Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Ym mis Gorffennaf 2017, fe wnaethom gyhoeddi Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr. Cyhoeddwyd ail Raglen Waith y strategaeth ym mis Gorffennaf 2021 yn amlinellu ein gwaith rhwng 2021 a 2026. 

Mae adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu blynyddol yn egluro sut byddant yn gweithredu'r cynigion a amlinellir yn eu strategaeth iaith yn ystod pob blwyddyn ariannol. Dyma'r cynllun gweithredu ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027.

Wrth gyhoeddi'r Cynllun hwn ar gyfer 2026 i 2027, rhaid i ni gydnabod bod tymor y Senedd hon yn dirwyn i ben. Felly, cyflwynir y camau gweithredu yn y Cynllun hwn fel parhad o Gynllun Gweithredu 2025 i 2026. Mater i'r Llywodraeth nesaf fydd gosod blaenoriaethau newydd fel y gwêl yn dda fel rhan o strategaeth 'Cymraeg 2050' wedi'i diweddaru a fydd yn cael ei datblygu mewn ymateb i Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025.

Cefndir

Mae strategaeth 'Cymraeg 2050' yn cynnwys dau brif darged:

  • Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
  • Canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy'n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013 i 2015) i o 20% erbyn 2050.

Mae'r targedau hyn yn darparu naratif clir i ni i gyd yng Nghymru, mewn Llywodraeth, yn y sector cyhoeddus ac fel dinasyddion: mae'r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol. Yn ogystal â hyn, mae'r cyfan a wnawn o dan y Cynllun hwn yn cwmpasu llythyren ac ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn benodol: “Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu”.

Mae 'Cymraeg 2050' yn seiliedig ar dair thema strategol:

  1. Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
  2. Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.
  3. Creu amodau ffafriol: seilwaith a chyd-destun.

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar yr egwyddorion hyn wrth i ni weithio ar draws meysydd polisi'r Llywodraeth, gan roi sylw penodol eleni i'r canlynol:

  • Pwysigrwydd sicrhau mai'r Gymraeg yw'r brif iaith a siaredir mewn cymunedau ledled Cymru o hyd drwy weithredu argymhellion dau gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
  • Gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, ac yn benodol, ymgynghori ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg, Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, a'r Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg.
  • Parhau i gynyddu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â Chynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. 
  • Parhau i gefnogi awdurdodau lleol i ehangu eu cynnig trochi hwyr, er mwyn caniatáu i fwy o ddysgwyr ddod yn siaradwyr Cymraeg drwy’r system addysg cyfrwng Gymraeg.
  • Gwella cyrhaeddiad disgyblion sy'n astudio'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. 
  • Creu dinasyddion dwyieithog drwy gynnig cyfleoedd i bawb o bob oed ddysgu Cymraeg a'i defnyddio'n rheolaidd. 
  • Parhau i ddadansoddi amrywiaeth o ffynonellau data i ddeall sut mae gallu yn y Gymraeg yn amrywio ymysg grwpiau poblogaeth.
  • Parhau â'n gwaith i gynyddu faint o dechnoleg Gymraeg sydd ar gael, ac i alluogi mynediad hawdd at hyn i bawb. 
  • Parhau i ganolbwyntio ar drosglwyddo'r Gymraeg yn y cartref a sicrhau cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar a'r Cynnig Gofal Plant.
  • Datblygu'r gweithlu cyfrwng Cymraeg, yn enwedig mewn addysg a'r blynyddoedd cynnar. 
  • Parhau â rhaglen Safonau'r Gymraeg.
  • Parhau i brif ffrydio 'Cymraeg 2050' ym mhob un o bortffolios y Llywodraeth.
  • Ymateb i ganfyddiadau'r gwerthusiad annibynnol o'r 'Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg'.
  • Parhau i gyflwyno cynllun Perthyn ledled Cymru.
  • Parhau i gefnogi partneriaid sy'n cynnal digwyddiadau ac yn creu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn ddiamod.
  • Parhau i gymryd camau i warchod enwau lleoedd Cymraeg.
  • Parhau i gefnogi Comisiynydd y Gymraeg, yn enwedig o ran diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg a chynyddu'r defnydd o wasanaethau Cymraeg.

Meysydd gwaith

Thema 1: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

Mae creu dinasyddion dwyieithog sy'n gallu defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn hyderus wrth wraidd 'Cymraeg 2050'. Rydym am i bobl fod â'r gallu a'r cymhelliant i ddefnyddio eu Cymraeg yn y gymuned, yn y gweithle ac yn eu bywydau bob dydd. Felly, byddwn yn parhau i sicrhau bod darpariaeth addysg amrywiol ar gael ar draws pob cyfnod dysgu, o'r blynyddoedd cynnar, addysg statudol ac addysg ôl-orfodol, yn y gweithle ac yn y gymuned. Yn hyn o beth, mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 wedi pennu cyfeiriad clir a chadarn mewn perthynas â sut rydym yn bwriadu gwella cyrhaeddiad plant a phobl ifanc o ran sgiliau Cymraeg yn y system addysg. Agwedd allweddol ar ein gwaith i weithredu'r Ddeddf fydd hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ar draws pob cyfnod dysgu.

Y blynyddoedd cynnar

Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partner allweddol, Mudiad Meithrin, yn 2026 i 2027 i ehangu darpariaeth feithrin cyfrwng Cymraeg ledled Cymru fel pwynt mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg i gynifer o blant â phosibl. Mae hyn yn parhau i fod yn un o'n prif flaenoriaethau.

Byddwn yn parhau i ariannu Mudiad Meithrin i sefydlu ac ehangu darpariaethau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg fel rhan o'r rhaglen Sefydlu a Symud (SAS). Mae'r rhaglen yn parhau i weithio tuag at y targed a bennwyd yn 'Cymraeg 2050' i sefydlu 150 o ddarpariaethau blynyddoedd cynnar newydd dros gyfnod o 10 mlynedd. Mae SAS eisoes wedi agor neu ehangu 101 o ddarpariaethau, gydag 11 prosiect arall ar y gweill ar hyn o bryd.

Mae datblygu gweithlu'r blynyddoedd cynnar yn hanfodol i gefnogi'r maes hwn drwy raglenni fel cynllun Cam wrth Gam Mudiad Meithrin. Yn dilyn proses grant gystadleuol, mae Mudiad Meithrin wedi cael y tendr i barhau i ddarparu hyfforddiant mewn cymwysterau gofal plant cyfrwng Cymraeg ar lefelau 3 a 5 am gyfnod o 3 blynedd o 2026 i 2027.

