Neidio i'r prif gynnwy

Mae diweddariad i gyllid TrC ar gyfer 2023 i 2024 ar gael yma.

A Llywodraeth Cymru bellach wedi cymeradwyo ei chyllideb derfynol ar gyfer blwyddyn ariannol (BA) 2023-24, mae’n bleser gen i gyflwyno manylion eich trefniadau cyllido i chi.

Rwyf wedi cymeradwyo cyllideb flynyddol Trafnidiaeth Cymru, gyda dyraniad refeniw o £276.269 miliwn a dyraniad cyfalaf o £314.554 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24. Caiff TrC ysgwyddo gwariant yn y flwyddyn ariannol dan sylw hyd at y terfyn a ddangosir wrth bob llinell cyllideb, yn unol â'r nodau strategol yn Llythyr Cylch Gwaith Tymor cyfredol y Llywodraeth a’r gweithgareddau y cytunwyd arnynt ac a ddisgrifir yn Strategaeth Gorfforaethol a Chynllun Busnes TrC.

Rhaid i'ch gweithgarwch a'ch gwariant gyd-fynd â'r dyraniad ar gyfer Llinellau Gwariant Cyllideb Llywodraeth Cymru a nodir isod. Ceir rhagor o fanylion yn y tablau a anfonwyd gan y tîm partneriaeth. Rhaid i’ch tîm partneriaeth a’r swyddogion polisi perthnasol gytuno ar unrhyw newidiadau i’r proffil hwn a rhaid i’r Gweinidogion eu cymeradwyo. Mae hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau a ddaw yn sgil newid blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a/neu faint o arian fydd ar gael yn y gyllideb. Hefyd, bydd TrC yn datblygu dangosfwrdd cyllid mewn cydweithrediad â fy swyddogion er mwyn i Lywodraeth Cymru allu monitro gwariant ac adrodd arno.

Refeniw

  • BEL 1895 Trafnidiaeth Cymru: £245.805 miliwn
  • Adran Drafnidiaeth: £18.600 miliwn
  • BEL 1880 Cymorth i Fysiau a Thrafnidiaeth Leol (Yn cynnwys £5.96 miliwn o gyllid i’w drosglwyddo i wasanaethau Traws Cymru
  • BEL 2000 Tocynnau Rhatach: £1.078 miliwn
  • BEL 2001 Teithio Rhatach i Bobl Ifanc: £0.170 miliwn
  • BEL 2030 Teithio Cynaliadwy: £0.250 miliwn
  • BEL 1892 Diogelwch ar y Ffyrdd: £0.518 miliwn
  • BEL 1885 Gwaith Rhwydwaith: £0.300 miliwn
  • BEL 1884 Gwaith Rhwydwaith: £0.042 miliwn

Cyfanswm y Setliad Refeniw: £276.269 miliwn

Cyfalaf

  • BEL 1895 Cyfalaf y Rheilffyrdd: £196.172 miliwn
  • Adran Drafnidiaeth: £9.793 miliwn
  • BEL 1880 Cymorth i Fysiau: £47.740 miliwn
  • BEL 2030 Teithio Cynaliadwy a Llesol: £56.422 miliwn (Yn gynnwys £49.977 miliwn o grantiau teithio llesol i’w trosglwyddo i awdurdodau lleol)
  • BEL 1885 Gwaith Rhwydwaith: £0.577 miliwn
  • BEL 1888 Seilwaith Trafnidiaeth Cenedlaethol: £3.850 miliwn

Cyfanswm y Setliad Cyfalaf: £314.554 miliwn

Efallai y bydd gofyn i TrC ymgymryd â gweithgareddau eraill yn ystod y flwyddyn, yn ychwanegol at y rhai a nodir yng Nghynllun Busnes TrC 2023-24, o gael cymeradwyaeth Gweinidogion ac os bydd cyllid ar gael. Bydd unrhyw weithgareddau ychwanegol i TrC yn gorfod mynd trwy’r Broses Rheoli Newid, a bydd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ychwanegu at setliad cyllideb TrC.

Nodir telerau ac amodau'r setliad cyllideb hwn yn Atodiad 1. Er mwyn i TrC allu tynnu cyllid i lawr fel ôl-daliadau ar sail gwariant gwirioneddol, byddwn yn ystyried darparu ychydig bach o gyfalaf gweithio ymlaen llaw. Bydd hyn yn gwella cywirdeb taliadau trwy eu seilio ar wariant gwirioneddol, yn hytrach na symiau rhagolwg.

