Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg i gynnal adolygiad o’r dystiolaeth ynghylch amrywiaeth ethnig yng ngweithlu’r ysgol. Dangosodd y data bod tangynrychiolaeth amlwg yn y gweithlu addysgu, gyda dim ond 3% o athrawon yn nodi eu bod o grŵp ethnig lleiafrifol, yn erbyn poblogaeth dysgwyr o 12%. Parhaodd Cyngor y Gweithlu Addysg â'r adolygiad a chyflwynodd adroddiad cam 3 terfynol (yn aros i gael ei gyhoeddi) a oedd yn cynnwys cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Ym mis Gorffennaf 2020, comisiynodd Llywodraeth Cymru yr Athro Charlotte Williams i gadeirio Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnigyn y Cwricwlwm Newydd. Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y grŵp hwn ym mis Mawrth 2021: ac roedd hwn hefyd yn cynnwys cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Comisiynwyd trydydd adroddiad gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, sef Recriwtio a Chadw Athrawon Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnigyng Nghymru - Astudiaeth Ymchwil Ansoddol, a ddarparodd argymhellion pellach.

Roedd synergedd ar draws y tri adroddiad ynghylch llawer o'r materion ac, o ystyried yr angen i fynd i'r afael â'r sefyllfa ar frys, mae'r cynllun hwn wedi defnyddio'r argymhellion ynghylch Addysg Gychwynnol i Athrawon i nodi cyfres gychwynnol o gamau y gellir eu cymryd yn y tymor byr. Bydd angen datblygu a chynnal camau pellach yn unol â'r argymhellion ar gyfer sectorau eraill yn y system Addysg.

Y cyd-destun

Er mwyn denu mwy o athrawon o gymunedau ethnig lleiafrifol, bydd angen camau gweithredu ar y cyd ar draws y sector Addysg cyfan, gan ystod eang o sefydliadau a thros sawl blynedd.

Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud i helpu i recriwtio mwy i raglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Nid yw'r cynllun hwn chwaith wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â dim ond y materion cynrychiolaeth yn y gweithlu yn yr ardaloedd hynny lle mae gan ddemograffeg y dysgwyr gyfran uwch o ddisgyblion o grwpiau ethnig lleiafrifol. Yn hytrach, mae angen dull gweithredu Cymru gyfan o gynyddu amrywiaeth ethnig yn y gweithlu ym mhob rhan o’r wlad.

Bydd y cynllun yn nodi'r camau y nodwyd bod modd eu cyflawni yn y tymor byr, felly bydd yn gam cyntaf strategaeth tymor hirach a fydd yn cael ei datblygu ochr yn ochr â chamau a fydd yn cael eu cymryd mewn meysydd eraill.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu cynnydd a diweddaru'r cynllun hwn yn unol â datblygiadau mewn meysydd eraill yn y sector Addysg.

Themâu allweddol

O'r ymchwil a wnaed, daeth tair thema allweddol i'r amlwg:

Hyrwyddo addysgu fel gyrfa i unigolion o gymunedau ethnig lleiafrifol

Mae'n amlwg bod angen gwneud mwy o waith i hyrwyddo addysgu fel gyrfa i'r unigolion hynny o gymunedau ethnig lleiafrifol os ydym am sicrhau gweithlu mwy amrywiol a chynrychioliadol. Mae'n amlwg bod angen cynyddu presenoldeb pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol yn neunyddiau marchnata Addysg Gychwynnol i Athrawon, yn ogystal â mabwysiadu dulliau marchnata sydd wedi'u targedu at gymunedau ethnig lleiafrifol. Ochr yn ochr â hyn, rhaid sicrhau yn y tymor hirach bod y cwricwlwm i Gymru i bawb yn cynnwys Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethniger mwyn ysbrydoli plant a phobl ifanc i fod yn athrawon.

