Ymchwil ynghylch newidiadau i enwau lleoedd Cymraeg, o safbwynt graddfa’r newid, eu natur, a’r rhesymau drostynt.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod yr ymchwil oedd nodi ble, sut a pham mae newidiadau i enwau lleoedd yn digwydd yng Nghymru, faint o enwau sy'n newid neu sydd wedi newid yn ddiweddar, a natur y newidiadau hyn.
Mae'r themâu eang a nodwyd yn yr ymchwil hon yn pwysleisio cymhlethdod enwau lleoedd a newid enwau lleoedd. Mae'r cymhlethdod hwn yn dod i'r amlwg yn y tensiwn rhwng gwerthfawrogi enwau lleoedd yr ystyrir eu bod o arwyddocâd a 'cholled' yr enwau hyn trwy fabwysiadu enwau newydd y gellid eu hystyried, yn eu tro, yn arwyddocaol, o ganlyniad i gyfuniad o ffactorau hanesyddol, ieithyddol, cymdeithasol a ffactorau eraill sy'n llywio canfyddiadau pobl o arwyddocâd enwau lleoedd.
Mae data awdurdodau lleol (ALlau) yn dangos, rhwng 2018 a 2023, fod ALlau wedi derbyn tair gwaith yn fwy o geisiadau am enwau strydoedd Cymraeg (338 o geisiadau) nag am enwau strydoedd Saesneg (95 o geisiadau).
Derbyniwyd mwy o geisiadau gan ALlau am enwi eiddo gydag enwau Cymraeg (1,444) nag enwau Saesneg (1,125).
Nid oedd y rhan fwyaf o geisiadau ailenwi eiddo a gyflwynwyd i ALlau yn arwain at newid iaith. Pan arweiniodd cais at newid iaith, roedd dair gwaith yn fwy tebygol o fod o'r Saesneg i'r Gymraeg nag i'r gwrthwyneb.
Mae enwi gan ychwanegu enw eiddo neu fusnes at gyfeiriad sydd eisoes wedi'i enwi neu wedi'i rifo, yn arwain at duedd hyd yn oed yn fwy amlwg o newid o enwau Saesneg i enwau Cymraeg. Roedd newidiadau i enwau eiddo preswyl yn tueddu i arwain at fwy o enwau Cymraeg na newidiadau i enwau eiddo busnes. Roedd enwau busnes yn tueddu i gynnwys newid enw Saesneg i enw Saesneg arall.
Dangosodd data gan AddressBase Premium fod y rhan fwyaf o newidiadau i enwau eiddo wedi digwydd rhwng 2009 a 2014 ac nad oeddent yn tueddu i gynnwys newid yn iaith enw'r eiddo. Pan oedd y newid i enw eiddo yn cynnwys newid mewn iaith, roedd yn tueddu i gynnwys newid o enw eiddo Saesneg i enw eiddo Cymraeg. Roedd newidiadau i enwau eiddo yng Ngwynedd hyd yn oed yn fwy tebygol o gynnwys newid enw eiddo Saesneg i enw eiddo Cymraeg o'i gymharu â'r ardaloedd eraill a ymchwiliwyd iddynt.
Canfu arolwg digidol o enwau tai fod cael enw tŷ Cymraeg yn ennyn ymdeimlad o falchder, lle neu hiraeth i lawer o drigolion. Ychydig iawn sydd yn y data sy'n dweud yr un peth am enwau tai Saesneg.
Canfu arolygon tirwedd ieithyddol a gynhaliwyd mewn saith lleoliad ledled Cymru fod cyfran yr eiddo ag enwau Cymraeg yn amrywio ar draws ardaloedd, gyda dros 60% o'r eiddo ag enw a arolygwyd yn Abersoch, Llanberis a Llanidloes gydag enwau Cymraeg. Yng Nghei Connah, roedd enwau eiddo Cymraeg yn tueddu i fod yn gysylltiedig ag ardaloedd mwy gwledig y tu allan i'r dref, tra yn Yr Eglwys Newydd (Caerdydd) roedd canfyddiad bod mudo gan siaradwyr Cymraeg i'r ardal yn arwain at roi enwau Cymraeg ar dai.
Datgelodd cyfweliadau yn y saith ardal fod cymhellion dros enwi neu ailenwi eiddo yn cynnwys cysylltiadau personol, awydd am enw Cymraeg, cysylltiadau daearyddol lleol neu gysylltiadau hanesyddol. Yn ardaloedd mwy trefol Y Fenni, Cei Connah a'r Eglwys Newydd, nododd y rhai a gyfwelwyd fod enwau strydoedd ac arwyddion Cymraeg yn cynyddu mewn nifer.
Adroddiadau

Newidiadau i enwau lleoedd yng Nghymru: ymchwil ar dueddiadau cyfredol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.