Darganfyddwch a oes gennych chi hawl i gael prawf golwg am ddim gan y GIG a chymorth tuag at gostau sbectolau neu lensys cyffwrdd.
Cynnwys
Profion llygaid y GIG
Mae gennych hawl i gael prawf golwg am ddim gan y GIG:
- os ydych o dan 16 oed
- os ydych yn 16,17 neu’n 18 oed ac mewn addysg llawn amser
- os ydych yn 60 oed neu’n hŷn
- os ydych wedi cael diagnosis diabetes neu glawcoma
- os ydych yn 40 neu’n hŷn a bod eich mam, eich tad, eich brawd, eich chwaer neu’ch plentyn wedi cael diagnosis o glawcoma
- os ydych wedi cael eich cynghori gan feddyg llygaid (offthalmolegydd) eich bod mewn perygl o ddatblygu glawcoma
- os ydych wedi’ch cofrestru yn ddall neu’n rhannol ddall
- os ydych angen lensys cymhleth (gall eich optegydd eich cynghori ynglŷn â’ch hawliau)
- os ydych yn cael eich prawf golwg yn adran lygaid yr ysbyty fel rhan o’r broses o reoli eich cyflwr llygaid
Rydych yn gymwys hefyd os ydych chi neu’ch partner (gan gynnwys partner sifil) yn cael budd-daliadau penodol neu os ydych ar incwm isel neu os ydych o dan 20 oed ac yn ddibynnydd i rywun sy’n cael y budd-daliadau hyn neu ar incwm isel
Defnyddiwch y gwiriwr ar-lein y GIG i weld pa gymorth y gallech chi ei gael.
Cymorth gyda chostau sbectolau neu lensys cyffwrdd
Fe allech gael talebau GIG tuag at gostau sbectolau neu lensys cyffwrdd:
- os ydych chi o dan 16 oed
- os ydych chi’n 16,17 neu’n 18 oed ac mewn addysg llawn amser
- os ydych chi angen lensys cymhleth (gall eich optegydd eich cynghori ynglŷn â’ch hawliau)
Rydych yn gymwys hefyd os ydych chi neu’ch partner (gan gynnwys partner sifil) yn cael budd-daliadau penodol neu os ydych ar incwm isel neu os ydych o dan 20 oed ac yn ddibynnydd i rywun sy’n cael y budd-daliadau hyn neu ar incwm isel
Defnyddiwch wiriwr ar-lein y GIG i weld pa gymorth y gallech chi ei gael.
Yr uchafswm y cewch ei hawlio am bob pâr o sbectolau neu lensys cyffwrdd:
Talebau | Uchafswm | |
---|---|---|
Golwg sengl | A | £39.10 |
B | £59.30 | |
C | £86.90 | |
D | £196 | |
Deuffocal | E | £67.50 |
F | £85.60 | |
G | £111.20 | |
H | £215.50 | |
Adran lygaid yr ysbyty | I | £200.80 |
J (am bob lens) | £57 |
Math | Uchafswm | |
---|---|---|
Prism | P Golwg sengl | £12.60 |
P Deuffocal | £15.40 | |
Arlliw/Ffotocromeg | T Golwg sengl | £4.40 |
T Deuffocal | £4.90 | |
Fframiau arbennig | am bob ffrâm hyd at | £64.20 |
Cymorth gyda chostau trwsio neu amnewid sbectolau neu lensys cyffwrdd
Fe allech gael talebau GIG i drwsio neu amnewid sbectolau neu lensys cyffwrdd os ydych chi o dan 16 oed.
Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn, efallai y bydd gennych hawl i gael taleb tuag at gostau trwsio neu amnewid os yw eich bwrdd iechyd lleol yn cytuno:
- bod y golled neu’r difrod o ganlyniad i salwch
- na allwch gael cymorth drwy warant, yswiriant neu wasanaeth ar ôl gwerthu
- y byddai gennych hawl i gael taleb y GIG am sbectolau neu lensys cyffwrdd.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol.
Nid yw hyn yn berthnasol i lensys cyffwrdd untro.
