Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Fe wnaethon ni gyhoeddi Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, ym mis Gorffennaf 2017. Cyhoeddwyd ail 'raglen Waith y strategaeth' ym mis Gorffennaf 2021 i fanylu ar ein gwaith o 2021 i 2026. Bydd y 'rhaglen lywodraethu' ac elfennau o’r 'cytundeb cydweithio' â Phlaid Cymru yn sail i nifer o’n cynlluniau tan y Senedd nesaf. 

At hynny, mae Adran 78 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu blynyddol yn esbonio sut y byddant yn gweithredu’r cynigion a amlinellir yn eu strategaeth iaith yn ystod pob blwyddyn ariannol. Dyma’r cynllun gweithredu ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Rydym bellach wedi cael cyfle i ddadansoddi llawer o ddata Cyfrifiad 2021 o ran y Gymraeg. Mae’r cwymp mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg i’w weld yn y grŵp oedran 5 i 15 mlwydd oed. Heb os, mae COVID-19 wedi cael effaith ar sgiliau plant a phobl ifanc, yn enwedig eu hyder yn yr iaith. Drwy edrych yn fanwl ar ddata ysgolion drwy’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA), byddwn yn gweithio gyda phob awdurdod lleol i adennill y tir hwn. Byddwn yn edrych i adeiladu ar y cynnydd bychan a welwyd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y grŵp oedran 16 i 44 mlwydd yn ogystal. 

Mae’r cyfrifiad yn cynnig data gwerthfawr ond mae’n rhaid i ni edrych ar sawl ffynhonnell er mwyn ceisio gweld y darlun cyflawn. O ganlyniad, rydym wedi cyhoeddi cynllun gwaith ar y cyd â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn gwella’n dealltwriaeth ni o’r arolygon a’r prif ffynonellau data gweinyddol am y Gymraeg.

Eleni felly, byddwn yn parhau i adolygu’n blaenoriaethau ac yn diweddaru’n cynlluniau yn ôl y galw er mwyn symud ymlaen ar ein taith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r nifer ohonom sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd.

Cefndir

Mae gan strategaeth ‘Cymraeg 2050’ ddau brif darged: 

  • Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
  • Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013-15) i 20% erbyn 2050.

Mae’r targedau hyn yn darparu naratif glir i ni i gyd yng Nghymru, i’r Llywodraeth, y sector cyhoeddus a holl ddinasyddion ein gwlad: mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol. Yn ogystal, mae popeth a wnawn o dan y Cynllun hwn yn cofleidio gair ac ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn benodol: “Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu”.

Mae ‘Cymraeg 2050’ yn seiliedig ar dair thema strategol:

  1. Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
  2. Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
  3. Creu amodau ffafriol, seilwaith a chyd-destun.

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar yr egwyddorion hyn wrth i ni weithio ar draws meysydd polisi’r Llywodraeth gan dalu sylw penodol eleni i:

  • Bwysigrwydd cynnal y Gymraeg fel y brif iaith sy’n cael ei siarad mewn cymunedau yn y gorllewin a'r gogledd-orllewin sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg.
  • Parhau i gynyddu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â’r CSCA.
  • Gwella cyrhaeddiad disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg wrth iddynt astudio’r Gymraeg. 
  • Bwriad i gyflwyno Bil Addysg Gymraeg.
  • Creu dinasyddion dwyieithog drwy gynnig cyfleoedd i bawb o bob oed ddysgu Cymraeg ac i’w defnyddio’n rheolaidd. 
  • Dadansoddi ystod o ffynonellau data er mwyn ceisio deall yn well beth sydd wrth wraidd y gwahaniaethau o ran y niferoedd sy’n nodi eu bod yn medru’r Gymraeg rhwng gwahanol ffynonellau.
  • Paratoi’r cynllun gweithredu technoleg Cymraeg nesaf.
  • Parhau i roi ffocws ar drosglwyddo’r iaith yn y cartref a sicrhau cynnydd yn y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg a’r Cynnig Gofal Plant.
  • Datblygu’r gweithlu cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yn y byd addysg a’r blynyddoedd cynnar. 
  • Parhau gyda rhaglen Safonau’r Gymraeg.
  • Parhau i brif-ffrydio ‘Cymraeg 2050’ ym mhob un o bortffolios y Llywodraeth.
  • Dechrau ar y gwaith o werthuso’r ‘Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg’.
  • Parhau i gynnig grantiau a chefnogaeth i gymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi drwy gyfrwng cynllun Perthyn.
  • Parhau i gefnogi partneriaid sy’n cynnal digwyddiadau ac yn creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ddiamod.
  • Bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cyflwyno ei adroddiad terfynol a’i argymhellion yn ystod yr haf.
  • Parhau i gefnogi Comisiynydd y Gymraeg yn enwedig i warchod hawliau siaradwyr Cymraeg ac i gynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg.

Meysydd gwaith

Thema 1: Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

Mae creu dinasyddion dwyieithog sy’n hyderus eu sgiliau Cymraeg a Saesneg yn greiddiol i ‘Cymraeg 2050’. Rydym am i bobl fod â’r gallu a’r cymhelliant i ddefnyddio eu Cymraeg yn y gymuned, yn y gweithle ac yn eu bywydau bob dydd. Byddwn felly’n parhau i wneud yn siŵr bod darpariaeth addysg amrywiol ar gael ar draws yr holl gyfnodau dysgu, o’r blynyddoedd cynnar, addysg statudol ac addysg ôl orfodol, yn y gweithle ac yn y gymuned. Yn hyn o beth, mae’r papur gwyn ar y Bil Addysg Gymraeg wedi gosod cyfeiriad clir a chadarn mewn perthynas â sut ydym ni’n bwriadu gwella cyrhaeddiad plant a phobl ifanc o ran sgiliau Cymraeg yn y gyfundrefn addysg.

Y blynyddoedd cynnar

Mae ehangu darpariaeth meithrin cyfrwng Cymraeg ledled y wlad, er mwyn cynnig llwybr tuag at addysg cyfrwng Cymraeg i gynifer o blant ag sy’n bosibl, yn parhau’n un o’n blaenoriaethau. Byddwn felly’n parhau i weithio gyda’n partner allweddol, Mudiad Meithrin, yn y maes hwn a byddwn yn gweithio’n agos drwy’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru i ehangu’r gwaith hwn ymhellach.

Er gwaethaf effaith COVID-19, mae Mudiad Meithrin wedi llwyddo i gyrraedd y targedau a osodwyd hyd yma o sefydlu darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg newydd fel rhan o’r rhaglen Sefydlu a Symud (SAS). Er gwaethaf y sefyllfa o ran cyllidebau a’r argyfwng costau byw, bydd y rhaglen yn parhau i weithio tuag at y targed a osodwyd yn ‘Cymraeg 2050’ i gael 150 o ddarpariaethau blynyddoedd cynnar newydd erbyn 2026. 

