Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad ystadegol

Disgrifiad o'r data

Mae'r ystadegau hyn yn cyflwyno gwybodaeth flynyddol am wariant y GIG yn ôl rhaglen ofal ar sail y cyflwr meddygol y mae'r gwariant yn ymwneud ag ef yn ôl y sawl sy’n comisiynu a’r sefydliad GIG. Darperir dadansoddiadau pellach ar gyfer gwariant y pen a gwariant yn ôl canran o gyfanswm y gwariant.

System ddosbarthu

Caiff gwariant ei fapio i raglenni gofal ar sail cyflyrau meddygol yn hytrach na gwneud dadansoddiad yn ôl math o ofal neu fath o sefydliad lle darperir gofal. Diffinnir rhaglenni gofal, h.y. categorïau cyllideb rhaglenni, drwy gyfeirio at godau'r Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau Fersiwn 10 (ICD 10) (World Health Organization). Mae’r dadansoddiad o’r gwariant yn y cyd-destun hwn yn canolbwyntio ar y claf a'r gofal a gafodd, yn hytrach nag ar ddarparwr y gofal.

Cydnabyddir efallai na fydd model meddygol o ofal bob amser yn briodol ym meysydd gwasanaethau cymunedol a gofal cymdeithasol. Yn unol â hynny mae dau grŵp penodol ar gyfer 'Unigolion Iach' ac 'Anghenion Gofal Cymdeithasol’ sy'n cipio costau rhaglenni atal a gwasanaethau sy'n cefnogi unigolion ag anghenion gofal cymdeithasol yn hytrach na gofal iechyd.

Ni all pob gweithgaredd neu wasanaeth gofal iechyd gael ei neilltuo yn ôl cyflwr meddygol, gweithgaredd ataliol neu angen gofal cymdeithasol. Pan nad yw sefydliadau'n gallu neilltuo costau i gategorïau rhaglenni gyda ffynonellau a methodolegau data cyfredol, caiff y gwariant ei roi yn y categori 'Arall.

Cwmpas y sector

Gellir dosbarthu gwariant y GIG yn ôl categori cyllideb rhaglenni, comisiynydd a bwrdd iechyd lleol.

Cysyniadau a diffiniadau ystadegol

Blwyddyn

Y flwyddyn ariannol y mae gwariant yn ymwneud â hi.

Categori Cyllideb Rhaglenni

Mae gweithgaredd yn cael ei neilltuo i 23 o gategorïau cyllideb rhaglenni ar sail y diagnosis sylfaenol ar gyfer unrhyw gyfarfyddiad.

Comisiynydd

Mae byrddau iechyd lleol yn ariannu gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan ymarferwyr gofal sylfaenol fel meddygon teulu a deintyddion, a gwasanaethau gofal eilaidd fel triniaeth ysbyty. Mae gwariant byrddau iechyd lleol yn cynnwys ychydig o wariant eraill na ellir ei ddosbarthu’n ofal sylfaenol nac eilaidd.

Gwariant

Gwariant a ddyrannwyd i bob categori cyllideb rhaglenni a gyflwynir ar y  prisiau presennol.

Gwariant y pen

Mae hyn yn defnyddio’r Amcangyfrifon Poblogaeth Canol-Blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) agosaf a oedd ar gael ar adeg cyhoeddi. Cafodd yr amcangyfrifon canol-blwyddyn ar gyfer 2022 eu defnyddio fel enwadur ar gyfer gwariant 2022-23.

Sefydliad

Bwrdd iechyd lleol neu Gymru.

Uned ystadegol

Gwariant mewn punnoedd Sterling yw'r uned yn yr ystadegau. Mae gwariant yn ymwneud â gwariant yn ystod y flwyddyn ariannol ar sail cyflwr meddygol ac yn cael ei gyflwyno ar y prisiau presennol.

Poblogaeth ystadegol

Mae ffigurau ariannol yn cael eu casglu o holl fyrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru. Mae'r holl wariant ar drigolion Cymru wedi'i gynnwys yn y data, gan gynnwys gwariant ar wasanaethau a ariennir gan fyrddau iechyd lleol Cymru a'u darparu gan ddarparwyr gofal iechyd y GIG a phreifat, o fewn Cymru a’r tu allan iddi.

Ardal gyfeirio

Cymru a byrddau iechyd lleol o fewn Cymru.