Bydd gwaith i ehangu a chryfhau darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg drwy raglen Dechrau'n Deg yn parhau yn ystod 2026 i 2027. Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg pob awdurdod lleol yn cydnabod rôl y rhaglen Dechrau'n Deg wrth iddynt gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac mae targedau wedi'u cynnwys i gynyddu'r ddarpariaeth drwy gydol cyfnod y Cynlluniau Strategol hyn.

Bydd y rhaglen Cymraeg i Blant yn parhau i gefnogi rhieni i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'u plant yn ystod y blynyddoedd cynnar, ac i hyrwyddo manteision gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg.

Byddwn yn parhau i weithredu ein Polisi Cenedlaethol ar Drosglwyddo'r Gymraeg a'i Defnydd mewn Teuluoedd.

Addysg statudol

Rhoi Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 ar waith

Cafodd Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 ei phasio gan y Senedd ym mis Mai a chafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf 2025. Mae'r Ddeddf wedi'i chynllunio i roi cyfle teg i bob plentyn ac oedolyn ddysgu a defnyddio'r Gymraeg. Prif nod y Ddeddf yw sicrhau, erbyn 2050, bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol a hyderus, o leiaf.

Mae'r Ddeddf yn darparu sail statudol ar gyfer targed ‘Cymraeg 2050’ ac yn sicrhau bod targedau clir o ran cynllunio'r Gymraeg yn cael eu pennu'n Genedlaethol, yn lleol ac ar lefel ysgolion. Mae'r Ddeddf yn sefydlu dull newydd i bobl o bob oed ddisgrifio eu gallu yn y Gymraeg yn seiliedig ar y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd (CEFR). Bydd gan bob ysgol nod dysgu Cymraeg i anelu tuag ato, a bydd y nod dysgu yn cyfateb i lefelau'r CEFR sy'n briodol i gategori iaith yr ysgol. Bydd corff statudol, yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol (yr Athrofa), yn cael ei sefydlu erbyn mis Awst 2027. Bydd yn cydlynu'r cymorth i ddysgu Cymraeg ar draws y system addysg, y gweithle a'r gymuned, gan ddarparu hyfforddiant, adnoddau a chymorth i'r gweithlu a dysgwyr o bob oed. 

Yn 2026 i 2027, bydd bwrdd rhaglen weithredu'r Ddeddf, a sefydlwyd yn ystod hydref 2025, yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni agweddau allweddol ar y Ddeddf, gan gynnwys:

  • paratoi ar gyfer ymgynghoriad yn ystod hydref 2026 ar strategaeth ddiwygiedig ‘Cymraeg 2050’, Fframwaith Cenedlaethol drafft ar gyfer Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg ac ar God drafft i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg
  • rhaglen o ymgysylltu mewnol ac allanol i godi ymwybyddiaeth o ddarpariaethau'r Ddeddf a chasglu gwybodaeth am y cymorth sydd ei angen ar ysgolion, awdurdodau lleol, gweithleoedd a phartneriaid eraill i gyflawni nodau'r Ddeddf
  • gweithio gyda Llinos Roberts, Cadeirydd yr Athrofa o fis Ebrill 2026 ymlaen, i benodi aelodau'r bwrdd a sicrhau bod paratoadau'n cael eu gwneud ar gyfer sefydlu'r Athrofa

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yw'r sail ar gyfer cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Eu nod yw cynyddu mynediad at ddysgu Cymraeg ar draws pob categori ysgol ym mhob rhan o Gymru, ni waeth beth yw'r cyfrwng dysgu. Maent yn cefnogi ein huchelgais o weld pawb sy'n dysgu mewn ysgol neu leoliad yng Nghymru yn cael eu cefnogi i fwynhau defnyddio'r Gymraeg, i wneud cynnydd parhaus wrth ei dysgu, ac i gael yr hyder a'r sgiliau i allu dewis defnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i leoliadau addysgol.

Mae pob Cynllun Strategol wedi bod ar waith ers mis Medi 2022. Maent yn cynnwys pwyslais clir ar gynyddu nifer y lleoliadau ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Maent yn ymrwymo i sefydlu 23 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd ac ehangu 25 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg erbyn 2032.

Bydd y Cynlluniau Strategol cyfredol, a baratowyd o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, yn parhau i fod ar waith nes bod darpariaethau Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 ynghylch Cynlluniau Strategol Lleol Cymraeg mewn Addysg yn cael eu cychwyn. Bydd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg a gynhelir yn 2026 i 2027 yn cynnwys targedau arfaethedig ar gyfer awdurdodau lleol a fydd yn sail i'w Cynlluniau Strategol Lleol Cymraeg mewn Addysg newydd a fydd yn weithredol erbyn mis Medi 2030.

Yn 2026 i 2027 byddwn yn parhau i gefnogi gweithrediad y Cynlluniau Strategol cyfredol drwy'r cyllid grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg a thrwy fuddsoddiad ehangach y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Y gyllideb arfaethedig ar gyfer y Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg yw £15m y flwyddyn dros y 3 blynedd nesaf (2026 a 2027 i 2028 a 2029) ond mae'n parhau i fod yn amodol ar y gyllideb sydd ar gael a'r blaenoriaethau presennol.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion i newid eu categori iaith dros y flwyddyn nesaf. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi rhoi blaenoriaeth i symud ysgolion ar hyd continwwm ieithyddol fel eu prif ddull o gyflawni targed y Cynlluniau Strategol hyn, mae ymrwymiadau wedi eu gwneud i newid categori 42 o ysgolion ledled Cymru dros gyfnod y Cynlluniau.

Mae'r gallu i ddarparu pwynt mynediad hwyrach na'r cyfnod sylfaen i ddysgwyr sydd am gael addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan allweddol o'r darlun hwn. Dyma beth mae addysg drochi hwyr yn ei gynnig. Mae'r ddarpariaeth yn cefnogi dysgwyr i ymgymryd â chyfnod dwys o gaffael iaith er mwyn i'w haddysg allu parhau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae dros 11,000 o ddysgwyr wedi elwa o raglenni trochi hwyr ers i'r grant ddechrau yn 2021, gyda bron i hanner ohonynt yn gwbl newydd i'r iaith.

Mae cyllid trochi hwyr bellach yn rhan o'r Grant Addysg Awdurdodau Lleol. Bydd y cyllid yn parhau i gefnogi darpariaeth sydd eisoes wedi'i sefydlu (canolfannau neu unedau) neu bydd yn arwain at sefydlu darpariaeth trochi hwyr newydd.

