Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae’r cynnig hwn yn ymwneud â gweithredu cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon newydd, gyda’r bwriad o ddenu ymgeiswyr o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i AGA a’r proffesiwn addysgu. Daw’r ymyriad polisi hwn ar ôl i’r Gweinidog Addysg blaenorol dderbyn yr argymhellion yn adroddiad terfynol Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd. Cyhoeddwyd Adroddiad Terfynol Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd ym mis Mawrth 2021, ac mae’n gwneud nifer o argymhellion ynghylch y cwricwlwm, adnoddau, dysgu proffesiynol a’r gweithlu, gan gynnwys AGA. Mae’n cynnwys hefyd Argymhelliad 9: Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu ysgoloriaethau penodol er mwyn cefnogi myfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Y cefndir

Yn ei adroddiad, A Flying Start: Improving Initial Teacher Preparation Systems (2019), nododd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD):

"In many OECD countries, the increasingly diverse student population does not match with a teacher workforce that is largely homogeneous (Nusche, 2009[20]). This is particularly important given the growing literature on the positive effect of same-race teachers on ethnic-minority students in terms of performance, role-modelling, motivation and the overall educational experience of not only ethnic minority students, but of low-income students of both sexes (Gershenson et al., 2017[21])."

Yn 2019, comisiynodd Llywodraeth Cymru Gyngor y Gweithlu Addysg i gynnal adolygiad aml-gam o'r dystiolaeth o amrywiaeth ethnig yng ngweithlu ysgolion, Cynyddu amrywiaeth o fewn y gweithlu ysgolion yng Nghymru. Roedd y data a gasglwyd ar y pryd yn cadarnhau adroddiad yr OECD ac yn dangos diffyg cynrychiolaeth difrifol o bobl ethnig leiafrifol yn y gweithlu addysgu, gydag ond 3% o athrawon yn ystyried eu hunain yn unigolion ethnig leiafrifol, o'u cymharu â 12% ymhlith dysgwyr (Cyngor y Gweithlu Addysg, 2020:11, Cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu ysgolion yng Nghymru, Adroddiad Cam 2 ar gyfer Llywodraeth Cymru). Roedd data’r Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgolion o fis Tachwedd 2021 yn dangos mai dim ond 1.1% oedd o ethnigrwydd Du, Asiaidd, Cymysg neu ethnigrwydd arall.

Nododd casgliadau'r cyntaf o adroddiadau Cyngor y Gweithlu Addysg (2020:50) fod y diffyg amrywiaeth ethnig yng ngweithlu ysgolion wedi'i nodi'n gyson fel problem y dylid mynd i'r afael â hi yng Nghymru (Cynllun Gweithredu ar gyfer Recriwtio a Chadw Athrawon yng Nghymru, CACC, 2003; Our classrooms must reflect our diverse society - Wales Online, 2013; Racism in schools 'putting off' non-white teachers - BBC News, 2017; Experiences of racism and race in schools in Wales, Wiegand a Cifuentes, 2018). Mae Cyngor y Gweithlu Addysg o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried darparu ysgoloriaethau penodol i gefnogi myfyrwyr AGA o grwpiau ethnig lleiafrifol. Yn ei adroddiad terfynol, Cynrychiolaeth pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn y gweithlu ysgolion yng Nghymru, Adroddiad Cam 3 ac argymhellion terfynol i Lywodraeth Cymru (Cyngor y Gweithlu Addysg, 2021) aeth Cyngor y Gweithlu Addysg ati i dreialu eu hargymhellion cychwynnol ymhlith rhanddeiliaid er mwyn cytuno’n derfynol arnynt. Roedd yr argymhellion terfynol yn cynnwys: “Dylai Llywodraeth Cymru ariannu bwrsari newydd i annog myfyrwyr o gefndiroedd Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i ddilyn cyrsiau AGA.” (2021:27).

