Cymorth y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol i gyflogwyr gofal cymdeithasol
Gwybodaeth i gyflogwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru sy’n recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol o dramor.
Ar y dudalen hon
Cymorth i weithwyr gofal cymdeithasol tramor yng Nghymru
Pan gaiff trwydded noddi ei dirymu, mae unrhyw Dystysgrifau Noddi (CoS) yn dod yn annilys yn awtomatig ac mae hyn yn golygu yr effeithir ar unrhyw weithwyr sy'n gysylltiedig â'r drwydded honno.
Os ydych wedi cael llythyr oddi wrth y Swyddfa Gartref / UK Visa and Immigration (UKVI), bydd yn dweud wrthych fod ein caniatâd presennol yn dal yn ddilys nes y bydd adran arall o'r Swyddfa Gartref yn ysgrifennu atoch i gadarnhau ei fod wedi'i fyrhau neu ei ganslo, neu hyd y daw i ben (pa un bynnag sydd gynharaf).
Bydd angen ichi ddechrau chwilio am gyflogaeth newydd a noddir a gwneud cais am fisa newydd er mwyn aros yn y DU.
Er y gall hwn fod yn gyfnod gofidus, bydd y llythyr yn cynnwys gwybodaeth am gymorth y gallwch ei gael, gan gynnwys gwybodaeth am y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol a all eich cefnogi i ddod o hyd i rôl arall yng Nghymru.
Y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol (NAS)
Mae'r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol (NAS) yma i gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol tramor yng Nghymru sydd wedi colli eu swydd, sydd mewn perygl o'i cholli, neu sy'n chwilio am rôl newydd.
Os yw trwydded noddi eich cyflogwr wedi'i dirymu neu os oes angen i chi ddod o hyd i gyflogaeth amgen, gall NAS weithredu fel eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor a chymorth.
Bydd y gwasanaeth yn eich helpu i ddeall eich opsiynau, yn rhoi arweiniad ar eich hawliau, a'ch cefnogi i ddod o hyd i waith yn y sector gofal cymdeithasol.
Gall NAS eich cefnogi trwy:
- Paru â Swyddi: Gall NAS eich helpu i ddod o hyd i gyflogaeth gyda darparwr cofrestredig, lle mae trwydded eich cyflogwr wedi'i dirymu neu ar fin cael ei dirymu. Fe'ch anogir hefyd i chwilio am waith yn annibynnol.
- Cyfeirio: Bydd NAS yn cynnig canllawiau wedi'u teilwra i chi, gan gynnwys cyfeirio at gymorth gyda CV a chyfweliad, cyngor cyflogaeth, a gwasanaethau llesiant.
- Brysbennu a Blaenoriaethu: Bydd rhai ohonoch wedi cael eich llythyr oddi wrth UKVI yn eich nodi'n ffurfiol fel gweithiwr sydd wedi'i ddadleoli oherwydd bod trwydded eich cyflogwr yn cael ei dirymu. Os yw hyn yn gymwys i chi, byddwch yn cael blaenoriaeth o flaen y gweithwyr tramor hynny sy'n chwilio am gyflogaeth amgen.
- Cyngor Cyfreithiol: Nid yw NAS yn darparu cyngor cyfreithiol na chyngor mewnfudo. Yn hytrach, byddwch yn cael eich cyfeirio at y sefydliadau priodol am gymorth pellach, neu lle bo'n berthnasol, cewch eich cynghori i ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.
- Cyngor Cyffredinol: Ni fydd NAS yn rhoi unrhyw gyngor i chi. Yn hytrach, byddant yn eich cyfeirio at wybodaeth berthnasol fel y gallwch wneud penderfyniadau gwybodus.
Os byddwch yn newid swydd, bydd angen i'ch cyflogwr newydd roi Tystysgrif Noddi newydd i chi.
Felly, cwestiwn pwysig i'w ofyn pan fyddwch yn gwneud cais am y swydd yw a allant eich noddi gyda'ch fisa.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw gwybodaeth am swyddi gwag unigol yn y sector gofal.
Er hynny, mae NAS yn cadw gwybodaeth o'r fath gan ddarparwyr sydd â thrwyddedau noddi sydd wedi cofrestru gyda'u gwasanaeth.
Gallwch hefyd ddod o hyd i swyddi gofal eich hun sydd wedi'u hysbysebu ar wefan Gofalwn.Cymru sy'n blatfform pwrpasol ar gyfer gwaith gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae nifer o leoedd eraill i chwilio am ddarpar gyflogwyr yn y sector gofal ac iechyd.
Gweler yr adran 'Angen dod o hyd i swydd newydd' yn y ddolen ganlynol:
Cefnogi gweithwyr rhyngwladol mewn gofal cymdeithasol i ymgartrefu yng Nghymru | LLYW.CYMRU
Manylion cyswllt NAS
Llinell gymorth
Mae Canolfan gyswllt NAS ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm a bydd yn cynnig gwasanaeth neges llais ar gyfer galwadau y tu allan i oriau.
