Neidio i'r prif gynnwy

Cyfrifiad 2021

Demograffeg a mudo yng Nghymru: Cyfrifiad 2021

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) Gyfrifiad 2021 o amcangyfrifon o’r boblogaeth a chartrefi wedi’u talgrynu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ar 28 Mehefin. Gwnaethom hefyd gyhoeddi bwletin ystadegol yn crynhoi'r prif bwyntiau i Gymru, yn edrych ar newid dros amser a chyfansoddiad y boblogaeth yn ôl rhyw ac yn ôl grwpiau oedran pum mlynedd ar gyfer awdurdodau lleol Cymru.

Ar 2 Tachwedd, cyhoeddodd y SYG ddiweddariad yn darparu amcangyfrifon o’r boblogaeth a chartrefi heb eu talgrynu, gan gynnwys trosolwg o'r boblogaeth na chawsant eu geni yn y DU a nodweddion cartrefi a thrigolion yng Nghymru.

Mae’r SYG hefyd wedi cyhoeddi Demograffeg a mudo: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr (Swyddfa Ystadegau Gwladol) sy'n cynnwys rhywfaint o ddata yn ôl ardal gynnyrch. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fwletin ystadegol hefyd yn crynhoi'r canlyniadau allweddol i Gymru. Bydd peth data ar gael ar StatsCymru yn ystod yr wythnosau nesaf.

Prif bwyntiau

Amcangyfrifon o’r boblogaeth heb eu talgrynu

  • Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, amcangyfrifwyd mai maint y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru oedd 3,107,494, sef y boblogaeth fwyaf erioed i gael ei chofnodi trwy gyfrifiad yng Nghymru.
  • Yr amcangyfrif oedd bod 1,347,114 o aelwydydd gydag o leiaf un preswylydd arferol yng Nghymru ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
  • Yn 2021, roedd yr oedran cyfartalog (canolrif) yng Nghymru yn 42 oed. Mae hyn yn uwch na'r oedran cyfartalog (canolrif) o 41 oed yn 2011. Yr oedran cyfartalog (canolrif) yn Lloegr yn 2021 oedd 40 oed.

Mudo

  • Allan o'r amcangyfrif bod 3.1 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru yn 2021, ganwyd 2.9 miliwn (93.1%) yn y DU a ganwyd 215,000 (6.9%) y tu allan i'r DU.
  • Mae nifer y preswylwyr yng Nghymru sy'n cael eu geni y tu allan i'r DU wedi cynyddu 28.3% (48,000) rhwng Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021. Yn Lloegr, mae nifer y trigolion a anwyd y tu allan i'r DU wedi cynyddu 33.6% (2.5 miliwn).
  • Yng Nghymru, Gwlad Pwyl oedd y wlad enedigol fwyaf cyffredin y tu allan i'r DU o hyd yn 2021 (24,832 o bobl, 0.8% o'r holl drigolion arferol).
  • Roedd nifer y preswylwyr yng Nghymru sy’n rhestru Rwmania fel eu gwlad enedigol wedi cynyddu bron i bum gwaith (469.9%) rhwng 2011 a 2021, gan gynyddu 7,025.
  • Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn amcangyfrif bod gan 2.5 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru (81.2%) o leiaf un pasbort ac nad oedd gan 583,000 (18.8%) basport.
  • Roedd gan 124,557 o drigolion arferol (4.0%) basbort heb fod yn basbort gan y DU, a phasbort Gwlad Pwyl oedd y pasbort mwyaf cyffredin heb fod yn basbort gan y DU.

Nodweddion cartrefi

  • O'r 3.1 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru yn 2021, roedd 3,051,549 (98.2%) yn byw mewn cartrefi ac roedd 55,945 (1.8%) yn byw mewn sefydliadau cymunedol.
  • Yng Nghymru, roedd 35.1% o aelwydydd yn cynnwys dau berson, gyda'r mwyafrif o aelwydydd (67.0%) yn cynnwys un neu ddau o bobl. Mae hyn ychydig yn uwch nag yn 2011 pan oedd 65.6% o aelwydydd yn cynnwys un neu ddau o bobl.
  • Yn gyffredinol, roedd 63.1% o aelwydydd (850,096) yn aelwydydd un teulu, 31.9% (429,559) yn aelwydydd un person a 5.0% (67,459) yn cynnwys mwy nag un teulu neu’n fathau eraill o aelwydydd.
  • Roedd y mathau mwyaf cyffredin o aelwydydd un teulu yn cynnwys y rhai sydd â chwpl priod neu bartneriaeth sifil gyda phlant dibynnol (11.9%), a'r rhai sydd â chwpl priod neu bartneriaeth sifil heb unrhyw blant (10.8%).
  • Yng Nghymru, roedd 43.8% o'r holl breswylwyr arferol 16 oed neu hŷn yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Hwn oedd y grŵp mwyaf yn 2021. Fodd bynnag, mae hyn wedi gostwng ers 2011, pan oedd 46.7% yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
  • Cynyddodd canran y bobl nad ydynt erioed wedi priodi neu gofrestru partneriaeth sifil 3.7 pwynt canran, o 33.5% yn 2011 i 37.2% yn 2021. Cododd nifer y bobl a oedd wedi ysgaru neu yr oedd eu partneriaeth sifil wedi ei diddymu ychydig, o 9.7% yn 2011 i 9.9% yn 2021.