Ochr yn ochr ac ar y cyd â'r gwaith hwn, ym mis Gorffennaf 2020 comisiynodd Llywodraeth Cymru yr Athro Charlotte Williams i gadeirio Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd. Cafodd adroddiad terfynol y grŵp hwn ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2021 ac roedd yn cynnwys argymhellion, yn seiliedig ar y data recriwtio a oedd ar gael, yn galw am wneud mwy i ddenu rhagor o ymgeiswyr i raglenni AGA o leiafrifoedd ethnig. Derbyniwyd yr argymhellion hyn gan y Gweinidog Addysg blaenorol. Yn eu plith roedd Argymhelliad 9: Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu ysgoloriaethau penodol er mwyn cefnogi myfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru hefyd adroddiad drwy Brifysgol Metropolitan Caerdydd i archwilio’r sefyllfa o ran yr athrawon o gefndiroedd ethnig leiafrifol sy’n cael eu recriwtio a’u cadw yng Nghymru. Yn 2021 cyhoeddwyd Recriwtio a Chadw Athrawon Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru, Astudiaeth Ymchwil Ansoddol (gov.wales), ac roedd yn tynnu ar safbwyntiau dysgwyr 14 oed ac yn hŷn, myfyrwyr ac athrawon o gefndiroedd ethnig leiafrifol, gan ganolbwyntio ar ganfyddiad unigolion a’r diffyg amrywiaeth yn y gweithlu addysg yng Nghymru.

Mae synergedd clir ar draws canfyddiadau, tystiolaeth ac argymhellion annibynnol y gwahanol adroddiadau ochr yn ochr â'r angen i fynd i'r afael â'r sefyllfa ar frys. Ar 21 Hydref 2021 cyhoeddwyd Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, a'r bwriad yw bwrw ymlaen â'r argymhellion a wnaed o dan yr adroddiadau a nodwyd. Mae'r cynllun hwn hefyd yn rhan o waith ehangach Llywodraeth Cymru o dan Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac yn ei ategu.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn ymrwymo i:

  • weithlu sector cyhoeddus (gan gynnwys athrawon) sydd ‘o leiaf yn cynrychioli'r boblogaeth a wasanaethir ganddo yn briodol’
  • uwch dimau arwain a byrddau cyrff cyhoeddus sy’n gynhwysol ac yn cynrychioli’r boblogaeth
  • cyrff cyhoeddus sy’n defnyddio eu grym gwario i wella arweinyddiaeth a chynrychiolaeth ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector

Mynd i'r afael ag anoddefgarwch hiliol, ethnig, a chrefyddol sy'n systemig a sefydliadol yw un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru o dan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ac mae'n ffurfio rhan o'r gwaith ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu i sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol fyw mewn Cymru amrywiol, ddiogel, a chydlynus. Datblygwyd argymhellion y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol mewn perthynas ag addysg gyda chymorth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a ddarparodd adolygiadau o dystiolaeth i Lywodraeth Cymru ynghylch Gwella Cydraddoldeb Hiliol mewn Addysg (CPCC, 2021) a Gwella Cydraddoldeb Hiliol ym maes Cyflogaeth ac Incwm (CPCC, 2021).

Roedd adroddiad addysg CPCC yn nodi cyfres o argymhellion ar gyfer recriwtio gweithlu addysgu amrywiol ac ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol. Roedd y rhain hefyd yn bwydo i mewn i'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ac yn cyd-fynd i raddau helaeth â'r syniadau polisi a'r argymhellion a amlinellir yn adroddiadau Cyngor y Gweithlu Addysg.

Fel y mae Asesiad Effaith Cymru Wrth-hiliol: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn ei nodi:

“Mae gwreiddiau anghydraddoldeb yn aml i’w canfod yn ystod plentyndod a bydd hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yn gwella cyfleoedd bywyd plant heddiw ac yfory. Mae addysg yn faes polisi canolog o fewn y Cynllun ac mae rhai o’r nodau a’r camau gweithredu yn cynnwys… cynyddu cynrychiolaeth Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol [athrawon] yn y gweithlu a chynyddu’r sylw at eu cyfraniadau yn y cwricwlwm. Bydd y nodau a’r camau gweithredu hyn, ynghyd ag eraill mewn gwahanol feysydd polisi oll o fudd uniongyrchol i bob plentyn a pherson ifanc, yn enwedig plant Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol”.

