Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 wedi’u talgrynnu o’r boblogaeth a chartrefi ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ar 28 Mehefin. Gwnaethom ninnau gyhoeddi bwletin ystadegol yn crynhoi'r prif bwyntiau o ran Cymru, gan edrych ar newid dros amser a chyfansoddiad y boblogaeth yn ôl rhyw ac yn ôl grwpiau oedran pum mlynedd ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae'r diweddariad hwn yn darparu amcangyfrifon heb eu talgrynnu o’r boblogaeth a chartrefi, gan gynnwys trosolwg o'r boblogaeth na anwyd yn y DU a nodweddion cartrefi a phreswylwyr yng Nghymru. Mae’r SYG hefyd wedi cyhoeddi Demograffeg a mudo: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr (Swyddfa Ystadegau Gwladol) sydd yn cynnwys data hyd at ardal gynnyrch.

Prif bwyntiau

  • Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, amcangyfrifwyd mai 3,107,494 oedd maint y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru, y boblogaeth fwyaf erioed sydd wedi’i chofnodi drwy gyfrifiad yng Nghymru.
  • Roedd 1,347,114 o gartrefi ag o leiaf un preswylydd arferol yng Nghymru ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
  • Yng Nghymru, parhaodd Gwlad Pwyl i fod y wlad enedigol fwyaf cyffredin y tu allan i’r DU yn 2021 (24,832 o bobl, 0.8% o’r holl breswylwyr arferol).
  • Cynyddodd nifer y preswylwyr yng Nghymru a nododd Rwmania fel eu gwlad enedigol bron i bum gwaith (469.9%) rhwng 2011 a 2021, gan gynyddu 7,025.
  • Roedd gan 124,557 o breswylwyr arferol (4.0%) basbort nad yw’n basbort DU, a'r pasbort mwyaf cyffredin ymysg y rhai nad oeddent yn basbort DU oedd Gwlad Pwyl.
  • O'r 3.1 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru yn 2021, roedd 3,051,549 (98.2%) yn byw mewn cartrefi a 55,945 (1.8%) yn byw mewn sefydliadau cymunedol.
  • Yn gyffredinol, roedd 63.1% o gartrefi (850,096) yn gartrefi un teulu, 31.9% (429,559) yn gartrefi un person a 5.0% (67,459) yn gartrefi teulu lluosog neu’n fathau eraill o gartrefi.

Amcangyfrifon heb eu talgrynnu o’r boblogaeth a chartrefi

Mae amcangyfrifon heb eu talgrynnu o’r boblogaeth a chartrefi wedi'u diweddaru ar StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad o'r boblogaeth yn ôl oedrannau unigol.

Amcangyfrifir bod y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru wedi cynyddu tua 44,000 (1.4%) i 3,107,494 rhwng Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.

Oedran canolrifol

Yn 2021, yr oedran canolrifol yng Nghymru oedd 42 mlwydd oed. Mae hyn yn uwch na'r oedran canolrifol yn 2011, sef 41 oed. Yr oedran canolrifol yn Lloegr yn 2021 oedd 40 oed.

Yr awdurdodau lleol â'r oedran canolrifol uchaf oedd Powys (50 oed), Conwy a Sir Fynwy (y ddau yn 49 oed). Yr awdurdodau lleol â'r oedran canolrifol isaf oedd Caerdydd (34 oed) a Chasnewydd (38 oed).

Mudo rhyngwladol

Mae'r cyfrifiad yn casglu darnau amrywiol o wybodaeth sy'n rhoi manylion am nodweddion pobl sydd wedi mudo i Gymru, boed hynny yn y degawd diwethaf neu hyd yn oed yn hirach yn ôl.

Mudo

Achosir newidiadau ym maint y boblogaeth gan enedigaethau, marwolaethau, a mudo mewnol a rhyngwladol. Mae defnyddio data ar enedigaethau byw a marwolaethau a gaiff eu cofrestru yn dangos faint o’r newid yn y boblogaeth sydd i'w phriodoli i achosion naturiol, a faint sydd i'w phriodoli i fudo.