Cwmpas amser

Mae data ar gael o 2005-06 ac mae’r data o 2009-10 ymlaen yn cael eu cyflwyno ar gyfer saith bwrdd iechyd lleol yn dilyn ad-drefnu ar 1 Hydref 2009 a newidiadau pellach ar 1 Ebrill 2019.

Prosesu ystadegol

Data ffynhonnell

Mae’r data mewn datganiadau ystadegol ac yn y tablau StatsCymru sy'n cyd-fynd â nhw yn dod o ddatganiadau cyllidebu rhaglenni’r byrddau iechyd lleol. Caiff y data eu cyflwyno i Gweithrediaeth GIG Cymru a’u cyfuno ganddi.

Amlder casglu data

Mae ystadegau'n cael eu casglu a'u cyflwyno'n flynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Casglu Data

Mae dyrannu gwariant i gategorïau cyllideb rhaglenni yn cael ei wneud gan fyrddau iechyd lleol gan ddefnyddio'r wybodaeth orau sydd ar gael, e.e. ar gyfer cleifion mewnol acíwt ac achosion dydd; caiff episodau eu dyrannu i gategori cyllideb rhaglenni yn ôl cod ICD10 ac mae cost uned pob episod yn cael ei benderfynu gan ei Grŵp Adnoddau Gofal Iechyd (HRG). Ar gyfer mathau eraill o wariant, gall fod data penodol o Ffurflen Gostio Cymru 1 (WCR 1, ffurflen TFR2 gynt) i gefnogi dyraniad, e.e. gellir neilltuo gwariant WCR 1 ar wasanaethau afiechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn uniongyrchol i'r categori cyllideb rhaglen gyfatebol.

Darperir data ar ffurf Excel yn ôl templed strwythuredig gyda chyflwyniad cychwynnol o ddata ym mis Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae data cyllidebau rhaglen yn gynnyrch terfynol proses gostio gymhleth.

Darperir canllawiau helaeth ar y brif broses gostio a chanllawiau ar wahân ar gyfer cwblhau’r cam cyllidebau rhaglen i sefydliadau eu dilyn.

Dilysu data

Mae dilysu data yn digwydd ar sawl cam cyn ei gyhoeddi.

Caiff data eu casglu gan Gweithrediaeth GIG Cymru sy'n ymgymrydâ dilysu'rcyflwyniad data cychwynnol. Cynhelir proses sicrhau ansawdd pellach ar y data ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac mae gan sefydliadau'r GIG gyfle i ymateb cyn i ddata gael ei gwblhau. Caiff unrhyw ymholiadau eu codi gyda’r bwrdd iechyd lleol perthnasol cyn cyhoeddi'r data.

Darperir data i Lywodraeth Cymru i’w gyhoeddi. Mae Llywodraeth Cymru yn llunio dadansoddiadau ac yn cynnal rhai dilysiadau terfynol ar ffurf gwiriadau yn erbyn cyfnodau blaenorol a gwiriadau ychwanegol ar y data ar gyfer y cyfnod cyfeirio megis sicrhau bod is-gategorïau yn gywir, bod cyfanswm byrddau iechyd yn adio at gyfanswm Cymru a bod costau y pen a chostau canrannol wedi’u cyfrifo yn gywir.

Mae’r cyfanswm rheoli ar gyfer yr ymarfer Cyllidebau Rhaglenni yn cynnwys cyfanswm gwariant byrddau iechyd lleol yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhaid i gyfanswm y ffigur a adroddir yn natganiad y bwrdd iechyd lleol gyfateb i gyfanswm y ffigur gwariant a ddangosir yng nghyfrifon y bwrdd iechyd lleol (datganiad cost gweithredu).

Casglu data

Cyflwynir data gwariant ar y prisiau cyfredol, h.y. prisiau sy'n ymwneud â'r cyfnod sy'n cael ei fesur, ac maent felly’n cynnwys effeithiau chwyddiant ym mhrisiau nwyddau a gwasanaethau. Dylid ystyried hyn wrth wneud cymariaethau rhwng blynyddoedd. Nid yw cynnydd mewn gwariant o reidrwydd yn golygu cynnydd yn nifer y nwyddau a'r gwasanaethau sy'n cael eu prynu.

I gyfrifo'r gwariant fesul pen o'r boblogaeth, defnyddir yr Amcangyfrifon Poblogaeth Canol-Blwyddyn y SYG agosaf ar gael ar adeg cyhoeddi. Cafodd yr amcangyfrifon canol-blwyddyn ar gyfer 2022 eu defnyddio fel enwadur ar gyfer gwariant 2022-23.

