Neidio i'r prif gynnwy

Nodau ac amcanion yr ymchwil

Nod yr ymchwil hon yw rhoi gwell dealltwriaeth i Lywodraeth Cymru (LlC) o raddfa a natur newidiadau i enwau lleoedd Cymraeg drwy archwilio newidiadau ffurfiol ac anffurfiol i enwau lleoedd yn ogystal â'r rhesymau y tu ôl iddynt.

Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar ddadansoddiad manwl o enwau eiddo, sef enwau preswyl ac enwau busnes. Er bod yr ymchwil wedi cyffwrdd â rhai enghreifftiau o newidiadau sy'n ymwneud ag enwau tirweddol, a sut mae'r Arolwg Ordnans (OS) yn cofnodi ac yn cyfleu enwau lleoedd yn weledol ar eu cynhyrchion, nid oedd yn archwilio'r defnydd o, a newidiadau i, enwau tirweddol yn fanwl.

Canfyddiadau

Adolygiad llenyddiaeth i ddeall y ffactorau sy'n gysylltiedig â newidiadau i enwau lleoedd a’r cyd-destun ehangach y mae'r ymchwil hon yn digwydd ynddo

Mewn cyd-destunau iaith leiafrifiedig fel Cymru, mae trafodaethau ynghylch enwau lleoedd fel arfer yn ymwneud â chwestiynau sy’n gysylltiedig â grym, diwylliant, lleoliad a hunaniaeth.

Mae'r defnydd o dechnoleg ddigidol yn cymhlethu yn hytrach nag erydu’r profiad o le mewn ffyrdd sydd yr un mor berthnasol i dirweddau gwledig ag i rai trefol.

Mae pobl yn mynd ati i ddefnyddio cyfryngau digidol i ddod yn grewyr lleoedd, gyda'r potensial i herio ffurfiau mwy traddodiadol o greu lleoedd.

Polisïau a chamau gweithredu awdurdodau lleol ar gyfer ymdrin â cheisiadau am enwi ac ailenwi eiddo a strydoedd ac effeithiolrwydd polisïau o'r fath

Gall polisïau a chamau gweithredu awdurdodau lleol (ALlau) o ran enwi a rhifo strydoedd (ERhS) fod yn amrywiol – yn enwedig mewn perthynas â'u darpariaethau ynglŷn â’r Gymraeg ac enwau hanesyddol.

Mae gwahaniaethau ym mholisïau ERhS ALlau yn cael eu hadlewyrchu yn yr arferion cofnodi a chadw data ynghylch ceisiadau enwi ac ailenwi eiddo a strydoedd.

Mae'n ymddangos bod polisïau ERhS ALlau yn ddeinamig, gydag ALlau yn ymateb i fewnbwn swyddogion ERhS, datblygiadau mewn perthynas ag enwau lleoedd Cymraeg, enwau sy'n gysylltiedig â digwyddiadau hanesyddol, neu enwau hanesyddol.

Mae swyddogion ERhS yn ystyried, i ryw raddau, bod eu rolau yn cynnwys diogelu enwau lleoedd Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys diogelu enwau lleoedd Cymraeg yn benodol, ond hefyd enwau a ystyrid yn gyffredinol o arwyddocâd diwylliannol neu leol. Mae swyddogion ERhS yn ymwybodol o ganfyddiad cynyddol o bwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg.

Mae rolau swyddogion ERhS o fewn ALlau yn amrywio, gyda phatrwm cyffredinol yn dangos fod gan swyddogion ERhS gyfrifoldebau eraill fel rhan o'u gwaith. Mae hyn yn cyfrannu at y canfyddiad bod swyddogion ERhS dan bwysau, sy’n effeithio ar bolisïau a chamau gweithredu ERhS ALlau.

Tueddiadau enwi cyfredol yng Nghymru

Enwau strydoedd

Rhwng 2018 a 2023, derbyniodd ALlau dair gwaith yn fwy o geisiadau am enwau strydoedd Cymraeg (338 cais) nag am enwau strydoedd Saesneg (95 cais).

