Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion diweddaraf am y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY).

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

Mae heddiw yn garreg filltir allweddol yn y gwaith o weithredu Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 wrth i'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil gael ei sefydlu a'i Brif Swyddog Gweithredol cyntaf, Simon Pirotte, ddechrau yn ei swydd.

Mae sefydlu'r Comisiwn nawr yn galluogi rhoi’r trefniadau gweithredol a llywodraethu gofynnol yn eu lle i gefnogi proses drosglwyddo llyfn er mwyn i’r Comisiwn ddod yn gwbl weithredol o 1 Ebrill 2024.

Rhwng nawr a mis Ebrill, bydd CCAUC yn cadw’r cyfrifoldeb am gyllido, ansawdd a rheoleiddio addysg uwch, tra bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r cyfrifoldeb am addysg bellach, prentisiaethau, y chweched dosbarth ac ati.

Yn ystod y cyfnod hwn o weithio cyfochrog, bydd protocol yn nodi’n glir pwy sy’n gyfrifol am beth a pha benderfyniadau mewn perthynas â'r gwaith sy'n ofynnol i sefydlu'r Comisiwn, y gweithgareddau paratoi y mae'n eu cyflawni, a'i ymgysylltiad â rhanddeiliaid.

Bydd y Comisiwn yn gallu nodi a datblygu camau allweddol sy'n ofynnol i gefnogi gweithredu’r diwygiadau. Bydd Simon yn cael cymorth gyda’r gwaith hwn i ddechrau gan Dîm dros dro o fewn y Comisiwn newydd.

Rwy'n falch iawn o ddechrau yn fy swydd fel Prif Swyddog Gweithredol cyntaf y Comisiwn; mae’n anrhydedd. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda staff a sefydliadau partner i adeiladu ar ein cryfderau mewn addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, ac i ymateb i’r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.

Mae llawer i'w wneud rhwng nawr a mis Ebrill i sicrhau trosglwyddiad di-dor, ond rwy'n gyffrous am yr her hon ac yn awyddus i fwrw ati.

Simon Pirotte, Prif Swyddog Gweithredol, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

Cwrdd â'r bwrdd

Bydd bwrdd y Comisiwn yn chwarae rhan ganolog o ran cynorthwyo Cadeirydd y Comisiwn, Julie Lydon, a'r Dirprwy Gadeirydd, David Sweeney, i lywio gweledigaeth strategol y Comisiwn yn ogystal â gwerthuso a gwella strategaeth fusnes ac amcanion perfformiad y sefydliad.

Daw saith aelod cychwynnol y bwrdd o amrywiaeth o gefndiroedd ac mae ganddynt arbenigedd helaeth mewn rolau gweithredol ac anweithredol:

  • Gwenllian Davies
  • James Davies
  • Cerys Furlong
  • Stephen Marston
  • Chris Millward
  • Rob Humphreys
  • Jayne Woods

Mae pum aelod o'r bwrdd yn dechrau yn eu swyddi heddiw, ond mae Rob Humphreys a James Davies yn aelodau o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar hyn o bryd ac felly byddant yn dechrau ar eu gwaith ar 1 Ebrill 2024 pan fydd y Cyngor yn cael ei ddiddymu.

Pethau y gallech fod wedi'u colli

  • Cyhoeddwyd cyflwyniad dwyieithog a gwybodaeth gefndirol ategol ar ddiwygio addysg drydyddol, sy'n darparu gwybodaeth lefel uchel am y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, y newidiadau sy'n cael eu gwneud a'r rhesymeg y tu ôl iddynt ar wefan Llywodraeth Cymru. Gellir lawrlwytho, golygu a theilwra'r cyflwyniad i gynulleidfaoedd penodol tra’n sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn gyson ac yn gywir. Bydd y cyflwyniad yn cael ei ddiweddaru wrth i’r broses weithredu fynd rhagddi. Mae'r wybodaeth gefndir yn ategu'r sleidiau ac yn darparu gwybodaeth bellach i lywio’r cyflwyniad.
  • Cyhoeddwyd set o daflenni ffeithiau thematig hefyd, sy'n rhoi trosolwg cryno o sut y bydd sefydlu'r Comisiwn yn effeithio ar wahanol rannau o'r sector addysg. Pwrpas y taflenni yw rhoi gwybodaeth wedi'i theilwra i grwpiau o randdeiliaid er mwyn iddynt allu siarad â'u rhwydweithiau am y diwygiadau. Maent felly wedi cael eu datblygu drwy ddefnyddio dull thematig yn hytrach na dull trosfwaol, er mwyn i randdeiliaid allu deall beth mae'r diwygiadau'n ei olygu iddyn nhw yn benodol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn eich galluogi i gyfleu'r newidiadau mewn ffordd gryno.
  • Gwnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau penodiad saith Aelod Bwrdd i'r Comisiwn yn dilyn ymarfer penodiadau cyhoeddus agored.
  • Gwnaeth y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig hefyd yn hysbysu'r Aelodau bod yr ail Orchymyn Cychwyn wedi’i wneud yn ymwneud â Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, sy'n darparu ar gyfer rhoi darpariaethau mewn grym ar 4 Medi 2023 mewn perthynas â'r cyfnod sefydlu, a 1 Ebrill 2024 mewn perthynas â’r dyddiad y bydd y Comisiwn yn dod yn weithredol.
  • Bydd ymgynghoriad sy'n ceisio barn rhanddeiliaid ar y rhestr o undebau llafur a chyrff cynrychioli dysgwyr a all enwebu unigolion at ddiben penodi aelodau cyswllt y Comisiwn yn cau ar 29 Medi. Byddem yn ddiolchgar pe gallech ddosbarthu'r ddolen i unrhyw bartïon â diddordeb.