Bydd Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i strategaeth farchnata ehangach ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, yn datblygu gweithgareddau cyfathrebu wedi’u targedu, gyda’r nod o ddenu unigolion o grwpiau ethnig lleiafrifol. Ochr yn ochr â hyn, mae angen rhoi mwy o rôl i’r gwasanaethau eiriolaeth a ddarperir gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae cyfyngiadau o hyd ar allu Cyngor y Gweithlu Addysg i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth wyneb yn wyneb. Er hyn, dylent chwilio am ffyrdd o gryfhau'r gwasanaethau hyn gan ddefnyddio dulliau gweithio o bell. Mae Cyngor y Gweithlu Addysg eisoes wedi trefnu i gynnal digwyddiad gweminar fis Tachwedd 2021, a gynlluniwyd mewn partneriaeth â Rhwydwaith Addysg Cymunedau a Lleiafrifoedd EthnigCymru, ynghyd â chyfres o bedwar gweithdy dilynol gyda rhanddeiliaid i nodi materion ac i gefnogi datblygiadau posibl o ran cynyddu cynrychiolaeth cymunedau ethnig lleiafrifol yn y gweithlu. Bydd angen adeiladu ar hyn er mwyn sicrhau y datblygir proses barhaus sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion ac sy’n cefnogi datblygiadau polisi yn y dyfodol.

Nid oes dull strategol ar hyn o bryd ar gyfer cynyddu cynrychiolaeth yn y gweithlu, ac mae hynny’n amlygu’r angen i Bartneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon ddatblygu cynlluniau recriwtio sydd wedi'u cynllunio'n benodol i ddenu myfyrwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol i ymgymryd â chyrsiau. Bydd y rhain yn cael eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru a bydd hi’n ofynnol i bob Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon gyflwyno eu cynlluniau, a fydd yn dangos tystiolaeth o'r camau sy'n cael eu cymryd.

Un maes y mae angen rhoi sylw penodol iddo yw cynyddu nifer y myfyrwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol sy'n hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai Llywodraeth Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg a Phartneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon sicrhau bod camau gweithredu ar hyrwyddo a marchnata gyrfaoedd mewn addysgu yn cynnwys gweithgareddau penodol sydd wedi'u hanelu at y garfan fach ond bwysig hon. Bydd y cynnydd mewn athrawon cyfrwng Cymraeg o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn ategu'r strategaeth gyfrwng Cymraeg sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru.

Mae angen gwneud rhagor o waith i ganfod nifer yr ymgeiswyr o grwpiau ethnig lleiafrifol nad ydynt yn cael eu derbyn ar gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon a sicrhau nad yw hyn yn anghymesur â nifer y ceisiadau. Er bod unigolion sy'n gwneud cais ar gyfer cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon neu'r rhai sydd eisoes yn y gweithlu yn nodi eu bod yn unigolion o gymunedau ethnig lleiafrifol, mae'n amlwg bod angen casglu data mwy cadarn. Bydd Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon a Chyngor y Gweithlu Addysg yn ystyried yr opsiynau ar gyfer cynyddu faint o ddata a gesglir, ac yn annog unigolion i nodi eu hethnigrwydd. Dylai Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon hefyd weithio i gasglu'r data sydd ar gael ar ymgeiswyr o grwpiau ethnig lleiafrifol a nodi cyfraddau llwyddiant yr ymgeiswyr hyn sy’n cael eu derbyn ar gyrsiau.

Mae'r data ar gynrychiolaeth cymunedau ethnig lleiafrifol yn y gweithlu yn allweddol i asesu effeithiau'r camau gweithredu yn y cynllun hwn, gan nodi hefyd yr angen am gamau gweithredu pellach. Bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn parhau i gasglu'r data fel rhan o'u hystadegau gweithlu addysg blynyddol a bydd angen iddynt weithio i sicrhau bod diffiniadau a ddefnyddir ar draws gwahanol ddarparwyr data yn gyson. 