Er mwyn cyflawni hyn, mae datblygu gweithlu’r blynyddoedd cynnar drwy raglenni tebyg i gynllun Cam wrth Gam Mudiad Meithrin yn hanfodol. Fel rhan o gyllid o £3.8 miliwn a wobrwywyd i Cwlwm i gefnogi a thyfu darpariaeth ac ymarferwyr cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, neilltuwyd £2.112 miliwn dros gyfnod o 24 mis, o fis Medi 2022, i Mudiad Meithrin. Bydd Mudiad yn trefnu i hyfforddi 100 o ymarferwyr mewn cymwysterau gofal plant Lefel 3 cyfrwng Cymraeg a 50 yn ychwanegol mewn cymwysterau gofal plant Lefel 5 cyfrwng Cymraeg drwy’r cynllun Cam wrth Gam. Rydym wrthi’n cydweithio â swyddogion ar draws y Llywodraeth i archwilio sut i sicrhau parhad y cynllun hyfforddi hanfodol hwn.

Bydd gwaith i ehangu a chryfhau’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg drwy raglen Dechrau'n Deg yn parhau yn ystod 2024 i 2025. Mae’r gwaith hwn yn gwireddu ein hymrwymiad uchelgeisiol i ehangu gofal plant wedi'i ariannu i bob plentyn dwy flwydd oed, fel yr amlinellir yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) pob awdurdod lleol yn cydnabod rôl rhaglen Dechrau’n Deg wrth iddynt gynllunio’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, gyda thargedau ynddynt i gynyddu’r ddarpariaeth yn ystod oes y CSCA.

Yn ystod Cam 1 y gwaith o ehangu drwy Dechrau’n Deg, cynigwyd gwasanaethau Dechrau'n Deg i dros 3,178 o blant ychwanegol o dan 4 oed. Rydym yn disgwyl i Gam 2 yr ehangu, a ddechreuodd ganol mis Ebrill 2023, gefnogi dros 4,500 o blant 2 oed ychwanegol i gael gofal plant Dechrau'n Deg o ansawdd uchel. Yn 2024 i2025, bydd Cam 3 yn cefnogi tua 5,200 o blant 2 oed ychwanegol. 

Bydd rhaglen Cymraeg i Blant yn parhau i gefnogi rhieni i ddefnyddio Cymraeg gyda’u plant yn ystod y blynyddoedd cynnar, ac i ddewis gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg. 

Byddwn hefyd yn parhau i weithredu’n Polisi Cenedlaethol ar gyfer Trosglwyddo’r Gymraeg a’i Defnydd mewn Teuluoedd.

Addysg statudol

Bil Addysg Gymraeg

Mae ‘Rhaglen Waith Cymraeg 2050 (2021 i 2026)’ a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru yn ein hymrwymo i gyflwyno Bil Addysg Gymraeg yn ystod tymor y chweched Senedd. Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd y Prif Weinidog y bwriad i gyflwyno Bil gerbron y Senedd yn ystod y flwyddyn ddeddfwriaethol hon (sef cyn toriad yr haf 2024).

Pwrpas y Bil fydd hwyluso’r gwaith o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg er mwyn cyrraedd y miliwn erbyn 2050. Bydd y Bil yn cyflwyno’r cysyniad o gontinwwm iaith o ran y Gymraeg a chefnogi pob disgybl i ddod yn siaradwr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn diwedd ei addysg statudol, a hynny erbyn 2050. Mae hynny’n cynnwys gosod seiliau cadarn i gynyddu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ogystal â chynllunio am gynnydd parhaus i wella deilliannau ieithyddol disgyblion ym mhob ysgol. 

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

Mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) yn parhau i fod yn sail ar gyfer cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Eu nod yw cynyddu mynediad at ddysgu Cymraeg ar draws pob categori ysgol ym mhob rhan o Gymru, waeth beth fo cyfrwng y dysgu. Maent yn cefnogi ein huchelgais i weld pawb sy’n dysgu mewn ysgol neu leoliad yng Nghymru yn cael eu cefnogi i fwynhau defnyddio’r Gymraeg, i wneud cynnydd parhaus wrth ei dysgu ac i fod â’r hyder a’r sgiliau i allu dewis defnyddio’r iaith y tu hwnt i’r byd addysg.

Mae pob CSCA wedi bod yn weithredol ers mis Medi 2022. Maent yn cynnwys pwyslais clir ar gynyddu nifer y lleoliadau ysgol gynradd ar draws Cymru gydag ymrwymiadau i sefydlu 23 ysgol gynradd Gymraeg newydd ac i ehangu 25 ysgol gynradd Gymraeg dros y degawd nesaf. Mae adroddiadau adolygu blynyddol cyntaf CSCA yr awdurdodau lleol yn dangos bod y mwyafrif o awdurdodau lleol wedi gwneud cynnydd ar draws 7 deilliant y Cynllun, gyda sylw’n cael ei roi i osod seiliau cadarn i gefnogi’r cynnydd yn ystod oes y CSCA. Ers i'r CSCA newydd ddod yn weithredol yn 2022, mae 7 ysgol gynradd Gymraeg newydd wedi agor gyda 7 wedi cael eu hehangu i gynyddu eu capasiti. Yn ogystal, buddsoddwyd mewn gwelliannau eraill, i gefnogi darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a gofal plant, mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Cefnogwyd y datblygiadau hyn drwy’r grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg a thrwy fuddsoddiad ehangach y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae nifer o ddatblygiadau cyfalaf eraill wrthi’n cael eu gwireddu gan awdurdodau lleol mewn ymateb i’w hymrwymiadau yn y CSCA. Byddwn yn monitro cynnydd o leiaf 10 o’r datblygiadau hyn yn ystod 2024 i 2025. Bydd ein swyddogion CSCA yn parhau i weithio gyda’r awdurdodau gydol y flwyddyn i gynnig arweiniad a chymorth. 

Byddwn ni a’r awdurdodau lleol yn defnyddio ein Canllaw categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan o’r gwaith hwn. Bydd yn gymorth wrth gynnig mwy o eglurder ynghylch y cynnydd ieithyddol disgwyliedig a’r deilliannau i ddisgyblion yn ôl cyfrwng addysgu’r ysgol. Bydd hyn yn ei dro yn cefnogi rhieni i wneud penderfyniadau gwybodus am addysg eu plant. Bydd hefyd yn annog ac yn cefnogi pob ysgol i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg. Diwygiwyd y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar lefel Disgyblion (CYBLD) yn ystod 2023 i 2024 er mwyn adlewyrchu’r categorïau ysgol newydd. Bydd ysgolion yn defnyddio’r categorïau hyn am y tro cyntaf yn ystod 2024. 