Mae ymrwymiad clir o fewn Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i gynyddu nifer yr athrawon o gymunedau ethnig leiafrifol a gaiff eu recriwtio i'r sector addysg, gan gynnwys y nifer a gaiff eu recriwtio i raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon, ac mae’r cynllun yn nodi:

“Nid yw diffyg cynrychiolaeth mewn rolau ymarferwyr ac arweinwyr, gan gynnwys ar gyrff llywodraethu, yn gwneud dim i fagu uchelgais ymhlith ein plant a’n pobl ifanc, y mae angen iddynt adnabod eu hunain a’u profiadau eu hunain ymhlith eu harweinwyr.”

Mae’r cynnig hefyd yn gydnaws â nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i greu Cymru sy'n fwy cyfartal, lle mae gan bawb y cyfle i gymryd rhan, gwireddu eu potensial a chyfrannu'n llawn at eu dysgu a’u datblygiad eu hunain, gan alluogi Cymru i fod yn fwy llewyrchus ac arloesol. Yr effaith ar ddysgwyr fydd eu bod yn gweld mwy o athrawon o leiafrifoedd ethnig yn y dosbarth. Bydd hyn yn cefnogi dysgwyr o leiafrifoedd ethnig o ran cynrychiolaeth, ond bydd hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth pob dysgwr o’r amrywiaeth ddiwylliannol a hiliol sy’n bodoli o fewn cymdeithas Cymru (Llywodraeth Cymru 2021). Fel y mae CACC (2003) yn ei nodi, mae angen sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn dod i gysylltiad ag unigolion o gefndiroedd ethnig a diwylliannol gwahanol. Yn ogystal â bod yn athrawon rhagorol, gall unigolion o wahanol gefndiroedd ethnig a diwylliannol helpu i ddatblygu dealltwriaeth ymhlith disgyblion o anghenion unigolion o wahanol gefndiroedd. Mae hyn yn cyd-fynd â nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac, yn anuniongyrchol, mae'n cefnogi'r Nod Llesiant o greu Cymru o gymunedau cydlynus a diogel.

Cymhellion addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru

Mae gweithredu'r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn creu heriau penodol i ni, gan gynnwys sicrhau gweithlu o faint, ansawdd, ac arbenigedd digonol i ddatblygu ac addysgu'r cwricwlwm, a sicrhau effeithiau cadarnhaol i ddysgwyr Cymru. Mae llwyddiant sawl un o strategaethau’r Llywodraeth ac ymrwymiadau Gweinidogol yn sylfaenol ddibynnol ar sicrhau cyflenwad digonol o athrawon a denu pobl i'r proffesiwn addysgu.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymhellion ariannol ar gyfer grwpiau penodol o athrawon dan hyfforddiant lle mae lefelau isel o recriwtio a chynrychiolaeth yn y gweithlu; y cynllun cymhelliant pynciau â blaenoriaeth a'r cynllun cymhelliant cyfrwng Cymraeg (Iaith Athrawon Yfory). Prif nod holl gynlluniau cymhelliant AGA Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael â materion recriwtio i gyrsiau AGA a phrinder ehangach yn y gweithlu addysgu, gan sicrhau cyflenwad priodol o ymarferwyr cymwys, meddylgar, arloesol sy'n ymrwymedig i sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel i bob dysgwr. Eu bwriad yw gweithredu fel ymyriad recriwtio er mwyn mynd i'r afael mewn ffordd gymesur â’r diffygion uniongyrchol sydd wedi’u nodi yn y gweithlu addysgu, i helpu i recriwtio i gyrsiau AGA mewn ffordd benodol sydd wedi'i thargedu. Mae'r cymhellion yn galluogi athrawon dan hyfforddiant sy’n gymwys i gael mynediad at sawl cymhelliant lle bo hynny'n briodol; gall y rhai sydd eu hangen fwyaf yn ein system addysg dderbyn y lefelau cymhelliant uchaf. Gall myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau AGA hefyd fod yn gymwys i dderbyn amrywiaeth o becynnau cymorth ariannol drwy eu sefydliadau yn ogystal â grant neu fenthyciad i fyfyrwyr a weinyddir gan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Nid yw mynediad at y cymhellion AGA yn amharu ar gymhwysedd unigolyn i gael cyllid myfyrwyr.

