Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid newydd er mwyn helpu i gynnal a chryfhau cysylltiadau busnes, economaidd ac ymchwil Cymru gyda rhanbarthau Ewropeaidd, a hynny yn dilyn i’r DU adael yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd rhaglen Llywodraeth Cymru, Cymru Ystwyth yn cefnogi busnesau a sefydliadau Cymru i ddatblygu cydweithredu economaidd yn ardal Môr Iwerddon a chyda rhanbarthau Ewropeaidd eraill.

Dros y 12 mis nesaf, bydd y rhaglen yn dyrannu grantiau i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru er mwyn cynnal a datblygu partneriaethau, rhwydweithiau a chydweithrediadau newydd gyda rhanbarthau a gwledydd pwysig yng ngweddill Ewrop.

Ym mis Chwefror, lansiodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Môr Iwerddon newydd er mwyn arwain a dylanwadu ar gamau gweithredu er mwyn cynyddu cydweithredu economaidd ar draws ardal Môr Iwerddon ac o’i chwmpas.

Er mwyn cefnogi’r cydweithredu hwn, mae grantiau Cymru Ystwyth gwerth hyd at £40,000 bellach ar gael i fusnesau a sefydliadau Cymru, a hynny ar gyfer teithio, meithrin cysylltiadau, ymgynghori, sefydlu rhwydweithiau, astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau treialu.

Mae cyllid ar gyfer ardal Môr Iwerddon wedi’i anelu at ysgogi cydweithredu o ran yr economi forol yn ogystal ag ym meysydd arloesi, cymunedol a diwylliannol.

Bydd cyllid pellach hefyd o gymorth i ddatblygu cysylltiadau economaidd gyda rhanbarthau pwysig yr Undeb Ewropeaidd megis Gwlad y Basg, Baden-Württemberg, Llydaw, Fflandrys, Catalwnia a Galisia.

Mae grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael i fusnesau a sefydliadau Cymru sydd â diddordeb mewn datblygu cyfleoedd economaidd gyda rhanbarthau’r UE a throsglwyddo gwybodaeth ryngwladol i Gymru.

Mae Cymru Ystwyth wedi’i lansio yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â pharhau i fod yn rhan o Raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd. Mae’r rhaglenni hyn wedi cefnogi sefydliadau Cymru i fod yn rhan o brosiectau Ewrop gyfan ers dros 20 mlynedd. Mae Cymru Ystwyth hefyd yn cydnabod yr ansicrwydd a grëwyd yn sgil yr oedi sylweddol o ran meithrin cysylltiad rhwng y DU a’r rhaglen arloesi ac ymchwil Horizon Ewrop.

Wrth lansio’r rhaglen Cymru Ystwyth newydd, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

I nodi Gŵyl Sant Padrig, rwy’n falch o gyhoeddi’r cyllid hwn i gefnogi’r cydweithredu economaidd parhaus yn ardal Môr Iwerddon a chyda rhanbarthau Ewropeaidd eraill sydd â gwerth strategol i’n heconomi.

“Mae partneriaethau economaidd gyda gwledydd a rhanbarthau eraill Ewrop yn helpu busnesau a sefydliadau Cymru i gynyddu gweithgareddau, annog arloesi ac ehangu ein proffil byd-eang.

“Bydd y cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw o gymorth i lywio’r ffordd tuag at ddatgloi partneriaethau rhyngwladol a chyfleoedd economaidd newydd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.”

Wrth groesawu’r rhaglen a’r cyllid newydd wrth ymweld â Pharis i lansio’r flwyddyn Cymru yn Ffrainc, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Rwy’n falch bod cyllid newydd ar gael i gefnogi busnesau a sefydliadau Cymru i greu cyfleoedd economaidd ym Môr Iwerddon a chyda rhanbarthau Ewropeaidd eraill. Bydd y dull rhagweithiol hwn o gymorth i gryfhau cysylltiadau economaidd ac ymchwil gyda’r UE.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch Cymru Ystwyth, Fframwaith Môr Iwerddon a’r grantiau a gyhoeddwyd heddiw, ewch i Cymru Ystwyth neu cysylltwch â CymruYstwyth@llyw.cymru.