Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Fel rhan o’i hymrwymiad i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a chefnogi’r rheiny sy’n wynebu rhwystrau i’w haddysg, mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn deall ac yn mesur y berthynas rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau dysgwyr. Y mesur procsi amlycaf a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer anfantais economaidd-gymdeithasol yw cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim (eFSM).

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, bu rhywfaint o bryder bod cyfyngiadau i ddata eFSM, gan gynnwys ei fod yn tanamcangyfrif lefelau tlodi, ac nad yw’n ystyried yn llawn ystod o ffactorau perthnasol eraill y tu hwnt i incwm yn unig. Mewn ymateb i argymhellion adroddiadau blaenorol, gan gynnwys yr Adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru a Datblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd, mae Llywodraeth Cymru felly’n ailystyried sut y mesurir anfantais economaidd-gymdeithasol ymhlith dysgwyr ac mae wedi comisiynu prosiect ymchwil. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cam cychwynnol yr ymchwil a wnaed gan gwmni Wavehill.

Prif amcanion yr ymchwil hwn oedd pennu ystod yr anghenion data sydd gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, sef data ar ddysgwyr dan anfantais economaidd-gymdeithasol a’r dibenion y maent yn defnyddio’r data hwnnw ar eu cyfer, ynghyd â deall yn gynhwysfawr sut maent yn defnyddio data eFSM ar hyn o bryd. Mae’r ymchwil hefyd yn ceisio casglu safbwyntiau ar sut i oresgyn cyfyngiadau eFSM ac archwilio pa fathau eraill o ddata y mae rhanddeiliaid yn eu defnyddio neu’n teimlo yr hoffent gael mynediad atynt i ddiwallu eu hanghenion yn well.

Methodoleg

Roedd y dulliau ymchwilio yn cynnwys dwy elfen o gasglu data sylfaenol, wedi’u casglu’n bennaf rhwng mis Mawrth ac Awst 2024, sef ymarfer ffurflen profforma ac ymchwil ansoddol ar ffurf cyfweliadau. At ei gilydd, derbyniwyd 33 o ymatebion i’r profforma, sef 13 ymateb gan dimau polisi a dadansoddi Llywodraeth Cymru, 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, a hefyd un gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Yn gyfan gwbl, cynhaliwyd 39 o gyfweliadau ar-lein gyda 55 o gyfranogwyr, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, arweinwyr ysgolion, Estyn, Gyrfa Cymru, Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS), Cymwysterau Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru. Aeth y cyfweliadau ati’n fanylach i archwilio canfyddiadau a gododd o’r dadansoddi’r profformâu, neu i gasglu safbwyntiau grŵp ehangach o randdeiliaid sydd hefyd yn ddefnyddwyr pwysig ar ddata ar ddysgwyr dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Canfyddiadau

Yr angen am ddata ar anfantais economaidd-gymdeithasol

Mae gan randdeiliaid amrywiaeth o anghenion gwahanol o ran pwrpas eu defnydd o ddata ar anfantais economaidd-gymdeithasol ymhlith dysgwyr, yn rhan o’u nod cyffredin o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb addysgol. Gellir categoreiddio’r anghenion hyn fel a ganlyn:

  • Llywio datblygiad polisi ar draws Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ar gyfer rhagolygon cyllidebau, a gweithgarwch ehangach i fonitro tlodi.
  • Cyfrifo a dosbarthu cyllid i awdurdodau lleol, ysgolion, a theuluoedd mewn ffordd sy’n deg ac yn adlewyrchu angen.
  • Darparu cymorth wedi’i dargedu at y dysgwyr hynny sydd fwyaf mewn angen.
  • Ystadegau a monitro canlyniadau megis presenoldeb a chyrhaeddiad ar lefelau cenedlaethol, lleol, ysgol ac unigolion.
  • Gwella ysgolion, gan gynnwys fel ffordd o adnabod dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol, a llunio a gweithredu ymyriadau cymorth wedi’u targedu.
  • Rheoli arlwyo ysgolion o ran modelu lefelau’r galw am brydau bwyd a’r adnoddau cysylltiedig y dylid eu dyrannu i arlwyo.