Byddwn yn parhau i gynnal ein rhwydwaith i gefnogi addysg drochi cyfrwng Cymraeg er mwyn rhoi cyfle i swyddogion gysylltu ag athrawon trochi, er mwyn iddynt allu codi ymwybyddiaeth o'r gwahanol ddarpariaethau sydd ar gael, y datblygiadau diweddaraf a'r arferion gorau a ddefnyddir ledled Cymru.

Er mwyn galluogi dysgwyr i gael mynediad at gwricwlwm ehangach drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel TGAU a Safon Uwch, byddwn yn parhau i ariannu'r prosiect e-sgol, gan adeiladu ar yr 16 o ysgolion ychwanegol a gymerodd ran yn 2025 i 2026.

Mae'r 'Cyrsiau Carlam' a gyflwynwyd drwy brosiect e-sgol, yn gyfres o adnoddau digidol drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg i gefnogi disgyblion ym mlynyddoedd 11, 12 a 13 ledled Cymru. Bydd sesiynau adolygu Carlam yn parhau i gael eu cynnig yn 2026 i 2027, gan adeiladu ar y 1,000 a mwy o fideos adolygu sydd wedi cael eu gwylio dros 130,000 o weithiau. Mae'r fideos bellach ar gael drwy ap Carlam Cymru.

Bydd darpariaeth gynradd e-sgol yn parhau i ehangu yn ystod 2026 i 2027. Mae amrywiaeth o wahanol brosiectau a darpariaeth wedi cael eu datblygu, gan gynnwys cynnig sesiynau ieithoedd rhyngwladol ac ysgrifennu creadigol i ddisgyblion mwy abl.

Addysg Drydyddol

Mae Medr yn gyfrifol am ariannu a rheoleiddio'r sector trydyddol, ac mae Gweinidogion Cymru wedi dynodi'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynghori Medr ar ei ystod o gyfrifoldebau.

Yn ystod 2026 i 2027 bydd Medr yn parhau i fuddsoddi i gynyddu a gwella cyfleoedd dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, fel bod mwy o bobl ifanc yn cael eu hannog i fanteisio ar y cyfleoedd dysgu Cymraeg pan fyddant yn gadael yr ysgol. Bydd Medr yn gweithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, darparwyr addysg drydyddol, a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu ei Gynllun Cenedlaethol newydd ar gyfer y Gymraeg ac i sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gael sy'n diwallu anghenion dysgwyr ac sy'n adlewyrchu anghenion economaidd a chymdeithasol Cymru.

Bydd y Coleg yn parhau i weithredu ei Gynllun Academaidd Addysg Uwch diweddaraf (2022), yn ogystal â gweithio gyda'r darparwyr i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael ar brofiadau dysgu cyfrwng Cymraeg fel rhan o'u hastudiaethau. Bydd y Coleg yn parhau i ddyfarnu ystod o grantiau pwnc i gynnal ac ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch, yn ogystal â grantiau cymhelliant sydd â'r nod o gynorthwyo darparwyr i greu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd.

Bydd cynllun ysgoloriaethau israddedig y Coleg yn cefnogi myfyrwyr sy'n astudio eu cwrs cyfan, neu ran o'u cwrs, drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y Coleg hefyd yn parhau i gynnig ei Gynllun Ysgoloriaeth Ymchwil ar gyfer darpar academyddion sy'n astudio ar gyfer doethuriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau, bydd y Coleg yn parhau i sbarduno mentrau i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws dysgu galwedigaethol. Mae hyn yn cynnwys datblygu darpariaeth a chapasiti yn y sectorau hyn a sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu a defnyddio'r Gymraeg mewn addysg ac yn y gweithle.

Bydd y Coleg yn adeiladu ar brosiectau strategol sydd eisoes wedi eu cwblhau i ddatblygu darpariaeth a chapasiti mewn colegau addysg bellach, gan ymestyn cyfleoedd i ddysgwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Coleg yn gweithio gyda phartneriaid strategol a'r sector ôl-16 gan sefydlu seilwaith cadarn.

Yn y sector addysg bellach, bydd y Coleg yn parhau i gryfhau a chefnogi'r ddarpariaeth mewn meysydd blaenoriaeth fel Iechyd a Gofal, Gofal Plant, Adeiladu, Gwasanaethau Cyhoeddus, Chwaraeon ac Astudiaethau'r Tir.

Yn y sector prentisiaethau, bydd y Coleg yn parhau i gefnogi prosiectau strategol i ddatblygu capasiti a chynnal darpariaeth yn y sectorau iechyd a gofal, gofal plant a gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â datblygu seilwaith i gefnogi twf y Gymraeg ar draws y rhwydwaith darparwyr. Wrth ddatblygu'r strwythur hwn, y bwriad yw galluogi mwy o ddysgwyr i siarad Cymraeg a dod yn siaradwyr dwyieithog hyderus yn y gweithle.

Bydd y Coleg yn cefnogi gweithgareddau i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau, recriwtio llysgenhadon ar draws colegau a darparwyr prentisiaethau, a gweithredu cynlluniau hyfforddi a mentora staff.

Darpariaeth Dysgu Cymraeg

Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (y Ganolfan) yn parhau i adeiladu ar y diddordeb cynyddol mewn dysgu Cymraeg, gan ddarparu amrywiaeth eang o gyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb i gynulleidfaoedd amrywiol. Bydd y ddarpariaeth hefyd yn cynnwys cyrsiau penodol i feithrin hyder siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith, a rhaglen o weithgareddau cefnogi dysgwyr i annog y defnydd o'r Gymraeg, fel cynllun Siarad, sy'n hyrwyddo dod â siaradwyr Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd.

Yn ystod 2026 i 2027, bydd y Ganolfan yn parhau i ddarparu cymorth i weithlu'r sector addysg statudol, gan sicrhau bod gweithwyr yn gallu cael mynediad at raglen Dysgu Cymraeg sy'n cynnig cyrsiau amrywiol ar bob lefel yn rhad ac am ddim. Cynigir cyrsiau i ddiwallu anghenion ysgolion a chlystyrau penodol, yn ogystal â chyrsiau penodol ar gyfer Penaethiaid ac Uwch Arweinwyr ysgolion. Yn ystod 2026 i 2027, bydd y Ganolfan yn parhau i reoli'r Cynllun Sabothol, sy'n darparu cyrsiau dwys i ymarferwyr addysg gyda'r nod o gynyddu nifer yr ymarferwyr sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.

