Cylchlythyr demograffeg Ystadegau Cymru: Mawrth 2023
Cylchlythyr Mawrth 2023 ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru ar yr ystadegau diweddaraf am boblogaeth, mudo, cartrefi a’r Gymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer Cymru, y DU, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon: Canol 2021
Cyhoeddwyd amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 ar gyfer Cymru a gwledydd y DU ar 21 Rhagfyr 2022 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, dyma’r amcangyfrifon poblogaeth cyntaf i gael eu seilio ar gyfrifiadau 2021 ar gyfer y gwledydd hyn. Ar gyfer yr Alban, symudwyd y cyfrifiad i 2022 (oherwydd effaith pandemig COVID-19) gydag amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 yn cael eu treiglo ymlaen o ganol 2020 gan ddefnyddio’r dull safonol.
- Amcangyfrif poblogaeth canol 2021 Cymru oedd 3,105,000, sef cynnydd o 1.4% (42,000) ers amcangyfrif canol 2011.
- Amcangyfrifwyd bod pobl 65 oed neu hŷn yn cyfrif am ychydig dros un ymhob pump o boblogaeth Cymru yng nghanol 2021, y gyfran uchaf o holl wledydd y DU (21.4% yng Nghymru, neu 666,000 o bobl).
- Roedd 60.9% o’r boblogaeth yn 16-64 oed yng nghanol 2021 (tua 1,893,000 o bobl).
- Plant a phobl ifanc 0 i 15 oed oedd yn cyfrif am y 17.6% arall o’r boblogaeth yng nghanol 2021 (547,000 o blant a phobl ifanc).
- Amcangyfrif poblogaeth canol 2021 y DU (SYG) oedd 67,026,000, sef cynnydd o 3.7 miliwn (5.9%) ers yr amcangyfrif o’r boblogaeth yng nghanol 2011.
Amcangyfrifodd Cyfrifiad 2021 fod poblogaeth Cymru tua 3,107,500 ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Amcangyfrifir bod poblogaeth Cymru wedi gostwng ychydig yn y cyfnod rhwng Diwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth) a 30 Mehefin 2021, tua 2,000 o bobl yn llai. Mae hyn oherwydd newid naturiol negyddol (llai o enedigaethau na marwolaethau), a mudo net negyddol (mwy o bobl yn symud allan o Gymru na phobl yn symud i Gymru) yn ystod y cyfnod hwn. Mae mudo mewnol net negyddol (mwy o bobl yn symud allan o Gymru i rannau eraill o’r DU na phobl yn symud i Gymru) rhwng Diwrnod y Cyfrifiad a 30 Mehefin 2021 yn rhannol oherwydd bod myfyrwyr a graddedigion wedi symud o gyfeiriadau yn ystod y tymor i gyfeiriadau nad ydynt yn gyfeiriadau yn ystod y tymor yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, gall y newid yn y boblogaeth yn ystod y cyfnod hwn hefyd adlewyrchu rhai effeithiau sy’n gysylltiedig â’r pandemig, gan fod llawer o’r cyfyngiadau a oedd mewn grym ar Ddiwrnod y Cyfrifiad wedi’u codi erbyn 30 Mehefin 2021.
Mae’r SYG wedi datgan y bydd yr amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer y DU yn cael eu hadolygu yn y ddwy flynedd nesaf i gynnwys amcangyfrifon poblogaeth wedi’u diweddaru ar gyfer yr Alban, gan ymgorffori cyfrifiad 2022 ar gyfer yr Alban, yn ogystal â diwygiadau i ddata mudo rhyngwladol fel rhan o’u trawsnewidiad o ystadegau poblogaeth a mudo. Mae’r data ar gael ar StatsCymru.
Cysoni amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn gyda Chyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr
Ar 28 Chwefror, cyhoeddodd y SYG ddadansoddiad Cysoni amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn gyda Chyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr.
Yn dilyn hyn, cyhoeddwyd dadansoddiad Cysoni amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn gyda Chyfrifiad 2021 ar lefel awdurdod lleol (SYG) ar 2 Mawrth.
Cysoni yw’r broses o gymharu’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol newydd ar gyfer canol 2021 (sy’n deillio o ddefnyddio data Cyfrifiad 2021), gydag amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer canol 2021 a gafodd eu treiglo ymlaen o 2020. Mae’r amcangyfrifon a gafodd eu treiglo ymlaen yn dangos beth fyddai amcangyfrif y SYG o’r boblogaeth wedi bod yn absenoldeb Cyfrifiad 2021.
- Mae amcangyfrif swyddogol poblogaeth canol 2021 Cymru, yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2021, 66,800 (2.11%) yn is na’r amcangyfrif a gafodd ei dreiglo ymlaen ers Cyfrifiad 2011.
- Ar gyfer Cymru, mae yna 22,500 yn fwy o fenywod a 44,300 yn fwy o ddynion yn yr amcangyfrif a gafodd ei dreiglo ymlaen o 2021.
Mae’r erthyglau’n cynnwys gwybodaeth am achosion posibl y gwahaniaethau ac yn archwilio effeithiau’r gwahaniaethau yn ôl oedran a rhyw'r boblogaeth, ac ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol.
Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol interim ar sail 2020: amrywiad amcangyfrif mudo rhyngwladol y flwyddyn a ddaeth i ben mis Mehefin 2022
Ar 27 Ionawr, cyhoeddodd y SYG Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol interim ar sail 2020: amrywiad amcangyfrif mudo rhyngwladol. Mae’r datganiad hwn, sy’n cynnwys data yn unig, yn darparu rhagdybiaethau newydd o ran mudo rhyngwladol sydd wedi’u datblygu yn dilyn y cyngor arbenigol diweddaraf a’r amcangyfrifon dros dro diweddaraf ar fudo rhyngwladol. Mae’r amcanestyniadau hyn yn amrywiad o’r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol interim ar sail 2020.
Cyfrifiad 2021
Creu set ddata wedi’i theilwra
Ar 28 Mawrth, cyhoeddodd y SYG adeiladwr tablau hyblyg ar gyfer data Cyfrifiad 2021, sef offeryn Creu set ddata wedi'i theilwra (SYG).
Am y tro cyntaf, mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am ryngweithiadau rhwng pynciau sy’n bwysig iddyn nhw ac adeiladu setiau data eu hunain. Mae’r SYG wedi cyhoeddi blog i gyd-fynd â’r offeryn hwn, sy’n cynnwys fideo byr yn esbonio sut i greu eich setiau data wedi’u teilwra eich hun.
Cofrestr etholiadol
Disgwylir i ystadegau’r Gofrestr Etholiadol 2022 i Gymru gael eu cyhoeddi ar 20 Ebrill 2023.
Ystadegau’r Gymraeg
I gael gwybodaeth am ystadegau'r Gymraeg, gweler diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru.
Manylion cyswllt
Martin Parry
Rhif ffôn: 0300 025 0373
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099