Mae angen i addysgwyr Cymru sicrhau bod y deunyddiau a ddefnyddir i hyrwyddo addysgu fel gyrfa yn rhoi amlygrwydd a chynrychiolaeth briodol i gymunedau ethnig lleiafrifol ac yn nodi'n glir bod addysgu'n broffesiwn addas, gan dynnu sylw at yr effeithiau cadarnhaol y gall cael gweithlu mwy amrywiol eu cael ar brofiadau a datblygiad dysgwyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod, er bod y cynllun hwn wedi'i anelu'n benodol at recriwtio i gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon, fod angen datblygu cyflenwad o fyfyrwyr sy'n ceisio ymuno â'r proffesiwn addysgu. Yn ogystal â'r gwaith y mae Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon a Chyngor y Gweithlu Addysg yn parhau i'w wneud i hyrwyddo addysgu ymhlith carfanau presennol yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Gyrfa Cymru i hyrwyddo addysgu fel gyrfa i ddysgwyr sy'n dal i fod yn yr ysgol ac yn arbennig i'r rhai o gefndiroedd amrywiol.

I gydnabod gwerth a phwysigrwydd athrawon o grwpiau ethnig lleiafrifol, bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu categori newydd yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru. Bydd gwobr Betty Campbell (MBE) am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn cael ei lansio ar 21 Hydref 2021. Bydd hyn hefyd yn ysbrydoliaeth i blant ysgol o bob oed.

Cymorth i fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol

Dylai Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon sicrhau bod ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn cael cymorth priodol cyn gwneud cais am gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnigweithio gyda Phartneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon i ddatblygu adnoddau i gefnogi'r garfan hon. Mae angen datblygu adnoddau i gefnogi ceisiadau gan yr ymgeiswyr cymwys hynny sydd eisoes yn y gweithlu mewn rôl nad yw'n rôl addysgu. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Phartneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon a Chyngor y Gweithlu Addysg i ddatblygu'r rhain ac i sicrhau eu bod ar gael ar wefan Addysgwyr Cymru.

Dylai Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon hefyd sicrhau, pan fo modd, y dylai paneli recriwtio ar gyfer myfyrwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol gynnwys cynrychiolydd perthnasol. Mae angen i Bartneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon weithio gyda rhanddeiliaid i lunio paneli addas. Mae angen sicrhau bod proses adborth gadarn ac ystyrlon ar gyfer pob ymgeisydd nad yw’n cael ei dderbyn ar raglen Addysg Gychwynnol i Athrawon, yn arbennig ar gyfer y rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Bydd hyn yn helpu'r ymgeiswyr hynny i nodi diffygion yn eu ceisiadau a'u paratoi ar gyfer unrhyw gais yn y dyfodol.

Dylai Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon hefyd ystyried dewis lleoliadau ysgol priodol ar gyfer myfyrwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr hyn yn cael eu cefnogi'n llawn yn ystod lleoliadau profiad ysgol.

Mae cymorth parhaus i fyfyrwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol yn ystod eu hastudiaethau yn ffactor pwysig o ran sicrhau nad ydynt yn cael eu hymyleiddio na'u heithrio. Bydd angen i Bartneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon sicrhau bod prosesau cadarn ar waith i ddarparu'r cymorth parhaus hwn ac i sicrhau yr ymdrinnir yn briodol ag unrhyw faterion sy'n ymwneud â gwahaniaethu.

Datblygu polisi a rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon

Mae rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cael eu hachredu yn erbyn y Meini Prawf Achredu ar gyfer rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru. Mae hon yn broses annibynnol a gynhelir gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Caiff rhaglenni eu hachredu am gyfnod o hyd at bum mlynedd a bydd y gyntaf o'r rhaglenni presennol yn cael ei hail-achredu yn 2024. Wrth baratoi ar gyfer y dyddiad hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r meini prawf presennol a bydd hyn yn cynnwys cryfhau’r gofynion i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth mewn perthynas â hil a chynwysoldeb, yn ogystal â gwneud y gofynion hynny’n fwy penodol. 

Er mwyn cefnogi hyn, bydd Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cynnal adolygiad o arferion presennol rhaglenni ac yn nodi meysydd i'w gwella. Dylai Cyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn adolygu eu prosesau monitro ac arolygu er mwyn sicrhau bod y gofynion presennol yn y meini prawf achredu yn cael eu bodloni a bod ansawdd y ddarpariaeth o safon briodol. Pan nodir cyfleoedd ar gyfer gwella, dylai Cyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn weithio gyda Phartneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon i ddatblygu'r rhain.

