Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion diweddaraf am y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY).

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddi Datganiad o Flaenoriaethau Strategol ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac Arloesi

Mae heddiw’n nodi carreg filltir arwyddocaol arall yn ein taith i ddiwygio addysg drydyddol, wrth gyhoeddi Datganiad o Flaenoriaethau Strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi yng Nghymru, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

Mae’r ddogfen hon yn gosod y trywydd ar gyfer y Comisiwn yn ei genhadaeth i lunio tirwedd addysg drydyddol fywiog a chynhwysol a gwneud Cymru’n genedl o ail gyfle.

Mae'r datganiad cyntaf hwn yn cynnwys y gofyniad allweddol i'r Comisiwn ddatblygu ei hun yn sefydliad hynod effeithiol, gan ddarparu sefydlogrwydd ac arweinyddiaeth yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid.

Y Blaenoriaethau Strategol

  • Datblygu system drydyddol sy'n paratoi dysgwyr ar gyfer economi ddeinamig a chyfnewidiol lle gall pob un gaffael y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn llwyddo mewn bywyd a gwaith.
  • Cynnal a gwella ansawdd y system drydyddol, parhau a dwysáu gwaith ar ehangu cyfranogiad a chymryd camau i sicrhau system fwy teg a rhagorol i bawb.
  • Rhoi'r dysgwr wrth wraidd y system drwy ganolbwyntio ar brofiad dysgwyr yn y system drydyddol a'u llesiant.
  • Sicrhau bod y system addysg drydyddol yn cyfrannu at yr economi a'r gymdeithas.
  • Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fel sefydliad hynod effeithiol sy'n darparu sefydlogrwydd ac arweinyddiaeth yn ystod y cyfnod hwn o newid.

Beth Sy'n Digwydd Nesaf

Rhaid i’r Comisiwn ymateb i’r Datganiad drwy baratoi a chyhoeddi cynllun strategol sy’n nodi sut y bydd yn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau ar y cyd â sut y bydd yn cyflawni ei ddyletswyddau strategol (fel y nodir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022):

  • Hybu dysgu gydol oes
  • Hybu cyfle cyfartal
  • Annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol
  • Hybu gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol
  • Hybu gwaith ymchwil ac arloesi
  • Hybu cydlafurio a chydlynu mewn addysg drydyddol ac ymchwil
  • Cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol
  • Hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Hybu cenhadaeth ddinesig
  • Hybu golwg fyd-eang
  • Hybu cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafur

Bydd y Comisiwn yn ymgynghori â’i randdeiliaid ynghylch y cynllun cyn ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2024.

Gallwch weld y Ddatganiad o Flaenoriaethau Strategol yn llawn a datganiad y Gweinidog ar wefan Llywodraeth Cymru.