Y defnydd ar ddata eFSM ar hyn o bryd

Defnyddir y data yn helaeth i lywio datblygiadau a gweithredu amrywiaeth o bolisïau ar lefel genedlaethol a lleol. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at asesiadau cerrig milltir cenedlaethol ac asesiadau lles cenedlaethau’r dyfodol (WBFGA), ond yn bennaf ar gyfer cynllunio strategol ac ariannol yn y llywodraeth ac mewn awdurdodau lleol mewn perthynas ag anfantais addysgol a gwella canlyniadau i ddysgwyr.

Mae’r ymchwil wedi cadarnhau graddfa’r cyllid sydd wedi’i neilltuo a heb ei neilltuo a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru ar sail eFSM i awdurdodau lleol drwy Grant Addysg Awdurdodau Lleol (LAEG) a’r Grant Datblygu Disgyblion (PDG), a’r Setliad Llywodraeth Leol. Dangosodd yr ymchwil hefyd yr amrywiaeth yn ei ddefnydd yn fformwlâu awdurdodau lleol ar gyfer Cyllideb Ysgolion Unigol (ISB) wrth ddosbarthu cyllid i ysgolion.

Defnyddir y data gan awdurdodau lleol i roi cefnogaeth wedi’i thargedu i ddysgwyr agored i niwed, gan gynnwys drwy Broffiliau Asesu Bregusrwydd (VAP) i nodi dysgwyr agored i niwed fel rhan o’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.

Ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae eFSM yn chwarae rhan bwysig wrth gynhyrchu ystadegau sy’n archwilio’r berthynas rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau allweddol gan gynnwys presenoldeb a chyrhaeddiad. Defnyddir y data hefyd wrth gynhyrchu Set Ddata Graidd Cymru Gyfan (AWCDS) ac offer sydd ar gael i’r cyhoedd megis Fy Ysgol Leol.

Mae’r data sydd ar gael ar lefel y dysgwr unigol hefyd yn bwysig i waith yr Uned Ymchwil Data Gweinyddol (ADRU) sy’n cydlynu cysylltu data trwy gronfa ddata SAIL, ac i’r rhai sy’n gweithio ag ystadegau ôl-16 trwy Medr (y corff newydd ar gyfer addysg drydyddol) er mwyn olrhain canlyniadau hirdymor ar gyfer unigolion.

Defnyddir data eFSM yn y gwaith o wella ysgolion a wneir gan awdurdodau lleol ac ysgolion wrth fonitro canlyniadau ar lefel ysgolion neu unigolion ar gyfer dysgwyr dan anfantais ac i feincnodi’r rhain trwy ddefnyddio set ddata AWCDS. Mae hyn yn galluogi cynllunio a gwerthuso blaenoriaethau. Fe’i defnyddir hefyd gan ysgolion ochr yn ochr â data arall i adnabod dysgwyr sy’n agored i effaith bod dan anfantais economaidd-gymdeithasol ac i lywio’r gwaith o lunio a chyflwyno ymyriadau neu gefnogaeth.

Yn ogystal â’r rhain, defnyddir data at ddibenion ymarferol sy’n ymwneud ag arlwyo, llywio cyllidebu a dyrannu adnoddau i ddeall a diwallu’r galw am fwyd mewn ysgolion a bod yn sail i ystod o waith a gyflawnir trwy gyrff hyd braich sy’n cynnwys Comisiynydd Plant Cymru, Gyrfa Cymru, Estyn, a Chymwysterau Cymru.

Cryfderau data FSM

Mae rhanddeiliaid yn cydnabod gwerth data eFSM fel mesur ar lefel unigolion sy’n rhoi cipolwg ar amgylchiadau aelwyd dysgwyr, ac yn ei ystyried yn hanfodol er mwyn cyflawni’r holl ddibenion y mae angen gwybodaeth am anfantais arnynt.