Cyn-filwyr lluoedd arfog y DU yng Nghymru: Cyfrifiad 2021

Ar 10 Tachwedd, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi Cyn-filwyr Lluoedd Arfog y DU, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fwletin ystadegol hefyd yn crynhoi'r canlyniadau allweddol i Gymru.

Prif bwyntiau

  • Yn 2021, dywedodd tua 115,000 o bobl yng Nghymru eu bod wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol. Mae hyn tua 4.5% o breswylwyr arferol 16 oed neu'n hŷn.
  • Roedd canran cyn-filwyr lluoedd arfog y DU yn uwch yng Nghymru nag a oedd yn Lloegr (3.8%, 1.7 miliwn).
  • O boblogaeth cyn-filwyr lluoedd arfog y DU yng Nghymru, roedd 76.3% (88,000 o bobl) wedi gwasanaethu yn flaenorol yn y lluoedd rheolaidd, roedd 19.3% (22,000 o bobl) wedi gwasanaethu yn flaenorol yn y lluoedd wrth gefn, a 4.5% (5,000 o bobl) wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd a’r lluoedd wrth gefn.
  • Roedd tua 2,000 o gyn-filwyr lluoedd arfog y DU (1.8%) yn byw mewn sefydliadau cymunedol ac roedd y gweddill (tua 113,000, 98.2%) yn byw mewn cartrefi.
  • Roedd canran yr aelwydydd gydag un neu ragor o bobl a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn uwch yng Nghymru (8.1%, 109,000) nag a oedd yn Lloegr (7.0%%, 1.6 miliwn).
  • Ledled Cymru, mae'r awdurdodau lleol sydd â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr yn cynnwys Conwy (5.9%, 6,000 o bobl), Sir Benfro (5.7%, 6,000 o bobl) ac Ynys Môn (5.6%, 3,000 o bobl).

Cynlluniau’r SYG ar gyfer rhyddhau data Cyfrifiad 2021

Nod y SYG yw cyhoeddi holl brif ddata Cyfrifiad 2021 am boblogaeth Cymru a Lloegr o fewn dwy flynedd i'r cyfrifiad. Bydd y cyhoeddiadau hyn yn cael eu rhyddhau mewn tri cham:

  • Dechreuodd Cam 1 gyda'r amcangyfrifon o’r boblogaeth a chartrefi wedi’u talgrynu, a bydd hefyd yn cynnwys cyhoeddi crynodebau o bynciau, a phroffiliau ardal a gyhoeddwyd o hydref 2022. Y crynodebau o bynciau (mewn trefn yn ôl pryd y maent yn debygol o gael eu cyhoeddi) yw:
  • Bydd Cam 2 yn dechrau yn gynnar yn 2023. Bydd yn cynnwys cyhoeddi sylwebaethau ystadegol ochr yn ochr â data’r crynodebau o bynciau, data amlamryweb ar gyfer y sylfaen poblogaeth breswyl arferol, a rhyddhau data am y boblogaeth breswyl fyrdymor.
  • Bydd Cam 3 yn dechrau yng ngwanwyn 2023. Bydd y cam hwn yn cynnwys data ynghylch sylfeini poblogaeth amgen, poblogaethau bach, data mudo manwl, data 'llif' a samplau microddata.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghynlluniau cyhoeddi’r SYG.

Defnyddio data Cyfrifiad 2021 i fesur y boblogaeth nad ydynt o’r DU (heb eu geni yn y DU a ddim yn wladolion Prydeinig)

Fel rhan o drawsnewid ystadegau poblogaeth a mudo (Swyddfa Ystadegau Gwladol) a’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) (Swyddfa Ystadegau Gwladol), mae'r SYG yn adolygu'r dulliau gorau i gynhyrchu amcangyfrifon o boblogaeth y DU. Felly, bydd cyfres poblogaeth y DU yn ôl gwlad geni a chenedligrwydd (Swyddfa Ystadegau Gwladol) sy'n defnyddio'r APS yn dod i ben. Mae'r SYG yn archwilio mesurau dros dro a all gyflwyno data'r cyfrifiad i gynhyrchu darlun mwy diweddar. Bydd enghraifft yn cael ei darparu yn y datganiad mudo rhyngwladol hirdymor ar 24 Tachwedd 2022. Cyhoeddodd y SYG ddatganiad yn darparu mwy o wybodaeth.

Ystadegau'r Gymraeg

I gael gwybodaeth am ystadegau'r Gymraeg, gweler diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru.

Cyswllt

Martin Parry

Rhif ffôn: 0300 025 0373

E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099