Neidio i'r prif gynnwy

2. Pwy sy'n gymwys

Mae'r cynllun ar gyfer myfyrwyr a dderbyniodd fenthyciad cynhaliaeth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru, o flwyddyn academaidd 2010 i 2011 ymlaen, i gefnogi astudiaethau israddedig llawnamser. 

Nid yw'r cynllun yn berthnasol i fenthyciadau ar gyfer astudiaethau israddedig rhan-amser neu astudiaethau ôl-raddedig. 

Ni fydd myfyrwyr yn gymwys os oes ganddynt unrhyw ffioedd, costau, treuliau neu gosbau dyledus yn ymwneud â’u benthyciad neu os ydynt wedi torri cytundeb eu benthyciad.

Os cymerodd myfyriwr fenthyciad cynhaliaeth mewn mwy nag un flwyddyn academaidd, bydd y swm a gaiff ei ddileu'n berthnasol i'r benthyciad cynhaliaeth cyntaf yn unig.

Caiff y cynllun dileu ei roi ar waith ar ôl i'r myfyriwr wneud ei ad-daliad cyntaf. Gall hyn fod yn ad-daliad statudol neu wirfoddol: 

  • Bydd myfyriwr yn gwneud ad-daliad statudol os yw ei incwm, ar ôl i’r dyddiad statudol y mae’r ad-daliad yn ddyledus fynd heibio, yn uwch na'r trothwy ad-dalu perthnasol.
  • Gall myfyriwr wneud ad-daliad gwirfoddol ar unrhyw adeg.

Os yw incwm myfyriwr yn aros o dan y trothwy ad-dalu am sawl blwyddyn, bydd yn parhau i fod yn gymwys a bydd y swm yn cael ei ddileu pan fydd yn gwneud ad-daliad statudol yn y dyfodol. 

Bydd y swm yn cael ei ddileu’n fuan ar ôl i’r ad-daliad cyntaf gael ei wneud a bydd yn ymddangos ar gyfriflen nesaf benthyciad y myfyriwr fel arfer.

Dim ond unwaith y gall myfyriwr gael swm wedi'i ddileu, hyd yn oed os mai £0 oedd y swm hwnnw (er enghraifft, os bydd wedi talu'r ddyled a oedd yn weddill yn llawn mewn un taliad). Dylai myfyrwyr ystyried hyn wrth wneud unrhyw ad-daliadau gwirfoddol.