Mae wedi’i ddiffinio’n glir ac yn cael ei ddeall yn dda, gan ei wneud yn werthfawr i awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau i bob math o gynulleidfaoedd, boed ar gyfer dyrannu grantiau i ysgolion a lleoliadau neu ar gyfer rhieni yn ystod y broses ymgeisio i gael prydau ysgol am ddim.

Cesglir y data yn aml a’i wneud ar gael yn flynyddol drwy CYBLD sy’n golygu ei fod yn gymharol gyfredol, a budd cysylltiedig yw mai awdurdodau lleol yw ‘perchnogion y data’ (gan mai nhw sy’n casglu’r data) gan hwyluso rhannu data rhwng adrannau a chyda rhanddeiliaid allanol. Mae’r meini prawf ar gyfer cymhwystra a’r dull casglu data hefyd wedi aros yn gymharol sefydlog ar hyd y blynyddoedd, a hynny’n golygu gallu cynnal dadansoddiadau yn seiliedig ar dueddiadau ynghylch y niferoedd sy’n eFSM. Yn yr un modd, mae’r dull yng Nghymru yn cyd-fynd yn fras â dulliau yng ngwledydd eraill y DU, yn enwedig Lloegr, gan alluogi cymharu ar draws ffiniau.

Cyfyngiadau data eFSM

Nododd yr ymchwil sawl her dechnegol yn y broses o gasglu a chofnodi data a allai beryglu ei gywirdeb. Mae hyn yn ymwneud â gwahaniaethau yn y dulliau a ddefnyddir gan wahanol awdurdodau lleol a’r potensial am wallau wrth drin data â llaw ac effeithiau problemau diweddar yn sgil Amddiffyn wrth Bontio (transitional protection, sef y gorchymyn a weithredwyd i sicrhau nad oedd dysgwyr a oedd gynt â hawl i gael prydau bwyd am ddim yn colli eu cymhwystra yn ystod y symud i Gredyd Cynhwysol). Tynnodd rhanddeiliaid sylw hefyd at danamcangyfrif yn nifer y dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau bwyd am ddim, gan gydnabod y nifer o resymau pam na fyddai rhiant o bosibl yn cofrestru eu plentyn.

Nid yw rhanddeiliaid yn ystyried bod y data ar eFSM yn adlewyrchu’n gywir y nifer o ddysgwyr sy’n byw mewn tlodi, yn enwedig oherwydd bod y meini prawf cymhwystra cul yn anwybyddu llawer o deuluoedd sy’n gweithio. Yn wir, nid yw’r meini prawf wedi newid ers 2019, er gwaethaf cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol a’r gofynion enillion isafswm ar gyfer Credyd Cynhwysol, a hynny’n golygu bod llai o deuluoedd mewn tlodi cymharol yn debygol o fod yn gymwys. Yn yr un modd, mynegodd awdurdodau lleol bryderon ynghylch teuluoedd y mae eu hincwm ar ffin y trothwy incwm a’u statws eFSM yn gallu amrywio a newid yn aml. Mae hyn yn arbennig o heriol o ystyried amseriad casglu data CYBLD ym mis Ionawr ac effaith bosibl gwaith tymhorol ar incwm rhieni.

These limitations affect the accuracy with which the data can reflect the scale and nature of income-related disadvantage and their ability to serve as a meaningful proxy. It presents a particular challenge for calculating and distributing funding for demand-led fixed budgets, with the potential to misjudge the level of need or misallocate funds. Where learners living in poverty are missing from eFSM data, this also undermines its use in targeting support for learners.