Roedd adroddiad Cyngor y Gweithlu Addysg (2020) yn dangos, yn y data diweddaraf sydd ar gael gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (sy’n darparu ystadegau swyddogol am addysg uwch yn y DU ar ran eu Cwsmeriaid Statudol), fod cyfran y graddedigion sy'n dod o bob un o'r grwpiau ethnig lleiafrifol yn uwch na'r rhai sy'n mynd i mewn i AGA yng Nghymru, gan danlinellu i ba raddau y mae'r rhai sy'n mynd i'r proffesiwn addysgu yn llai amrywiol na'r garfan gyffredinol o bobl sy'n gadael prifysgolion Cymru (2020:24). Fel y nodwyd uchod, bwriad y cynlluniau cymhelliant presennol yw mynd i'r afael â materion recriwtio i gyrsiau AGA, denu graddedigion i AGA, a mynd i'r afael â phrinder ehangach yn y gweithlu addysgu. Mae'r bwriad hwn yn cyd-fynd â'r gwahanol adroddiadau, yr adolygiadau o dystiolaeth, a chynlluniau'r Llywodraeth y manylir arnynt uchod, i fynd i'r afael â’r lefelau sy’n parhau i fod yn isel ymhlith yr athrawon dan hyfforddiant a gaiff eu recriwtio i gyrsiau AGA, sy’n benodol o leiafrifoedd ethnig, gyda'r nod o fynd i'r afael â lefelau isel amrywiaeth ethnig o fewn ein gweithlu addysgu yng Nghymru.

Rydym yn cynnig y dylid strwythuro'r 'ysgoloriaeth' hon fel cynllun cymhelliant AGA mewn modd tebyg i Gynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon Yfory Iaith Athrawon Yfory, gan fod cynllun IAY wedi llwyddo i ddyblu nifer ei ymgeiswyr targed o fewn 2 flynedd. Bydd y cynllun newydd hwn yn rhan o'r pecyn cymhellion, gan weithio ochr yn ochr â'r trefniadau presennol, gan gynnwys y datblygiadau sy’n parhau, yn unol â’r strategaeth o ran ymrwymiadau ehangach Llywodraeth Cymru.

Fel y mae Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn ei nodi, er mwyn denu mwy o athrawon o gymunedau ethnig leiafrifol, bydd yn rhaid cymryd camau bwriadol ar draws y sector addysg, a hynny gan amrywiaeth eang o sefydliadau, dros gyfnod o sawl blwyddyn. Mae'r cynnig hwn, felly, yn un o'n camau tymor byr i dymor canolig i gefnogi'r gwaith ehangach i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Mae'r cynllun IAY presennol yn annog ymgeiswyr i wneud cais am le ar gwrs AGA cyfrwng Cymraeg ac yn rhoi dyfarniad TAR (a SAC), ac wedi hynny ddyfarniad o fod wedi cwblhau cyfnod sefydlu mewn lleoliadau penodol a gynhelir yng Nghymru; mae’n cadw talent mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg yn ogystal â sicrhau parhad dysgu proffesiynol unigolion i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae cynllun IAY wedi annog myfyrwyr cymwys i fynd i mewn i AGA cyfrwng Cymraeg, ac mae'r niferoedd sy'n dod drwy'r system wedi cynyddu ers ei gyflwyno; gallai'r cynigion hyn arwain at batrwm tebyg yn nifer yr athrawon dan hyfforddiant o leiafrifoedd ethnig pe bai agweddau eraill o dan ymrwymiadau addysg y Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon a chynllun gweithredu Cymru Wrth-hiliol Cymru yn cael sylw a'u cyflawni ar yr un pryd. Gweler y tabl isod (nodwch mai dim ond o 1 Awst 2022 yr agorwyd cyfnod BA2021/22 ar gyfer hawliadau)