Roedd mwy o farwolaethau na genedigaethau yng Nghymru rhwng 2011 a 2021. Mae'r twf yn y boblogaeth ers 2011 yn deillio felly o fudo net positif i Gymru (tua 55,000 o breswylwyr arferol).

Gwlad enedigol

Ers 1851, mae'r cyfrifiad wedi bod yn casglu gwybodaeth am fan geni pobl. Dyma'r mesur sy'n cael ei ffafrio i edrych ar newidiadau hirdymor mewn mudo (Swyddfa Ystadegau Gwladol) gan nad yw man geni person yn newid.

O’r 3.1 miliwn amcangyfrifedig o breswylwyr arferol yng Nghymru yn 2021, ganwyd 2.9 miliwn (93.1%) yn y DU a 215,000 (6.9%) y tu allan i'r DU. Mae nifer y preswylwyr yng Nghymru a anwyd y tu allan i'r DU wedi cynyddu 28.3% (48,000) rhwng Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021. Yn Lloegr, mae nifer y preswylwyr a anwyd y tu allan i’r DU wedi cynyddu 33.6% (2.5 miliwn).

Ffigur 1: Y 10 gwlad enedigol fwyaf cyffredin y tu allan i’r DU, 2011 a 2021
Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart

Yng Nghymru, parhaodd Gwlad Pwyl i fod y wlad enedigol fwyaf cyffredin y tu allan i’r DU yn 2021 (24,832 o bobl, 0.8% o’r holl breswylwyr arferol). Y newid canrannol mwyaf ers 2011 oedd y rhai a nododd Rwmania fel eu gwlad enedigol. Cynyddodd nifer y preswylwyr yng Nghymru a nododd Rwmania fel eu gwlad enedigol bron i bum gwaith (469.9%) rhwng 2011 a 2021, gan gynyddu 7,025. Y prif reswm am y cynnydd hwn yw dileu cyfyngiadau gweithio i ddinasyddion Rwmania yn 2014. Gostyngodd y rhai a nododd Gweriniaeth Iwerddon fel eu gwlad enedigol 2,177.

Cynyddodd y ganran o breswylwyr arferol a anwyd y tu allan i Gymru o 27.3% (837,000) yn 2011 i 29.1% (905,000) yn 2021, gan gynnwys cynnydd o 23,000 o bobl a anwyd yn Lloegr.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Sut mae gwlad enedigol yn amrywio ar draws Cymru

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 6.9% o breswylwyr arferol wedi'u geni y tu allan i'r DU. Roedd hyn yn amrywio rhwng 2.9% yng Nghaerffili ac 16.5% yng Nghaerdydd.

Ffigur 2: Canran y preswylwyr a anwyd y tu allan i'r DU yn ôl awdurdod lleol, 2021
Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart

Ynys Môn yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru lle mae nifer (112) a chanran y bobl a anwyd y tu allan i'r DU wedi gostwng (4.9%) ers Cyfrifiad 2011. Casnewydd a Sir y Fflint oedd â'r cynnydd mwyaf mewn preswylwyr a anwyd y tu allan i’r DU, gan gynyddu 57.5% a 55.7% yn y drefn honno.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Pasbortau a ddelir gan breswylwyr yng Nghymru

Yn 2011, dechreuodd y cyfrifiad gasglu gwybodaeth am basbort(au) a ddelir gan breswylwyr arferol, sydd yn fesur arall y gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio ystadegau mudo rhyngwladol (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’n cael ei defnyddio’n aml fel ffordd o nodi cenedligrwydd ac o nodi’r rhai sydd â chenedligrwydd deuol neu luosog.

Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn amcangyfrif bod 2.5 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru (81.2%) yn dal o leiaf un pasbort ac nad oedd gan 583,000 (18.8%) basbort. Yn Lloegr, nid oedd gan 13.2% basbort. Gostyngodd nifer y preswylwyr yng Nghymru nad oedd ganddynt basbort 104,000 rhwng Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.

