Cymru fel y bo’n briodol.

Cyfnod Swydd

Bydd aelodau’n cael eu penodi i’r Pwyllgor am gyfnod o dair blynedd a gellir eu hailbenodi am un cyfnod pellach o dair blynedd. Bydd eu penodiad yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o chwe blynedd.

Mae disgwyl i aelodau fynychu pob cyfarfod. Pan fydd Aelod yn methu mynychu cyfarfod dylid anfon ymddiheuriad ffurfiol i Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor ymlaen llaw. Gall absenoldebau heb eu cofnodi o ddau gyfarfod wedi’u trefnu mewn un flwyddyn galendr arwain at atal aelodaeth yr Aelod o’r Pwyllgor dros dro neu derfynu aelodaeth, y Cadeirydd fydd i benderfynu hyn.

Pan mae Aelod yn methu gwneud gwaith y Pwyllgor a/neu gwblhau tasgau ar gyfer y Pwyllgor yn ôl yr amserlen neu i’r safon y cytunwyd arni heb reswm da, gall y Pwyllgor ofyn i’r Aelod ymddiswyddo o’r Pwyllgor.

Gall Aelodau ymddiswyddo o’r Aelodaeth ar unrhyw adeg drwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r Cadeirydd. 

Swyddogion

Bydd yr Aelodau’n dewis Cadeirydd a dau Is-gadeirydd o blith aelodau’r Grŵp Llywio. Y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd fydd ‘Swyddogion’ y Pwyllgor a byddant yn gwasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd ond gellir eu hailethol am gyfnod pellach o ddwy flynedd. Ni all gwasanaethu fel Cadeirydd neu Is-gadeirydd ymestyn y cyfnod mwyaf a ganiateir i Aelod wasanaethu ar y Pwyllgor (chwe blynedd). 

Os nad oes ymgeisydd addas wedi’i enwebu i olynu’r Cadeirydd presennol bydd yr Is-gadeirydd a Gweithiwr Proffesiynol Arweiniol Llywodraeth Cymru yn cydweithio i wneud trefniadau angenrheidiol er mwyn cyflwyno ymgeisydd addas i weithredu fel y Cadeirydd, a gallai hyn gynnwys penodi Cadeirydd dros dro i wasanaethu am gyfnod o lai na dwy flynedd.

Bydd Swyddogion yn cael eu hethol drwy bleidlais, naill ai mewn cyfarfod o’r Grŵp Llywio neu’n electronig drwy’r Ysgrifenyddiaeth.

Pan fydd yn y swydd mae’r Cadeirydd yn gyfrifol am bennu arddull a naws trafodaethau’r Pwyllgor a chreu’r amodau cyffredinol i’r Pwyllgor gyflawni ei nodau a’i amcanion datganiedig, fel y’u nodwyd yn y Cylch Gorchwyl. 

Ni fydd y Cadeirydd yn eirioli ar ran unrhyw grŵp na chorff a bydd yn dangos arweiniad moesegol drwy onestrwydd ac uniondeb yn unol ag Egwyddorion Nolan a bydd yn sicrhau bod yr holl Aelodau’n gweithredu er budd Nodau ac Amcanion y Pwyllgor, nid er budd unrhyw arbenigedd, sector neu gorff sefydledig.

Bydd y Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd neu ddirprwy enwebedig yn mynychu’r Cyd-bwyllgor Cynghori Proffesiynol Cenedlaethol fel cynrychiolwyr y Pwyllgor a bydd yn sicrhau bod nodau ac amcanion y Pwyllgor yn cyd-fynd yn strategol â rhai Pwyllgorau Cynghori Statudol eraill.

Gall Cadeirydd neu Is-gadeirydd ymddiswyddo drwy ddarparu rhybudd ysgrifenedig i’r Gweithiwr Proffesiynol Arweiniol yn Llywodraeth Cymru. 

Mae Cadeirydd neu Is-gadeirydd yn gorffen fel Aelod o’r Pwyllgor ac yn ildio ei swydd os yw ei gofrestriad gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn dod i ben, os yw’n marw neu’n methu mynychu dau gyfarfod yn olynol heb reswm dilys.

Bydd yr Is-gadeirydd yn ysgwyddo holl gyfrifoldebau, dyletswyddau a phwerau’r Cadeirydd pe na bai’r Cadeirydd ar gael yn sgil ymddiswyddiad, absenoldeb, salwch neu farwolaeth. Ni ddylai hyn fod am fwy na dau gyfarfod cyffredin yn olynol, ac mae’n rhaid i’r Pwyllgor ethol olynydd ar y pwynt hwn.

Grŵp Llywio

Bydd y pwyllgor yn ffurfio Grŵp Llywio sy’n cyfarfod o leiaf bob chwarter er mwyn hyrwyddo nodau ac amcanion Pwyllgor Meddygol Cymru, fel yr amlinellwyd yn y Cylch Gorchwyl. 

Bydd y Grŵp Llywio’n cynnwys y Cadeirydd, Is-gadeiryddion, Prif Swyddog Meddygol ac aelodau penodedig eraill o’r prif bwyllgor y mae angen eu sgiliau i sicrhau bod nodau ac amcanion y pwyllgor yn cael eu cyflawni. 

