Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cynghorau cymuned a thref a chynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol?

Mae gan gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (sy’n cael eu hadnabod hefyd fel awdurdodau lleol) gyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau fel addysg, iechyd yr amgylchedd, gwasanaethau cymdeithasol a chynllunio gwlad a thref ar gyfer sir gyfan.

Mae cynghorau cymuned a thref yn cynrychioli cymunedau neu drefi unigol o fewn sir. Mae ganddynt bwerau cyfreithiol i ddarparu rhai gwasanaethau, ond mae ganddynt lai o ddyletswyddau. Mae cynghorau cymuned a thref yn gweithio’n agos gyda chyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yr ardal, gan gynrychioli buddiannau eu cymunedau.

Mae’n rhaid i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned a thref weithio mewn partneriaeth i sicrhau’r gwasanaethau a’r canlyniadau gorau ar gyfer y dinasyddion. Efallai y bydd hyn yn golygu bod cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yn dyrannu arian i gynghorau cymuned a thref i’w galluogi i ddarparu gwasanaeth ar lefel leol. Gall cytundebau siarter fod yn sail dda iawn ar gyfer y berthynas honno rhwng cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned a thref.

Pa bwerau sydd gan gynghorau cymuned a thref?

Mae cynghorau cymuned a thref yn gallu darparu nifer o wasanaethau, gan ddibynnu ar faint y gymuned y maen nhw’n ei chynrychioli, a’u cyllideb. Dyma enghreifftiau o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan gynghorau cymuned a thref:

  • arwyddion gwybodaeth i’r cyhoedd, a hysbysfyrddau
  • meinciau cyhoeddus a chysgodfannau bysiau
  • cofebau rhyfel
  • canolfannau cymunedol a chyfleusterau hamdden dan do

Mae cynghorau cymuned a thref yn gweithio’n agos gyda’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yn eu hardal ac yn cynrychioli buddiannau eu cymunedau. Maen nhw hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill gan gynnwys cynghorau cymuned a thref eraill yn yr ardal) i ddarparu gwasanaethau. Drwy gynnig cymorth, gan gynnwys cyllid, offer neu adeiladau, gall cynghorau cymuned a thref hefyd helpu cyrff eraill i ddarparu gwasanaethau, fel gofal plant, gwasanaethau i’r henoed, mentrau amgylcheddol a gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau a chwaraeon.

Mae Canllaw’r Cynghorydd Da 2022 yn rhoi rhagor o fanylion am y pwerau sydd ar gael i gynghorau cymuned a thref.

Pwy all fod yn gynghorydd cymuned neu’n gynghorydd tref?

I fod yn gynghorydd cymuned neu’n gynghorydd tref, mae angen ichi fod dros 18 oed ac yn wladolyn Prydeinig neu’n ddinesydd cymwys o unrhyw wlad arall. Bydd yr aelodau yn cael sedd ar gyngor cymuned neu dref un ai drwy sefyll etholiad neu drwy gael eu cyfethol. Ystyr cyfethol yw bod y cyngor yn dewis o restr o wirfoddolwyr os nad oes digon o ymgeiswyr yn sefyll adeg etholiad neu os na fydd yr etholaeth yn galw am etholiad pan fydd sedd yn dod yn wag. Gall cynghorwyr cymuned a chynghorwyr tref gynrychioli plaid wleidyddol neu gallant fod yn annibynnol yn wleidyddol.

Rydw i o dan 18 oed sut alla i gyfrannu?

Mae dyletswydd ar gynghorau cymuned a thref i ystyried sylwadau pawb sy’n byw yn eu cymuned, gan gynnwys pobl ifanc. Mae cyfraith, sef Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 aa.118-121, sy’n rhoi’r pŵer i gynghorau cymuned a thref benodi hyd at ddau gynrychiolydd ieuenctid (16 i 25 oed) i ymuno â’r cyngor i gynrychioli buddiannau’r bobl ifanc sy’n byw, yn gweithio neu’n derbyn eu haddysg neu hyfforddiant yn yr ardal. Mae rhai cynghorau wedi sefydlu cyngor ieuenctid, neu bwyllgor o bobl ifanc, i wrando ar farn y bobl ifanc hynny. Os nad oes gan eich cyngor gynrychiolwyr ieuenctid neu gyngor neu bwyllgor ieuenctid, gallwch ysgrifennu at y cyngor gan ofyn iddynt ystyried yr opsiynau hyn neu, ar yr amod bod eich cyngor yn rhoi caniatâd, gallwch hyd yn oed godi’r mater mewn cyfarfod o’r cyngor.

Gallwch hefyd gysylltu â’ch cyngor cymuned neu dref i roi’ch barn ar bwnc a chymryd rhan mewn ymarferion ymgynghori a gynhelir gan y cyngor.

Sut alla i ddweud fy marn wrth fy nghyngor cymuned neu dref?

Mae dyletswydd ar gynghorau cymuned a thref i ystyried barn pawb sy’n byw yn eu cymuned. Dylent ofyn am farn yr etholwyr a’r rheini nad ydynt yn gallu pleidleisio, fel pobl ifanc.

I wneud hyn, efallai y bydd eich cyngor yn cynnal amrywiaeth o ymarferion ymgynghori gydol y flwyddyn. Bydd y rhain yn cynnig cyfle ichi roi’ch barn ar fater penodol neu roi’ch barn yn gyffredinol ar y gymuned. Gall eich cyngor hefyd drefnu cyfarfod o’r gymuned neu’r dref a fydd yn gyfle i’r etholwyr drafod gwaith y cyngor a’r hyn sy’n digwydd yn yr ardal. Os bydd 10% o’r etholwyr neu 50 ohonynt, gan ddibynnu pa un sydd leiaf, yn dymuno gwneud hynny, gall yr etholwyr eu hunain drefnu cyfarfod o’r fath hefyd.

Mae cyfarfodydd y cyngor, ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau yn agored i’r cyhoedd, ac eithrio pan fo materion sensitif iawn yn cael eu trafod. Mae Llywodraeth Cymru yn annog cynghorau cymuned a thref i wahodd aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan yn y cyfarfodydd. Mae rhai cynghorau yn pennu amser penodol yn ystod eu cyfarfodydd er mwyn i aelodau’r cyhoedd allu mynegi’u barn neu holi cwestiynau

Gallwch hefyd ysgrifennu i’ch cyngor cymuned neu dref ar unrhyw adeg, neu anfonwch e-bost os oes gan y cyngor gyfeiriad e-bost. Os na allwch ddod o hyd i’r manylion cyswllt ar gyfer eich cyngor cymuned neu dref, gall eich cyngor sir neu’ch cyngor bwrdeistref sirol eich cynorthwyo.

Drwy wneud hyn, gallwch gael gwybodaeth fanylach, drwy gyfrwng cyhoeddiadau am y cynghorau cymuned a thref, a’u gwaith. Mae canllawiau ar gael hefyd i gynghorwyr cymuned a chynghorwyr tref, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth ac ymgyngoriadau perthnasol.

Ble alla i ddod o hyd i wybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru?

Gallwch ddod o hyd i gopïau o Ddeddfau, Biliau a Mesurau, yn ogystal ag is-ddeddfwriaeth, ar wefan Senedd Cymru, ynghyd ag agendâu a thrawsgrifiadau o’r cyfarfodydd pwyllgor a’r cyfarfodydd llawn hynny y cafodd y ddeddfwriaeth ei thrafod ynddynt.