Yn gyfan gwbl, amcangyfrifir bod gan 2.4 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru (77.2%) basbort DU. Roedd gan 125,000 (4.0%) o breswylwyr arferol basbort nad oedd yn basbort DU. O'r rhain, roedd 83,000 yn basbortau'r Undeb Ewropeaidd (UE), sydd wedi cynyddu o 51,000 yn 2011 (cynnydd o 63.0%). Roedd y pasbortau eraill nad oeddent yn basbort DU, sef 41,500 ohonynt, yn rhai o'r tu allan i'r UE (sydd wedi gostwng 3.5% o 43,000 yn 2011).

Ffigur 3: Y 10 pasbort mwyaf cyffredin nad ydynt yn basbortau DU a ddelir, 2011 a 2021
Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart

Roedd nifer y pasbortau Pwylaidd a ddelir yng Nghymru yn 2021 (26,000) dros ddwywaith nifer y pasbort mwyaf cyffredin nesaf nad oedd yn basbort DU, sef pasbort Gwyddelig (10,000). Cynyddodd nifer y pasbortau Pwylaidd a ddelir yng Nghymru 9,000, o 17,000, rhwng Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021. Cynyddodd nifer y pasbortau Rwmanaidd a ddelir yng Nghymru 7,000 (o 1,000 i 8,000), gan basio India i ddod y trydydd pasbort mwyaf cyffredin nad yw'n basbort DU yng Nghymru, ar ôl Gwlad Pwyl a Gweriniaeth Iwerddon.

Mae mwyafrif (8 allan o’r 10 uchaf) y pasbortau mwyaf cyffredin nad ydynt yn basbortau DU a ddelir yng Nghymru yn rhai Ewropeaidd, tra nad yw’r mwyafrif y gwledydd genedigol fwyaf y tu allan i’r DU yn rhai Ewropeaidd. Mae hyn oherwydd bod pobl â gwlad enedigol sydd ddim yn Ewropeaidd yn llai tebygol o ddal pasbort o’u gwlad enedigol na phobl â gwlad enedigol Ewropeaidd.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Cyfeiriad flwyddyn cyn y cyfrifiad

Gofynnodd y Cyfrifiad i ymatebwyr a oedd eu cyfeiriad yr un fath â'r flwyddyn ynghynt (hynny yw, ar 21 Mawrth 2020). Mae modd defnyddio'r data hyn i archwilio patrymau mudo i Gymru yn y flwyddyn cyn y Cyfrifiad.

Yn 2021, dywedodd tua 16,000 o breswylwyr Cymru (0.5% o'r boblogaeth) fod eu cyfeiriad flwyddyn cyn y Cyfrifiad y tu allan i'r DU. Mae hyn yn ostyngiad o'i gymharu â 2011, pan ddywedodd 20,000 (0.7%) fod eu cyfeiriad flwyddyn cyn y cyfrifiad y tu allan i'r DU.

Roedd disgwyl gostyngiad yn nifer y rhai a gyrhaeddodd y flwyddyn flaenorol, o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19). Cafodd cyfyngiadau teithio’r DU eu gorfodi o fis Mawrth 2020 ymlaen a rhoddwyd cyfyngiadau ar waith hefyd mewn gwledydd eraill ledled y byd. O ganlyniad, cyfyngwyd yn fawr ar fudo i'r DU ac o’r DU yn y flwyddyn cyn y Cyfrifiad.

Yng Nghymru, Caerdydd oedd yr awdurdod lleol a oedd â'r ganran uchaf o'r boblogaeth a oedd â chyfeiriad y tu allan i'r DU flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 (1.4%). Caerffili oedd â'r ganran isaf (0.1%).

Oedran a blwyddyn cyrraedd

Gofynnwyd i breswylwyr arferol a anwyd y tu allan i'r DU pryd y daethant i fyw yn y DU ddiwethaf. Mae cyfuno hyn â'u dyddiad geni hefyd yn rhoi gwybodaeth am eu hoedran pan gyrhaeddant.