Bydd angen i ddatblygiadau polisi yn y dyfodol ystyried y gofyniad i gynyddu amrywiaeth yn y gweithlu a hefyd gamau gweithredu eraill ar draws y sector Addysg. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bwrdd Cynghori ar Recriwtio a Chadw Athrawon, sy'n cefnogi ac yn rhoi cyngor ar ddatblygu polisi. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys cynrychiolaeth i ddarparu safbwyntiau gan bobl o grwpiau ethnig lleiafrifol. Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â chynrychiolwyr o grwpiau rhanddeiliaid o grwpiau ethnig lleiafrifol i sicrhau bod effeithiau datblygiadau polisi yn y dyfodol yn cael eu hasesu mewn modd cydweithredol. 

Crynodeb o gamau gweithredu

Llywodraeth Cymru

Cam gweithredu

Dyddiad targed

Diweddariad

Penodi cynrychiolydd o grŵp ethnig lleiafrifol i'r Bwrdd Cynghori.

Cwblhau

 

Cyhoeddi cyflwyno cynllun cymhelliant ar gyfer athrawon sy’n fyfyrwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol, gan gynnwys athrawon cyfrwng Cymraeg.

Hydref 2021

Cymhelliant ar gael i fyfyrwyr sydd wedi dechrau rhaglen AGA ym mis Medi 2022. Lansiwyd yn swyddogol ym mis Mawrth 2023.

Fel rhan o adolygiad cyffredinol o Feini Prawf Achredu Addysg Gychwynnol i Athrawon, edrych ar gynyddu gwelededd materion yn ymwneud â hil a chynwysoldeb.

Rhagfyr 2022

Mae adolygiad o'r Meini Prawf Achredu AGA ar y gweill. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben fis Ionawr 2023. Mae disgwyl i'r Meini Prawf Achredu diwygiedig gael eu cyhoeddi yn ystod Gwanwyn 2023.

Cynnwys mewn dyraniadau Addysg Gychwynnol i Athrawon ofyniad i Bartneriaethau weithio tuag at ganran o fyfyrwyr o gefndir ethnig lleiafrifol.

Tachwedd 2021

Cwblhawyd. Mae hyn wedi dod yn rhan o ystyriaethau dyrannu blynyddol.

Bydd gweithgareddau marchnata yn cynnwys gwaith ymgyrchu wedi’i dargedu, gyda’r nod o ddenu unigolion o grwpiau ethnig lleiafrifol i’r proffesiwn addysgu.

Rhagfyr 2021

Datblygu cynnwys i ddenu unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i addysgu, i gyd-fynd â gwaith Addysgwyr Cymru.

Lansio gwobr Betty Campbell (MBE) am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Hydref 2021

Yn mynd rhagddo, Gweithio gyda Clwb Amrywiaeth (Ysgol Uwchradd Llanwern a Glantaf) a enillodd wobr Betty Campbell (MBE) am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Cydweithio’n barhaus â grwpiau rhanddeiliaid i barhau i ddatblygu camau nesaf y cynllun.

Yn parhau

Mae’r cydweithio yn parhau gyda rhanddeiliaid ac mae Partneriaethau AGA yn gweithio i gyrraedd targedau yn eu cynlluniau recriwtio unigol eu hunain.

Gweithio gyda Gyrfa Cymru i wella gweithgareddau mewn ysgolion sy'n ymwneud ag addysgu fel gyrfa ac yn arbennig ar gyfer unigolion o grwpiau ethnig lleiafrifol.

Mawrth 2022

Yn mynd rhagddo: Mae’r CGA yn cydweithio â Gyrfa Cymru i gynnal gweithdai mewn ysgolion i hyrwyddo gyrfaoedd ym myd addysg. Mae Gyrfa Cymru yn cynnal digwyddiadau 'dewiswch eich dyfodol' ledled Cymru ac mae'r CGA yn mynd i’r rhain. Mae tîm Gyrfa Cymru wedi nodi’r ysgolion sydd â'r ganran uchaf o fyfyrwyr o gymunedau ethnig leiafrifol ac mae'r CGA yn mynd i ddigwyddiadau y maen nhw wedi'u cynllunio yn yr ysgolion hyn, neu os nad oes digwyddiadau ar y gweill, byddant yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol agos.