Mae’r cyfyngiadau hyn yn effeithio ar ba mor gywir y gall y data adlewyrchu graddfa a natur anfantais sy’n gysylltiedig ag incwm ac felly ei gywirdeb fel procsi ystyrlon. Mae hyn yn her benodol wrth gyfrifo a dosbarthu cyllid ar gyfer cyllidebau sefydlog sy’n cael eu harwain gan alw, gan fod â photensial i gamfarnu lefel yr angen neu gamddyrannu cyllid. Pan fo dysgwyr sy’n byw mewn tlodi ar goll o ddata eFSM, mae hyn hefyd yn tanseilio ei ddefnydd wrth dargedu cefnogaeth i ddysgwyr.

Cydnabu rhanddeiliaid hefyd nad yw data eFSM, sy’n brocsi ar gyfer incwm, yn cipio a chofnodi natur aml-ddimensiwn anfantais economaidd-gymdeithasol; ystyrir ei fod yn anwybyddu ffactorau eraill sy’n berthnasol i brofiad y dysgwr a allai fod yn allweddol wrth achosi anghydraddoldeb mewn canlyniadau addysgol. Mae hyn yn cynnwys ffactorau fel deiliadaeth tai a galwedigaethau a chymwysterau eu rhieni, a’r ffyrdd y mae’r rhain yn croesi ar draws ei gilydd ac yn cael eu dwysáu gan anghydraddoldebau eraill sy’n gysylltiedig â ffactorau megis ethnigrwydd ac ADY ac ati. Awgrymwyd y gallai dibynnu ar ddata nad yw’n ystyried y ffactorau hyn olygu bod risg o gyfeirio cymorth yn anghywir neu at nifer annigonol o ddysgwyr ac nad yw’n galluogi rhanddeiliaid i gymharu ac ymateb yn llawn i wahanol anghenion.

Amrywio y mae i ba raddau y mae’r cyfyngiadau hyn yn effeithio ar ddefnydd rhanddeiliaid o ddata eFSM, gyda’r effaith pennaf ar hyder defnyddwyr. Mae rhai awdurdodau lleol yn cydnabod y problemau ond yn parhau i ddefnyddio’r data gan mai dyma’r gorau sydd ar gael.

Prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd (UPFSM)

Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd wedi codi pryderon na fydd rhieni’n cofrestru eu plant ysgol gynradd fel rhai sy’n gymwys i gael prydau am ddim os nad oes rhaid iddynt wneud hynny er mwyn derbyn pryd bwyd am ddim, a allai yn ei dro fygwth cadernid y data.

Canfu’r ymchwil fod 16 o’r 19 awdurdod lleol o’r farn fod cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb wedi effeithio ar gofrestriadau eFSM. O’r rhain, adroddodd 10 o’r awdurdodau eu bod wedi derbyn llai o geisiadau gan rieni nag y disgwyliwyd a rhoddwyd sawl rheswm dros gysylltu hyn â’r pryd am ddim i bob disgybl.

Er bod y pryderon yn ddilys ynghylch effaith tan-adrodd am eFSM oherwydd y cynllun pryd am ddim i bob disgybl, ni ellir datgysylltu unrhyw ostyngiad yn y niferoedd oddi wrth ffactorau cymysglyd eraill. I rai awdurdodau lleol, ymddengys bod dryswch ynghylch sut y cofnodir statws Amddiffyn wrth Bontio wedi cael mwy o effaith dros dro ar ddata nag UPFSM. Nid yw union effaith y materion hyn ar lefel y cofrestriadau wedi’i chadarnhau na’i phennu mewn ffigurau swyddogol eto chwaith.

Cymysg oedd y farn ymhlith rhanddeiliaid o ran goblygiadau UPFSM a’i effaith bosibl ar gofrestriadau. Awgrymodd rhai nad oedd wedi effeithio ar eu defnydd o’r data, tra bod eraill wedi dweud ei fod wedi tanseilio eu hyder yn y data ymhellach a’u bod wedi adfyfyrio ar y problemau y gallai eu hachosi ar gyfer cyllid.

