Canllawiau ar sut i ddiogelu eich hun.
Cynnwys
A yw COVID-19 wedi diflannu?
Nid yw COVID-19 wedi diflannu a bellach rydym yn byw gyda COVID-19 fel un o nifer o heintiau anadlol.
Rydym yn debygol o weld patrymau heintio sy’n newid ledled y byd am sawl blwyddyn. Po fwyaf o bobl ym mhob gwlad sy'n cael eu brechu, y lleiaf yw'r risg i bawb, gan gynnwys yn y DU.
Mae parhau â phatrymau ymddygiad sy’n ein hamddiffyn yn bwysig ac yn helpu i leihau ein cysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaeniad, yn ogystal â heintiau anadlol a chlefydau eraill.
Mae ymddygiadau cyffredinol sy’n ein hamddiffyn yn cynnwys:
- cael eich brechu os ydych yn gymwys
- aros gartref os ydych yn sâl ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill
- sicrhau hylendid dwylo da
- gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau prysur dan do neu fannau caeedig, gan gynnwys lleoliadau iechyd a gofal
- cwrdd ag eraill yn yr awyr agored
- mewn lleoliadau dan do, cynyddu’r awyru a gadael awyr iach i mewn os yw’n bosibl
Oes angen imi wisgo gorchudd wyneb?
Nid yw gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus eraill o dan do bellach yn ofynnol yn ôl y gyfraith.
Er nad yw bellach yn ofyniad cyfreithiol, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn parhau i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau gofal iechyd. Drwy wisgo gorchudd wyneb byddwch yn helpu i amddiffyn pobl eraill o'ch cwmpas, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed.
Efallai y byddwch hefyd am ystyried gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau eraill, ac efallai y gofynnir ichi wneud hynny.
Parchwch ddewisiadau pobl eraill, p'un a ydynt yn dewis gwisgo gorchudd wyneb ai peidio.
Gall busnesau a lleoliadau eraill hefyd ddewis gofyn i'w staff neu eu cwsmeriaid wisgo gorchudd wyneb pan fyddant ar eu safle, er nad oes eu hangen yn gyfreithiol arnynt. Mae angen i weithredwyr safleoedd hefyd gadw mewn cof na all rhai pobl wisgo gorchuddion wyneb am amrywiol resymau dilys.
Dylech hefyd barchu unrhyw benderfyniadau gan safleoedd unigol ynghylch y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb wrth fynd i mewn i'w safle neu o’i fewn.
Nid wyf wedi cael fy mrechu, a yw'n rhy hwyr?
Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu. Mae yna ganolfannau brechu ledled Cymru o hyd, a chewch gerdded i mewn i lawer ohonynt. Mae gan fyrddau iechyd gwahanol drefniadau gwahanol. I gael gwybod beth yw'r trefniadau yn ardal eich bwrdd iechyd lleol chi, dyma'r ddolen: Cael eich brechlyn COVID-19.
Mae fy nghyflogwr yn dweud na allaf weithio gartref bellach, beth allaf ei wneud?
Nid yw gweithio gartref yn ofyniad cyfreithiol bellach. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn fesur effeithiol i reoli iechyd y cyhoedd er mwyn lleihau cysylltiad pobl â'r coronafeirws a'i ledaeniad, yn ogystal â heintiau anadlol a chlefydau eraill.
Mae busnesau a chyflogwyr yn cael eu hannog i ystyried trefniadau gweithio gartref fel rhan o'u dyletswyddau cyffredinol o dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a Gwaith.
Efallai fod yna angen busnes neu les gwirioneddol sy'n golygu na ellir gwneud eich gwaith o gartref. Os ydych yn credu y gallwch weithio gartref, dylech drafod hyn gyda'ch cyflogwr neu’ch undeb llafur yn y lle cyntaf. Os na allwch ddatrys y mater, cysylltwch â’ch undeb llafur neu gofynnwch am gyngor gan Acas.
Rydym yn parhau i hyrwyddo manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gweithio o bell lle bo hynny'n bosibl.
Beth allaf ei wneud os ydw i’n poeni am y mesurau diogelu yn fy ngweithle?
Rydym yn cydnabod, wrth ddileu mesurau diogelu cyfreithiol sy'n benodol i'r coronafeirws, y gallai rhai unigolion fod yn bryderus am eu hiechyd a'u diogelwch yn y gweithle, yn enwedig wrth i fwy o bobl ddychwelyd i amgylchedd gwaith wyneb yn wyneb.
Os oes gennych bryderon bod eich iechyd a’ch diogelwch yn cael eu cyfaddawdu yn y gwaith, dylech drafod hyn gyda'ch cyflogwr neu’ch undeb llafur yn y lle cyntaf. Os na allwch ddatrys y mater, cysylltwch â’ch undeb llafur neu gofynnwch am gyngor gan Acas.
Rydw i ar fin teithio dramor, beth sydd angen imi ei wneud?
Cyn ichi deithio, rhaid ichi wirio beth yw’r gofynion i ymwelwyr yn y wlad lle rydych yn bwriadu teithio. Efallai y bydd yn rhaid dangos tystiolaeth o’ch statws brechu, cael profion, a rhoi rhesymau dros eich ymweliad.
Os ydych yn teithio gyda phlant, mae hyn yn arbennig o bwysig gan y gall gofynion mynediad fod yn wahanol i oedolion a'r rhai o dan 18 oed.
Mae'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn rhoi cyngor ar deithio dramor (ar UK GOV).
Mae'r holl ofynion ar gyfer pobl sy'n cyrraedd Cymru o dramor wedi'u dileu. Fodd bynnag, rydym yn annog pob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru i wneud prawf llif unffordd, yn enwedig cyn iddynt gwrdd ag unrhyw un yn gymdeithasol.