Bydd arian cyfalaf cyfrwng Cymraeg yn parhau i gefnogi ymdrechion awdurdodau lleol i weithredu eu CSCA. Mae dros £128m o arian cyfalaf cyfrwng Cymraeg wedi’i gymeradwyo i gynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru ers 2018 gyda chynlluniau i ehangu’r gefnogaeth ariannol ymhellach yn ystod 2024 i 2025. Bydd y buddsoddiad yn galluogi mwy o ddysgwyr i ddod yn siaradwyr dwyieithog hyderus. 

Mae trochi hwyr yn rhan hollbwysig o’r darlun hwn ac rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi £6.6m tan ddiwedd tymor y Senedd hon i gefnogi darpariaeth trochi hwyr ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae dros 1,700 o ddysgwyr wedi elwa ar raglenni trochi hwyr ers i'r grant gychwyn yn 2021. Mae buddion y ddarpariaeth trochi hwyr wedi mynd y tu hwnt i wasanaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid, neu newydd-ddyfodiaid fel sy'n cael ei ddefnyddio yn aml, gyda dros 790 o ddysgwyr yn manteisio ar fethodolegau dysgu trochi i atgyfnerthu eu sgiliau Cymraeg, yn enwedig ar ôl COVID-19. Bydd y cyllid yn parhau i gefnogi darpariaethau sydd eisoes wedi'u sefydlu (canolfannau neu unedau) neu’n arwain at allu sefydlu darpariaethau trochi hwyr newydd. Byddwn yn parhau i gynnal ein rhwydwaith i gefnogi addysg drochi cyfrwng Cymraeg er mwyn rhoi cyfle i swyddogion ddod ynghyd ag athrawon trochi i godi ymwybyddiaeth o’r gwahanol ddarpariaethau, y datblygiadau diweddaraf a’r arferion gorau sydd ar waith ledled Cymru.

Byddwn yn parhau i ariannu prosiect e-sgol hefyd yn unol â ‘Chynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg’ er mwyn Cynyddu darpariaeth e-sgol fel ffordd o alluogi dysgwyr i fanteisio ar gwricwlwm ehangach drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel TGAU a Safon Uwch’. Byddwn yn parhau i drafod ag awdurdodau lleol er mwyn ymestyn y ddarpariaeth ledled Cymru er mwyn i fwy o blant nag erioed gael mynediad at bynciau a sesiynau astudio Cyrsiau Carlam Cymru diolch i’r prosiect arloesol hwn.

Dysgu Cymraeg ôl-16

Yn 2023, dynodwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan Weinidogion Cymru i ddarparu cyngor i'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ar ei ddyletswyddau statudol yn ymwneud â’r Gymraeg. Bydd gan y Comisiwn newydd gyfrifoldebau dros gyllido a rheoleiddio’r sector drydyddol a bydd disgwyl i'r Coleg gynghori ar yr ystod o gyfrifoldebau. Yn ystod 2024 i 2025, bydd y Coleg a’r Comisiwn yn cydweithio i sefydlu partneriaeth gref a fframwaith ar gyfer cynnig a derbyn cyngor a bydd disgwyl i'r Comisiwn roi ystyriaeth i gyngor y Coleg wrth iddo fynd ati i lunio’i Gynllun Strategol cyntaf yn ystod y flwyddyn.

Bydd y Coleg yn parhau i weithredu ei Gynllun Academaidd Addysg Uwch diweddaraf (2022), ac yn cydweithio â’r darparwyr i sicrhau bod myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer gradd yn cael mynediad at brofiadau dysgu cyfrwng Cymraeg fel rhan o’u cwrs. Ffocws y Coleg yn ystod 2024 i 2025 fydd ymestyn darpariaeth Cymraeg a dwyieithog i gynulleidfaoedd newydd, gan gynnwys y rheiny sy’n llai hyderus yn defnyddio’r iaith. Bydd y Coleg hefyd yn cynnal dau brosiect addysg gychwynnol athrawon i gefnogi ‘Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg’. 

Bydd y Coleg yn adeiladu ar y prosiectau strategol a gyflawnwyd eisoes i ddatblygu darpariaeth a chapasiti mewn colegau addysg bellach, er mwyn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. I gyflawni hyn, bydd y Coleg yn cydweithio â phartneriaid strategol a’r sector ôl-16, gan osod seilwaith gadarn yn ei le. 

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, bydd y Coleg yn parhau i dderbyn £2.825m yn ystod 2024 i 2025. Pwrpas y cyllid hwn yw cynnal y seilwaith a ddatblygwyd rhwng 2021 i 2024 gyda’r darparwyr addysg ôl-16 ac ymestyn cefnogaeth bwrpasol i’r sector prentisiaethau mewn partneriaeth â’r prif ddarparwyr yn y maes.

Yn y sector addysg bellach, y nod yw parhau i gryfhau a chefnogi’r ddarpariaeth yn y sectorau hamdden a chwaraeon, iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant, amaethyddiaeth, busnes a’r celfyddydau creadigol yn ogystal ag ymestyn y ddarpariaeth yn y sector adeiladwaith. 

Yn y sector prentisiaethau, bydd y Coleg yn parhau i gefnogi prosiectau strategol i ddatblygu capasiti a chynnal y ddarpariaeth ym meysydd iechyd a gofal, gofal plant a gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â datblygu isadeiledd i gefnogi twf y Gymraeg ar draws y rhwydwaith o ddarparwyr. Bwriad datblygu’r strwythur hwn yw galluogi mwy o ddysgwyr i siarad Cymraeg a bod yn siaradwyr dwyieithog hyderus ar gyfer y gweithle.

Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (y Ganolfan) yn parhau i adeiladu ar y diddordeb cynyddol sy’n bodoli i ddysgu Cymraeg, gan ddarparu ystod eang o gyrsiau i gynulleidfaoedd amrywiol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd yr arlwy hefyd yn cynnwys cyrsiau penodol i godi hyder siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith, a rhaglen o weithgareddau cefnogi dysgwyr i annog defnydd o’r Gymraeg gan gynnwys cynllun Siarad, sy’n cymhathu siaradwyr a dysgwyr. 

Fel rhan o’n Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, bydd y Ganolfan yn parhau i dderbyn £1.675m yn ystod 2024 i 2025 i ariannu cyfleoedd Dysgu Cymraeg am ddim sydd ar gael yn benodol i bobl ifanc 16 i 25 oed. Bydd yr arian hefyd yn ehangu’r gefnogaeth ar gyfer y sector addysg, gan sicrhau bod gweithwyr yn y sector yn cael mynediad at raglen Dysgu Cymraeg sy’n cynnig amrywiol gyrsiau ar bob lefel yn rhad ac am ddim.