Addasu

Ni wneir unrhyw addasiadau ar y data.

Rheoli ansawdd

Sicrhau ansawdd

Mae ein hystadegau yn cael eu cynhyrchu i’r safonau proffesiynol uchel a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Fe'u cynhyrchir heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol.

Mae pob allbwn yn cael ei wirio cyn ei gyhoeddi ac mae sicrwydd ansawdd yn cael ei wneud yn unol â'r strategaeth rheoli ansawdd ganlynol a’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Asesu ansawdd

Asesir yr ystadegau yn y datganiad hwn bob blwyddyn ac maent yn ateb gofynion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae'r ystadegau o ansawdd digonol i'w cyhoeddi fel ystadegau swyddogol.

Perthnasedd

Anghenion defnyddwyr

Y prif ddefnyddwyr yw:

  • gweinidogion, aelodau o'r Senedd a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn y Senedd
  • sefydliadau'r GIG
  • Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru
  • meysydd eraill yn Llywodraeth Cymru
  • awdurdodau lleol
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i Weinidogion
  • llywio trafodaeth yn y Senedd a thu hwnt
  • monitro a gwerthuso gwariant yn y GIG yng Nghymru yn ogystal â llywio trefniadau cyllido

Gall yr ystadegau fod yn ddefnyddiol i lywodraethau ac adrannau eraill y DU hefyd.

Boddhad defnyddwyr

Anogir defnyddwyr yr ystadegau i gysylltu â ni i roi gwybod inni sut maent yn defnyddio'r data.

Os ydych chi'n ddefnyddiwr ac nad ydych chi'n teimlo bod y rhestr uchod yn eich cynnwys yn ddigonol, neu os hoffech chi gael eich ychwanegu at ein rhestr ddosbarthu, rhowch wybod i ni drwy e-bostio ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Cyflawnrwydd

Mae'r ystadegau a gyflwynwyd yn gwbl gynhwysfawr o'r holl wariant yn y GIG, felly mae'r holl wariant yn cael ei gynnwys mewn un o'r 23 categori.

Lle na ellir dyrannu gwariant yn hyderus i gategori clinigol mae'n cael ei ddyrannu i'r categori ‘Arall’. Mae cyfran fawr o wariant gwasanaethau meddygol cyffredinol yn cael ei ddyrannu i'r categori ‘Arall ‘gan nad oes digon o ddata i'w ddyrannu i gategorïau clinigol perthnasol.

Cywirdeb a dibynadwyedd

Cywirdeb cyffredinol

Nid yw dyrannu gwariant i gategorïau cyllidebu rhaglenni yn dasg syml ac mae’r dulliau dyrannu yn gwella bob blwyddyn. O ganlyniad, mae cymariaethau o'r patrymau eang dros amser yn debygol o fod o fwy o werth na dadansoddi newidiadau mwy gronynnog o flwyddyn i flwyddyn. Mae dyraniad i is-gategoriau yn cynnwys rhywfaint o amcangyfrif a chyfyngir cymariaethau gan raddfa gweithgarwch heb ei godio, felly dylid defnyddio data ar lefel is-gategori yn ofalus. Gall unrhyw newid bach yn y tymor byr fod o ganlyniad i newidiadau ym methodoleg dyrannu yn hytrach na newidiadau gwirioneddol mewn blaenoriaethau gwariant.

Lle mae'n hysbys bod newidiadau sylweddol i'r fethodoleg yn achosi newid mawr yn y data o flwyddyn i flwyddyn, byddant yn cael eu hamlygu yn y datganiad ystadegol a'r adroddiad ansawdd hwn. Nid yw'r categori clefydau cylchredol yn cael ei ddadansoddi mewn datganiadau oherwydd bod yr is-gategori 'Clefyd cylchredol arall’ yn debygol o gynnwys cryn dipyn o wariant ar gyfer clefyd coronaidd y galon a chlefyd serebrofasgwlaidd na ellir eu dadansoddi'n uniongyrchol i'r ddau is-gategori hynny.

Cyflwynwyd newidiadau sylweddol i'r fethodoleg cyfrifo data yn 2012-13. Felly mae unrhyw gymhariaeth â data cyn ac ar ôl y cyfnod hwn yn gyfyngedig oherwydd gall unrhyw newidiadau yn y duedd fod oherwydd methodoleg yn unig yn hytrach na newidiadau gwirioneddol mewn gwariant.

