Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am y rhai sy’n derbyn cymorth drwy’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Awst 2022 a mis Gorffennaf 2023.

Daeth y peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru i rym o 1 Gorffennaf 2022 (gweler cefndir a chyd-destun). Mae'r data hwn yn adlewyrchu diwedd blwyddyn gofrestru'r peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru ac mae'n ymwneud â'r unigolion cymwys a gofrestrodd ac a dderbyniodd daliad cyntaf rhwng 1 Awst 2022 a 31 Gorffennaf 2023, yn ogystal â'r rhai a dynnodd yn ôl o'r peilot ar ôl cofrestru.

Nid yw’r wybodaeth reoli hon wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio’r data yn y dyfodol.

Prif bwyntiau

  • Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2023, roedd 635 o bobl wedi derbyn incwm sylfaenol fel rhan o'r peilot hwn.
  • Cadarnhaodd naw o bobl ifanc gymwys eu penderfyniad i beidio â chymryd rhan yn y cynllun peilot, gan gwblhau'r ffurflenni i nodi nad ydynt am gymryd rhan.  Rydym yn ymwybodol o eraill a gadarnhaodd ar lafar wrth awdurdodau lleol nad oeddent am gymryd rhan, ond heb gyflwyno ffurflenni yn nodi nad ydynt am gymryd rhan (naw arall). Nid oes unrhyw ddata pellach wedi ei gofnodi ar gyfer pobl nad ydynt yn cymryd rhan.
  • Mae tri o bobl ifanc wedi tynnu'n ôl ar ôl ymuno â'r cynllun peilot. Cedwir gwybodaeth y rheini yn y set ddata hon gan eu bod wedi derbyn o leiaf un taliad incwm sylfaenol.
  • Gan ystyried y wybodaeth uchod, y gyfradd fanteisio dros dro ar gyfer y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yw 97%.
  • Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2023, mae 353 o’r rhai sy’n derbyn cymorth (56%) wedi dewis cael eu taliad yn fisol, ac mae’r 282 (44%) sy’n weddill wedi dewis cael taliadau ddwywaith y mis.
  • Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2023, mae 164 o’r rhai sy’n derbyn cymorth (26%) wedi dewis i daliadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i landlordiaid.

Gwybodaeth ddemograffig

  • Fe wnaeth 340 o'r rhai sy'n derbyn cymorth (54%) nodi eu hunaniaeth genedlaethol fel Cymreig. Nodir hunaniaeth genedlaethol unigolion eraill yn y tabl isod:
Derbynwyr cymorth cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru, yn ôl hunaniaeth genedlaethol
Hunaniaeth genedlaethol [Nodyn1] Nifer sy'n derbyn cymorth

 

Canran sy'n derbyn cymorth
Cymreig (gan gwmpasu hunaniaeth Gymreig a hunaniaeth arall) 340 54%
Prydeinig (gan gwmpasu hunaniaeth Brydeinig a hunaniaeth arall) 125 20%
Seisnig (gan gwmpasu hunaniaeth Seisnig a hunaniaeth arall) 66 10%
Y Dwyrain Canol 30 5%
Affricanaidd 17 3%
Asiaidd 15 2%
Ewropeaidd 13 2%
Amhenodol/Dim ymateb/Hunaniaeth arall 29 5%

[Nodyn 1] Mae'r hunaniaethau cenedlaethol a ddefnyddir uchod wedi'u grwpio gan addasu categorïau Cyfrifiad 2021 (Saesneg yn unig).

  • Fe wnaeth 508 o’r rhai sy’n derbyn cymorth (80%) nodi eu hethnigrwydd fel ‘Gwyn’, dywedodd 23 ohonynt (4%) eu bod o grŵp ethnig cymysg, dywedodd 22 ohonynt (3%) eu bod o grŵp ethnig Asiaidd, dywedodd 15 ohonynt (2%) eu bod o grŵp ethnig Ddu, dywedodd 46 ohonynt (7%) eu bod o grŵp Ethnig Lleiafrifol arall, ac ni chafwyd ymateb gan 21 ohonynt (3%).
  • Mae ychydig dros hanner y rhai sy'n derbyn cymorth (325; 51%) yn ddynion, mae 278 (44%) yn fenywod, ac ni chafwyd ymateb gan 32 (5%).
  • Dywedodd 573 (90%) o’r rhai sy’n derbyn cymorth fod eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd iddynt pan gawsant eu geni, nododd 18 (3%) nad oedd eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd iddynt pan gawsant eu geni, ac fe wnaeth 44 (7%) naill ai beidio ag ateb neu nodi ei bod yn well ganddynt beidio â dweud.
  • Fe wnaeth 445 (70%) o’r rhai sy’n derbyn cymorth nodi eu bod yn ‘heterorywiol neu syth’, nododd 26 (4%) eu bod yn ‘ddeurywiol’, a nododd 16 (3%) eu bod yn ‘hoyw neu lesbiaidd’. Fe wnaeth yr 148 (23%) sy’n weddill naill ai beidio ag ateb neu nodi cyfeiriadedd rhywiol arall.
  • Dywedodd 412 (65%) o’r rhai sy’n derbyn cymorth nad oes ganddynt gred grefyddol. O’r 223 (35%) arall, roedd 50 (8%) yn Gristnogion (pob enwad) ac roedd 54 (9%) yn Fwslimiaid. Roedd 119 (19%) naill ai yn perthyn i grefyddau eraill neu heb roi ateb, yn nodi ei bod yn well ganddynt beidio â dweud neu'n nodi nad oeddent yn gwybod.

