Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

3. Y Gronfa Benthyciadau Trawsnewid Trefi

Mae £25 milliwn ar gael ar draws Cymru rhwng 2022 a 2025.

Mae'r gronfa yn cynnig benthyciadau di-log i gefnogi prosiectau sy'n lleihau nifer y safleoedd ac eiddo gwag neu’r nifer sy’n cael eu tanddefnyddio yng nghanol trefi.

Y Broses

Mae’r benthyciad yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan, ac nid oes modd iddynt ei ddefnyddio ar gyfer eu prosiectau eu hunain. Os byddwch yn derbyn benthyciad bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl i'r awdurdod lleol o fewn y cyfnod a nodir - 5 mlynedd fel arfer.

Pan fydd y benthyciad wedi cael ei ad-dalu, gall yr awdurdod lleol ei ddefnyddio eto i ariannu benthyciadau newydd ac ail-fuddsoddi mewn prosiectau tebyg. Rhaid ei ail-fuddsoddi 2 i 3 gwaith dros 15 mlynedd.

Pwy sy'n gymwys

Ymgeiswyr posib:

  • cymdeithasau tai cymdeithasol
  • datblygwyr eiddo
  • landlordiaid preifat
  • busnesau