Rhwng 2017 a 18, mae’r dadansoddi yn seiliedig ar ddata a gasglwyd oddi wrth sefydliadau'r GIG mewn partneriaeth â chyflenwr meddalwedd system gostio newydd ar gyfer Cymru gyfan. Mae'r feddalwedd newydd hon yn cynnig y cyfle i Gymru ddatblygu ei phrosesau costio gwasanaethau ymhellach i gyflwyno mwy o gwmpas, dyfnder a lefel manylder i weithgarwch costio i gefnogi amcanion y dyfodol o ran mwy o gysondeb yng Nghymru a chyda Lloegr, dadansoddi data a gwybodaeth rheoli. Mae sefydliadau'n hyderus bod modelau costio newydd yn gadarn ac nid yw cyfundrefnau profi wedi nodi unrhyw feysydd arwyddocaol o wahaniaeth. 

Adroddwyd am ostyngiad sylweddol mewn perfformiad codio clinigol mewn gwasanaethau ysbyty acíwt ar gyfer 2017-18 gan arwain at gynnydd mewn "data annilys / heb ei godio" o 52.5% o'i gymharu â 2016- 17. Roedd y cynnydd wedi’i ganoli mewn dau sefydliad, Aneurin Bevan a Hywel Dda. Nid yw'r effaith ar raglenni gofal eraill yn hysbys a gallai o bosibl fod yn effeithio ar unrhyw raglen sy'n cael ei gyrru'n sylweddol gan ofal acíwt mewn ysbytai. Er bod y perfformiad codio clinigol yn 2018-19 yn well na sefyllfa’r flwyddyn flaenorol, roedd gweithgarwch heb ei godio yn parhau i fod yn uchel ac wedi’i ganoli yn yr un dau sefydliad. Fe wnaeth y ddau sefydliad ddefnyddio prosesau ychwanegol i sicrhau bod y gweithgarwch heb ei godio yn cael cyn lleied o effaith ag y bo modd. 

Cyflwynwyd newid sylweddol i’r dull o godio diagnosis sy'n gysylltiedig â sepsis yn Safonau Codio ICD-10 sy'n berthnasol i 2017-18 gan achosi naid tybiedig yn nifer yr achosion o sepsis. Achosodd hyn symud sylweddol yn y gwariant o nifer o gategorïau rhaglenni i'r categori 'clefydau heintus' gan arwain at gynnydd o £45 miliwn (52.2%) ers 2016-17. Cafodd y safon ei mireinio ymhellach ym mis Ebrill 2018. Cafodd y symudiad ei wyrdroi'n rhannol yn sgil mireinio’r dull codio yn ystod 2018-19, ac o ganlyniad fe wnaeth y categori 'clefydau heintus' ostwng £15 miliwn yn gyffredinol. Mae'n anodd asesu a nodi’r effaith ar raglenni eraill ar sail symudiadau naturiol o flwyddyn i flwyddyn.

Yn 2019-20 ehangwyd cwmpas y broses gostio yng Nghymru i gynnwys costio gweithgareddau a oedd yn anghyflawn ar ddiwedd y cyfnod costio, gan gysoni ffiniau gweithgarwch a chostau yn llawn am y tro cyntaf a chaniatáu adrodd cwmpas llawn gweithgareddau sy'n effeithio ar gyfnod costio. Roedd costau'r blynyddoedd blaenorol yn cynnwys dim ond y gweithgareddau hynny a oedd wedi cwblhau o fewn y cyfnod costio. Ychydig iawn o effaith a gafodd hyn gan y byddai costau, yn y mwyafrif llethol o achosion, wedi'u cynnwys yn yr un rhaglenni cyn ac ar ôl y newid.