Taleb |
Trwsio neu amnewid blaen y ffrâm |
Trwsio neu amnewid ochr y ffrâm | Trwsio neu amnewid y ffrâm gyfan |
---|---|---|---|
Pob taleb |
£12.45 | £7.35 | £14.80 |
Trwsio neu amnewid: | Gwerth y daleb |
---|---|
Blaen y ffrâm | £57.00 |
Ochr y ffrâm | £30.80 |
Y ffrâm gyfan | £64.80 |
Lensys cyffwrdd newydd | £57.00 |
Sut i brofi eich bod yn gymwys i gael cymorth gyda chostau gwasanaeth optegol y GIG
Gallwch gael profion llygaid y GIG am ddim os ydych: | Y dystiolaeth angenrheidiol | Lle a sut i gael tystiolaeth |
---|---|---|
Yn 60 oed neu’n hŷn |
Unrhyw ddogfen swyddogol yn dangos eich enw a’ch dyddiad geni, fel:
|
Cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol i gael cerdyn meddygol newydd y GIG. |
Yn 40 oed neu’n hŷn ac yn rhiant, brawd, chwaer, neu blentyn i rywun â glawcoma | Dogfen swyddogol yn dystiolaeth o’ch dyddiad geni (gweler uchod) | Cerdyn meddygol y GIG (gweler uchod) |
Wedi’ch cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall | Tystysgrif cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall. | Cysylltwch â’ch awdurdod lleol. |
Yn dioddef o ddiabetes |
|
|
Yn dioddef o glawcoma | Datganiad eich bod yn dioddef o glawcoma. | Eich meddyg teulu neu glinig llygaid yn yr ysbyty |
Mewn perygl o ddatblygu glawcoma | Datganiad eich bod mewn perygl o ddatblygu glawcoma | Eich meddyg teulu neu glinig llygaid yn yr ysbyty |
Profion llygaid a thalebau optegol
Gallwch gael prawf golwg y GIG am ddim a thaleb optegol os ydych: | Y dystiolaeth angenrheidiol | Lle a sut i gael tystiolaeth |
---|---|---|
O dan 16 oed |
Unrhyw ddogfen swyddogol yn dangos eich enw a’ch dyddiad geni, fel:
|
Budd-dal plant (gov.uk) |
Yn 16,17 neu’n 18 oed ac mewn addysg llawn amser | Llyfr archeb budd-dal plant cyfredol, neu dystiolaeth o oedran fel uchod a llythyr neu ddogfen arall gan eich ysgol, coleg neu brifysgol yn nodi eich bod yn fyfyriwr llawn amser. | Budd-dal plant (gov.uk) |
Chi neu eich partner yn cael cymhorthdal incwm | Eich llyfr archeb cymhorthdal incwm neu lythyr o’ch hawliau gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith. | Cymhorthdal incwm(gov.uk) |
Credyd cynhwysol | Llythyr o’ch hawliau gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith | Directgov (gov.uk) |
Neu mae eich partner yn cael lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm | Llythyr o’ch hawliau gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith | Os gwneir taliadau i’ch banc neu gymdeithas adeiladu, gallwch gael tystiolaeth ar ffurf llythyr o’ch hawliau gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith |
Neu bod eich partner yn cael Gwarant Isafswm Incwm neu Gredydau Pensiwn | Eich llyfr archeb, llythyr o’ch hawliau gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith | |
Neu mae eich partner yn cael credydau treth ac yn bodloni’r amodau cymhwyso | Mae gennych hawl i gael tystysgrif eithrio credydau treth dilys y GIG, neu wedi eich enwi ar un. | Os ydych chi’n gymwys i gael triniaeth am ddim, byddwch yn cael tystysgrif – darllenwch y dudalen credydau treth |
Wedi eich enwi ar dystysgrif ddilys y GIG am gymorth llawn gyda chostau iechyd (Tystysgrif HC2W) | Tystysgrif HC2W | Hawliwch gan ddefnyddio ffurflen HC1W gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu drwy ffonio 0345 603 |
Wedi eich enwi ar dystysgrif ddilys y GIG am gymorth rhannol gyda chostau iechyd (Tystysgrif HC3W) | Tystysgrif HC3W | Hawliwch gan ddefnyddio ffurflen HC1W gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu drwy ffonio 0345 603 1108. Gallech hefyd gael un gan eich ysbyty lleol, eich deintydd, optegydd neu feddyg.. |
Hawlio ad-daliad am brawf llygaid
Gofynnwch i’r person sy’n profi eich llygaid am dderbynneb sy’n dangos eich bod wedi talu am y prawf a dyddiad y taliad.
Llenwch ffurflen ad-daliad HC5W(O).
Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi dyddiad eich prawf golwg arno. Mae HC5W(O) yn dweud wrthych beth i’w wneud nesaf.
Gallwch wneud cais am gopi papur o’r ffurflen hon dros e-bost neu drwy ffonio’r llinell archebu cyhoeddiadau ar 0345 603 1108 (Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg).
Hawlio ad-daliad am sbectolau a lensys cyffwrdd
I hawlio ad-daliad, gofynnwch am dderbynneb sy’n dangos faint yr ydych chi wedi’i dalu, a’r dyddiad.
Llenwch ffurflen ad-daliad HC5W(O). Gwnewch yn siŵr eich bod yn amgáu eich presgripsiwn optegol a’ch derbynneb pan fyddwch yn anfon y ffurflen. Mae’r ffurflen yn nodi beth i’w wneud.
Yr uchafswm ad-daliad y cewch chi fydd gwerth y daleb sy’n cyd-fynd â’ch presgripsiwn.
Os ydych chi eisoes wedi defnyddio taleb tuag at gost eich sbectolau neu lensys, ni chewch ad-daliad, oni bai mai taleb lensys cymhleth yn unig ydoedd. Ni allwch hawlio ad-daliad am y gwahaniaeth rhwng gwerth y daleb a gwir gost eich sbectolau neu lensys.