Pobl anabl

  • Wrth gofrestru, darperir y diffiniad o'r model cymdeithasol o anabledd i bawb sy'n derbyn cymorth, ynghyd â'r diffiniad a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Yn dilyn hyn, datganodd 88 o'r rhai sy'n derbyn cymorth (14%) eu bod yn bobl anabl yn ôl y naill ddiffiniad neu'r llall, nid oedd 518 (82%) yn  ystyried eu hunain yn anabl ac ni ymatebodd 29 (5%).

Statws iechyd a hunangofnodwyd

  • Nododd 143 (23%) o’r rhai sy’n derbyn cymorth bod ganddynt gyflwr hirdymor y mae disgwyl iddo bara am 12 mis neu fwy, nododd 437 (69%) nad oes ganddynt gyflwr o’r fath, ac roedd 55 (9%) naill ai ddim yn gwybod neu wedi peidio ag ateb.
  • Nododd 534 (84%) o’r rhai sy’n derbyn cymorth bod eu hiechyd naill ai’n ‘dda iawn’ neu’n ‘dda’, nododd 70 (11%) bod eu hiechyd yn ‘weddol’, nododd 7 (1%) bod eu hiechyd yn ‘wael’ neu'n 'wael iawn', ac roedd 24 (4%) naill ai ddim yn gwybod neu wedi peidio ag ateb.

Lle byw

  • Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2023, roedd 148 o'r rhai sy'n derbyn cymorth (23%) yn byw mewn tai â chymorth ar adeg cofrestru, ac roedd o leiaf 92 o unigolion yn byw mewn lleoliad "Pan fyddaf yn barod" (SYLWER: Ni chofnodwyd gwybodaeth am y math hwn o leoliad cyn mis Ionawr 2023, felly mae'n debygol bod mwy o unigolion yn byw yn y math hwn o leoliad wrth gofrestru).
  • Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2023, roedd chwech unigolyn yn ddigartref neu heb gartref sefydlog.
  • Mae'r cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru yn caniatáu i'r rhai sy'n byw y tu allan i Gymru gymryd rhan cyhyd â'u bod yn parhau i fod yng ngofal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae rhai unigolion yn byw y tu allan i Gymru, felly. O ran gwlad breswyl, mae 576 (91%) o unigolion yn byw yng Nghymru, a 56 (9%) arall yn byw yn Lloegr. Mae tri pherson arall yn byw mewn mannau eraill.

Amgylchiadau penodol eraill

  • Gofynnwyd am ddatganiadau o amgylchiadau penodol eraill wrth gofrestru er mwyn sicrhau bod y cynllun peilot yn cael ei deilwra i anghenion penodol ac i sicrhau ei bod mor hwylus â phosibl i gymryd rhan. Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2023, mae gan 14 o bobl sy'n derbyn cymorth unigolyn a benodwyd / dirprwy sy'n gweithredu ar eu rhan.
  • Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2023, yn ystod cyfnod y peilot mae 11 unigolyn wedi cael eu hatal dros dro neu wedi methu â chymryd rhan oherwydd cysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol.
  • Mae rhai a arferai fod yn blant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches, sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd safonol ar gyfer y peilot (sef unigolyn 'Categori 3' sy'n gadael gofal sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru) wedi gallu cymryd rhan yn y peilot. Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2023, roedd 67 (11%) o'r rhai sy'n derbyn cymorth yn (neu arfer bod yn) blant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches ar adeg cofrestru.

Cefndir a chyd-destun

Mae’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yn rhoi cyfle i garfan o bobl ifanc sy’n gadael gofal ac sy’n troi’n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 gael £1,600 y mis, cyn treth, am gyfnod o 24 mis. Nod y cyllid hwn yw eu galluogi i gyflawni eu nodau a’u huchelgeisiau ac i adeiladu sylfaen ar gyfer pontio o ofal i fywyd fel oedolyn. I ddarllen ymhellach, dyma gyflwyniad i'r cynllun, ac mae trosolwg o'r cynllun ar gael.

Ffynhonnell y data

Cymerir y ffigurau o’r wybodaeth reoli weithredol am y cynllun peilot nad yw wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol. Gwahoddir pobl ifanc sy’n gymwys i lenwi ffurflen gofrestru os ydynt yn bwriadu ymuno â’r Cynllun, a gofynnir i’r rhai sy’n dewis peidio â manteisio ar y cyfle lenwi ffurflen peidio â chymryd rhan. Roedd awdurdodau lleol yn cyflwyno’r wybodaeth i Lywodraeth Cymru bob mis yn ystod y flwyddyn gofrestru er mwyn sicrhau bod pobl ifanc wedi cofrestru ar y rhaglen i gael eu talu. Mae'r data a gyflwynir yma wedi'i grynhoi ar gyfer Cymru gyfan ac yn seiliedig ar y wybodaeth reoli weithredol ar 31 Gorffennaf 2023.