Mae pandemig y Coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio'n fawr ar ddata cyllidebau rhaglenni, yn enwedig yn 2020-21 a 2021-22, ac i raddfa lai yn 2022-23. Mae nifer o raglenni wedi profi amrywiad sylweddol yn ystod y flwyddyn a thros flynyddoedd, o ganlyniad i effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol y pandemig. Mae effaith y pandemig o ran manylion y dadansoddiad Cyllidebu Rhaglenni yn helaeth a chymhleth. Pedair agwedd allweddol i'w hystyried yw:

  • Effaith cost uniongyrchol gwasanaethau Covid-19 a gofal cleifion Covid-19 ar broffil y rhaglen.
  • Effaith newidiadau mewn gwasanaethau, lefelau gweithgarwch a phroffiliau wrth i’r pwyslais symud i adferiad ar ôl uchafbwynt ymateb y pandemig. 
  • Effaith newid yn y broses gostio yn 2020-21 a oedd yn angenrheidiol oherwydd effaith y pandemig ar wasanaethau ysbytai (a dychwelyd i'r broses cyn y pandemig yn 2021-22).
  • Effaith y cynnydd mewn costau ar draws yr holl wasanaethau oherwydd gweithgareddau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r pandemig (dillad amddiffynnol, glanhau ac ati.).

Ar frig yr ymateb i'r pandemig yn 202-21 roedd angen gwneud newid i'r broses gostio i oresgyn yr heriau a oedd yn codi oherwydd bod gwasanaethau ac arferion gwaith yn eithriadol o hyblyg ac amlbwrpas. Roedd adfer gwasanaethau ac ailgychwyn arferion gweithio mwy strwythuredig yn caniatáu dychwelyd at arferion costio cyn y pandemig yn 2021-22.

Cafodd y newid methodoleg effaith sylweddol ar broffil gwariant Cyllidebau Rhaglenni dros gyfnod 2020-21 a 2021-22, o ganlyniad i bwyslais gwahanol ar gyfrannau gweithgarwch a lefelau absoliwt; ac roedd elfennau o symudiadau o  flwyddyn i flwyddyn dros y cyfnod yn un o effeithiau’r newid hwnnw, yn llawn cymaint ag yr oedd newid gwasanaeth, defnydd neu fuddsoddiad.

Gwelir hyn yn arbennig yn y rhaglenni hynny lle na ostyngodd gweithgarwch mor sylweddol yn 2020-21 o'i gymharu ag eraill. Bydd y rhaglenni hyn wedi gweld cynnydd mawr mewn gwariant yn 2020-21 wrth wneud tua’r un faint o weithgarwch neu fymryn yn llai, tra eu bod yn 2021-22 efallai hyd yn oed wedi gweld gostyngiad mewn gwariant wrth wneud tua’r un faint o weithgarwch, neu fwy. Mae hyn yn golygu bod dehongli'r symudiadau yng ngwariant rhaglenni yn heriol iawn, a dylid ystyried hynny wrth adolygu'r data.

Yn 2022-23, penderfynodd adolygiad, er bod mapio codau diagnosis yn ymwneud â Llosgiadau yn hanesyddol wedi'u rhannu rhwng rhaglenni Problemau’r Croen a Thrawma ac Anafiadau, nid oedd rheswm arwyddocaol dros y rhaniad hwn felly symudwyd yr holl godau Llosgiadau i Broblemau’r Croen yn 2022-23. Byddai'r mwyafrif helaeth o wariant Llosgiadau yn 2022-23 wedi cael eu cofnodi yn Nhrawma ac Anafiadau mewn blynyddoedd blaenorol. Mae'r symudiad wedi achosi cynnydd yn y gwariant Problemau’r Croen yn 2022-23 ond mae'n debygol y bydd y gwariant cyffredinol ar losgiadau wedi gostwng ychydig, fel y nodwyd gan ostyngiad mewn gweithgarwch Gofal Cleifion Derbyniedig.

Gwallau samplu

Ni ddefnyddir unrhyw samplo yn y casgliad data hwn.

Gwallau heb fod yn rhai samplu

Ni ellir dyrannu pob gwariant i gategorïau cyllidebau rhaglenni penodol. Mae'r categori rhaglen 'Arall' yn cynnwys meysydd gwasanaeth sylweddol lle nad yw sefydliadau'n gallu dyrannu costau i raglenni gyda ffynonellau a methodolegau data cyfredol.

Yr is-grŵp mwyaf o fewn y categori rhaglen Arall (42.1%) yw gwariant ar  Wasanaethau Meddygol Cyffredinol, na ellir ei amcangyfrif yn rhesymol ar lefel benodol clefydau. Yn 2022-23, ni ddyrannwyd 93.8% o gostau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Gofal Sylfaenol i gategorïau rhaglenni clinigol, ac yn hytrach fe'u cipiwyd yn y categori 'Arall. Roedd cyfran fawr (26.1%) o wariant Gofal Iechyd Parhaus hefyd heb ei ddyrannu i gategorïau rhaglenni (ac roedd yn cyfrif am 11.7% o'r gwariant categori Arall). Rhwng popeth, gydag ychwanegu Mynediad Agored, swyddogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru heb ei ddyrannu ac elfennau gofal eilaidd heb eu codio (yn bennaf), roedd £1.2 biliwn (13.5%) o wariant wedi’i roi yn y categori 'Arall' ac roedd y tu allan i'r rhaglenni clinigol yn 2022-23. Dylid cadw hyn mewn cof bob amser wrth gyflwyno costau rhaglenni penodol.