Bydd y Ganolfan yn parhau i flaenoriaethu dysgu Cymraeg ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed, a ariennir drwy grant Ymlaen gyda'r Dysgu. Yn ystod 2026 i 2027, bydd y Ganolfan yn cynnig gwersi Cymraeg mewn meysydd galwedigaethol mewn colegau Addysg Bellach, yn cynnig cwrs preswyl, ac yn darparu gwersi dysgu Cymraeg i israddedigion yng nghyd-destun eu gradd.

Bydd y Ganolfan yn parhau i redeg y cynllun Cymraeg Gwaith, gyda'r ddarpariaeth yn amrywio o gyrsiau blasu hunan-astudio ar-lein i gyrsiau preswyl dwys. Bydd yn parhau i gynnig darpariaeth sector-benodol, gan gynnwys cynllun cenedlaethol ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol, i gefnogi Cynllun Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru. Yn ystod 2026 i 2027, bydd y Ganolfan yn gosod tiwtoriaid dysgu Cymraeg mewn awdurdodau iechyd i helpu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru i gynyddu eu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg gyda chleifion a chydweithwyr.

Yn ystod 2026 i 2027, bydd y Ganolfan yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'n heddluoedd a chyrff y sector chwaraeon. Bydd tiwtoriaid dysgu Cymraeg yn cael eu lleoli yn Heddluoedd Gogledd Cymru, De Cymru a Gwent, i ddarparu hyfforddiant, mentora a chefnogaeth ôl-ofal. Yn y sector chwaraeon, bydd y Ganolfan yn parhau i ddarparu cyrsiau ac adnoddau wedi'u teilwra ar gyfer Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam. Y nod yw targedu staff yn y sefydliadau hyn yn ogystal â gweithwyr a chefnogwyr ar lawr gwlad.

Mae dysgu Cymraeg yn y gweithle yn helpu i gryfhau hyder gweithwyr i ddefnyddio'r iaith mewn sefyllfaoedd bob dydd, sydd hefyd yn caniatáu i sefydliadau ddarparu gwasanaethau Cymraeg gwell i'w defnyddwyr. Mae hyn yn cyfrannu'n uniongyrchol at ein nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050.

Bydd yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol newydd (yr Athrofa) yn cefnogi dysgu'r Gymraeg gydol oes, gan helpu mwy o bobl i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg bob ddydd, a rhoi cyfle i bawb symud ymlaen ar eu taith iaith. Fel rhan o'r gwaith i weithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg, bydd gwaith yn parhau yn ystod 2026 i 2027 i sefydlu'r Athrofa, a fydd yn dechrau gweithredu ar 1 Awst 2027.

Y gweithlu addysg

Byddwn yn parhau i weithredu ein Cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022 i gyd-fynd â chyfnod 10 mlynedd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Drwy'r cynllun, rydym yn gweithio ar y cyd â nifer o randdeiliaid allweddol i fynd i'r afael â phedwar nod:

  • Cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'r Gymraeg fel pwnc, a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. 
  • Cynyddu nifer yr ymarferwyr sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg sy'n cefnogi dysgwyr.
  • Datblygu sgiliau Cymraeg ac arbenigedd pob ymarferydd i addysgu'r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Datblygu capasiti arweinyddiaeth ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a rhoi'r sgiliau i bob arweinydd gynllunio datblygiad y Gymraeg yn strategol o fewn diwylliant lle mae ysgolion yn sefydliadau sy'n dysgu.

Mae'r cynlluniau a ariennir drwy'r cynllun yn cynnwys cynllun trosi Cynllun Pontio, y Fwrsariaeth Cadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg, y Grant Meithrin Gallu, a chymorth wedi'i deilwra gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i wella hyder a hyfedredd ymarferwyr, gan gynnwys cymorth dwys drwy'r Cynllun Sabothol. Rydym hefyd yn cynnig cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) Iaith Athrawon Yfory i ddenu athrawon newydd. Bydd y TAR Cyflogedig, sy'n galluogi ysgolion i gynllunio'n strategol a chefnogi eu gweithlu eu hunain i ddod yn athrawon, yn parhau yn ystod 2026 i 2027 gyda lefel uwch o grant cyfraniad cyflog i athrawon dan hyfforddiant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion categori trosiannol.

Byddwn yn adolygu ac yn adeiladu ar y cynllun wrth i ni baratoi i nodi, yn y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, y camau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau bod nifer yr ymarferwyr yn diwallu'r angen.

Ochr yn ochr â hyn, bydd camau gweithredu yng Nghynllun Strategol y Gweithlu Addysg ar gyfer Ysgolion yn cefnogi'r gweithlu addysg Gymraeg, fel rhan o gynllun cyfannol i fynd i'r afael â heriau fel recriwtio a chadw staff, llwyth gwaith a llesiant.

Thema 2: cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg

Mae ail brif nod 'Cymraeg 2050', sef dyblu'r ganran sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd, wedi hen ennill ei blwyf. Rydym wedi nodi'n glir y bydd cynyddu'r defnydd o'r iaith wrth galon popeth a wnawn yng nghyd-destun Cymraeg 2050. Yn ystod 2026 i 2027, byddwn yn parhau i weithio ym mhob rhan o'r Llywodraeth a chyda phartneriaid amrywiol ledled Cymru i gynyddu'r defnydd o'n hiaith gartref, ar lefel gymdeithasol a chymunedol, ar iard yr ysgol, mewn gweithleoedd, mewn busnesau ac yn ddigidol.

Cynllun Grantiau Cymraeg 2050 

Mae cyfraniad ein derbynwyr grant at ein gwaith o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn gwbl allweddol wrth i ni weithredu 'Cymraeg 2050'. O 2026 i 2027 ymlaen, bydd derbynwyr grant ein cynllun grant craidd yn derbyn cyllid grant tymor hwy, a fydd yn eu galluogi i gynllunio eu gwaith mewn ffordd fwy strategol a chynaliadwy.

Mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn gweithredu fel cynllunwyr iaith yn y gymuned, gan ymateb yn rhagweithiol i gyd-destunau ac anghenion ieithyddol penodol eu cymunedau. Yn unol ag argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â'r mentrau iaith ac yn eu cefnogi i gynllunio'n well ar gyfer eu heffaith ac i fesur eu heffaith. Bydd hyn yn cefnogi mwy o gysondeb rhwng eu gweithgareddau a nodau ac amcanion Cymraeg 2050, ar yr un pryd â chryfhau eu gallu i werthuso a deall eu heffaith.