Nodyn am ddehongli

Mae'r holl ganrannau wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf.

Mae'r gyfradd fanteisio dros dro yn seiliedig ar gyfanswm nifer y derbynwyr fel cyfran o gyfanswm nifer y derbynwyr ynghyd â'r rhai hysbys sy’n gymwys ond nad ydynt yn cymryd rhan fel ar 31/07/2023. Mae pobl hysbys sy’n gymwys ond nad ydynt yn cymryd rhan yn gyfuniad o'r rhai sydd wedi cwblhau ffurflenni nad ydynt yn cymryd rhan, ac eraill a gadarnhaodd ar lafar wrth awdurdodau lleol nad oeddent am gymryd rhan, ond heb gyflwyno ffurflenni yn nodi nad ydynt am gymryd rhan.

Mae hyn yn wahanol i'r dull a gymerwyd i gyfrifo’r gyfradd fanteisio yn y data blaenorol, chwe mis. Bryd hynny cyfrifwyd y ffigur (92%) gan ddefnyddio rhagamcanion o ymadawyr gofal cymwys a ddarparwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn gofrestru lawn (577, ym mis Chwefror 2022). Ers hynny, mae nifer y derbynwyr wedi mynd y tu hwnt i'r garfan gymwys a rhagamcanwŷd, a gellir esbonio'r cynnydd hwn ar gyfrif y ffaith bod unigolion yn dod yn gymwys ar gyfer y cynllun peilot yn ystod y flwyddyn gofrestru ei hun (h.y., yn mynd i ofal ac yn dod yn gymwys fel rhywun sy'n gadael gofal o dan Gategori 3 ar ôl treulio 13 wythnos neu fwy mewn gofal) ac yn dilyn yr eglurhad blaenorol o gymhwysedd a chategoreiddio unigolion sy'n gadael gofal.

Gallai'r gyfradd fanteisio amcangyfrifedig newid mewn datganiad data yn y dyfodol i adlewyrchu unrhyw ymgeiswyr hwyr neu wybodaeth ychwanegol gan awdurdodau lleol.

O ystyried bod y wybodaeth reoli hon yn cael ei chofnodi 'yn fyw', mae'r set ddata hon yn adlewyrchu'r wybodaeth a gofnodwyd ar 31 Gorffennaf 2023, ac felly gall gynnwys diweddariadau a diwygiadau i ddata unigolion a wneir ar ôl cofrestru (er enghraifft, newidiadau yn lle maen nhw'n byw, pa mor aml maen nhw'n cael eu taliadau ac opsiynau ar gyfer taliadau landlord uniongyrchol).

Roedd y rhai sy'n derbyn cymorth yn gymwys i gofrestru ar gyfer y Cynllun ar unrhyw adeg cyn mis eu pen-blwydd yn 18 oed ac yn ystod y mis hwnnw, a chael y taliad incwm sylfaenol y mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Felly, y mis cofrestru cyntaf oedd mis Gorffennaf 2022 a’r mis talu cyntaf oedd mis Awst 2022. Roedd y rhai a oedd yn troi’n 18 oed ym mis Awst 2022 yn gymwys i gael eu taliad cyntaf o fis Medi 2022 ymlaen, ac yn y blaen. 

At ddibenion monitro data, cofnodir y mis talu cyntaf fel y mis y mae unigolyn ifanc yn ymuno â’r Cynllun. Mae hyn yn caniatáu inni gyfrif unrhyw ymgeiswyr hwyr. 

Bydd unrhyw ymgeiswyr hwyr (a ddiffinnir fel y rhai sy'n ymuno yn hwyrach na'r mis ar ôl iddynt droi'n 18 oed) sy'n ymuno â'r cynllun peilot ar ôl y flwyddyn gofrestru yn cael eu hadlewyrchu mewn data diweddarach. Mae ymgeiswyr hwyr wedi cael caniatâd i ymuno â'r peilot ar ôl ystyried eu hachos yn unigol i sicrhau bod cymaint â phosibl yn cael manteisio ar y cynllun, a'u bod yn cael eu trin yn deg pan fo'r rhesymau dros beidio â gallu cofrestru oherwydd materion y tu hwnt i'w rheolaeth. 

Mae 'Pan fyddaf yn barod' yn galluogi pobl ifanc mewn gofal maeth i barhau i fyw gyda'u gofalwyr maeth ar ôl troi'n 18 oed. Mae'n caniatáu iddynt aros mewn amgylchedd teuluol sefydlog sy'n eu meithrin hyd at 21 oed, neu hyd at 25 oed os ydynt yn cwblhau rhaglen addysg neu hyfforddiant y cytunwyd arni.

Cyswllt

Nia Jones

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.