Nid yw aelodaeth y Grŵp Llywio’n sefydlog ac mae ar ddisgresiwn y Cadeirydd. Ni ddylai’r Grŵp Llywio gynnwys mwy na 15 aelod fel arfer. 

Cyfarfodydd

.

Fel rheol, dylai’r Pwyllgor gael dau gyfarfod o’r holl aelodau bob blwyddyn, i’w trefnu’n flynyddol gan yr Ysgrifenyddiaeth a’u cymeradwyo gan y Cadeirydd. 

 

Bydd yn rhaid cael o leiaf hanner cyfanswm aelodau’r Pwyllgor yn bresennol i sicrhau cworwm.

Fel rheol, dylai penderfyniadau’r Pwyllgor gael eu gwneud drwy gonsensws. Os oes rhaid pleidleisio bydd pleidlais fwrw gan y Cadeirydd os yw’r bleidlais yn gyfartal.

Ni fydd y Pwyllgor yn mynd i fwy o gostau nag sy’n rhaid er mwyn cyflawni ei amcanion. Dylai unrhyw dreuliau fod yn benodol gysylltiedig â gwaith y Pwyllgor ac mae’n rhaid i’r Pwyllgor ofyn am ganiatâd ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, drwy’r Ysgrifenyddiaeth, cyn mynd i unrhyw gostau. Ni ddylid talu am logi ystafelloedd cyfarfod; mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd ledled Cymru ac mae’n barod i’w darparu am ddim. 

Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu ar y treuliau a’r gynhaliaeth a delir i Aelodau’r Pwyllgor. Dim ond i Aelodau sy’n gweithredu fel cynrychiolwyr y Pwyllgor y gellir talu treuliau heblaw treuliau mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor. Bydd treuliau ychwanegol o’r fath yn cael eu talu fesul achos, ac fel arfer ond yn cael eu talu ar ôl i’r Ysgrifenyddiaeth dderbyn awdurdod ysgrifenedig gan y Cadeirydd neu’r Prif Swyddog Meddygol cyn i’r gwariant ddigwydd.

Ni fydd Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am lety dros nos neu letygarwch oni bai fod cymeradwyaeth ysgrifenedig wedi’i rhoi drwy’r Ysgrifenyddiaeth cyn i’r gwariant ddigwydd a’r holl ddogfennau priodol wedi’u derbyn gyda’r hawliad. Dylai’r holl dreuliau ymwneud yn gyfan gwbl â chyflawni nodau ac amcanion y Pwyllgor, fel y nodwyd yn y Cyfansoddiad hwn.

Dyletswyddau a Phwerau

Mae’n rhaid i’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd neu’r dirprwy enwebedig, gynrychioli’r Pwyllgor yn y Cyd-bwyllgor Cynghori Proffesiynol Cenedlaethol neu bwyllgor cyfatebol, gyda’r nod o sicrhau bod Pwyllgor Meddygol Cymru’n cysoni ei nodau a’i amcanion gyda nodau ac amcanion pwyllgorau cynghori statudol eraill. 

Bydd y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd neu’r dirprwy enwebedig yn cynrychioli’r Pwyllgor mewn unrhyw gyfarfodydd neu ddigwyddiadau angenrheidiol, er enghraifft: mynychu Pwyllgorau Cynghori statudol eraill neu gyfarfodydd gyda’r Gweithiwr Proffesiynol Arweiniol, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet neu Brif Weithredwr y GIG fel bo angen er mwyn cefnogi cyflawni nodau ac amcanion y Pwyllgor, fel y nodwyd yn y Cylch Gorchwyl.

Gall y Grŵp Llywio ffurfio Grwpiau Gorchwyl a Gorffen fel bo angen i gefnogi cyflawni nodau ac amcanion cytunedig y Pwyllgor, fel y nodwyd yn y Cylch Gorchwyl. Mae’n rhaid i’r grwpiau hyn dderbyn arweiniad y Grŵp Llywio ac mae’n rhaid i’r Grŵp Llywio adrodd yn ôl yn rheolaidd i’r prif Bwyllgor. 

Ni all Aelodau gymryd camau gweithredol na gweithredu fel cynrychiolydd y Pwyllgor heb awdurdod y Cadeirydd.

Adolygiad

Bydd y Cylch Gorchwyl yn cael ei adolygu o leiaf bob pedair blynedd, os nad yn amlach.

Gall Aelodau gynnig argymhellion i ddiwygio’r Cylch Gorchwyl ar unrhyw adeg.

Dylai’r Cadeirydd ymgynghori â’r Prif Swyddog Meddygol a’r Ysgrifenyddiaeth ar ddiwygiadau arfaethedig i’r Cylch Gorchwyl cyn cymeradwyo unrhyw newidiadau. 

Bydd diwygiadau i’r Cylch Gorchwyl yn cael eu trin fel rhai wedi’u cymeradwyo unwaith y bydd mwyafrif o Aelodau’r Grŵp Llywio wedi pleidleisio o blaid mewn pleidlais. Gellir cynnal y bleidlais mewn cyfarfod y Grŵp Llywio neu’n electronig drwy’r Ysgrifenyddiaeth, yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.