Mae cynllunio Eisteddfod yn brosiect cymunedol sy'n parhau am gyfnod o dair blynedd. Yn ogystal â dod â budd economaidd gwerthfawr i ardal, mae hefyd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer codi ymwybyddiaeth o'n hiaith a'n diwylliant. Mae'r gweithgareddau cymunedol sy'n arwain at yr Eisteddfod nid yn unig yn cynyddu nifer y cyfleoedd i bobl ddefnyddio'u Cymraeg yn y cyfnod sy'n arwain at y digwyddiad, ond hefyd yn aml yn creu mannau a gweithgareddau sy'n parhau am flynyddoedd ar ôl i'r Eisteddfod symud ymlaen o'r ardal. Byddwn yn manteisio ar bob cyfle a ddaw yn sgil dathlu 850 o flynyddoedd ers sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o ba mor unigryw a gwerthfawr yw'r Eisteddfod i'n hiaith a'n diwylliant. Wrth i'r Eisteddfod baratoi i gynnal yr ŵyl yn Sir Benfro, byddwn yn gweithio gyda'r Eisteddfod i sicrhau etifeddiaeth barhaol i'n hiaith yn yr ardal. Eleni eto, byddwn yn cefnogi'r Eisteddfod i gynnig mynediad am ddim i deuluoedd incwm is, er mwyn cynnig cyfle i bobl leol fynychu'r ŵyl, llawer ohonynt am y tro cyntaf, i gael blas ar ein hiaith a'n diwylliant ar garreg eu drws.

Trosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd 

Mae ein Polisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoeddyn canolbwyntio ar: 

  • Ysbrydoli plant a phobl ifanc i siarad Cymraeg gyda'u plant nhw yn y dyfodol.
  • Adfywio sgiliau Cymraeg pobl nad ydynt efallai wedi defnyddio'r Gymraeg ers eu dyddiau ysgol, neu nad ydynt yn hyderus yn eu sgiliau iaith, er mwyn iddynt siarad Cymraeg gyda'u plant.
  • Cefnogi ac annog y defnydd o'r Gymraeg mewn teuluoedd lle nad yw pawb yn siarad Cymraeg.
  • Cefnogi teuluoedd Cymraeg eu hiaith i siarad Cymraeg gyda'u plant.

Byddwn yn rhannu canfyddiadau ein hymchwil sy'n defnyddio gwyddor ymddygiad i edrych ar drosglwyddo'r Gymraeg rhwng rhieni a'u plant. Mae'r ymchwil hon yn dilyn tair ffrwd waith:

  1. cerddoriaeth, a sut gellir ei defnyddio fel cymhelliant i rieni a phlant ddefnyddio'r iaith
  2. teganau a'u cyfraniad posibl at ymddygiad trosglwyddo a
  3. gwybodaeth a anfonir at rieni am ddefnyddio'r Gymraeg

Dengys ystadegau'n glir fod defnyddio'r Gymraeg yn y cartref fel plentyn yn dylanwadu'n gryf ar y graddau y defnyddir y Gymraeg yn ddiweddarach mewn bywyd. Byddwn hefyd yn edrych ar botensial mathau eraill o drosglwyddo iaith (er enghraifft, rhwng brodyr a chwiorydd, yn y gymuned, a photensial rhieni nad ydynt yn siarad Cymraeg i gymdeithasu eu plant yn Gymraeg). Mae ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg hefyd wedi archwilio mathau eraill o drosglwyddo. Byddwn yn ymateb i argymhellion y Comisiwn yn ystod 2026 i 2027.

Y sector ieuenctid

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar bontio rhwng addysg, y gymuned a'r teulu. Gan weithio'n helaeth ym mhob rhan o'r Llywodraeth a chyda rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys pobl ifanc, byddwn yn sicrhau bod ein hymyriadau'n addas i'r diben ac yn ateb yr heriau sy'n ein hwynebu o ran cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ymysg pobl ifanc.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r Urdd dros y flwyddyn nesaf i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu parhau i fanteisio ar gyfleoedd amhrisiadwy i fwynhau a defnyddio eu Cymraeg. Yn yr un modd â chynllun yr Eisteddfod Genedlaethol a grybwyllir uchod, rydym yn falch unwaith eto eleni o ariannu pecyn i roi cyfle i deuluoedd lleol ar incwm is fwynhau mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn ym mis Mai.

Wrth i'r Clybiau Ffermwyr Ifanc ddathlu eu pen-blwydd yn 90 oed, byddwn yn gweithio'n agos gyda nhw i sicrhau ein bod yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'u Cymraeg mewn pob math o gyd-destunau ledled y wlad. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid eraill yn y sector ieuenctid i gefnogi defnydd plant a phobl ifanc o'r Gymraeg yn ystod y flwyddyn hon.

Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog 

Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i arweinwyr drafod sut gellir ymgorffori ysbryd 'Cymraeg 2050' yn eu sefydliadau. Byddwn yn parhau i gynnal Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog ac yn gwahodd carfannau newydd i gymryd rhan yn y rhaglen yn y flwyddyn i ddod. O ystyried poblogrwydd Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog, byddwn hefyd yn archwilio sut gallwn ehangu'r rhaglen, gan ddefnyddio model hyfforddi'r hyfforddwr o bosibl.

Y defnydd o'r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru 

Yn ystod 2026 i 2027 byddwn yn parhau i weithredu ail gam ein strategaeth defnydd mewnol o'r Gymraeg, 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd', er mwyn hwyluso mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn ein gweithle. Ein nod yw cefnogi'r sefydliad i weithredu fwyfwy drwy gyfrwng y Gymraeg a darparu cyfleoedd i'n gweithlu ddysgu'r iaith, datblygu eu sgiliau a defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.

Ers lansio'r strategaeth am y tro cyntaf yn 2020, rydym wedi datblygu gwell dealltwriaeth o'r cyd-destun a'r newid ystadegol sydd ei angen i gyflawni ein hamcan o ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog erbyn 2050. Mae'r gwaith hwn yn ein galluogi i ddeall yn well y penderfyniadau y bydd angen eu gwneud yn ystod y blynyddoedd nesaf i gyflawni'r nod. Felly, ein camau nesaf hyd at 2030 fydd:

  • Mapio'r llwybr angenrheidiol ar gyfer y gweithlu hyd at 2050.
  • Newid y ffordd rydym yn disgrifio ac yn cofnodi gallu'r gweithlu yn y Gymraeg, drwy fabwysiadu'r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.
  • Datblygu a gweithredu polisïau recriwtio, hyrwyddo a hyfforddi, yn seiliedig ar dystiolaeth a chynllunio ystadegol, a fydd, dros amser, yn caniatáu i ni ddod yn sefydliad dwyieithog erbyn 2050.

