Neidio i'r prif gynnwy
A young child playing outside

Mae pob math o gwestiynau yn codi wrth wneud penderfyniad o bwys. Dyma ychydig o gyngor gan rai a phrofiad go iawn.

“ Un peth sy’n poeni nifer o rieni yw bo’ ni ddim yn mynd i allu helpu’n plant gyda’u gwaith cartref. Ond gyda chefnogaeth yr ysgol, y Mudiad Meithrin a nifer o wefannau gwahanol, ’dyw hyn ddim wedi bod yn broblem.” - Mam, Blaenau Gwent.

Mae fy mhlentyn yn mynd i ysgol Saesneg ar hyn o bryd. A yw’n rhy hwyr i drosglwyddo i addysg Gymraeg?
“ Mae pob ysgol Gymraeg neu ddwyieithog yn croesawu siaradwyr di-Gymraeg. Mewn rhai ardaloedd bydd dy blentyn yn treulio amser mewn canolfan drochi iaith. Yma, cânt addysg ieithyddol ddwys nes y byddant yn medru siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg cyn trosglwyddo i ysgol Gymraeg.” - Aled Jones, Pennaeth canolfan iaith, Caerdydd.

Beth yw’r ffordd orau o ddysgu’r iaith neu wella fy Nghymraeg?
“ Mae llwyth o gyrsiau ar gael. Nes i ddysgu’r iaith trwy Cymraeg i Oedolion felly allai ddweud yn bendant bod hwnnw’n fformat da.” - Lynne Madden, Arweinydd Cylch Meithrin

Sut mae cyrraedd ein hysgol leol?
Paid â phoeni os nad yw dy ysgol leol o fewn pellter cerdded. Cysyllta gyda dy gyngor lleol i gael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i helpu i gludo dy blentyn i’r ysgol.