Ffôn (y DU): 0808 1751508
Ffôn (y tu allan i'r DU): +44 0204 5425671
E-bost: Cymorth@noddfa.llyw.cymru
Sut y gall NAS gefnogi cyflogwyr gofal cymdeithasol
Rydym wedi bod yn cysylltu â chyflogwyr sydd naill ai â thrwydded noddi neu sydd â diddordeb mewn gwneud cais am drwydded noddi, i'w hannog i gofrestru gyda'r NAS ac ymuno â chofrestr sy'n dal swyddi gofal cymdeithasol gwag ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae swyddi gwag darparwyr yn cael eu rhannu gyda gweithwyr sydd wedi'u dadleoli a gweithwyr tramor sy'n chwilio am gyflogaeth amgen, a fydd yn eu galluogi i wneud cais am y rolau.
Yn hytrach na dechrau'r broses recriwtio o'r dechrau, mae gan ddarparwyr fynediad at gronfa o ymgeiswyr sy'n barod ac yn gymwys i weithio, ac a allai ddod â phrofiad gwerthfawr y maent eisoes wedi'i ennill mewn rôl flaenorol.
Mae'r broses hon yn gwbl wirfoddol i'r cyflogwr.
Bydd ein gweithwyr sydd wedi'u dadleoli yn gwneud cais am y swyddi gwag, ond mater i'r darparwyr fydd penderfynu a ydynt yn cynnig y swyddi ichi ai peidio, yn dibynnu ar sgiliau ac addasrwydd.
Cymorth awdurdod lleol ar gyfer asesiadau UKVI o geisiadau Tystysgrif Noddi (CoS) y sector gofal
Mae proses wedi'i thargedu wedi'i chyflwyno, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref ac UKVI, sy'n galluogi'r awdurdodau lleol i ddarparu sicrwydd ychwanegol i gefnogi ceisiadau Tystysgrif Noddi (CoS) oddi wrth ddarparwyr gofal cymdeithasol.
Ei phrif ddiben yw cyflymu'r broses o ddyrannu Tystysgrif Noddi heb eu diffinio, yn enwedig lle mae gweithwyr tramor wedi cael eu dadleoli gan ddirymiadau trwyddedau noddi a lle mae angen iddynt drosglwyddo'n gyflym i rolau priodol.
Drwy gyhoeddi llythyrau o gefnogaeth sy'n cadarnhau angen y gweithlu a hygrededd darparwyr, mae'r awdurdodau lleol yn helpu UKVI i flaenoriaethu a chyflymu'r ceisiadau hyn.
Mae hyn yn darparu manteision clir i ddarparwyr drwy:
- leihau oedi wrth recriwtio
- cefnogi sefydlogrwydd y gweithlu
- galluogi cadw staff rhyngwladol profiadol
Mae hefyd yn rhan o becyn ehangach o gymorth i weithwyr yr effeithir arnynt.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses i'w dilyn, gweler y ddolen isod:
Cymorth y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol i gyflogwyr gofal cymdeithasol | LLYW.CYMRU
Gofynion trothwy cyflog presennol ar gyfer gweithwyr gofal tramor
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau bod y trothwy cyflog presennol ar gyfer gweithwyr tramor ar y fisa Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dal yn £12.82 yr awr neu £25,000 y flwyddyn.
Yn ystod 2025 i 2026, roedd y gyfradd hon yn uwch na'r Cyflog Byw Gwirioneddol (RLW), sef £12.60 yr awr.
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, cynyddodd y Cyflog Byw Gwirioneddol i £13.45 yr awr, sy'n golygu ei fod yn uwch ar hyn o bryd na'r trothwy cyflog ar gyfer y llwybr fisa hwn.
Eglurhad ar ddyddiad cau 2028
Rydym wedi cael adborth a phryderon gan ddarparwyr a gweithwyr tramor ynghylch y dyddiad cau o Orffennaf 2028 ar gyfer newidiadau i fisâu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae'r Swyddfa Gartref bellach wedi cadarnhau'r canlynol:
- Mae dyddiad cau o 2028 yn gymwys i bobl sy'n newid i'r llwybr Gweithwyr Iechyd a Gofal o gategorïau eraill o fisa yn unig.
- Bydd gweithwyr sydd eisoes ar y llwybr Gweithwyr Iechyd a Gofal, neu sydd wedi'u recriwtio i'r llwybr cyn Gorffennaf 2028, yn parhau i allu ymestyn eu fisâu ac aros yn y DU y tu hwnt i 2028. Yn amodol ar ofynion y Rheolau Mewnfudo a'r prosesau sydd ar waith ar y pryd.
Darparwyd yr eglurhad hwn gan swyddogion y Swyddfa Gartref, a oedd yn cydnabod y dryswch eang sy'n bodoli ynghylch y polisi hwn.
Mae'n bwysig nodi bod y sicrwydd hwn, ochr yn ochr â'r adolygiad / ymgynghoriad parhaus ar Ganiatâd i Aros, a allai gyflwyno newidiadau pellach sy'n effeithio ar weithwyr tramor mewn gofal cymdeithasol.
Byddwn yn parhau i fonitro datblygiadau'n agos, a byddwn yn darparu diweddariadau wrth i fwy o wybodaeth ddod ar gael.
Rhagor o wybodaeth
Y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol tramor | LLYW.CYMRU