Safonau'r Gymraeg

Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu safonau'r Gymraeg a bennir o dan adran 26 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Pwrpas yr adolygiad, a fydd yn cychwyn yn ystod 2026 i 2027, fydd penderfynu a oes angen diwygio unrhyw un o'r safonau sy'n ymwneud â gwella neu asesu sgiliau Cymraeg y gweithlu o ganlyniad i'r Cod arfaethedig i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg a hwyluso'r gwaith o gyflawni targedau a bennwyd mewn Strategaeth Iaith Gymraeg ddiwygiedig.

Yn ystod 2026 i 2027, byddwn yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i ystyried pa gyrff a sectorau y dylid eu blaenoriaethu o ran paratoi safonau ar eu cyfer yn ystod tymor nesaf y Senedd, ac yn dechrau gweithredu'r rhaglen waith y cytunwyd arni.

Dydd Miwsig Cymru

Gan adeiladu ar lwyddiant blaenorol wrth ddathlu ymgyrch flynyddol Dydd Miwsig Cymru, byddwn yn canolbwyntio ar greu perthynas strategol ddyfnach â rhanddeiliaid allweddol yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg, gyda'r bwriad o hyrwyddo cydweithio ac arloesi.

Byddwn yn rhoi pwyslais ar gynyddu nifer y digwyddiadau cerddorol a gynhelir ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn drwy weithio gyda'r sector. Y nod fel arfer fydd denu cynulleidfaoedd newydd i'r Gymraeg, sydd ar wahanol gamau o'u taith iaith. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddathlu amrywiaeth lawn ein sîn gerddoriaeth fywiog yn ein holl gymunedau ledled Cymru a thu hwnt.

Thema 3: creu amodau ffafriol, seilwaith a chyd-destun

Byddwn yn parhau i weithio mewn amrywiaeth o feysydd i adeiladu seilwaith cryf a fydd yn creu amodau ffafriol i'r Gymraeg ffynnu fel bod pawb yn cael cyfle i ddysgu ein hiaith a'i defnyddio.

Tai, iaith a chyflogaeth

Gall nifer o wahanol elfennau effeithio ar ffyniant ein cymunedau Cymraeg. Rydym yn ymwybodol y gall nifer fawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr mewn cymunedau, yn enwedig ar hyd ein harfordir, effeithio ar argaeledd tai fforddiadwy, yr economi leol, gwasanaethau a'r Gymraeg fel iaith gymunedol, a bod yn niweidiol iddynt.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg drwy gysoni polisïau tai, cynllunio iaith, yr economi a datblygu economaidd i gynnig amrywiaeth o ymyriadau i barhau i gael eu gweithredu yn ystod 2026 i 2027. Mae'r ymyriadau hyn yn rhan annatod o'r 'Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg'.

Bydd prosiect Perthyn yn parhau yn ystod 2026 i 2027, gyda'r prif nod o ddarparu cymorth arbenigol i grwpiau cymunedol ddatblygu syniadau i ddod yn fentrau cymdeithasol neu'n gynlluniau tai sy'n cael eu harwain gan y gymuned. Bydd y gronfa grant yn parhau i fod ar gael ledled Cymru i gefnogi grwpiau cymunedol i ymsefydlu fel mentrau cymdeithasol, a bydd ffyniant y Gymraeg yn rhan ganolog o'u gweledigaeth. Mae'r cynllun eisoes wedi cefnogi llawer o gymunedau drwy ddiwallu anghenion tai, economaidd a chymdeithasol. 

Ers ei lansio yn 2024, mae'r rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol wedi tyfu. Nod y rhwydwaith yw grymuso unigolion i rannu gwybodaeth am:

  • ein hanes
  • ein diwylliant a'n treftadaeth
  • hanes yr iaith Gymraeg
  • manteision ei dysgu a'i defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd
  • hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ymysg ymwelwyr a phobl sy'n newydd i'r ardal

Mae'r cwrs yn rhan o blatfform Llysgennad Cymru, ac yn 2026 i 2027 byddwn yn parhau i gydweithio â phartneriaid allweddol a rhaglenni ehangach Llysgenhadon Cymru i greu cyfleoedd i ddatblygu a chefnogi'r rhwydwaith. 

Yn ystod blwyddyn ariannol 2025 i 2026, darparwyd £500k i barhau ag agweddau ar raglen ARFOR, ac i ‘oedi a myfyrio’ ar y gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau ARFOR 1 a 2. Yn 2026 i 2027 byddwn yn ystyried canfyddiadau a chasgliadau'r ymarfer 'oedi a myfyrio' i lywio cyfleoedd ar gyfer prif ffrydio ac ymateb y Llywodraeth i elfennau o adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Y Comisiwn Cymunedau Cymraeg

Mae gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg wedi'i rannu'n ddau gam. Archwiliodd Cam 1 gymunedau â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg tra archwiliodd Cam 2 gymunedau â dwysedd canolig neu is o siaradwyr Cymraeg. Yn ystod 2026 i 2027 byddwn yn parhau i weithredu argymhellion adroddiad 'Grymuso cymunedau, cryfhau'r Gymraeg' (cam 1) y Comisiwn, ac yn benodol bwrw ymlaen â gwaith i sefydlu system ar gyfer dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch. Byddwn hefyd yn talu sylw agos i ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad ail gam y Comisiwn a cychwyn gweithredu’r ddau wrth i ni adolygu a pharatoi fersiwn newydd o Cymraeg 2050. Bydd adroddiadau’r ddau gam o waith y Comisiwn yn rhoi sylfaen gadarn i’r strategaeth ‘Cymraeg 2050’ diwygiedig.

Technoleg a'r Gymraeg 

Byddwn yn parhau i weithio i gynyddu faint o dechnoleg Gymraeg sydd ar gael, ac i alluogi mynediad hawdd at hyn i bawb. Byddwn yn gwneud hyn drwy ein blaenoriaethau ar gyfer deallusrwydd artiffisial a thechnoleg Gymraeg, sef:

  • Technoleg fel ffordd o gynyddu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg
  • Sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at dechnoleg Gymraeg
  • Gwella technolegau lleferydd a deallusrwydd artiffisial Cymraeg (drwy rannu data a dulliau eraill).

