Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon heb eu talgrynnu o’r boblogaeth a chartrefi, gan gynnwys trosolwg o’r boblogaeth heb eu geni yn y Deyrnas Unedig a nodweddion cartrefi a phreswylwyr yng Nghymru o Gyfrifiad 2021.

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 wedi’u talgrynnu o’r boblogaeth a chartrefi ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ar 28 Mehefin. Gwnaethom ninnau gyhoeddi bwletin ystadegol yn crynhoi'r prif bwyntiau o ran Cymru, gan edrych ar newid dros amser a chyfansoddiad y boblogaeth yn ôl rhyw ac yn ôl grwpiau oedran pum mlynedd ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae'r diweddariad hwn yn darparu amcangyfrifon heb eu talgrynnu o’r boblogaeth a chartrefi, gan gynnwys trosolwg o'r boblogaeth na anwyd yn y DU a nodweddion cartrefi a phreswylwyr yng Nghymru. Mae’r SYG hefyd wedi cyhoeddi Demograffeg a mudo: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr (Swyddfa Ystadegau Gwladol) sydd yn cynnwys data hyd at ardal gynnyrch.

Cyswllt

Martin Parry

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.