Rydym yn cydnabod bod y ffigurau hyn yn golygu pwysau ariannol ar gyllido’r rheilffyrdd o’u cymharu â rhagolygon ariannol eich Cynllun Busnes 2023-24 ac y byddwch yn parhau i weithio gyda thîm partneriaeth a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â nhw a’u lliniaru, yn ogystal â chynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Mae cyllideb ddangosol Llywodraeth Cymru ar gyfer 24/25 eisoes wedi'i chyhoeddi a byddai'n ddefnyddiol cael cynllun busnes drafft a rhagolwg costau i lywio’n proses gyllidebu erbyn diwedd mis Gorffennaf sy'n ystyried swm y gyllideb hon.

Atodiad 1: Amodau a Thelerau’r Cyllid

Mae'r Llythyr Cylch Gwaith a’r Cytundeb Fframwaith a roddwyd i TrC yn nodi nifer o ofynion gweithredol ac yn cyfeirio at ganllawiau a pholisïau'r llywodraeth y mae'n rhaid i TrC gadw atyn nhw, yn ogystal â'i ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau ei hun fel rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y cyllid yn cael ei dalu i TrC fel grant bob mis ymlaen llaw yn seiliedig ar hawliad misol y Cwmni. Caiff y taliadau ymlaen llaw i'r Cwmni eu tynnu o derfynau ariannu cronnus y grantiau misol a dynnir i lawr.  Bydd cyllid ar gyfer eitemau y bydd yn rhaid talu TAW arnynt yn cael ei ddarparu ar sail yr anfonebau a gyflwynir gan TrC. Bydd gwariant cronnus y Cwmni yn cael ei gysoni yn ystod y Cyfnod.

Bydd cyllid yn cael ei ddarparu yn unol â’r canllawiau cyllidebu i gyrff cyhoeddus a dylid ei ddefnyddio ac adrodd arno yn unol â’r canllawiau hynny.

Mae'r Terfyn Cyllido Refeniw Cronnus a'r Terfyn Cyllido Cyfalaf Cronnus yn cynnwys unrhyw TAW y mae TrC yn atebol amdano ond na fydd gallu ei gael yn ôl.

Er bod yn rhaid i TrC fel cwmni cyfyngedig drwy warant gynhyrchu ei gyfrifon blynyddol yn unol â'r Ddeddf Cwmnïau, fel cwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, mae hefyd gofyn iddo gyflwyno cyfrifon wedi'u haddasu i Lywodraeth Cymru sy'n cydymffurfio â’r gofynion cyfrifyddu ar gyfer Cyrff Cyhoeddus a nodir yn y Llawlyfr Adrodd ariannol (FReM). Bydd y cyfrifon wedi’u haddasu hyn yn cael eu cyfuno yng nghyfrifon grŵp Llywodraeth Cymru. Nodir yr amserlen ar gyfer eu cyflwyno yn y Cytundeb Rheoli. Hefyd, os bydd gan weithred gan TrC oblygiadau cyllidebu neu gyfrifyddu i Lywodraeth Cymru, yna mae dyletswydd ar TrC i’w nodi cyn gynted ag y gall a rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru beth yw'r goblygiadau hynny.

Mae'r ffigur cyfalaf cymeradwy ar gyfer cymorth grant yn cynnwys cymeradwyaeth i brynu'r parseli tir a nodir yn eich Cynllun Busnes 23/24, ar yr amod eich bod yn eu caffael yn unol â phrisiadau Llyfr Coch Trysorlys EF. Mae angen rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru os na fydd modd eu caffael yn unol â’r prisiadau hynny gyda nodyn oddi wrth y Swyddog Cyfrifyddu yn cadarnhau ei fod yn fodlon â'r gwahaniaeth.

Sylwch fod costau cerbydau a chostau prydlesu eraill sydd wedi'u cynnwys yn y gofyniad cyllido uchod yn cael eu cyfrif ar sail contract cytundeb grant OLR (hawdd eu trosi’n arian) yn hytrach nag IFRS 16 (y safon cyfrif prydlesau newydd a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth Ganolog ar 1 Ebrill 2022). Bydd y costau hyn yn cael eu trosi i IFRS 16 yn ddiweddarach fel rhan o ymarfer ehangach i drosi cyllidebau. 

Eich cyswllt o ddydd i ddydd â Llywodraeth Cymru yw’r tîm partneriaeth (TransportSponsorship@gov.cymru). Bydd y trefniadau goruchwylio a monitro y cytunir arnynt rhyngoch chi a'ch tîm partneriaeth yn sicrhau y cydymffurfir â Chynllun Busnes TrC a safonau ariannol Llywodraeth Cymru.