Tabl: Nifer y myfyrwyr Addysg Gychwynnol Athrawon a gafodd gymhelliant Iaith Athrawon Yfory, blwyddyn academaidd 2018 i 2019 i blwyddyn academaidd 2021 i 2022 (yn gywir ar 25 Tachwedd 2022)
Carfan Blwyddyn Academaidd: 2018/2019 2019/2020 2020/2021 2021/2022
Hawliadau SAC 60 95 130(1) 100(1)
Hawliadau Cyfnod Sefydlu 45(1) 80(1) 70(1)

Amherthnasol

Terfyn Amser SAC 31/08/2020 31/08/2021 31/08/2022 31/08/2023
Terfyn Amser Cyfnod Sefydlu 31/08/2023 31/08/2024 31/08/2025 31/08/2026
Cyfanswm yr Hawlwyr 60 95 130 100

Dim ond y rhai sy’n hawlio’r taliad cyntaf (SAC) sy’n gymwys i gael yr ail daliad.

(1) Gallai’r nifer hwn gynyddu am nad yw'r terfyn amser wedi bod eto.

Mae'r niferoedd wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf.

Mae strwythur a darpariaeth weithredol IAY yn cael eu gwella’n barhaus drwy ymgysylltu â'n Partneriaethau AGA, sy'n gyfrifol am recriwtio athrawon dan hyfforddiant yn uniongyrchol. Gellir defnyddio’r hyn a ddysgir wrth ddatblygu IAY, felly, mewn perthynas â’r cynllun cymhelliant newydd hwn.

Caiff cynlluniau cymhelliant AGA eu hadolygu'n flynyddol i benderfynu a ydynt yn targedu'r myfyrwyr AGA / darpar-athrawon sydd fwyaf eu hangen, yn seiliedig ar setiau data sy’n cynnwys, ymhlith elfennau eraill, data’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch a chanlyniadau diweddaraf y Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgolion. Bydd y cynnig hwn yn cael ei gynnwys yn yr adolygiad blynyddol hwnnw.

Deddfwriaeth

Mae adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cymorth ariannol at ddibenion sy'n gysylltiedig ag addysg. Mae hyn yn cynnwys galluogi unrhyw berson i dderbyn unrhyw hyfforddiant i fod yn athro a darparu ar gyfer cynhaliaeth unigolyn tra'i fod yn ymgymryd ag addysg o'r fath. Mae'r Cynlluniau Cymhelliant AGA presennol ill dau yn destun is-ddeddfwriaeth ar ffurf 'cynllun cyfreithiol’ (Cynllun cymhelliant hyfforddi athrawon 2021 (2021 WG20-62) a Cynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory blwyddyn academaidd 2021 i 2022 (2021 WG20-64). Bydd angen cynllun cyfreithiol ar gyfer y cymhelliant Lleiafrifoedd Ethnig hefyd ar ffurf debyg. Nid oes angen i’r Senedd graffu ar y cynlluniau hyn, sy’n ofynnol fel arfer ar gyfer is-ddeddfwriaeth, ac felly nid oes angen neilltuo amser o fewn amserlen ddeddfwriaethol y Senedd nac Asesiad o'r Effaith Reoleiddiol.

Bydd y cynllun cymhelliant ar gael i'r holl fyfyrwyr cymwys hynny sy'n astudio cwrs AGA yn llawn neu'n rhan-amser, ac o'r herwydd bydd yn gweithredu o fewn ac yn unol â gofynion a rheoliadau AGA presennol sydd wedi’u gosod ar ddarparwyr AGA a myfyrwyr AGA. Bydd darparwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau statudol mewn perthynas â gofynion oedran, crefydd a chred (os o gwbl), anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chydraddoldeb hiliol, a’r Gymraeg. Mae angen iddynt sicrhau bod eu polisi derbyn yn hyrwyddo cyfle cyfartal ac nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw grŵp o ymgeiswyr posibl.

Mae gofynion cyfreithiol ar sefydliadau addysg uwch i fonitro a chyhoeddi data fel rhan o ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae rhwymedigaeth statudol ar sefydliadau addysg uwch i gyflwyno data penodol i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i sefydliadau addysg uwch ddychwelyd data ar ryw, hil/ethnigrwydd, anabledd ac oedran staff a myfyrwyr fel rhan o'u cofnodion blynyddol, ac ers 2017/18 ar eu crefydd neu eu cred.