Mae'r broses dyrannu gwariant yn cynnwys cyfle i bob sefydliad weithredu darpariaethau sy'n caniatáu neilltuo gweithgaredd heb ei godio'n glinigol i raglenni lle'r oedd lefel uchel o hyder i wneud hynny ar sail dangosyddion data. Roedd gan nifer o sefydliadau lefelau is o weithgaredd yn cyrraedd targedau codio clinigol yn 2022-23 a gwnaed adolygiad sylweddol o'r broses i sicrhau'r budd mwyaf posibl ar gyfer dadansoddi wrth leihau risg y canlyniad.

Cafodd y broses ei diwygio a'i hehangu yn 2022-23, yn seiliedig ar dair blynedd o weithgaredd wedi’i godio, gan roi dibyniaeth ar batrymau dyrannu cyson i raglenni o fewn arbenigeddau ar draws y tair blynedd hynny. Er gwaethaf y sail hon, mae ehangu'r broses a lefelau uchel o weithgaredd heb eu codio o fewn blwyddyn wedi effeithio ar gymhariaeth o flwyddyn i flwyddyn mewn rhaglenni, yn enwedig lle darperir dadansoddiad i is-gategorïau yn y data. Mabwysiadodd pob bwrdd iechyd lleol heblaw Powys y drefn hon yn 2022-23.

Adolygu data

Mae'n annhebygol y caiff data anghywir eu cyhoeddi ond os bydd hyn yn digwydd byddai diwygiadau’n cael eu gwneud a byddai defnyddwyr yn cael eu hysbysu ar y cyd â'n trefniadau ar gyfer diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau.

Ni fu unrhyw ddiwygiadau ers diweddariad 2016-17 a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2018.

Addasiad tymhorol

Ni ddefnyddir unrhyw addasiad tymhorol yn yr ystadegau hyn.

Amseroldeb a phrydlondeb

Prydlondeb

Fel arfer, cyflwynir data yn gychwynnol i'r Uned Cyflenwi Ariannol ym mis Medi ac mae'r data yn derfynol erbyn diwedd mis Hydref. Mae Llywodraeth Cymry yn anelu i gyhoeddi’r datganiad blynyddol ym mis Ebrill y flwyddyn yn dilyn y cyfnod cyfeirio y mae'r gwariant yn ymwneud ag ef (13 mis o ddiwrnod olaf y cyfnod cyfeirio).

Prydlondeb

Cyhoeddir ystadegau cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod perthnasol.

Mae'r holl allbynnau'n cydymffurfio â’r Cod Ymarfer drwy rag-gyhoeddi'r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw drwy'r calendr 'i ddod'. Ar ben hynny, os bydd angen gohirio allbwn byddai hyn yn dilyn ein trefniadau ar gyfer diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau.

Cysondeb a chymhared

Cymharedd daearyddol

Daeth diwygiadau i'r GIG yng Nghymru i rym o 1 Hydref 2009 ymlaen. Cafodd y 22 Bwrdd Iechyd Lleol oedd yn comisiynu a’r sefydliadau Ymddiriedolaeth GIG oedd yn darparu eu disodli gan nifer llai mewn strwythur newydd o 7 bwrdd iechyd lleol daearyddol. Diwygiwyd y byrddau iechyd lleol ymhellach ar 1 Ebrill 2019.

Cymharu dros amser

Mae data ar gyfer 2005-06 i 2008-09 yn cael eu hadrodd ar gyfer byrddau iechyd lleol cyn yr ad-drefnu ar 1 Ebrill 2019.

