Y ffordd rydyn ni’n darparu cymorth ar gyfer gweithgareddau trawsffiniol a rhyngwladol i annog cydweithredu economaidd.
Cynnwys
Cymru Ystwyth
Nod Cymru Ystwyth yw sicrhau cydweithredu economaidd trawsffiniol a rhyngwladol pan fydd buddiannau cyffredin. Mae'n cynnwys cynlluniau grant hyblyg i gefnogi cydweithredu ar draws themâu a sectorau.
Fframwaith Môr Iwerddon
Rydyn ni’n datblygu fframwaith anffurfiol i gynyddu'r cydweithredu economaidd ar draws ardal Môr Iwerddon.
Bydd y fframwaith yn esblygu ac yn ategu'r holl bolisïau, strategaethau a rhaglenni perthnasol. Bydd hyn yn cynnwys Iwerddon-Cymru Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd a rhaglenni Interreg 2021 i 2027.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau Fframwaith Môr Iwerddon.
Os hoffech chi ymuno â'n rhwydwaith o Randdeiliaid Môr Iwerddon e-bostiwch dîm Cymru Ystwyth yn AgileCymru@llyw.cymru.
Ymchwil ac Arloesi Rhyngwladol
Horizon Ewrop yw'r rhaglen drawswladol fwyaf erioed ar gyfer cefnogi ymchwil ac arloesi. Mae'n cael ei chynnal gan y Comisiwn Ewropeaidd tan 2027, ac mae ganddi gyllideb o €100 biliwn.
Mae'r UE yn ffurfioli cyfranogiad y DU yn y rhaglen, ond mae sefydliadau yn y DU yn dal i fod yn gymwys i gymryd rhan. Os nad yw cysylltiad yn cael ei sicrhau, mae rhaglenni eraill wedi cael eu cynnig ar gyfer y DU.
Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar sut i wneud cais ar gael ar dudalen Horizon Ewrop.
I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch HorizonEurope@llyw.cymru.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni ar AgileCymru@llyw.cymru i gael rhagor o fanylion.