Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad o incwm a gwariant ar gyfer y sector addysg uwch ar gyfer Medi 2020 i Awst 2021.

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm incwm sefydliadau addysg uwch Cymru oedd £1.78 biliwn, cynnydd o 9% o ffigur 2019/20.
  • Cyfanswm gwariant y sector oedd £1.71 biliwn, 12% (£185 miliwn) yn uwch na 2019/20
  • Gwnaeth yr incwm o ffioedd dysgu a chontractau addysg barhau i gynyddu. Mae ffioedd dysgu a chontractau addysg yn cyfrif am 54% o’r incwm (£970 miliwn)
  • Fe wnaeth grantiau cyrff cyllido barhau i godi. Gwnaeth yr incwm o grantiau cyrff cyllido gynyddu 51% (o £220 miliwn yn 2019/20 i £332 miliwn yn 2020/21)
  • Grantiau ymchwil oedd 13% o incwm prifysgolion Cymru, yr un ganran â 2019/20.  
  • Bu cynnydd yn y swm a wariwyd gan brifysgolion Cymru ar staff, £970 miliwn yn 2020/21 o gymharu ag £831 miliwn yn 2019/20. Roedd hyn yn cynrychioli 57% o’r holl wariant.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Sedeek Ameer

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.