Cydlyniaeth (ar draws parthau)

Mae'r Trysorlys yn cyhoeddi dadansoddiad o wariant cyhoeddus y gellir ei adnabod ar gyfer gwledydd a rhanbarthau yn y Dadansoddiadau Ystadegol Gwariant Cyhoeddus (PESA). Mae'n debyg mai PESA yw'r ffynhonnell fwyaf priodol ar gyfer cymharu gwariant iechyd yn ôl gwlad gan ei fod yn cael ei lunio gan ddefnyddio system ddosbarthu gyffredin ar draws y DU. Mae ffigurau cyllidebau rhaglenni'r GIG yn y datganiad hwn yn cynnwys cyfanswm gwariant byrddau iechyd lleol yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fodd bynnag, nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys gwariant cyfalaf ac eitemau o wariant a ariennir yn ganolog gan Lywodraeth Cymru, fel hyfforddiant ac ymchwil, a fydd yn cael eu cynnwys yn ffigurau PESA. Felly nid oes modd cymharu ffigurau cyllidebau rhaglenni yn uniongyrchol â ffigurau PESA.

Cyhoeddwyd cyllidebau rhaglenni gan GIG Lloegr ar gyfer gwariant yn 2013-14 a gomisiynwyd gan Grwpiau Comisiynu Clinigol, heb gynnwys gwariant a gomisiynwyd gan GIG Lloegr (megis gwasanaethau gofal arbenigol a gwasanaethau gofal sylfaenol), gwariant Iechyd Cyhoeddus Lloegr a gwariant ar swyddogaethau iechyd cyhoeddus a ariannwyd gan awdurdodau lleol o grantiau a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr. Ni chafodd y rhan fwyaf o wasanaethau sgrinio, megis sgrinio ar gyfer canser, eu comisiynu gan Grwpiau Comisiynu Clinigol ac felly ni chawsant eu cynnwys mewn data a gyhoeddwyd yn 2013-14 ar gyfer Lloegr, tra bod gwariant sgrinio yng Nghymru wedi'i gynnwys mewn gwasanaethau i unigolion iach.

Felly, ni ddylid gwneud cymariaethau rhwng cyllidebau rhaglenni Cymru a Lloegr oni bai bod modd ystyried y ffactorau hyn.

Cydlyniaeth (mewnol)

Mae data yn cael ei gasglu o bob bwrdd iechyd yn gyson ac felly mae cymariaethau rhwng ardaloedd byrddau iechyd yn ddilys.

Hygyrchedd ac eglurder

Cyhoeddi

Mae'r ystadegau yn cael eu cyhoeddi mewn modd hygyrch, trefnus, wedi'u cyhoeddi ymlaen llaw ar adran Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir diweddariad blynyddol gyda dadansoddiad lefel uchel ar ein gwefan. Mae tablau manylach ar StatsCymru yn cyd-fynd â datganiadau ystadegol.

Ein nod yw defnyddio Saesneg plaen yn ein hallbynnau ac mae pob allbwn yn cadw at bolisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir ein datganiadau ystadegol yn Gymraeg a Saesneg. Mae datganiadau ystadegol yn cael eu creu'n unol â'r canllaw arddull Gwasanaethau Ystadegol ar gyfer adroddiadau ystadegol. Defnyddir testun amgen i ddisgrifio cynnwys di-destun megis siartiau.

Cronfeydd data ar-lein

Cyhoeddir y gyfres hanesyddol lawn o ystadegau fel tablau data rhyngweithiol ar StatsCymru.

Arall

Gellir trin data ar y sgrin ar StatsCymru a'u lawrlwytho mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys Data Agored.

Dogfennaeth ar fethodoleg

Mae'r ffynonellau gwybodaeth canlynol yn berthnasol i'r broses o gasglu data a'r ystadegau a gyhoeddwyd ar wariant cyllideb rhaglen:

Codau'r Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau Fersiwn 10 (ICD 10) (World Health Organization)

Dogfennaeth ansawdd

Cyhoeddir yr holl wybodaeth o ansawdd yn yr adroddiad ansawdd hwn.

Costau a baich

Nid oes gwybodaeth am y costau sy'n gysylltiedig â chasglu a chydgrynhoi'r data'n benodol at ddiben cynhyrchu'r ystadegau swyddogol ar gael.

Cyfrinachedd

Mae datganiad ystadegau ac ymchwil Llywodraeth Cymru ar gyfrinachedd a gweld data yn disgrifio ein dull o ymdrin â chyfrinachedd data a chydymffurfio a’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Sylwadau

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, a gellir gwneud hynny drwy anfon neges e-bost i ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Cynhyrchwyd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru

Adolygwyd ddiwethaf: Ebrill 2024

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099