Enwau eiddo

Derbyniwyd mwy o geisiadau gan ALlau am enwi eiddo ag enwau Cymraeg (1,444) nag enwau Saesneg (1,125).

Cyn Ebrill 2020 iMawrth 2021, derbyniodd ALlau nifer debyg o geisiadau am enwau eiddo Cymraeg a Saesneg.

O Ebrill 2020 iMawrth 2021 ymlaen, bu mwy o geisiadau am enwau eiddo Cymraeg nag enwau Saesneg. Er bod data ALlau yn dangos cynnydd diweddar mewn eiddo a enwir yn ffurfiol yn Gymraeg, nid yw'r data yn darparu esboniad am y cynnydd hwn.

Newidiadau i enwau eiddo

Nid oedd y rhan fwyaf o geisiadau ailenwi eiddo a gyflwynwyd i ALlau yn arwain at newid iaith. Pan fo cais wedi arwain at newid iaith, roedd rhwng tair a phedair gwaith yn fwy tebygol y byddai cais ailenwi eiddo yn gofyn am newid enw o'r Saesneg i'r Gymraeg nag o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Mae arallenwi (alias naming) - pan ychwanegir enw eiddo neu fusnes at gyfeiriad sydd eisoes ag enw neu rif - yn arwain at duedd fwy amlwg fyth o newidiadau i enwau o enwau Saesneg i enwau Cymraeg.

Arolwg enwau tai digidol

Mae arolwg enwau tai digidol a gynhaliwyd gan Cadw yn rhoi mewnwelediadau ychwanegol ar iaith enwau tai, arallenwau a chymhellion pobl dros ddewis a newid enwau tai. Mae'r data hwn yn nodi:

  • ym mhob rhanbarth o Gymru, mae llawer mwy o enwau tai yn cael eu newid o’r Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Gymraeg nag o'r Saesneg i’r Saesneg neu o’r Gymraeg i'r Saesneg
  • nid siaradwyr Cymraeg yn unig sy'n cadw enwau eiddo Cymraeg neu’n newid enwau eiddo i enwau Cymraeg; mae rhai pobl sydd wedi symud i Gymru hefyd yn gwerthfawrogi enwau lleoedd Cymraeg
  • mae cael enw tŷ yn yr iaith Gymraeg yn ennyn ymdeimlad o falchder, lle neu hiraeth i lawer o drigolion; ychydig iawn sydd yn y data sy'n dweud yr un peth am enwau tai Saesneg

Enwau eiddo ac agweddau at enwau eiddo a newidiadau i enwau mewn ardaloedd lleol penodol

Cynhaliwyd arolygon tirwedd ieithyddol yn Y Fenni, Abersoch, Cei Connah, Llanberis, Llanidloes, Arberth a'r Eglwys Newydd, Caerdydd. Arolygwyd cyfanswm o 7,361 eiddo.