Mae holl Bartneriaethau AGA Cymru, felly, yn darparu data drwy’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, gan gynnwys data am nodweddion gwarchodedig. Mae'r data hwn eisoes yn cael ei gasglu, felly, ac nid yw'n faich ychwanegol ar fyfyrwyr AGA a'u partneriaethau.

Casgliad

Roedd y gwaith a wnaed gan Gyngor y Gweithlu Addysg (2021:6), Prifysgol Metropolitan Caerdydd (2021) a Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd (2021:72) a arweiniodd at y cynnig hwn yn cynnwys ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid. Cynhaliwyd cyfarfodydd, cyfweliadau, a grwpiau ffocws, gan gynnwys gyda’r canlynol:

  • pobl sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • siaradwyr Cymraeg a grwpiau arbenigol y Gymraeg
  • pobl eraill a allai gael eu heffeithio gan y cynnig

Ac eithrio Comisiynydd Plant Cymru, ein cynrychiolwyr ar ran plant oedd y gweithwyr addysg proffesiynol yr ymgynghorwyd â nhw. Ni ymgynghorwyd â phlant yn uniongyrchol ar y cynnig penodol hwn. Fodd bynnag, cafodd dysgwyr dros 14 oed eu cynnwys yng ngwaith ymchwil Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Yr effeithiau mwyaf fydd yr effaith gadarnhaol uniongyrchol ar athrawon dan hyfforddiant o gefndiroedd ethnig leiafrifol. Bydd hefyd yn effeithio'n gadarnhaol ar gymunedau ethnig leiafrifol a'u plant. Bydd y cynnydd yn y staff addysgu o leiafrifoedd ethnig yn hyrwyddo'r proffesiwn fel un deniadol a chynhwysol, gan sicrhau mwy o gynrychiolaeth o fewn y gweithlu addysgu ar yr un pryd. Yr effaith ar ddysgwyr fydd eu bod yn gweld mwy o athrawon o leiafrifoedd ethnig yn y dosbarth. Bydd hyn yn cefnogi dysgwyr o leiafrifoedd ethnig o ran cynrychiolaeth, ond bydd hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth pob dysgwr o’r amrywiaeth ddiwylliannol a hiliol sy’n bodoli o fewn cymdeithas Cymru. Bydd cynyddu’r amrywiaeth ymhlith myfyrwyr AGA, ac felly ymhlith y gweithlu addysgu, o dan y Cwricwlwm i Gymru, yn ei gwneud yn bosibl addysgu mewn ffordd fwy amrywiol mewn perthynas ag amrywiaeth diwylliant, treftadaeth, a thraddodiadau yng nghymunedau Cymru. Yn ei dro, gallai hyn effeithio’n gadarnhaol ar lefelau cyfranogiad a chyflawniad diwylliannol dysgwyr - i'r dysgwyr hynny o gymunedau amrywiol a chan helpu i gynyddu ymwybyddiaeth pob dysgwr o'r amrywiaeth ddiwylliannol a hiliol sy’n bodoli o fewn cymdeithas Cymru. Efallai y bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol anuniongyrchol ar yr iaith Gymraeg, gallai cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg o gymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol sy’n ymuno â'r proffesiwn gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg o fewn eu cymuned, ac o bosibl ledaenu'r defnydd i gymunedau newydd / cymunedau amlieithog.

Bydd y cynnig yn cefnogi ein hamcanion i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru y cyfle i gymryd rhan, gwireddu eu potensial a chyfrannu'n llawn at eu dysgu a’u datblygiad eu hunain, gan alluogi Cymru i fod yn fwy llewyrchus ac arloesol. Bydd hefyd yn cefnogi'r Nod Llesiant o greu Cymru o gymunedau cydlynus a diogel.

