Egwyddorion buddsoddi cynaliadwy ar gyfer adnoddau naturiol
Bydd yr egwyddorion hyn yn llywio buddsoddi cyfrifol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Bydd yr egwyddorion hyn yn llywio buddsoddi cyfrifol trwy farchnadoedd natur a mecanweithiau ariannu ehangach sy'n cefnogi adferiad bioamrywiaeth, gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd, Sero Net, economi wyrddach Cymru a rheoli adnoddau yn gynaliadwy. Eu bwriad yw cyfeirio'r broses o wneud penderfyniadau ar draws sectorau a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â nodau hirdymor Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o ddarparu buddion cymunedol a chefnogi Pontio Teg.
1. Cefnogi defnydd integredig tir, dŵr croyw a môr
- dylai buddsoddiadau a phenderfyniadau ystyried effeithiau ar draws pob un o'r pedair agwedd llesiant: amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol
- dylai buddsoddiadau yn adnoddau naturiol Cymru arwain at fanteision, gan gynnwys cynnal a gwella bioamrywiaeth, gwytnwch ecosystemau, ansawdd dŵr, diogelwch bwyd, gwytnwch rhag llifogydd, ac atafaelu carbon
- dylai buddsoddiadau a phenderfyniadau gefnogi blaenoriaethau lleol, ystyried addasrwydd tir, dŵr croyw ac ardaloedd morol at ddibenion penodol a cheisio cynnal a gwella adnoddau naturiol lleol
2. Darparu manteision cyhoeddus, preifat, cymunedol a diwylliannol
- dylai buddsoddiadau a phenderfyniadau ystyried manteision ar draws buddiannau cyhoeddus, preifat a chymunedol
- dylai buddsoddiadau a phenderfyniadau geisio gwella adnoddau naturiol a llesiant diwylliannol cymuned, gan gynnwys y Gymraeg a threftadaeth
- dylai buddsoddiadau a phenderfyniadau helpu i adeiladu cyfoeth cymunedol trwy ailfuddsoddi mewn cymunedau lleol
3. Ymgysylltu a chydweithio â chymunedau
- dylid ymgysylltu â chymunedau lleol ddigwydd yn gynnar ac mae'n rhaid iddo fod yn gynhwysol, ystyrlon ac yn unol â Safonau'r Gymraeg
- dylai buddsoddiadau a phenderfyniadau ddigwydd mewn cydweithrediad â rheolwyr tir, tirfeddianwyr, awdurdodau cyhoeddus, a grwpiau cymunedol
- dylai buddsoddwyr, datblygwyr prosiect a rheolwyr tir archwilio partneriaethau a chytundebau rheoli gyda thirfeddianwyr presennol
4. Buddsoddi moesegol ar sail gwerthoedd
- dylai buddsoddwyr gadw at Egwyddorion Buddsoddi Cyfrifol y Cenhedloedd Unedig
- dylid buddsoddi yn unol â'r gwerthoedd sydd wedi'u hymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
- dylai buddsoddwyr gymryd camau rhagweithiol i leihau a dileu unrhyw effeithiau niweidiol i fyd natur a'r hinsawdd
5. Buddsoddi integriti uchel a thryloyw
- dylai buddsoddiadau gydymffurfio â safonau, dulliau a chodau ategol
- dylid defnyddio cofrestri cyhoeddus i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd
- dylai’r camau gweithredu y mae'r credydau yn eu cynrychioli ddarparu gwelliannau amgylcheddol ychwanegol y tu hwnt i rwymedigaethau cyfreithiol
