Cylch gwaith
Beth oedd pwrpas, cwmpas a nodau Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru.
Mae Cyngor Cynghori Gwyddoniaeth a Arloesedd Cymru ar gau.
Cynghorodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru (y Prif Gynghorydd Gwyddonol) ar bob math o faterion gwyddonol a pholisïau cysylltiedig â gwyddoniaeth a fydd yn:
- datblygu ac yn cynnal economi Cymru a chodi safon byw pobl Cymru
- mynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth wyddonol Cymru ar gyfer y problemau sydd o’i blaen
- gwella enw da Cymru fel gwlad sy’n ymgysylltu ac yn gefnogol o wyddoniaeth
Darparodd Cyngor Cynghori gyngor i'r Prif Gynghorydd Gwyddoniaeth ar strategaeth, polisi a blaenoriaethau gwyddonol fel bod Llywodraeth Cymru’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r cyngor, y wybodaeth a’r technegau gwyddonol sydd ar gael er mwyn pennu a gweithredu polisïau i ategu ei holl amcanion gwahanol.
Bydd y Cyngor Cynghori yn cymryd safbwynt tymor canolig i’r hirdymor, gan ddefnyddio proses sganio’r gorwel, wrth baratoi ei gyngor.
Cymerodd y Cyngor Cynghori cymryd safbwynt tymor canolig i’r hirdymor, gan ddefnyddio proses sganio’r gorwel, wrth baratoi ei gyngor.
Roedd gan y cyngor cynghori rôl gynghorol yn unig ac nid oedd yn cyfeirio unrhyw wariant ar ymchwil nac yn dal unrhyw gyfrifoldebau statudol.
