Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o sut rydym yn mynd i werthuso’r cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru.

Gwerthuso

Mae CASCADE, Prifysgol Caerdydd yn gwerthuso’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru. Yr Athro Sally Holland a David Westlake sy’n arwain y tîm. Dechreuodd y gwaith ym mis Tachwedd 2022 a bydd yn para am 4 blynedd.

Mae pum rhaglen waith i’r gwerthusiad:

  1. Cydgynhyrchu.
  2. Datblygu’r ddamcaniaeth.
  3. Gwerthuso'r effaith.
  4. Gweithredu.
  5. Gwerthuso economaidd.

Bydd CASCADE yn gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a gweithwyr proffesiynol yn y maes i sicrhau bod y gwaith ymchwil yn cael ei lywio gan y bobl ifanc sydd wedi eu cofrestru ar y peilot, a’i fod yn gweithio iddyn nhw. Mae’r gwerthusiad hefyd yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu fframwaith ymchwil er mwyn deall effeithiau’r peilot yn y tymor hirach. 

I gael gwybod mwy am y gwerthusiad, cysylltwch â ymchwilincwmsylfaenol@llyw.cymru.

Arolwg Eich Bywyd y Tu Hwnt i Ofal

Mae’r gwerthusiad yn seiliedig ar Arolwg Eich Bywyd y Tu Hwnt i Ofal. Caiff ei gynnal gan Coram Voice, elusen hawliau plant, a’r Athro Julie Selwyn yng Nghanolfan Rees, Prifysgol Rhydychen.

Gofynnir i bawb sy’n gadael gofal ac sy’n gymwys i gymryd rhan yn y peilot i gwblhau’r arolwg. Byddant yn ei gwblhau ddwywaith dros gyfnod o 2 flynedd.

Darllenwch am Arolwg Eich Bywyd y Tu Hwnt i Ofal.

Gwybod mwy

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwaith ymchwil a’r gwerthusiad o’r cynllun, cysylltwch â ymchwilincwmsylfaenol@llyw.cymru.