Eleni, byddwn yn parhau i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg, er enghraifft i wneud logo Iaith Gwaith yn fwy amlwg byth yn y byd digidol. Mae hyn yn rhan o'n gwaith ehangach gyda'r Comisiynydd ar ddatblygu'r defnydd o dechnoleg a gwasanaethau digidol Cymraeg mewn gweithleoedd a thu hwnt.

Byddwn yn parhau i weithio gyda chwmnïau i ganfod bylchau a chynnig data ac adnoddau ar gymorth Cymraeg i bobl ag anghenion penodol. Er enghraifft, mae ein gwaith gyda Tobii Dynavox, cwmni sy'n creu meddalwedd i helpu pobl i gyfathrebu, eisoes wedi arwain at feddalwedd Gymraeg sy'n cefnogi plant ac oedolion sy'n cael trafferth siarad, a byddwn yn parhau i weithio yn y maes hwn eleni. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi ymchwil i brofiad defnyddwyr o dechnoleg ddwyieithog, gan gasglu tystiolaeth ar dechnoleg cyfathrebu amgen ac atgyfnerthol yn benodol. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r RNIB i gyhoeddi trwyddedau ar gyfer lleisiau synthetig Geraint a Gwyneth, sydd ar gael i bobl ag amhariad ar y golwg naill ai'n uniongyrchol drwy'r RNIB, neu drwy Hwb.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Microsoft i ddatblygu ymhellach ddarpariaethau ar gyfer achosion defnydd dwyieithog ac i wella ymhellach sut mae Copilot yn prosesu'r Gymraeg. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gydag UNESCO fel rhan o'u Degawd Ieithoedd Brodorol er mwyn i'n gwaith ar hyn helpu cymunedau amlieithog ledled y byd.

Ein prif neges o hyd yw y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w gwneud yn haws defnyddio'r Gymraeg mewn technoleg, ac y byddwn yn defnyddio popeth sydd gan dechnoleg i'w gynnig i'n helpu i ddefnyddio'r Gymraeg.

Seilwaith ieithyddol 

Byddwn yn parhau i weithredu ein polisi seilwaith ieithyddol y Gymraeg, a gyhoeddwyd yn 2023. Mae hynny'n golygu parhau i ddatblygu strwythur mwy rhyng-gysylltiedig i gynnal a datblygu seilwaith ieithyddol y Gymraeg. Y nod yw helpu pobl i wybod ble i gael gafael ar gymorth wrth ddefnyddio'r Gymraeg, gan roi'r hyder iddynt ddefnyddio'r iaith yn rhydd.

Byddwn yn parhau i fonitro a datblygu ein gwe-dudalennau Beth yw'r gair Cymraeg am...?, a lansiwyd yn 2025 i helpu unrhyw un i ddod o hyd i'r geiriau a'r termau Cymraeg cywir, gan ganolbwyntio ar ychwanegu adnoddau a rhestrau termau defnyddiol i ddefnyddwyr ar bob lefel. Byddwn yn parhau i gynnal cyfarfodydd Panel Safoni'r Gymraeg gyda'r nod o greu mwy o gysondeb rhwng adnoddau. Byddwn hefyd yn dechrau archwilio'r posibiliadau a ddaw yn sgil deallusrwydd artiffisial o ran gallu chwilio drwy nifer o adnoddau ieithyddol mewn un lle. 

Enwau lleoedd Cymraeg 

Ar ôl cyhoeddi ymchwil ar dueddiadau cyfredol mewn perthynas â newid enwau lleoedd yng Nghymru ym mis Mehefin 2025, fe wnaethom nodi ein blaenoriaethau ar gyfer enwau lleoedd Cymraeg mewn Datganiad Llafar gan y Gweinidog Cyllid a'r Gymraeg ym mis Medi.

Felly, yn ystod 2026 i 2027, byddwn yn parhau i weithio ar y blaenoriaethau a nodir yn y Datganiad Llafar. Bydd hyn yn cynnwys:

  • datblygu canllawiau cliriach a mwy ymarferol i gefnogi sefydliadau sy'n gyfrifol am enwau lleoedd
  • comisiynu ymchwil i enwau topograffigol, yn enwedig y rheini a ddefnyddir gan gymunedau twristiaeth a gweithgareddau awyr agored ac a fabwysiedir yn ddiweddarach yn lleol ac ar-lein, i'n helpu i ddeall yn well sut mae'r fersiynau hyn yn codi a sut gellir diogelu enwau Cymraeg
  • hyrwyddo ein Hadnodd Cofnodi Enwau Lleoedd ar wefan MapDataCymru, lle gall unrhyw un gofnodi enwau Cymraeg ac enwau hanesyddol nad ydynt eisoes yn ymddangos ar fapiau ar-lein, a rhannu'r enwau hynny mor eang â phosibl i'w cynnwys ar fapiau digidol a deunyddiau eraill.

Byddwn hefyd yn parhau i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a chyrff i archwilio ffyrdd o ddiogelu a hyrwyddo enwau lleoedd Cymraeg.

Bydd hyn yn cynnwys:

  • Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • curadur y Rhestr statudol o Enwau Lleoedd Hanesyddol, sy'n cael ei chynnal gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru
  • mapio prosiectau yng Nghymru (Mapio Cymru) ac yn y DU (fel yr Arolwg Ordnans)
  • Gweithgor UNESCO ar Enwau Daearyddol fel Treftadaeth Ddiwylliannol

Cymru a'r byd ehangach

Byddwn yn parhau i hyrwyddo'r Gymraeg ar y llwyfan rhyngwladol. Bydd hyn yn cynnwys chwarae rhan flaenllaw mewn rhwydweithiau rhyngwladol ar gynllunio iaith, fel y Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a Degawd Ieithoedd Brodorol UNESCO 2022 i 2032. Bydd gwaith y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn parhau i ganolbwyntio ar gynyddu'r defnydd o iaith (gartref yn y blynyddoedd cynnar, ymhlith pobl ifanc ac mewn gweithleoedd), seilwaith a diwylliant ieithyddol. Rydym hefyd yn aelod o grŵp ad hoc UNESCO sy'n canolbwyntio ar faterion digidol a chydraddoldeb, a byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod gwahanol gymunedau amlieithog y byd yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn dod at ei gilydd i'w gwneud yn haws creu cynnwys mewn mwy o ieithoedd drwy dechnoleg.

Byddwn hefyd yn parhau i weithredu rhaglenni gwaith amrywiol a Memoranda Cyd-ddealltwriaeth gyda rhanbarthau a gwledydd ledled y byd, fel Cernyw, Llydaw, Catalonia, Gwlad y Basg ac Iwerddon.