O'r 215,000 o breswylwyr yng Nghymru yn 2021 na anwyd yn y DU, roedd:

  • 91,000 (42.1%) wedi cyrraedd ers 2011
  • 62,000 (28.9%) wedi cyrraedd rhwng 2001 a 2010
  • 63,000 (29.0%) wedi cyrraedd cyn 2001
Ffigur 4: Preswylwyr na anwyd yn y DU yn ôl blwyddyn cyrraedd, 2021
Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart

Roedd y rhan fwyaf o breswylwyr Cymru na anwyd yn y DU o dan 30 mlwydd oed pan gyrhaeddant y DU. Mae’r data ar oedran cyrraedd yn dangos bod:

  • 35.0% o breswylwyr Cymru na anwyd yn y DU (75,000) o dan 18 mlwydd oed pan gyrhaeddant y DU
  • 38.9% (84,000) rhwng 18 a 29 oed
  • 20.2% (43,000) rhwng 30 a 44 oed
  • 5.2% (11,000) rhwng 45 a 64 oed
  • 0.7% (2,000) oedd yn 65 oed neu hŷn pan gyrhaeddant y DU

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Mae’r SYG hefyd wedi cyhoeddi data am boblogaeth breswyl tymor byr Cymru a Lloegr o Gyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol), sy’n cynnwys pobl a oedd wedi cyrraedd y DU o fewn y flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad ac nad oeddent yn bwriadu aros yn hwy na 12 mis.

Nodweddion cartrefi a phreswylwyr

Mae data Cyfrifiad 2021 ar nodweddion cartrefi a phreswylwyr yn cynnwys data ar faint cartrefi, cyfansoddiad cartrefi, a statws amddifadedd, yn ogystal â statws priodas a phartneriaeth sifil pobl yng Nghymru.

Maint cartrefi

Roedd amcangyfrif o 1,347,114 o gartrefi ag o leiaf un preswylydd arferol yng Nghymru ar 21 Mawrth 2021, sydd wedi cynyddu 44,438 (3.4%) ers 2011. Roedd 3,051,549 o breswylwyr arferol (98.2%) yn byw mewn cartrefi. Roedd gweddill y preswylwyr arferol, sef 55,945 ohonynt (1.8%), yn byw mewn sefydliadau cymunedol. Mae sefydliadau cymunedol yn cynnwys cartrefi gofal preswyl, neuaddau preswyl prifysgolion, ysgolion preswyl, a charchardai.

Yng Nghymru, roedd gan 35.1% o gartrefi ddau berson, gyda mwyafrif y cartrefi (67.0%) yn cynnwys un neu ddau o bobl. Roedd hyn ychydig yn uwch nag yn 2011 pan oedd 65.6% o gartrefi yn cynnwys un neu ddau o bobl.

Yn 2021, roedd hyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, gyda 71.4% o gartrefi yng Ngheredigion yn cynnwys un neu ddau o bobl, tra oedd 63.1% o gartrefi yng Nghasnewydd yn cynnwys un neu ddau o bobl.

Ffigur 5: Maint cartrefi, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart

Maint cyfartalog cartrefi yw nifer y bobl fesul cartref ar gyfartaledd. Mae'n cael ei gyfrifo drwy rannu cyfanswm y preswylwyr arferol â chyfanswm y cartrefi. Yn 2021, 2.3 o breswylwyr fesul cartref yng Nghymru oedd y ffigur hwn, yr un peth â 2011.

Yr awdurdodau lleol â'r maint cartref mwyaf ar gyfartaledd oedd Caerdydd a Chasnewydd (y ddau yn 2.4 o breswylwyr fesul cartref). Yr awdurdod lleol â'r maint cartref lleiaf ar gyfartaledd oedd Conwy (2.2 o breswylwyr fesul cartref).

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Ffigur 6: Maint cartref ar gyfartaledd yn ôl awdurdod lleol, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Cyfansoddiad cartrefi

Defnyddir ymatebion i'r cyfrifiad i gyfrifo cyfansoddiad cartrefi, sy'n ymwneud â’r berthynas rhwng aelodau'r cartref. Er enghraifft, gallai cartref gynnwys teulu, oedolion nad ydynt yn perthyn sy’n byw gyda’i gilydd, neu efallai mai dim ond un person sy’n byw ar ei ben ei hun ydyw. Gall teulu fod yn gwpl neu'n deulu, gan gynnwys teuluoedd un rhiant a chartrefi aml-genhedlaeth.

