Dull newydd o ymdrin â chyllid cynaliadwy ar gyfer adfer natur.
Dogfennau
Manylion
Dylai ein dull gynyddu ac arallgyfeirio'r cyllid sydd ar gael. Felly, gallwn fynd i'r afael â'r argyfwng natur a'r pwysau sy'n arwain at golli bioamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys:
- newid hinsawdd
- llygredd
- rheoli adnoddau naturiol yn anghynaliadwy
Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn rydym wedi datblygu cyfres o egwyddorion. Bydd y rhain yn sicrhau bod unrhyw gyllid yn:
- integriti uchel
- o fudd ac yn ymgysylltu â chymunedau lleol, a
- osgoi newid defnydd tir amhriodol a golchi gwyrdd
Mae'r egwyddorion yn rhan o'n dull ehangach. Byddant yn ein cefnogi i greu'r amodau cywir ar gyfer marchnadoedd gwasanaethau ecosystem o ansawdd uchel sydd wedi'u cynllunio:
- yn benodol ar gyfer Cymru, a’i
- hanghenion cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol
