Neidio i'r prif gynnwy
A toddler playing with toys

Hyd yn oed yn y groth mae babis yn gallu clywed lleisiau a cherddoriaeth.

Felly os wyt ti’n awyddus i fagu dy blentyn yn ddwyieithog, fe elli di ddechrau siarad a chanu yn Gymraeg i dy fabi bryd hynny.

Caneuon Cymraeg

Wyt ti’n cofio mwynhau Gee Ceffyl Bach, Dau Gi Bach neu Mi Welais Jac y Do?  Dyma dy gyfle i ailafael yn yr hen ffefrynnau, yn ogystal â dysgu ambell i gân newydd.  Mae llu o CDs cerddoriaeth Gymraeg ar gyfer plant bach – o glasuron fel Cwm-Rhyd-y-Rhosyn Dafydd Iwan ac Edward i gasgliadau newydd megis Holl Anifeiliaid y Goedwig grŵp Plu.

Mae modd benthyg CDs – yn ogystal â llyfrau a DVDs Cymraeg - o’r llyfrgelloedd a’u prynu ar wefannau Sain ac Amazon

Mae llyfryn diddorol ar wefan Mudiad Meithrin sy’n rhoi’r cefndir a’r geiriau i nifer o hwiangerddi poblogaidd.  Mae clipiau fideo o blantos bach yn canu hefyd, ochr-yn-ochr â gwybodaeth am grwpiau ‘Ti a Fi’ (ar gyfer rhieni a babis) a chylchoedd meithrin Cymraeg sy’n cael eu cynnal gan y Mudiad ym mhob cwr o’r wlad.

Nwyddau Cymraeg

Os wyt ti’n chwilio am ddilledyn neu anrheg gyda naws Gymraeg i groesawu dy fabi, mae dewis helaeth o fibs a babygros gyda slogannau Cymraeg arnynt, yn ogystal ag addurniadau a nwyddau eraill ar gyfer ystafell y babi. 

Dewis enw

Mae enwau Cymraeg yn boblogaidd tu hwnt  - cymer olwg ar ein tudalen Enwau Cymraeg i Blant am rai awgrymiadau a dysgu ystyr rhai enwau. Mae llyfr Heini Gruffudd, Enwau Cymraeg i Blant/Welsh Names for Children, wedi helpu cannoedd o rieni i ddod o hyd i’r enw perffaith ar gyfer eu plentyn.

Mentrau Iaith

Paid anghofio chwaith am dy Fenter Iaith leol sy’n trefnu gweithgareddau i bob oed yn y Gymraeg – mae sawl Menter yn cynnal cyrsiau ar gyfer darpar rieni, yn ogystal â gwersi cadw heini ‘ffitrwydd bygi’ ar gyfer mamau newydd a dosbarthiadau eraill ar gyfer babis.

Cymer olwg hefyd ar ba weithgareddau sy’n cael eu trefnu gan dy gyngor lleol a chofia ofyn i dy fydwraig pa wasanaethau iechyd Cymraeg sydd ar gael.

Addysg a Mwynhau

Cyn bo hir bydd angen gwneud penderfyniadau ynglŷn â byd addysg - cei ddod o hyd i wybodaeth am ysgolion Cymraeg ar ein tudalen Addysg

A chofia, hyd yn oed os wyt ti’n ansicr o dy Gymraeg neu’n byw gyda phartner di-Gymraeg, mae’n bosib i ti fagu dy blentyn i siarad yr iaith.  Os wyt ti’n awyddus i gryfhau dy sgiliau Cymraeg, mae sawl cwrs ‘gloywi iaith’ ar gael.  Mae cyrsiau ‘Cymraeg i’r Teulu’ hefyd yn boblogaidd.