Yn 2021, roedd 63.1% o gartrefi yn gartrefi un teulu, 31.9% yn gartrefi un person a 5.0% yn fathau eraill o gartrefi, gan gynnwys cartrefi lle’r oedd teuluoedd lluosog yn byw gyda’i gilydd a chartrefi lle’r oedd oedolion nad oeddent yn perthyn yn byw gyda’i gilydd. Mae hyn yn debyg i 2011, pan oedd 63.5% yn gartrefi un teulu, 30.8% yn gartrefi un person a 5.8% yn fathau eraill o gartrefi.

Roedd y mathau mwyaf cyffredin o gartrefi un teulu yn cynnwys y rhai â phâr priod neu bartneriaeth sifil â phlant dibynnol (11.9%), a’r rhai â phartner priod neu sifil heb blant (10.8%). Roedd y cynnydd mwyaf ar gyfer cartrefi un teulu gyda phâr yn cyd-fyw â phlant nad ydynt yn ddibynnol, gan gynyddu 60.5% rhwng 2011 a 2021 (o 6,613 yn 2011 i 10,615 yn 2021).

Roedd 196,056 o gartrefi un person gyda phreswylwyr 66 oed neu hŷn (14.6% o'r holl gartrefi). Roedd y 233,503 (17.3%) o aelwydydd un person yn weddill yn 2021 yn bobl iau.

Yn 2021, mewn mathau eraill o gartrefi, roedd 42,381 (3.1% o'r holl gartrefi) lle'r oedd aelodau yn fyfyrwyr amser llawn neu bob un yn 66 oed a hŷn. Roedd 26,078 o gartrefi (1.9%) lle'r oedd teuluoedd lluosog yn byw gyda'i gilydd gyda phlant dibynnol.

Amddifadedd cartrefi

Dosbarthwyd cartrefi yng Nghymru a Lloegr hefyd yn nhermau dimensiynau amddifadedd, yn seiliedig ar nodweddion dethol am gartrefi. Yn benodol, ystyriwyd bod cartrefi ag amddifadedd os oeddent yn bodloni un neu ragor o’r pedwar maes amddifadedd canlynol:

  1. cyflogaeth: mae unrhyw aelod o gartref, nad yw’n fyfyriwr amser llawn, naill ai'n ddi-waith neu â salwch tymor hir
  2. addysg: nid oes gan unrhyw berson yn y cartref o leiaf pump neu fwy TGAU (graddau A* i C neu radd 4 neu uwch) neu gymhwyster cyfatebol, ac nid oes neb 16 i 18 oed yn fyfyriwr llawn amser
  3. iechyd ac anabledd: mae gan unrhyw berson yn y cartref iechyd cyffredinol sy'n “wael” neu'n “wael iawn” neu broblem iechyd tymor hir
  4. tai: mae llety'r cartref naill ai'n orlawn, gyda chyfradd deiliadaeth o finws 1 neu lai (gan awgrymu bod ganddo un ystafell neu ystafell wely yn llai sydd ei hangen ar gyfer nifer y preswylwyr), neu mewn annedd a rennir, neu heb wres canolog

Yn gyffredinol, roedd 54.1% o gartrefi yng Nghymru yn 2021 ag amddifadedd mewn o leiaf un o’r meysydd hyn, o'i gymharu â 51.6% yn Lloegr. Mae nifer y cartrefi ag amddifadedd mewn o leiaf un maes wedi gostwng ers 2011 yng Nghymru, pan oedd 61.0% o gartrefi ag amddifadedd mewn o leiaf un maes.

Yn 2021, roedd 33.4% o gartrefi yng Nghymru ag amddifadedd mewn un maes, 16.0% ag amddifadedd mewn dau faes, 4.5% ag amddifadedd mewn tri maes a 0.2% ag amddifadedd ym mhob un o'r pedwar maes. Nid oedd y 45.9% arall ag amddifadedd mewn unrhyw faes.

Yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o gartrefi ag amddifadedd mewn o leiaf un maes oedd Blaenau Gwent (61.7%) a Merthyr Tudful (59.8%).

Yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o gartrefi heb amddifadedd mewn unrhyw faes oedd Sir Fynwy (51.7%) a Bro Morgannwg (51.0%).