Canfyddiadau
  • Roedd cyfran yr eiddo ag enwau Cymraeg yn amrywio ar draws yr ardaloedd lleol, gyda dros 60% o'r eiddo a enwir a arolygwyd yn Abersoch, Llanberis a Llanidloes ag enwau Cymraeg. Yn Abersoch a Llanidloes, roedd yr enwau Cymraeg hyn yn tueddu i fod ar gyfer eiddo heb arallenw (139 achos a 94 achos yn y drefn honno). Yn Llanberis, arallenwau oedd y rhan fwyaf o'r enwau Cymraeg (81 achos).
  • Enw Saesneg sydd gan y mwyafrif (63.2%) o'r eiddo llety gwyliau a restrir ar Booking.com. Mae hyn yn uwch na'r 50.4% o eiddo ag enwau Saesneg a ddaliwyd yn yr arolwg tirwedd ieithyddol.
  • Mae llety gwyliau yn fwy cyffredin yn Abersoch, Y Fenni ac Arberth o'i gymharu â’r ardaloedd lleol eraill. Mae ffigurau o’r ardaloedd hyn yn dangos sut y gall twristiaeth gael effaith wahanol ar iaith enwau eiddo mewn gwahanol ardaloedd lleol:
    • Yn Y Fenni ac Arberth, mae gan gyfran uwch o lety gwyliau a restrir ar Booking.com enw Saesneg (78% ac 83% yn y drefn honno) na'r eiddo ag enw Saesneg a nodwyd yn yr un ardal yn yr arolwg tirwedd ieithyddol (68.8% a 59.2% yn y drefn honno).
    • I'r gwrthwyneb, mae gan gyfran uwch o'r eiddo yn Abersoch a restrir ar Booking.com enwau Cymraeg (72.4%). Mae hyn yn uwch na'r eiddo ag enwau Cymraeg (60.5%) a’r eiddo ag enwau Saesneg (34%) a gofnodwyd yn yr arolwg tirwedd ieithyddol.
    • Mae gan lety gwyliau yn Abersoch bron i bedair gwaith yn fwy o enwau Cymraeg (42 eiddo) nag enwau Saesneg (11 eiddo).
  • Yn debyg i ganfyddiadau’r arolwg enwau tai digidol, datgelodd cyfweliadau yn y saith ardal leol bod cymhellion ar gyfer enwi neu ailenwi eiddo yn cynnwys cysylltiadau personol, awydd am enw Cymraeg, cysylltiadau daearyddol lleol, neu gysylltiadau hanesyddol.
  • Roedd agweddau cadarnhaol, cryf at y Gymraeg ymhlith y rhai a holwyd, ac roedd yr agweddau hyn yn ymestyn at enwau strydoedd ac eiddo Cymraeg.
  • Roedd y rhai a holwyd yn tueddu i gysylltu enwau strydoedd â chanfyddiadau ehangach bod newidiadau i enwau eiddo i'r Saesneg yn cael eu hysgogi gan dwristiaeth. Mynegwyd pryder, yn enwedig yn Llanberis, ynghylch defnydd ar-lein o enwau Saesneg ar gyfer lleoedd yn y dirwedd o amgylch Llanberis sy'n gysylltiedig â gweithgareddau awyr agored. Roedd canfyddiad hefyd bod enwau busnes yn Gymraeg neu yn Saesneg yn aml yn cael eu dewis i apelio at dwristiaid.
  • Yng Nghei Connah, roedd enwau eiddo Cymraeg yn tueddu i fod yn gysylltiedig ag ardaloedd mwy gwledig y tu allan i'r dref. Yn Yr Eglwys Newydd, roedd canfyddiad bod mewnfudiad siaradwyr Cymraeg i'r ardal yn arwain at roi enwau Cymraeg ar dai. Yn ardaloedd mwy trefol Y Fenni, Cei Connah a’r Eglwys Newydd, nododd y rhai a holwyd fod mwy a mwy o ddefnydd o enwau strydoedd ac arwyddion Cymraeg.
  • Adlewyrchwyd agweddau cadarnhaol at y Gymraeg hefyd yn y canfyddiad bod busnesau'n mabwysiadu mwy o enwau Cymraeg, oherwydd bod "Cymraeg yn ffasiynol ar hyn o bryd".

Asesiad ymchwil penodol yn seiliedig ar le o'r newidiadau ffurfiol i enwau eiddo a busnesau dros y pum mlynedd diwethaf ac archwilio'r cymhellion ar gyfer newidiadau

Defnyddiwyd data gan AddressBase Premium (Arolwg Ordnans) i ymchwilio i newidiadau i enwau eiddo ers 2009 mewn pedair ar hugain o ardaloedd lleol ledled Cymru. Dangosodd y canlynol:

  • digwyddodd y rhan fwyaf o newidiadau i enwau eiddo rhwng 2009 a 2014 ac nid oeddent yn tueddu i olygu newid yn iaith enw'r eiddo
  • pan oedd y newid i enw eiddo yn golygu newid yn iaith enw'r eiddo, roedd yn tueddu i newid o enw eiddo Saesneg i enw eiddo Cymraeg
  • roedd newidiadau i enwau eiddo preswyl yn tueddu i arwain at fwy o enwau Cymraeg na newidiadau i enwau eiddo busnes; roedd enwau busnes yn tueddu i olygu newid enw Saesneg i enw Saesneg arall
  • mae newidiadau i enwau eiddo yng Ngwynedd yn dangos bod newidiadau i enwau eiddo yn fwy tebygol fyth o olygu newid enw eiddo Saesneg i enw eiddo Cymraeg o'i gymharu â'r ardaloedd lleol eraill yr ymchwiliwyd iddynt

Deall y trothwy i fapiau’r Arolwg Ordnans (OS) a mapiau digidol newid enwau sy'n ymddangos ar fapiau swyddogol, a sut mae'r data'n cael ei gasglu i gyflawni hyn

Ystyrir cynrychiolaeth weledol o enwau lleoedd ar fapiau yn fater cartograffeg, nad yw'n cael sylw uniongyrchol ym Mholisi Enwau (2022) na Pholisi Enwau Cymraeg OS (2018).

  • Mae OS yn adrodd eu bod yn cael eu harwain yn bennaf gan ddefnydd ac arfer lleol. Mae'n gwneud ymholiadau ac yn ymgynghori ag awdurdodau priodol i sefydlu, gyda chymaint o awdurdod â phosibl, yr enw, y ffurf a'r sillafiad mwyaf addas ar gyfer pob man a ddangosir.
  • Nid yw'n glir beth yw trothwy’r OS ar gyfer pennu bod enw lle mewn 'defnydd ac arfer lleol' ac felly i'w gofnodi ar fap OS. Dywed OS eu bod yn gynyddol ddibynnol ar gofnodi enwau sydd wedi'u hysgrifennu ar arwyddion cyhoeddus ac arwyddion eraill, neu enwau sy'n cael eu cofnodi gan awdurdodau perthnasol.
  • Mae defnydd cynyddol cynhyrchion mapio digidol yn hytrach na mapiau copi caled yn golygu y gellir cynrychioli mwy o ddata yn weledol (yn yr achos hwn, enwau lleoedd). Mae hyn yn golygu bod llai o achosion yn digwydd pan wneir penderfyniad gan OS i ddefnyddio un enw lle yn hytrach nag un arall.
  • Mae mapio digidol yn rhoi mwy o allu i'r OS ac eraill gofnodi a chyfleu enwau lleoedd mewn sawl iaith yn weledol, gan gyfrannu ymhellach at gymhlethu'r profiad o le.

Ystyriaethau thematig mewn perthynas ag enwi lleoedd a newidiadau i enwau lleoedd yng Nghymru

Mae'r themâu eang a nodwyd yn yr ymchwil hon yn pwysleisio cymhlethdod enwau lleoedd a newid enwau lleoedd. Daw'r cymhlethdod hwn i'r amlwg yn y tensiwn rhwng gwerthfawrogi enwau lleoedd ag iddynt arwyddocâd canfyddedig a 'cholli' yr enwau hyn trwy fabwysiadu enwau newydd y gellid eu hystyried hefyd yn arwyddocaol. Mae'r cymhlethdod a'r tensiwn yn ganlyniad cyfuniad o ffactorau hanesyddol, ieithyddol, cymdeithasol ac eraill sy'n llunio canfyddiadau pobl o arwyddocâd enwau lleoedd.

Ystyriaethau ymchwil pellach

Gallai ymchwil bellach helpu i feithrin dealltwriaeth fanylach o faint, amlder ac iaith enwi ac ailenwi eiddo a busnesau’n anffurfiol. Gellid cynnal ymchwil ychwanegol i newidiadau enw anffurfiol, yn enwedig mewn perthynas ag enwau busnes. Gallai ymchwil sy'n canolbwyntio'n benodol ar y berthynas rhwng enwau lleoedd (yn enwedig enwau tirweddol) a fathwyd gan gymdeithasau a chwmnïau sy'n ymwneud â thwristiaeth a gweithgareddau awyr agored a normaleiddio'r enwau hynny yn y gymuned leol ac ar-lein helpu i fynd i'r afael â phryderon bod y defnydd o enwau tirweddol Cymraeg yn cael ei danseilio yn sgil y gweithgareddau hyn.

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Osian Elias, Kathryn Jones a Iolo Jones IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Cadw
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: ymchwil.cadw@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 45/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-746-4

GSR logo