Gweithio gyda'r Brifysgol Agored i ymchwilio i’r galw am ehangu'r ystod o bynciau sydd ar gael ar y cynllun seiliedig ar gyflogaeth i ddenu staff cymorth o grwpiau ethnig lleiafrifol, gan gynnwys staff cyfrwng Cymraeg.

Medi 2022

Ehangu wedi digwydd. Yn agored i ymgeiswyr nawr ar gyfer Medi 2023 (cyfrifiadureg, a dylunio a thechnoleg). Archwilio'r posibilrwydd am ehangu ychwanegol mewn blynyddoedd i ddod.

Sefydlu gweithgor amrywiol gyda rhanddeiliaid i adolygu cynnydd yn erbyn y camau gweithredu, gan nodi’r gofynion a ddaw i'r amlwg.

Mawrth 2022

Mae gweithdai i gefnogi hyn yn digwydd bob chwe mis: Hydref 2022, Ebrill 2023.

Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon

Cam gweithredu Dyddiad targed Diweddariad

Datblygu a chyhoeddi cynlluniau recriwtio yn benodol i gynyddu nifer yr ymgeiswyr o grwpiau ethnig lleiafrifol ar gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon, gan gynnwys cyrsiau cyfrwng Cymraeg.

Gorffennaf 2022

Cwblhawyd yn 2022. Mae’r holl bartneriaethau wedi datblygu a chyhoeddi cynlluniau recriwtio unigol. Mae pob partneriaeth yn gweithio i gyrraedd y targedau a nodwyd ganddynt. Bydd cynlluniau recriwtio yn cael eu diweddaru wrth i'r gwaith fynd rhagddo yn y maes hwn. 

Adolygu prosesau recriwtio presennol a threfniadau'r panel cyfweld.

Rhagfyr 2021

Adolygodd partneriaethau eu trefniadau recriwtio a chyfweld eu hunain ac mae eu cynlluniau recriwtio unigol yn adlewyrchu'r gwaith sy'n digwydd i gefnogi'r maes recriwtio hwn.

Fel rhan o'r cynllun recriwtio, adolygu a gwella'r trefniadau cymorth ar gyfer myfyrwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol ar bob cam o'r broses ymgeisio ac astudio.

Mawrth 2022

Mae partneriaethau wedi adolygu'r broses ymgeisio ac mae eu cynlluniau recriwtio unigol yn adlewyrchu'r datblygiadau yn y maes hwn.

Adolygu'r modd y cymhwysir gofynion y meini prawf achredu mewn rhaglenni sy'n bodoli eisoes a gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, Estyn a grwpiau rhanddeiliaid i gryfhau a datblygu.

Mawrth 2022

Cwblhawyd, fel rhan o'r adolygiad o Feini Prawf Achredu AGA Daeth. Yr ymgynghoriad i ben ym mis Ionawr 2023 ac mae disgwyl i'r Meini Prawf Achredu terfynol gael eu cyhoeddi yng ngwanwyn 2023.

Gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ddatblygu prosesau adrodd ar geisiadau gan unigolion o grwpiau ethnig lleiafrifol a derbyniadau ar gyrsiau fel rhan o'r broses adrodd fisol barhaus.

Yn fisol

Mae hyn wedi dod yn rhan o'r broses adrodd reolaidd.

Cyngor y Gweithlu Addysg

Cam gweithredu Dyddiad targed Diweddariad

Parhau i gasglu data ar y gweithlu presennol a gweithio gyda phartneriaid i annog mwy o unigolion i nodi eu hunaniaeth.

Yn flynyddol

Mae hyn wedi dod yn rhan o'r broses flynyddol o gasglu data.

Gweithio gyda Phartneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon i ddatblygu prosesau adrodd ar geisiadau a derbyniadau ar gyfer cyrsiau mewn perthynas â phobl o grwpiau ethnig lleiafrifol, fel rhan o'r broses adrodd fisol barhaus.