Gwelliannau ac atebion

Mae barn rhanddeiliaid ar atebion posibl i’r cyfyngiadau a’r heriau diweddar sy’n ymwneud â data eFSM yn cynnwys gwella prosesau dilysu, gwella’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd trwy ddefnyddio cyfartaleddau yn hytrach na ffigurau ar un adeg benodol, mabwysiadu ‘FMS ever-6’ sy’n nodi dysgwyr sydd wedi bod yn gymwys i gael eFSM ar unrhyw adeg yn y chwe blynedd blaenorol, neu gynyddu amlder casglu data eFSM er mwyn ei gwneud yn bosibl cael dealltwriaeth fwy cywir o’r niferoedd sy’n gymwys dros gyfnod o amser.

Un dull allweddol a awgrymodd sawl rhanddeiliad fyddai cael mynediad at ddata budd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i bennu pwy sy’n eFSM ac agor y potensial ar gyfer cofrestru awtomatig (treialwyd hyn mewn sawl lleoliad yn Lloegr).

Ateb arall i fynd i’r afael ag anallu eFSM i gynnwys yn llawn pob dysgwr sy’n byw mewn tlodi fyddai cynyddu trothwy incwm Credyd Cynhwysol (CC) a gyflwynwyd yn 2019 er mwyn iddo gadw i fyny â chwyddiant. Byddai hyn yn sicrhau nad yw dysgwyr yn mynd yn anghymwys hyd yn oed os nad oes gwelliant yn incwm eu cartref.

Defnydd arall ar ddata ar anfantais economaidd-gymdeithasol

Mae’n bosibl na fydd gwelliannau ac atebion yn diwallu anghenion rhanddeiliaid yn llawn, ac ymddengys bod hyn yn ysgogi llawer ohonynt i bwyso ar ffurfiau eraill o ddata sydd ar gael am yr ardal ac am unigolion. Y rheswm amlaf dros wneud hynny oedd cael mwy o wybodaeth gyd-destunol sy’n rhoi modd iddynt ddeall yn well agweddau eraill ar anfantais yn hytrach nag incwm yn unig.

Y ffurf arall a ddefnyddir fwyaf eang gan randdeiliaid i gael data ar anfantais economaidd-gymdeithasol yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Fe’i defnyddir ar draws pob grŵp o randdeiliaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion ac eraill mewn perthynas â’u dibenion penodol, ond gan fod â dulliau a chymhellion gwahanol. Fodd bynnag, mae pryderon bod data MALlC yn hen (er bod cynlluniau i ddiweddaru MALlC yn 2025) a hynny wedi cyfyngu ar ei ddefnyddioldeb, felly hefyd y diffyg manylder ynddo.

Mae rhanddeiliaid hefyd yn defnyddio amrywiaeth o ddangosyddion eraill ar lefel aelwydydd neu unigolion, gan gynnwys data’r Cyfrifiad, data Acorn/CACI, a data’r Adran Gwaith a Phensiynau, tra bod rhai defnyddwyr wedi mynd ati i brofi cydberthnasau’r data hyn ag eFSM megis ar gyfer y Setliad Llywodraeth Leol. Yng nghyd-destun gwella ysgolion, defnyddir data ar amrywiaeth o agweddau ar anfantais economaidd-gymdeithasol o wahanol ffynonellau, weithiau mewn mesurau cyfansawdd pwrpasol i fod yn ffordd o ddyrannu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer dysgwyr. Fodd bynnag, ar gyfer arweinwyr gwella ysgolion, ac yn wir ar gyfer llawer o ysgolion, barn athrawon/ymarferwyr oedd y ffactor terfynol wrth adnabod dysgwyr sy’n agored i niwed.

Gofynion rhanddeiliaid ac ystyriaethau eraill

Ni fynegodd rhanddeiliaid unrhyw farn gref a phrin oedd yr adborth a gynigiwyd ganddynt am unrhyw ddata ychwanegol yr hoffent gael mynediad iddo y tu hwnt i’r hyn sydd ar gael yn barod. Yn hytrach na damcaniaethu pa ffurfiau eraill o wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol, eu ffocws oedd cynnal a gwella’r data sydd ganddynt drwy gael dulliau a thechnegau pendant i wneud y gorau o’r hyn sydd ar gael.