Bydd y Ganolfan yn parhau i weithredu’r cynllun Cymraeg Gwaith, gan ddarparu cyrsiau sy’n amrywio o gyrsiau blasu hunan-astudio ar-lein i gyrsiau preswyl dwys. Bydd yn parhau i weithredu cynlluniau sectorol penodol gan gynnwys cynllun cenedlaethol iechyd a gofal. Yn ogystal â chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a'r defnydd ohoni, mae Cymraeg Gwaith hefyd yn caniatáu i gyrff ddarparu gwasanaethau Cymraeg gwell i'w defnyddwyr. Bydd y cynllun hefyd yn cyfrannu at ein hagenda i gynyddu cyfleoedd i bobl allu defnyddio’r Gymraeg mewn gweithleoedd. 

Bydd y Ganolfan yn parhau i redeg prosiect i gymell siaradwyr Cymraeg i ddychwelyd o’u prifysgolion i helpu i addysgu Cymraeg mewn ysgolion neu i fod yn diwtoriaid Dysgu Cymraeg. Bydd y Ganolfan yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector addysg i gynnig cwrs hyfforddi i fyfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn denu pobl ifanc i'r byd addysgu a'r sector Dysgu Cymraeg, ac yn helpu i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion.

Adnoddau addysgol

Mae Adnodd, y cwmni adnoddau newydd, bellach yn weithredol ers 1 Ebrill 2023 gyda’r Prif Weithredwr cyntaf yn ei swydd ym mis Ionawr 2024. Ynghyd â sefydlu strwythur staffio, bydd gwaith yn parhau i sefydlu gweithdrefnau newydd er mwyn dechrau comisiynu adnoddau addysgol newydd.

Bydd y cwmni’n sicrhau bod adnoddau addysgol Cymraeg a dwyieithog ar gael i gefnogi holl feysydd dysgu a phrofiad y Cwricwlwm i Gymru 3 i 19 oed. Bydd y gwaith yn arwain at greu adnoddau o ansawdd a chydraddoldeb yn y ddarpariaeth Gymraeg a Saesneg wrth i Adnodd gydweithio ar draws gwahanol sectorau i wneud y defnydd gorau o’r arbenigedd a’r gyllideb sydd ar gael yn genedlaethol.

Y gweithlu addysg 

Byddwn yn parhau i weithredu Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022 i gyd-fynd â chyfnod 10 mlynedd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae'r cynllun yn cynnwys nifer o gamau gweithredu sy’n gofyn am gydweithio rhwng nifer o randdeiliaid allweddol er mwyn gwireddu pedwar nod:

  • Cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu’r Gymraeg fel pwnc ac addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. 
  • Cynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n cefnogi dysgwyr.
  • Datblygu sgiliau Cymraeg pob ymarferydd a’i arbenigedd i addysgu’r Gymraeg ac i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. 
  • Meithrin gallu arweinwyr ysgolion cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod gan bob arweinydd y sgiliau sydd eu hangen i gynllunio datblygiad y Gymraeg yn strategol o fewn diwylliant o ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu.

Byddwn yn cyhoeddi dadansoddiad data wedi’i ddiweddaru yn ystod tymor yr haf, yn unol â’r ymrwymiad adeg cyhoeddi’r Cynllun. Bydd y Grŵp Gweithredu Allanol yn parhau i fonitro cynnydd wrth weithredu’r cynllun.

Thema 2: Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg

Mae ail brif nod ‘Cymraeg 2050’, sef dyblu’r niferoedd ohonom sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, wedi hen fagu ei blwyf erbyn hyn. Rydym wedi datgan yn glir y bydd cynyddu defnydd iaith wrth galon popeth a wnawn yng nghyd-destun ‘Cymraeg 2050’. Yn ystod 2024 i 2025, byddwn yn parhau i weithio ar draws y Llywodraeth a chydag amrywiol bartneriaid ledled Cymru i gynyddu’r defnydd o’n hiaith yn y cartref, ar lefel gymunedol a chymdeithasol, ar iard yr ysgol, mewn gweithleoedd, mewn busnesau ac yn ddigidol. Yn hyn o beth, yn unol â’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, byddwn yn parhau i gynnal a chreu rhagor o leoedd cyfrwng Cymraeg i greu siaradwyr newydd a chynyddu defnydd dyddiol o’n hiaith.

Cynllun Grant i Hybu a Hyrwyddo Defnydd o’r Gymraeg

Mae cyfraniad ein derbynwyr grant i’n gwaith i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn gwbl allweddol wrth i ni weithredu ‘Cymraeg 2050’. Mae’r rhwydwaith o fentrau iaith yn gweithio fel cynllunwyr ieithyddol lleol drwy fynd ati i ymateb i sefyllfa ac anghenion ieithyddol eu hardaloedd. Ers cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 o ran y Gymraeg, mae’r mentrau wedi bod yn diweddaru eu proffiliau iaith. Mae’r proffiliau hyn yn cynnwys storfa o ystadegau a gwybodaeth leol am sefyllfa’r Gymraeg ac yn cynnig cyfle gwirioneddol i ddatblygwyr polisi eu defnyddio i wneud penderfyniadau gwybodus am y Gymraeg. Byddwn yn parhau i gefnogi’r mentrau iaith i ddiweddaru ac ehangu’r sail dystiolaeth leol er mwyn eu cynorthwyo â’r gwaith o ddatblygu prosiectau law yn llaw â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae prosiect Dyblu’r Defnydd (mentrauiaith.cymru) a gafodd ei lansio’n ddiweddar gan y mentrau iaith yn cynnig cyfle i bobl ymhob rhan o Gymru a thu hwnt gyflwyno syniadau am sut y gellir mynd ati i greu cyfleoedd o’r newydd i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn storfa ddefnyddiol tu hwnt ac edrychwn ymlaen at gydweithio â’r mentrau ar y prosiect cyffrous hwn.

Byddwn yn parhau i gydweithio â’r Eisteddfod Genedlaethol eleni wrth iddynt baratoi i gynnal yr ŵyl yn sir Rhondda Cynon Taf. Mae’r brwdfrydedd o fewn y sir yn amlwg ac edrychwn ymlaen at y croeso arbennig a’r arlwy eang o weithgareddau a fydd yn ein disgwyl eto eleni. Mae cynllunio Eisteddfod yn brosiect cymunedol sy’n parhau am gyfnod o dair blynedd gan ddod â budd economaidd gwerthfawr i ardal, gan godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a chan gynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith am rai blynyddoedd cyn i’r ŵyl ymddangos a chan gynnig gwaddol gwerthfawr wedi hynny. 