Yn fisol

Cafodd adroddiadau eu derbyn yn fisol, er bod un bartneriaeth yn dal i nodi problem lle maent ond yn derbyn data myfyrwyr o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar ddiwedd y cylch recriwtio trwy UCAS.

Gweithio gydag Estyn, Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon a rhanddeiliaid i gryfhau a datblygu'r broses o gymhwyso gofynion y meini prawf achredu mewn rhaglenni presennol.

Mawrth 2022

Cwblhawyd.

Parhau i ddatblygu gwasanaethau eiriolaeth, yn enwedig mewn perthynas â chynrychiolaeth o grwpiau ethnig lleiafrifol, gan gynnwys cynrychiolaeth cyfrwng Cymraeg.

Gweminar wedi'i chadarnhau ar gyfer 25 Tachwedd 2021. Bydd y gweithdai'n parhau yn gynnar yn 2022.

Gweithio gyda sefydliadau i roi cyngor, arweiniad a gwybodaeth ar lwybrau i mewn i addysgu. Gweithio gyda lleoliadau addysgol ledled Cymru gydag unigolion Cymraeg eu hiaith o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i hyrwyddo gyrfaoedd mewn addysg.

Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod deunydd hyrwyddo ar wefan Addysgwyr Cymru yn cynrychioli cymunedau ethnig lleiafrifol.

Yn parhau

Yn mynd rhagddo: wrthi'n datblygu cynnwys newydd ar hyn o bryd i boblogi tudalennau Addysgwyr Cymru (ffotograffiaeth a fideograffeg).

Sicrhau bod Addysgwyr Cymru yn darparu mynediad clir at ganllawiau a gwybodaeth i unigolion o gymunedau ethnig lleiafrifol wrth i adnoddau ddod ar gael.

Yn parhau

Yn ddefnyddio'r gwasanaeth eirioli i ddarparu gwybodaeth ac adnoddau i gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Hyrwyddo cymhellion, darparu gweithdai cyflogadwyedd etc.

Estyn

Cam gweithredu Dyddiad targed Diweddariad

Adolygu fframweithiau arolygu i sicrhau bod profiadau myfyrwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cael eu hasesu.

Ionawr 2022

Mae’r Canllawiau Arolygu (Estyn, t5) yn datgan y dylai arolygwyr werthuso cynnydd grwpiau penodol o athrawon sy’n fyfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol.

Gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon a rhanddeiliaid i gryfhau a datblygu'r broses o gymhwyso gofynion y meini prawf achredu mewn rhaglenni presennol.

Mawrth 2022

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda CGA, partneriaethau a rhanddeiliaid eraill i fynd i'r afael ag agweddau ar y cynllun gweithredu. 

Ar ben hynny, pan fyddwn yn arolygu, rydym yn nodi unrhyw gryfderau pwysig neu feysydd i’w datblygu sy'n ymwneud â'r cynllun gweithredu.

Y camau nesaf

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid er mwyn gyflawni'r camau a nodir yn y cynllun hwn. Bydd gweithgor o randdeiliaid yn cael ei sefydlu i adolygu cynnydd, ac i ddatblygu a diweddaru'r cynllun yn barhaus er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â materion a datblygiadau a ddaw i'r amlwg.

2022

Mae Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon wedi datblygu a chyhoeddi cynlluniau recriwtio unigol. Fel rhan o’r gwaith hwn, bydd Partneriaethau wedi archwilio’u sefyllfa ac yn gweithio tuag at y targedau a nodwyd ganddynt. Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at y cydweithio â’r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid sydd ynghlwm â chyflwyno’r camau gweithredu a nodir yn y cynllun hwn. Ar hyn o bryd, ni fydd Llywodraeth Cymru yn drafftio cynllun newydd, a mae diweddariadau wedi cael eu rhoi. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio gyda a rhoi cymorth i Bartneriaethau AGA a rhanddeiliaid ehangach i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Mae gweithdai’n cael eu cynnal i randdeiliaid y.