Fodd bynnag, wrth ddadansoddi’r wybodaeth a gasglwyd trwy’r profformâu a’r cyfweliadau, gwelwyd y mathau o ddata a’r nodweddion penodol y cred gwahanol grwpiau o randdeiliaid sy’n fwyaf addas i ddiwallu eu hanghenion, boed yn eFSM yn ei ffurf gyfredol neu wedi’i ddiwygio neu’n rhywbeth arall. Mae hyn wedi’i nodi mewn cyfres o dablau sydd yn yr Atodiad Technegol a dylid ymgynghori â hwn i gael dealltwriaeth lawnach.

Ar y lleiaf, disgwylir y bydd y data o ansawdd uchel, y bydd wedi cael ei ddilysu i leihau gwallau a bod tryloywder yn y dulliau a ddefnyddiwyd i’w gasglu. Dylai hefyd fod ar gael yn rhwydd ac yn hygyrch i’r rhanddeiliaid hynny sy’n dymuno ei ddefnyddio. Nodwyd mai nodweddion pwysig y data ar anfantais economaidd-gymdeithasol y dylid eu hystyried yn fanylach yw: rhwyddineb ei ddeall, ei amseriad, ei amlder, sefydlogrwydd, gallu i’w gymharu a’i fanylder. Mae amrywio ymhlith ac ar draws grwpiau rhanddeiliaid o ran y graddau y maent yn rhoi pwyslais ar y rhain a’u hunion ofynion yn gysylltiedig â phob un.

Teimla pob rhanddeiliad ei bod hi’n bwysig parhau i gael mynediad at wybodaeth am incwm. Maent yn rhoi gwerth uchel ar brocsi’r eFSM yn enwedig gan fod potensial ar gyfer ei wella a’i gryfhau, a gwerth ar gael mynediad mwy uniongyrchol at ddata ar fudd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae awydd hefyd ymhlith rhai rhanddeiliaid i gael data incwm sydd ar gael mewn graddiannau er mwyn galluogi gwerthfawrogi gwahanol lefelau o dlodi ac/neu fod ar gael dros y tymor hwy i ddeall tlodi parhaus.

Mae gan randdeiliaid ddiddordeb hefyd mewn gwybodaeth gyd-destunol arall ar anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae hyn er mwyn cael gwell dealltwriaeth gyffredinol o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ganlyniadau addysgol a natur amrywiol anghenion dysgwyr er mwyn rhoi cefnogaeth yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl. Mae’n cynnwys mewnwelediadau i alwedigaeth a chymwysterau rhieni, deiliadaeth tai, a mynediad at wasanaethau, ymhlith eraill, gan ystyried y gwahaniaethau mewn profiadau trefol a gwledig.

Mae petruster ymhlith rhanddeiliaid ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno data gwahanol neu atodol, a soniwyd am sawl rhwystr a goblygiadau. Mynegwyd pryder ynghylch terfynau pŵer datganoledig a gallu Llywodraeth Cymru i osod ei hagenda a rheoli ei phrosesau ei hun yn annibynnol ar Lywodraeth y DU. Yn benodol, mae ymwybyddiaeth o rwystrau i ddatblygu cytundebau rhannu data gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n cyfyngu ar fynediad at ddata budd-daliadau.

Y pryder pennaf i randdeiliaid oedd adnoddau a’r baich posibl sy’n gysylltiedig ag unrhyw newid i’r broses gasglu a chofnodi ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae anesmwythyd hefyd ynghylch perchnogaeth ac argaeledd data, gallu rhanddeiliaid i’w ddadansoddi’n effeithiol, a’r risgiau sy’n gysylltiedig â diffyg cysondeb mewn dulliau a allai danseilio hyder defnyddwyr.