Yn sgil cyhoeddi adroddiad ‘Adolygiad o Gynllun Grantiau Llywodraeth Cymru i Hybu a Hyrwyddo’r Defnydd o’r Gymraeg’ ym mis Mehefin 2023, byddwn yn mynd ati i ystyried yr opsiynau gorau ar gyfer sefydlu cynllun grant newydd i gefnogi nodau ‘Cymraeg 2050’.

Trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd

Mae’n Polisi Cenedlaethol ar Drosglwyddo’r Gymraeg a’i Defnydd mewn Teuluoedd yn canolbwyntio ar: 

  • Ysbrydoli plant a phobl ifanc i siarad Cymraeg gyda’u plant nhw yn y dyfodol.
  • Ailgynnau sgiliau Cymraeg pobl a allai fod heb ddefnyddio’r Gymraeg ers gadael yr ysgol, neu sy’n ddihyder eu sgiliau iaith, i siarad Cymraeg gyda’u plant eu hunain.
  • Cefnogi ac annog y defnydd o’r Gymraeg mewn teuluoedd lle nad yw pawb yn siarad Cymraeg.
  • Cefnogi teuluoedd Cymraeg eu hiaith i siarad Cymraeg gyda’u plant.

Yn 2023 i 2024, fe wnaethon ni gyhoeddi Cyfansoddiad cartrefi yng Nghymru o ran y Gymraeg (Cyfrifiad 2021). Mae’r adroddiad hwn yn dangos, ymhlith pethau eraill, bod 80.7% o blant tair i bedair oed, a oedd yn byw mewn cartrefi cwpwl lle roedd dau neu fwy o oedolion yn gallu siarad Cymraeg, yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn gyson, fwy neu lai, â 2011, pan oedd y gyfradd yn 82.2%. Yn ystod 2024 i 2025, byddwn ni’n defnyddio’r ystadegau hyn i hysbysu ymyraethau i gynyddu trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd. Bydd y rhain yn seiliedig ar ymchwil sy’n defnyddio gwyddor ymddygiadol. Mae ystadegau’n dangos yn glir bod defnyddio’r Gymraeg yn y cartref yn blentyn yn dylanwadu’n gryf ar amlder defnydd o’r Gymraeg pan yn hŷn.

Maes ieuenctid

Byddwn yn mynd ati i ddatblygu polisi newydd i gefnogi defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg gyda’r bwriad o’i gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn. Bydd ein ffocws ar bontio rhwng y byd addysg, y gymuned a’r teulu. Byddwn yn cydweithio’n helaeth ar draws y Llywodraeth a chyda rhanddeiliaid allanol gan gynnwys pobl ifanc i siapio’r gwaith hwn. 

Mae’r Siarter Iaith yn parhau i fod yn ymyrraeth allweddol o ran cynyddu defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg. Ers ehangu’r Siarter i fod yn rhaglen genedlaethol, mae’r byd o’n cwmpas wedi newid. Mae twf technoleg a’r maes digidol yn parhau i effeithio ar arferion ieithyddol ein plant a’n pobl ifanc a sut maent yn cymdeithasu. Credwn fod hyn oll, gan gynnwys cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, yn galw am ddiweddaru a datblygu’r Siarter ac felly’n ddiweddar, fe wnaethom lansio fframwaith genedlaethol newydd ar ei chyfer. Er mwyn parhau i ddatblygu’r Siarter, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i greu cyfres o ganllawiau cenedlaethol er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn arf arbennig i gynyddu defnydd iaith anffurfiol a chymdeithasol plant a phobl ifanc Cymru a hynny mewn ysgolion cynradd ac uwchradd o bob cyfrwng iaith. 

Fel un o’n partneriaid, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r Urdd dros y flwyddyn i ddod er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn parhau i dderbyn cyfleoedd amhrisiadwy i fwynhau a defnyddio’u Cymraeg. 

Byddwn hefyd yn parhau i ariannu’r Clybiau’r Ffermwyr Ifanc, ymysg partneriaid eraill, er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’u Cymraeg mewn bob math o gyd-destunau ym mhob cwr o’r wlad. Byddwn yn cydweithio’n agos â’r partneriaid hyn ac eraill yn y sector ieuenctid wrth ddatblygu’n polisi newydd i gefnogi defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog 

Yn ystod 2023 i 2024, daeth trydydd cohort rhaglen beilot Arwain Mewn Gwlad Ddwyieithog i ben. Mae hon yn rhaglen ar y cyd rhwng Is-adran Cymraeg 2050 ac Academi Wales. Mae’n rhoi cyfle i arweinwyr sefydliadau drafod sut mae ymgorffori ysbryd ‘Cymraeg 2050’ yn eu sefydliadau. Yn ystod 2024 i 2025, byddwn yn mynd ati i ddatblygu’r rhaglen fel bod mwy o arweinwyr y sector cyhoeddus a gwirfoddol yn gallu elwa ar ei mynychu.

Defnydd mewnol o’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru

Yn ystod 2024 i 2025, byddwn yn canolbwyntio ar barhau i wireddu amcanion strategaeth defnydd mewnol y Llywodraeth, 'Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd', er mwyn hwyluso rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg yn ein gweithle. Ein nod yw cefnogi’r sefydliad i weithredu fwyfwy drwy gyfrwng y Gymraeg a chynnig cyfleoedd i’n gweithlu ddysgu’r iaith, i ddatblygu eu sgiliau ac i ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith. 

Wrth i bum mlynedd gyntaf y strategaeth ddirwyn i ben, byddwn yn gwerthuso ein gweithgarwch yn erbyn y 10 cam gweithredu a nodwyd yn y strategaeth, ynghyd â’r graddau y gwnaeth Llywodraeth Cymru arwain drwy esiampl wrth hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg gan ei gweithlu yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn yn gosod amcan o’r newydd ar gyfer cyfnod 2025 i 2030, ynghyd â chamau gweithredu newydd. Rydym wedi ymrwymo yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru i arwain drwy esiampl, ac i gefnogi rhagor o gyrff a noddir, yr awdurdodau lleol a’r gwasanaeth sifil yng Nghymru i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Safonau’r Gymraeg

Byddwn yn parhau â’r gwaith i baratoi safonau i ddod â chyrff a sectorau newydd o dan drefn y safonau yn ystod 2024 i 2025, a hynny yn unol â’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Byddwn yn cyflwyno safonau ar gyfer cyrff cyhoeddus sydd y tu allan i’r drefn safonau ar hyn o bryd. Wedi hynny, byddwn yn ymgynghori ar safonau drafft ac yn paratoi i gyflwyno safonau ar gyfer cymdeithasau tai ac yn dechrau ar y gwaith o baratoi safonau ar gyfer cwmnïau rheilffyrdd. 

