Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun newydd i helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal i gael swm penodol o arian gan y llywodraeth i dalu am gostau anghenion sylfaenol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw cynllun peilot incwm sylfaenol?

Mae’r cynllun peilot hwn yn helpu’r llywodraeth i ganfod beth sydd ei angen ar bobl ifanc sy’n gadael gofal. Byddwn yn dysgu beth y mae’n ei olygu i bobl ifanc gael y math newydd hwn o gefnogaeth, a’r hyn y mae’r gefnogaeth wedi’u galluogi i’w gyflawni.

Gwyliwch ein fideo i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun peilot:

Faint o arian fydda i’n ei gael ac am ba mor hir fydda i’n ei gael?

Yn rhan o’r cynllun peilot incwm sylfaenol, bydd gennych £1,280 bob mis i’w wario ar fwyd, dillad a phethau eraill efallai y byddwch eu hangen. Byddwch yn parhau i gael yr arian hwn am 2 flynedd ar ôl eich pen-blwydd yn 18 oed.

Does dim ots os ydych chi yn y coleg neu’n gweithio yn barod. Mae’r arian hwn yn ychwanegol i’r hyn rydych chi efallai yn ei gael eisoes.

Mae’r arian hwn ar eich cyfer chi. Os oes rhywun yn ceisio rheoli sut ydych chi’n ei wario, yn ei ddefnyddio, neu yn ei gymryd oddi wrthych, siaradwch â’ch Cynghorydd Pobl Ifanc neu rywun arall rydych chi’n ymddiried ynddo.

Sut y gallaf gymryd rhan yn y cynllun peilot incwm sylfaenol?

Gallwch gymryd rhan yn y cynllun peilot incwm sylfaenol os ydych chi’n gadael gofal a’ch bod yn troi’n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023.

Bydd eich Cynghorydd Pobl Ifanc neu eich Gweithiwr Cymdeithasol yn cysylltu â chi yn awtomatig i’ch helpu i benderfynu a yw incwm sylfaenol yn addas ichi. Byddant hefyd yn eich helpu a’ch paratoi i’w gael.

A oes unrhyw reolau?

I gael yr arian, mae’n rhaid:

  • ichi fod yn byw yng Nghymru ar yr adeg rydych chi’n gadael gofal neu eich bod wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru tra mewn gofal rywle arall
  • ichi fod â chyfrif banc, cyfrif cymdeithas adeiladu neu gyfrif undeb credyd er mwyn talu’r arian i mewn i gyfrif
  • ichi roi’r wybodaeth gywir a dogfennau i bobl (gan gynnwys newidiadau i’ch cyfeiriad, eich enw, eich cyfrif banc neu bethau eraill)
  • ichi gynnwys eich taliadau incwm sylfaenol ar ffurflenni sy’n gofyn am eich incwm

Yn ogystal, gallai rhai sefyllfaoedd, er enghraifft os ydych chi’n mynd i’r carchar, olygu bod eich taliadau incwm sylfaenol yn cael eu rhewi neu eu stopio.

A fydd yr arian yn effeithio ar fudd-daliadau eraill?

Bydd. Bydd incwm sylfaenol yn cael ei dalu yn lle budd-daliadau eraill. Bydd eich awdurdod lleol, eich Cynghorydd Pobl Ifanc neu eich Gweithiwr Cymdeithasol yn eich helpu i benderfynu beth sydd orau ichi.

Dod o hyd i’ch awdurdod lleol.

Sut y gallwch chi helpu’r cynllun peilot incwm sylfaenol?

Os ydych chi’n cymryd rhan, hoffem glywed:

  • sut y mae’n gweithio ichi
  • os nad oes rhywbeth yn gweithio
  • sut y gallwn wella pethau

Gallwch wneud hyn drwy siarad â’ch Cynghorydd Pobl Ifanc neu eich Gweithiwr Cymdeithasol. Does dim rhaid ichi roi adborth os nad ydych chi eisiau gwneud hynny.