Yn ogystal, her allweddol wrth oresgyn cyfyngiadau eFSM yw cymhlethdod yr ateb sydd ei angen oherwydd swm y data, nifer y defnyddwyr data a’r ystod o ddibenion y maent yn defnyddio’r data ar eu cyfer. Ar ben hynny, mae casglu a defnyddio eFSM yn cwmpasu ystod o feysydd polisi a gallai fod goblygiadau sylweddol i newid y dull.

Er mwyn hwyluso unrhyw newid yn y defnydd o ddata, mae rhanddeiliaid yn dweud y dylid neilltuo amser ac ymchwil i brofi a dangos pa mor briodol ydyw. Maent yn galw am adnoddau gan gynnwys canllawiau, hyfforddiant ac arweinyddiaeth, yn ogystal ag ymgynghori ac ymgysylltu pellach â rhanddeiliaid i sicrhau diwallu eu hanghenion.

Camau nesaf

Gellid rhoi ystyriaeth bellach i ddeall effeithiau’r heriau a achosir gan Amddiffyn wrth Bontio a chyflwyno UPFSM, gan gynnwys y gwahanol fesurau dilysu a lliniaru sydd wedi’u rhoi ar waith. Yn sgil pwysau chwyddiant, mae angen rhoi sylw hefyd i’r trothwy enillion statig ar gyfer cymhwystra, a’i oblygiadau ar gadernid y data dros amser a’i ddefnydd ar gyfer monitro ac ymyrryd. Gellid rhoi ffocws ychwanegol ar archwilio’r gwahanol opsiynau i fynd i’r afael â diffygion data eFSM a gwella ei ddefnydd megis gwelliannau sy’n cynnwys defnyddio cyfartaleddau, eFSM ‘Ever-6’, ceisio cael mynediad uniongyrchol at ddata budd-daliadau, neu gymryd camau yn unol â datblygiadau diweddar yn Lloegr i gynyddu’r trothwy cymhwystra.

Mae angen data ac iddo amrywiaeth o nodweddion gwahanol ar lawer o randdeiliaid, ac mae diddordeb mewn gwybodaeth fwy cyd-destunol sy’n rhoi cipolwg ar agweddau eraill ar anfantais yn hytrach nag incwm yn unig. Gallai unrhyw gamau nesaf yn yr ymchwil fynd ati i asesu pa mor effeithiol y mae gwahanol ddangosyddion a mesurau o anfantais economaidd-gymdeithasol wrth fodloni gofynion y rhanddeiliaid, sef dangosyddion a mesurau sydd naill ai ar gael ar hyn o bryd neu y gellir eu datblygu mewn modd mwy pwrpasol trwy gysylltu data.

Wrth fynd ati i gynnal camau nesaf yr ymchwil, dylid ystyried ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid ac ymgynghori â nhw. O ystyried y gofynion amrywiol a disgwyliadau posibl ymhlith rhanddeiliaid a allai godi yn rhan o hyn, bydd angen ystyried hefyd sut y gellir darparu ar gyfer eu hanghenion data o fewn cwmpas yr adnoddau sydd ar gael i gyflawni newid.

O fewn Llywodraeth Cymru mae nifer o brosiectau mawr a datblygiadau polisi ar y gweill y gallai ymchwil pellach effeithio arnynt; dylid ystyried y rhain i sicrhau cyn lleied o aflonyddu â phosibl. Mae hyn yn cynnwys adolygiad mewnol o’r Grant Datblygu Disgyblion, adolygiad o fformiwla ariannu llywodraeth leol, datblygu dulliau o fonitro’r Cwricwlwm newydd i Gymru, a gwaith sy’n gysylltiedig â Siarter Budd-daliadau Cymru.

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Megan Clark, Oliver Allies, Huw Lloyd-Williams, Hilda Bernhardsson, Jakob Abekhon

Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Cangen Ymchwil Ysgolion
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: YmchwilYsgolion@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 122/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-757-6

Image removed.