Ffigur 7: Cartrefi ag amddifadedd mewn o leiaf un maes, 2011 a 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart

Mae amddifadedd cartrefi yn bwnc cymhleth, ac mae’r data yma’n dangos yn syml faint o gartrefi oedd yn ag amddifadedd mewn unrhyw un o’r pedwar maes a nodir sydd ar gael o’r cyfrifiad. Mae hyn yn ailadrodd datganiad cyfatebol o Gyfrifiad 2011. Bydd gwybodaeth fanwl am y meysydd a nodir yn cael ei chyhoeddi mewn datganiadau pwnc sydd ar y gweill gan yr SYG, ac wrth i ddata aml-amrywedd cael eu ryddhau.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Mesur arall o amddifadedd ar lefel cartrefi yng Nghymru yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, sef mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru.

Statws partneriaeth gyfreithiol

Cafodd priodas rhwng pobl o’r un rhyw ei chyfreithloni yn 2014 a chafodd partneriaeth sifil rhwng pobl o rywiau gwahanol ei chyfreithloni yn 2019. Cafodd y cwestiynau eu diweddaru ar gyfer 2021 i adlewyrchu hyn.

Yng Nghymru, roedd 43.8% o'r holl breswylwyr arferol 16 oed neu hŷn yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Dyma’r grŵp mwyaf yn 2021. Fodd bynnag, mae wedi gostwng ers 2011, pan oedd 46.7% yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Cynyddodd canran y bobl nad ydynt erioed wedi priodi neu gofrestru partneriaeth sifil 3.7 pwynt canran, o 33.5% yn 2011 i 37.2% yn 2021. Bu cynnydd bach yn nifer y bobl a oedd wedi ysgaru neu y cafodd eu partneriaeth sifil ei diddymu, o 9.7% yn 2011 i 9.9% yn 2021.

Ffigur 8: Statws partneriaeth gyfreithiol, preswylwyr arferol 16 oed neu hŷn, 2011 a 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

I gael gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys geirfa, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill.

Bydd datganiadau pellach o ddata Cyfrifiad 2021 yn cael eu cyhoeddi o fis Tachwedd ymlaen, gan gynnwys gwybodaeth am bynciau fel y Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth am y data a'r dadansoddiadau fydd ar gael, gweler cynlluniau datganiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn bwriadu cyhoeddi adroddiadau sy'n cymharu amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 â'r amcangyfrifon canol blwyddyn diweddaraf (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ac amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gan gynnwys esboniadau o unrhyw wahaniaethau, yn ddiweddarach eleni.

Mudo

Yn benodol, mae'r cyfrifiad yn casglu data ar wlad enedigol preswylwyr y cyfrifiad, pasbort(au) sydd ganddynt, a’u cyfeiriad flwyddyn yn ôl. Gofynnir hefyd i'r rhai a gafodd eu geni y tu allan i'r DU ddarparu'r dyddiad y cyrhaeddant y DU. Gellir cyfuno hyn â data dyddiad geni i ddangos eu hoedran pan gyrhaeddant. Yn olaf, mae'r cyfrifiad hefyd yn casglu data ar faint a nodweddion y boblogaeth breswyl tymor byr, a gyrhaeddodd yn y flwyddyn cyn y cyfrifiad ond nad oedd yn bwriadu bod yn y wlad am fwy na 12 mis.

Gall pobl ddal sawl pasbort. Mae cyfrif preswylwyr ddwywaith yn cael ei atal drwy eu cynnwys mewn un categori pasbort yn unig. Pan oedd gan berson fwy nag un pasbort, cawsant eu categoreiddio yn y drefn flaenoriaeth ganlynol:

  1. Pasbort y DU
  2. Pasbort Gwyddelig
  3. Pasbort gwlad arall

Geirfa

I gael geirfa lawn, gweler geiriadur Cyfrifiad 2021 yr SYG.

Oedran canolrifol - Oedran y person yng nghanol y grŵp, fel bod un hanner y grŵp yn iau na'r person hwnnw a'r hanner arall yn hŷn. Mae oedran yn cyfeirio at oedran ar y pen-blwydd diwethaf yn hytrach na'r union oedran.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2022 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Diben y rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Martin Parry
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 30/2022