Byddwn hefyd yn ystyried Cod Ymarfer statudol drafft sydd wedi cael ei baratoi gan Gomisiynydd y Gymraeg i’r cyrff sy’n ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg yn y sector iechyd. Byddwn yn edrych i gydsynio’r Cod er mwyn i’r Comisiynydd allu dyroddi’r Cod i gyrff iechyd i’w cynorthwyo i gydymffurfio â safonau, a gwella’u gwasanaethau Cymraeg i ddefnyddwyr.

Thema 3: Creu amodau ffafriol, seilwaith a chyd-destun

Byddwn yn parhau i weithio mewn amrywiol feysydd er mwyn adeiladu seilwaith gadarn a fydd yn creu amodau ffafriol i’r Gymraeg ffynnu er mwyn i bawb gael cyfle i ddysgu’n hiaith ac i’w defnyddio.

Tai, iaith a gwaith

Rydym yn llwyr ymwybodol o’r amrywiol ffactorau a all effeithio ar hyfywedd ein cymunedau. Mae sefyllfaoedd pan fo nifer uchel o ail gartrefi mewn cymuned yn gallu effeithio’n niweidiol ar gynaladwyedd y gymuned honno. Gwelwn fod cysylltiad allweddol rhwng sylfaen economaidd ac argaeledd tai sy’n fforddiadwy â ffyniant y Gymraeg. 

Mae’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022, yn cynnig cyfle euraidd i dynnu polisïau sy’n gysylltiedig a thai, yr economi, datblygu economaidd a chynllunio ieithyddol ynghyd. Mae’n gyfle i ni gefnogi cynaladwyedd ein cymunedau Cymraeg drwy gyfrwng ystod eang o ymyraethau. Byddwn yn parhau i’w weithredu yn ystod 2024 i 2025. 

Un elfen ganolog o’r ‘Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg’ yw cefnogi pobl leol i barhau i allu byw yn eu cymunedau. I’r perwyl hwn, byddwn yn cyhoeddi Cynllun Cyfle Teg sy’n rhoi arweiniad i berchnogion eiddo ar sut y gallant gefnogi pobl leol wrth iddynt fynd ati i roi eu heiddo ar y farchnad. 

Bydd y ‘Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg’ yn parhau i weithio’n agos gyda’r cynllun Peilot Fforddiadwyedd ac Ail Gartrefi yn ardal Dwyfor. Mae’r peilot yn weithredol mewn ardal sydd â niferoedd uchel o ail gartrefi ac sydd hefyd yn gadarnle i’r iaith Gymraeg. Bydd y peilot yn parhau i weithredu cynlluniau mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol eraill sy’n gweithio yn ardal y peilot.

Mae cynllun grantiau bach Perthyn yn cynnig cefnogaeth ariannol gychwynnol i helpu grwpiau cymunedol ddatblygu’n fentrau cymdeithasol neu’n gynlluniau tai cydweithredol wedi’u harwain gan y gymuned. Mae’r ymateb i’r gronfa grant hon wedi bod yn gadarnhaol fel y cam cyntaf ar y llwybr i greu menter gymdeithasol i ddiwallu anghenion tai, economi a chymdeithasol y gymuned leol. 

Ail elfen prosiect Perthyn yw’r gwasanaeth cefnogi a chynghori arbenigol sy’n cael ei ddarparu gan Cwmpas ar ein rhan. Nod y cynllun hwn yw adnabod a chydweithio â chymunedau i ddarganfod cyfleoedd o’r newydd i sefydlu mentrau cymdeithasol neu gynlluniau tai cydweithredol wedi’u harwain gan y gymuned. Mae Cwmpas yn gweithio gyda rhanddeiliaid hynod brofiadol o ran eu gallu i adeiladu capasiti a grymuso cymunedol.

Byddwn yn parhau i gefnogi prosiect Perthyn yn ystod 2024 i 2025 gan sicrhau fod y Gymraeg yn rhan annatod o strwythur a gweledigaeth y mentrau newydd a gefnogir. Mae hyn yn cyd-fynd â’r nod yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, i gynnal a chreu rhagor o leoedd cyfrwng Cymraeg i greu siaradwyr newydd a chynyddu defnydd dyddiol o’n hiaith. 

Fe wnaethom gyhoeddi ein Cynllun Llysgenhadon Diwylliannol ar 1 Mawrth 2024 er mwyn cynnig cyfleoedd i unigolion a gweithwyr y diwydiannau lletygarwch a manwerthu gymhwyso i fod yn Llysgenhadon dros y Gymraeg a’n diwylliant. Rôl bwysig y Llysgenhadon yw cynrychioli’r gymuned leol gan hefyd hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant. 

Ym mis Hydref 2022, fe wnaeth Gweinidog yr Economi gyhoeddi cyllideb o £11m ar gyfer ail wedd Rhaglen ARFOR, cynllun sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Bydd Rhaglen ARFOR yn parhau i weithredu ystod eang o ffrydiau gwaith sy’n mynd i’r afael â heriau economaidd y rhanbarth. Mae cynlluniau fel y Gronfa Her, Llwyddo’n Lleol a Chymunedau Mentrus oll yn cynnig cyfleoedd i unigolion wireddu eu dyheadau o fewn y rhanbarth. Elfen greiddiol ARFOR yw sicrhau budd i’r Gymraeg gan gefnogi’r sail dystiolaeth a’n deallusrwydd o’r berthynas rhwng economi ac iaith. Bydd y Rhaglen gyfredol yn weithredol hyd at fis Mawrth 2025 a bydd yn cael ei gwerthuso’n annibynnol.

Bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn parhau â’i waith eleni gan gyflwyno ei adroddiad terfynol yn ystod yr haf. Bydd yn cynnig argymhellion polisi manwl gyda’r nod o geisio cynnal ein cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Y cam nesaf i’r Comisiwn wedi hynny fydd ystyried defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol mewn rhannau eraill o Gymru. 

Technoleg ddigidol 

Daw ein 'Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg' (2018) i ben ddiwedd y flwyddyn hon. Yn ystod 2024 i 2025, byddwn yn mynd ati i baratoi’r cynllun gweithredu nesaf. Wrth gyhoeddi adroddiad terfynol y Cynllun ar 20 Chwefror 2024, fe wnaethom lansio galwad am wybodaeth ar gyfer y Cynllun nesaf. Y nod yw deall mwy am ba dechnoleg nad yw ar gael ar hyn o bryd sydd ei hangen er mwyn helpu pobl i ddefnyddio’u Cymraeg mewn mwy o sefyllfaoedd, heb fod angen iddynt ofyn i gael gwneud hynny. 

