Neidio i'r prif gynnwy

4. Enghreifftiau o ddileu

Mae'r swm sydd i'w ganslo o dan y cynllun yn dibynnu ar a yw'r myfyriwr wedi cwblhau ei gwrs neu a yw'n dal i dderbyn taliadau cynhaliaeth.

Mae’r tablau isod yn dangos sut y cyfrifir y swm fydd yn cael ei dynnu o fenthyciad cynhaliaeth cymwys myfyriwr.

Gwneud ad-daliad ar ôl i fyfyriwr gwblhau cwrs

Os yw myfyriwr wedi cwblhau ei gwrs, bydd y swm sy'n cael ei ddileu yn dibynnu ar:

  • faint sy'n cael ei ad-dalu; a'r
  • balans y benthyciad cynaliaeth cymwys ar ôl i'r ad-daliad cyntaf gael ei wneud. 
Balans y benthyciad cynhaliaeth cyntaf Swm yr ad-daliad cyntaf* Balans sy'n weddill Swm a gaiff ei ddileu**
£200 £200 £0 £0
£1,000 £5 £995 £995
£3,000 £1,000 £2,000 £1,500

* Mae'n bwysig nodi os oes gan fyfyrwyr fwy nag un benthyciad, oni bai eu bod yn nodi pa fenthyciad y maent yn ei ad-dalu, y bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn cymhwyso'r ad-daliad cyntaf i'r benthyciad gyda'r gyfradd llog uchaf yn gyntaf. Os yw'r benthyciad hwnnw'n rhychwantu mwy nag un flwyddyn academaidd, bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn rhannu'r ad-daliad cyntaf yn gymesur rhwng y blynyddoedd academaidd. Bydd cyfran yr ad-daliad cyntaf hwnnw a ddyrennir i'r benthyciad cynhaliaeth cyntaf yn pennu'r balans sydd ar gael ar gyfer cyfrif y swm i’w ddileu.

** Ni chaiff symiau pellach eu dileu.

Gwneud ad-daliad gwirfoddol ra'n astudio

Os yw myfyriwr yn derbyn taliadau benthyciad cynhaliaeth ar hyn o bryd, ac nad oes ganddo fenthyciadau cynhaliaeth eraill, a’i fod yn gwneud ad-daliad gwirfoddol, bydd y swm sy'n cael ei ddileu yn dibynnu ar:

  • bryd y caiff yr ad-daliad gwirfoddol ei wneud; a
  • balans y benthyciad ar adeg yr ad-daliad gwirfoddol.
Enghraifft 1: os caiff ad-daliad gwirfoddol o £50 ei wneud yn ystod ail dymor cwrs myfyriwr
Disgrifiad Swm
Taliad benthyciad cynhaliaeth tymor 1 £600
Taliad benthyciad cynhaliaeth tymor 2 £600
Ad-daliad gwirfoddol  £50
Balans sy'n weddill £1,150
Swm a gaiff ei ddileu -£1,150
Taliad benthyciad cynhaliaeth tymor 3 £600
Balans y benthyciad cynhaliaeth £600
Enghraifft 2: os caiff ad-daliad gwirfoddol o £50 ei wneud yn ystod trydydd tymor cwrs myfyriwr
Disgrifiad Swm
Taliad benthyciad cynhaliaeth tymor 1 £600
Taliad benthyciad cynhaliaeth tymor 2 £600
Taliad benthyciad cynhaliaeth tymor 3 £600
Ad-daliad gwirfoddol  £50
Balans sy'n weddill £1,750
Swm a gaiff ei ddileu -£1,500*
Balans y benthyciad cynhaliaeth £250
Enghraifft 3: os yw myfyriwr yn ad-dalu'r swm sy'n weddill yn llawn a hynny’n wirfoddol ar ôl cael taliad benthyciad tymor 2
Disgrifiad Swm
Taliad benthyciad cynhaliaeth tymor 1 £600
Taliad benthyciad cynhaliaeth tymor 2 £600
Ad-daliad gwirfoddol  £1,200
Balans sy'n weddill £0
Swm a gaiff ei ddileu -£0*
Taliad benthyciad cynhaliaeth tymor 3 £600
Balans y benthyciad cynhaliaeth £600