Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych yn berson ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru ac yn gymwys i gymryd rhan yn y cynllun peilot incwm sylfaenol, rydym am wybod sut mae’r incwm sylfaenol yn effeithio ar eich bywyd ar ôl gadael gofal.

Beth yw diben yr arolwg?

Mae’n bwysig ateb yr arolwg. Mwya’n byd y bobl ifanc sy’n cyfrannu, gorau’n byd y gallwn ni ddeall:

  • sut mae’r peilot yn gweithio
  • os nad yw rhywbeth yn gweithio
  • sut y gallwn ni wella pethau.

Gofynnir i bobl gymwys sy’n gadael gofal gwblhau 2 arolwg. Byddwn yn gofyn ichi wneud hynny unwaith yn ystod y mis ar ôl ichi droi’n 18, ac yna eto 2 flynedd wedyn.

Mae 42 o gwestiynau, a bydd yn cymryd tua 10 i 15 munud.

Oes rhaid imi ateb yr arolwg?

Na, does dim rhaid ichi, ond rydym yn gobeithio y gwnewch chi.

Ni fydd eich penderfyniad yn effeithio ar yr arian a gewch drwy’r cynllun peilot incwm sylfaenol nac unrhyw wasanaethau eraill.

Os penderfynwch yn nes ymlaen nad ydych am i’ch atebion gael eu cynnwys, anfonwch e-bost at susanna.larsson@coramvoice.org.uk

Bydd angen ichi roi gwybod inni o fewn 6 mis i ateb yr arolwg.

Pwy fydd yn gweld fy atebion?

Yr unig bobl a fydd yn cael gweld beth rydych chi wedi’i ddweud yw’r ymchwilwyr, sef Coram Voice (elusen sy’n cefnogi plant mewn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal), Prifysgol Rhydychen a CASCADE, Prifysgol Caerdydd.

Ni fydd neb arall yn gwybod sut rydych chi wedi ateb y cwestiynau, oni bai eich bod yn nodi eich bod mewn perygl difrifol o niwed. Os felly, mi fyddwn yn rhoi gwybod i’ch awdurdod lleol.

Unwaith y bydd yr arolygon wedi’u cwblhau, byddwn yn tynnu enwau pawb o’r ymatebion, ac mae’n bosibl y cânt eu defnyddio mewn astudiaethau ymchwil eraill.

Oes rhaid imi roi fy ngwybodaeth bersonol?

Mae 2 gwestiwn cyntaf yr arolwg yn gofyn am eich enw a’ch dyddiad geni. Bydd yr ymchwilwyr yn defnyddio’r manylion hyn i greu cod sy’n unigryw i chi.

Mae’r cod hwn yn caniatáu i’r ymchwilwyr gymharu eich atebion dros amser er mwyn gweld pa wahaniaeth y mae’r cynllun peilot incwm sylfaenol wedi’i wneud i’ch bywyd.

Ni fydd eich awdurdod lleol yn gweld eich atebion.

Pwy alla’ i siarad â nhw am yr arolwg?

Mae’r tîm ymchwil yn hapus i siarad â chi am yr arolwg. Os oes gennych gwestiynau, anfonwch e-bost at susanna.larsson@coramvoice.org.uk.

Neu, os ydych yn anhapus am rywbeth yn yr arolwg, ac eisiau gwneud cwyn, anfonwch e-bost at ymchwilincwmsylfaenol@llyw.cymru.

Sut mae llenwi’r arolwg?

Gallwch lenwi’r arolwg os ydych yn gadael gofal ac yn troi’n 18 rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023.

Llenwch yr arolwg ar-lein.