Caiff effaith y cynnig ei monitro drwy nifer y ceisiadau a’r nifer a dderbynnir o leiafrifoedd ethnig ar raglenni AGA. Caiff hyn ei gasglu'n fisol oddi wrth Bartneriaethau AGA fel rhan o'u prosesau parhaus i fonitro lefelau recriwtio. Cefnogir hyn hefyd yn ehangach gan ystadegau swyddogol a ddarperir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Yn ogystal, cawn ddata Cyngor y Gweithlu Addysg ar y niferoedd sy'n llwyddo i ennill Statws Athro Cymwysedig ac sy’n cwblhau eu cyfnod sefydlu. Caiff data amrywiaeth hefyd ei gasglu ar y gweithlu addysgu drwy’r Cyfrifiad Blynyddol o Weithlu Ysgolion a chyfrifiad blynyddol Cyngor y Gweithlu Addysg o’r gweithlu.

Caiff pob cynllun cymhelliant AGA ei adolygu'n flynyddol yn erbyn y data diweddaraf sydd ar gael er mwyn canfod a oes eu hangen o hyd i gefnogi eu nod recriwtio penodol. Caiff y cynnig hwn ei gynnwys. Yn ogystal, wrth gynnal proses ddyrannu’r Rhaglen AGA a model Cynllunio a Chyflenwi Athrawon mewn partneriaeth â Chyngor y Gweithlu Addysg, mae gan Lywodraeth Cymru nod o 5% ar gyfer recriwtio amrywiol i gyrsiau AGA, er mwyn gwerthuso sut mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn perfformio yn erbyn Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon. Bydd y cynnig yn cael ei gynnwys yn y gwaith ehangach hwn.

Hawliau plant

Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Bydd cynyddu’r gynrychiolaeth i bobl o gymunedau ethnig leiafrifol o fewn y gweithlu addysgu mewn ysgolion yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc fel y’i hamlinellir ac y’i disgrifir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru (2021) a’r sylfaen dystiolaeth sydd iddo (adroddiadau CPCC), a chanfyddiadau adroddiadau 2020 a 2021 Cyngor y Gweithlu Addysg (Cynrychiolaeth pobl Dduon, Asiadd ac Ethnig Lleiafrifol yn y gweithlu ysgolion yng Nghymru). Fodd bynnag, mae'r cynnig hwn yn ymwneud yn uniongyrchol ag athrawon dan hyfforddiant, ac felly nid yw'r effeithiau cadarnhaol a nodir uchod yn rhai uniongyrchol, a bydd yn cymryd peth amser iddynt gael eu gweld.

Esboniwch sut mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Gallai’r rhaglen effeithio'n gadarnhaol ac yn anuniongyrchol ar yr erthyglau canlynol:

Erthygl 3 (yr hyn sydd orau i bob plentyn) Rhaid i’r hyn sydd orau i’r plentyn fod yn brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad a cham gweithredu sy'n effeithio ar blant.

Erthygl 29 (amcanion addysg) Rhaid i addysg ddatblygu personoliaeth, doniau a galluoedd pob plentyn yn gyflawn. Rhaid iddi annog plant i barchu hawliau dynol, yn ogystal â’u rhieni, eu diwylliant nhw a diwylliannau eraill, a'r amgylchedd.

Erthygl 30 (plant o grwpiau lleiafrifol neu frodorol) Mae gan bob plentyn yr hawl i ddysgu a defnyddio iaith, arferion a chrefydd eu teuluoedd, p'un a yw'r rhain yn cael eu rhannu gan fwyafrif pobl y wlad lle maent yn byw neu beidio.

Diweddariad ar gyfer Medi 2023

Ym mis Mehefin cafodd yr asesiad effaith ei adolygu a'i ddiweddaru. Mae hyn yn dilyn newidiadau a wnaed i’r cynllun cymhelliant cyfreithiol ar gyfer athrawon o gymunedau ethnig lleiafrifol yn y flwyddyn academaidd 2022 i 2023. 

Gwneir dau newid i'r cynllun cyfreithiol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023 i 2024. Mae'r newidiadau yn seiliedig ar adolygiad diweddar o’r flwyddyn gyntaf o weithredu’r cynllun. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys dwy ethnigrwydd ychwanegol sy'n gymwys ar gyfer y cynllun cymhelliant:

  • Gwyn: Iddewig
  • Grwpiau ethnig eraill: Cwrdaidd