Rydym yn rhagweld y bydd rhai o themâu’r Cynllun gwreiddiol yn parhau i fod yn berthnasol, fel deallusrwydd artiffisial (AI). Roedd y Cynllun gwreiddiol yn rhagweld pwysigrwydd AI yn 2018 ac wrth ariannu adnoddau yn y maes bryd hynny, mae’r Gymraeg yn fwy parod am y datblygiadau sydd nawr yn digwydd ym myd deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (generative AI). Gyda nawdd grant Llywodraeth Cymru, mae Prifysgol Bangor bellach yn gweithio gyda'r cwmni y tu ôl i ChatGPT, OpenAI, i wella sut mae eu sgwrsfot mwyaf pwerus, GPT-4 (openai.com, Saesneg yn Unig), yn prosesu'r Gymraeg. 

Rhaid hefyd sicrhau bod yr adnoddau yr ydym wedi’u creu hyd yma yn gynaliadwy at y dyfodol a bod modd eu diweddaru a'u haddasu. Er enghraifft, bydd Cysgliad yn parhau i fod ar gael yn rhad ac am ddim i sefydliadau a chanddynt lai na deg aelod o staff, ac i’r holl sector addysg a’r trydydd sector. Ddiwedd 2023, roedd 12,586 wedi ei lawrlwytho.

Rydym wedi cydweithio gyda Microsoft i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd Teams wedi’u trefnu, sy’n rhad ac am ddim i ddefnyddwyr sydd â thrwydded Teams. Rydym yn parhau i weithio gyda Microsoft i wella’r cyfleuster hwn, gyda’r gobaith y bydd hyn yn arwain at greu mwy o adnoddau newydd i ieithoedd ledled y byd ar sail ein gwaith yng Nghymru.

Rydym wedi ariannu 16 llais cyfathrebu estynedig ac amgen (augmentative and alternative communication/AAC) ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n dibynnu ar dechnoleg i gyfathrebu. Mae’r rhain yn cynnwys lleisiau ag acenion gogleddol a deheuol ar gyfer bechgyn a merched ifanc ac yn eu harddegau. Bydd y lleisiau hyn yn parhau i fod ar gael drwy’r Ganolfan Genedlaethol Technoleg Gynorthwyol Electronig sy’n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ledled Cymru i ddarparu offer i wella ansawdd bywyd ac annibyniaeth pobl â chyflyrau sy'n effeithio ar eu mynediad at weithgareddau bob dydd, gan gynnwys cyfathrebu.

Mae’r rhain, fel pob cydran technoleg iaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei hariannu, yn cael eu rhyddhau am ddim o dan drwydded agored addas i unrhyw un eu defnyddio, eu hailddefnyddio a/neu i’w cynnwys yn eu cynnyrch nhw. Bydd yr athroniaeth hon yn parhau i fod yn hollbwysig wrth i ni ddrafftio Cynllun newydd ar gyfer technoleg iaith Gymraeg.

Seilwaith ieithyddol 

Byddwn yn mynd ati i weithredu camau cychwynnol ein 'Polisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg', a gyhoeddwyd y llynedd. Mae’r polisi yn amlinellu sut fyddwn ni’n mynd ati i ddatblygu strwythur mwy strategol a chyd-gysylltiedig i gynnal a datblygu seilwaith ieithyddol y Gymraeg. Y nod yn y pen draw yw ei gwneud yn haws i bawb wybod ble i droi wrth chwilio am gefnogaeth wrth ddefnyddio’r Gymraeg er mwyn rhoi hyder i bob un ddefnyddio’r iaith yn ddirwystr.

Byddwn yn parhau â’r gwaith o hyrwyddo a marchnata’r adnoddau sydd eisoes yn bodoli drwy lansio gwefan newydd er mwyn helpu pobl i ganfod geiriau a thermau Cymraeg, yn ogystal ag adnoddau corpws a gwybodaeth am enwau lleoedd Cymraeg. Byddwn yn parhau i gynnal cyfarfodydd o Banel Safoni’r Gymraeg, gan gyhoeddi penderfyniadau cyntaf y Panel mewn perthynas â materion orgraffyddol yn ddiweddarach eleni. Byddwn hefyd yn parhau i drafod â phartneriaid gyda’r nod o ganfod ffordd o safoni termau sy’n codi’n ddirybudd ac sydd eu hangen ar frys.

Enwau lleoedd Cymraeg 

Byddwn yn parhau i gydweithio’n eang yn y maes hwn ar draws y Llywodraeth a chyda rhanddeiliaid allanol, yn unol â’n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Byddwn yn parhau i weithredu’r camau cychwynnol a nodwyd yn y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg ac a ategwyd gan ein 'polisi seilwaith ieithyddol y Gymraeg'. Ymhlith y pwysicaf o’r rhain yw, pan ddaw i law, gweithredu ar sail yr ymchwil a gomisiynwyd i ddysgu mwy am sut, pam a lle mae enwau lleoedd yn newid, i'n galluogi i ddatblygu ymyraethau polisi wedi'u targedu.

Byddwn yn parhau i feithrin y cysylltiadau a sefydlwyd drwy’r Fforwm Sirol Enwau Lleoedd, gyda’r nod o rannu gwybodaeth a:

  • Chanfod bylchau yn y ffordd o ymdrin ag enwau lleoedd, a chyfleoedd i gydweithio.
  • Cefnogi ein gilydd i geisio canfod datrysiadau ymarferol i atal enwau Cymraeg rhag cael eu disodli.
  • Rhannu arferion da, fel bod enghreifftiau o’r hyn sy’n gweithio mewn un sefydliad yn gallu cael eu mabwysiadu, lle bo’n briodol, mewn sefydliad arall.

Byddwn hefyd yn datblygu canllawiau er mwyn rhoi arweiniad i sefydliadau ar sut i ymdrin ag enwau lleoedd Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn cyhoeddiadau ar y we. Bydd hyn yn awgrymu ffyrdd o gyfeirio at enwau lleoedd Cymraeg mewn ffordd briodol drwy’r Gymraeg a’r Saesneg. 

Cymru a’r byd ehangach

Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r Gymraeg ar y llwyfan rhyngwladol. Bydd hyn yn cynnwys chwarae rôl arweiniol mewn rhwydweithiau rhyngwladol ar gynllunio ieithyddol megis y Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol (NPLD), y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a Degawd Ieithoedd Brodorol 2022 i 2032 UNESCO. Bydd hefyd yn golygu parhau i weithredu amrywiol raglenni gwaith a Chytundebau Cyd-ddealltwriaeth gyda rhanbarthau a gwledydd ledled y byd er enghraifft Cernyw, Llydaw ac Iwerddon.

Byddwn yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd y Gymraeg a’n dwyieithrwydd wrth i ni hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol fel rhan o’n 'strategaeth ryngwladol'. Byddwn yn rhan o’r gwaith o drefnu blwyddyn 'Cymru yn India' Llywodraeth Cymru yn ystod 2024 er mwyn gwneud yn siŵr bod y Gymraeg wedi’i gwreiddio ar draws yr ymgyrch ac i feithrin cysylltiadau ag ieithoedd lleiafrifol y wlad. 

Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio â’r Urdd ar Neges Heddwch ac Ewyllys Da Cymru 2024, thema eleni fydd Heddwch.

Y Gymraeg a chydraddoldeb

Mae creu Cymru sy’n fwy cyfartal yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Byddwn felly’n parhau i weithio ar draws y Llywodraeth, a thu hwnt, er mwyn gwireddu’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn ein hamrywiol gynlluniau gweithredu yn y maes cyfiawnder cymdeithasol.

Mae 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliola gyhoeddwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru yn cynnwys nifer o gamau gweithredu a fydd yn sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb hil ac ethnigrwydd yn dod yn rhan fwy canolog fyth o’n gwaith, gan gynnwys mynediad at yr iaith. Bydd cyfres o gamau gweithredu newydd yn cael eu pennu maes o law ar gyfer 2024 i 2025.

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddau gategori o waith, sicrhau bod lleisiau siaradwyr Cymraeg sy’n perthyn i gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu clywed a bod y rheiny nad ydynt yn gyfarwydd â’r iaith yn dod i deimlo bod y Gymraeg ar gael iddyn nhw, boed yn y system addysg, yn y gweithle neu yn y gymuned. Fel rhan o hyn, byddwn hefyd yn parhau i sicrhau bod yr agenda gwrth-hiliaeth yn cael ei mabwysiadu’n drylwyr yn holl waith ein partneriaid sy’n gweithio gyda ni i weithredu ‘Cymraeg 2050’.

Bydd Is-grŵp Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth Cyngor Partneriaeth y Gymraeg yn parhau i chware rôl allweddol gyda’n gwaith yn y maes hwn. Bydd eu ffocws yn ehangu i edrych ar ddau faes cydraddoldeb arall a’r Gymraeg sef y gymuned LHDTC+ a phobl anabl.

Byddwn yn parhau i gydweithio â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i roi cyfleoedd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddysgu Cymraeg ar gyrsiau drwy eu cynllun Croeso i Bawb. Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd i ddysgu Cymraeg y tu hwnt i’r Saesneg, drwy ieithoedd megis Cantoneg, Arabeg Syria, Farsi, Pashto ac Wcreineg.

Cyhoeddwyd 'Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymruddechrau mis Chwefror 2023. Mae’r Cynllun yn cynnwys sawl cam gweithredu sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac rydym wedi ymrwymo i wreiddio ethos y Cynllun drwy’n holl waith. Yn yr un modd, byddwn yn barod i ymateb i ddatblygiadau eraill yn y maes polisi cyfiawnder cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn.

Darlledu

Yn ystod 2024 i 2025, byddwn yn gweithio’n unol ag ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion a wneir yn adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddarlledu, ynghyd â rhoi ar waith ymrwymiadau ehangach ym maes y cyfryngau a nodir yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Byddwn yn defnyddio cyllideb y Cytundeb Cydweithio ar gyfer darlledu, ar gyfer cynnwys Cymraeg ac er mwyn i’r cyfryngau gefnogi prosiectau newyddiaduraeth a darlledu wedi’u targedu yn ystod y flwyddyn ariannol. Byddwn yn parhau gyda’n gwaith i gefnogi cynyrchiadau Cymraeg a thwf yr iaith drwy ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ag S4C, gan adeiladu ar gynyrchiadau a ariennir gan Gymru Greadigol megis Creisis, Tŷ Gwyrdd a Cleddau a fydd yn cael eu darlledu eleni.

Diwylliant

Yn ystod 2024 i 2025, byddwn yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma i ddatblygu ein strategaeth ddiwylliant a fydd yn amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol a chynhwysfawr ar gyfer y sector diwylliant yng Nghymru, yn unol â’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Bydd y strategaeth yn gosod cyfeiriad strategol ar gyfer y sector hyd at 2030. 

Mae’r cyrff hyd braich diwylliannol, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn gwneud cyfraniad pwysig i gefnogi ymrwymiadau ‘Cymraeg 2050’. Byddant yn parhau i wneud hyn yn ystod 2024 i 2025 er gwaethaf yr heriau ariannol sylweddol sy’n eu hwynebu.

Ymchwil ac ystadegau

Byddwn yn parhau i ehangu ar ein sail dystiolaeth fel sylfaen i weithredu ‘Cymraeg 2050’. Byddwn yn defnyddio ein Fframwaith Ymchwil a Gwerthuso i lywio ein gwaith ymchwil a dadansoddi, ac hefyd wrth i ni ymgysylltu â chyrff a sefydliadau eraill sy’n cynnal ymchwil. 

Byddwn yn parhau i weithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coleg Crist Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol yr Ucheldir a’r Ynysoedd i gyflawni arolwg Bro, sef arolwg sosio-ieithyddol cynhwysfawr o’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd. Mae arolwg Bro yn seiliedig ar y gwaith dadansoddi manwl a wnaed gan Conchúr Ó Giollagáin ac eraill mewn cymunedau lle mae Gaeleg yr Alban yn iaith gymunedol. Bwriad arolwg Bro fydd rhoi gwell sail dystiolaeth o sefyllfa’r Gymraeg yn ein cymunedau er mwyn ategu ein dealltwriaeth o’r ymyraethau polisi sydd eu hangen er mwyn diogelu’r cymunedau hynny.

Bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn parhau â’i dadansoddiad sosio-ieithyddol o sefyllfa'r iaith yn ein cymunedau Cymraeg gan ddatblygu model i gynorthwyo datblygwyr polisi ar faterion sy’n gysylltiedig â hyfywedd yr iaith. 

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 am y Gymraeg ym mis Rhagfyr 2022, rydym wedi cyhoeddi dadansoddiadau pellach o ddata Cyfrifiad 2021, gan gynnwys am drosglwyddo’r Gymraeg, ac am allu yn y Gymraeg mewn grwpiau gwahanol o’r boblogaeth

Rydym hefyd wedi cyhoeddi cynllun gwaith ar y cyd â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn gwella’n dealltwriaeth ni o’r arolygon a’r prif ffynonellau data gweinyddol am y Gymraeg. Mae cyhoeddiad cyntaf y cynllun gwaith hwn bellach ar gael, gan edrych ar y gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ac arolygon aelwydydd. Byddwn yn parhau â’r cynllun gwaith hwn yn ystod 2024 i 2025, gan barhau i gydweithio â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth iddyn nhw drawsffurfio ystadegau am y boblogaeth er mwyn sicrhau dyfodol i ystadegau am y Gymraeg. Byddwn yn defnyddio data Cyfrifiad 2021 a’r data diweddaraf am boblogaeth Cymru i ddiweddaru’r llwybr ystadegol i’r miliwn.