Byddwn yn parhau i dynnu sylw at bwysigrwydd y Gymraeg a'n dwyieithrwydd wrth i ni hyrwyddo'r Gymraeg yn rhyngwladol, fel rhan o'n strategaeth ryngwladol.

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Urdd ar ei Neges Heddwch ac Ewyllys Da ar gyfer 2026.

Y Gymraeg a chydraddoldeb

Byddwn yn parhau i weithio ym mhob rhan o'r Llywodraeth, a thu hwnt, i roi ein gwahanol gynlluniau gweithredu ar waith ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol. 

Rydym wedi ymrwymo i gymryd y camau gweithredu yn ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'.

Byddwn yn parhau i hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ac yn sicrhau bod ein gweithgarwch marchnata a chyfathrebu yn adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a bod y derminoleg Gymraeg rydym yn ei defnyddio yn briodol ac yn ddiwylliannol sensitif. 

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu cyfleoedd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddysgu Cymraeg ar gyrsiau sydd ar gael drwy eu cynllun Croeso i Bawb. Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd i ddysgu Cymraeg drwy ieithoedd fel Cantoneg, Arabeg Syriaidd, Ffarsi, Pashto ac Wcreineg.

Rydym hefyd yn ymwybodol o'r ymrwymiadau a wnaed wrth ymateb i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, gan gynnwys y ffaith bod angen adeiladu ar ymgysylltiad presennol â grwpiau cydraddoldeb a chymunedau lleiafrifol er mwyn deall eu profiadau'n well a llywio polisi yn y dyfodol.

Darlledu 

Yn ystod 2026 i 2027, byddwn yn parhau i gefnogi cynyrchiadau a chynnwys Cymraeg drwy gyllid cynhyrchu Cymru Greadigol, gan weithio gydag S4C drwy ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Bydd hyn yn adeiladu ar lwyddiannau diweddar fel 'Cleddau/The One that Got Away', 'Y Deis, Athrawon, Y Wal ac Y Golau: Dŵr'. Byddwn hefyd yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi ffilmiau nodwedd Cymraeg, yn dilyn cefnogaeth i'r don ddiweddaraf o brosiectau drwy Sinema Cymru, ein partneriaeth ag S4C a Ffilm Cymru, sy'n cynnwys 'Llyfr Glas Nebo' gan yr awdur Manon Steffan Ros, a gynhyrchwyd gan Severn Screen a 'MOGI', gan Mared Swain, a gynhyrchwyd gan Divergence.

Ar ben hynny, byddwn yn parhau â'n gwaith ar faterion fel Adnewyddu Siarter y BBC a gweithredu'r Ddeddf Cyfryngau yn barhaus i gefnogi fframwaith rheoleiddio addas i'r diben i sicrhau bod darparu rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg yn diwallu anghenion cynulleidfaoedd yng Nghymru.

Diwylliant

Byddwn yn parhau i weithredu Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025, yn cynnwys uchelgais clir o gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg ac adlewyrchu Cymru fel cenedl ddwyieithog ac amlieithog. 

Bydd cyrff hyd braich yn y sector diwylliant, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn parhau i wneud cyfraniad pwysig at weithredu 'Cymraeg 2050' yn ystod 2026 i 2027.

Bydd y Gymraeg yn parhau i elwa o'n cymorth ariannol i'r sector diwylliant yng Nghymru, gan gynnwys ein cefnogaeth i lyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau lleol.

Ymchwil ac ystadegau

Byddwn yn parhau i ehangu ein sylfaen dystiolaeth fel sylfaen ar gyfer gweithredu 'Cymraeg 2050' yn y flwyddyn i ddod. Fe wnaethom gyhoeddi ein dogfen Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Cymraeg 2050 ym mis Ionawr 2026, sy'n nodi'r mathau o dystiolaeth a fydd fwyaf gwerthfawr ar hyn o bryd wrth lywio ein penderfyniadau. Drwy gydol y flwyddyn nesaf, bydd ARI yn cefnogi ein hymgysylltiad â'r gymuned ymchwil i adeiladu sylfaen dystiolaeth gref.

Ei nodau yw:

  • cefnogi rhannu gwybodaeth
  • ysgogi ymchwil newydd sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymraeg 2050
  • annog mwy o fuddsoddi mewn ymchwil sy'n ymwneud â'r Gymraeg

Byddwn yn parhau â'n gwaith gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coleg Iesu, Prifysgol Rhydychen, a Phrifysgol Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban ar y Prosiect BRO, astudiaeth gymdeithasol-ieithyddol gynhwysfawr o'r Gymraeg yn ei chadarnleoedd. Nod y prosiect yw gwella ein dealltwriaeth o'r ymyriadau polisi sydd eu hangen i ddiogelu cymunedau Cymraeg drwy ddarparu dadansoddiad manwl o'r defnydd o'r Gymraeg - rhywbeth nad yw ffigurau'r Cyfrifiad yn gallu ei wneud. Cyhoeddwyd allbwn cyntaf y prosiect, sef compendiwm sy'n dadansoddi ystadegau'r Cyfrifiad ar lefel awdurdod lleol ac ardaloedd cynnyrch ehangach haen is, fel rhan o adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ym mis Awst 2024. Disgwylir rhagor o allbynnau yn ystod y flwyddyn i ddod.

Rydym wedi comisiynu gwerthusiad o'r 'Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' i sefydlu sut mae'r Cynllun wedi grymuso cymunedau i greu a datblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg sydd â lefelau uchel o ail gartrefi. 

Rydym yn comisiynu ymchwil i Sefydlu a Symud er mwyn llywio gwaith yn y dyfodol i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg. 

Byddwn yn cynllunio ar gyfer gwerthusiad o Ddeddf yr Iaith Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025.

Yn ystod 2026 i 2027, byddwn yn bwrw ymlaen â'r cynllun gwaith ar y cyd â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i wella ein dealltwriaeth o'r arolygon a'r prif ffynonellau o ddata gweinyddol am y Gymraeg. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cynnal ymgynghoriad ar yr achos dros gasglu data am siaradwyr Cymraeg sy'n byw y tu allan i Gymru. Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r canfyddiadau maes o law. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â gwaith i ddiweddaru'r llwybr ystadegol tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021 a'r data diweddaraf am y boblogaeth.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth iddi gynllunio i gynnal Cyfrifiad yng Nghymru yn 2031, y byddwn yn ei ddefnyddio i fonitro ein cynnydd tuag at y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.