Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar deithio ar fysiau a threnau am ddim ledled Cymru ar gyfer ffoaduriaid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Dechreuodd y cynllun teithio am ddim ar 26 Mawrth 2022 a bydd yn para tan 24 Gorffennaf 2023. Mae trefniadau ar gyfer ar ôl 24 Gorffennaf 2023 yn cael eu hystyried.

Mae’r cynllun yn caniatáu teithio diderfyn ar:

  • bob gwasanaeth bysiau lleol
  • gwasanaethau trenau Trafnidiaeth Cymru ledled Cymru
  • gwasanaethau bysiau a threnau Trafnidiaeth Cymru sy’n dechrau AC yn gorffen yng Nghymru

Mae’r cynllun ar gael i ffoaduriaid sy’n teithio i Gymru i chwilio am loches.

Cymhwysedd

Mae’r cynllun ar gael i bob ffoadur a’r rheini sy’n ceisio amddiffyniad rhyngwladol yma yng Nghymru, yn unol â’n gweledigaeth i fod yn Genedl Noddfa, ond rhaid dangos un o’r canlynol:

  • Trwydded Breswylio Fiometrig (BRP) sy’n nodi bod rhywun yn 'Ffoadur', bod ganddo statws 'HP' neu ‘Amddiffyniad Dyngarol’ (‘Humanitarion Protection’) neu sy’n cynnwys y geiriau ‘Afghan’, ‘Ukraine’ neu ‘Hong Kong’;
  • llythyr oddi wrth y Swyddfa Gartref / Ysgrifennydd Cartref wedi’i gyfeirio’n bersonol sy’n cadarnhau un o’r statysau a restrir yn y pwynt bwled uchod
  • pasbort dilys Wcráin neu Affghanistan neu Basbort Gwladolion Tramor Prydeinig Hong Kong

Eithriadau

Ni ellir teithio am ddim ar wasanaethau National Express na gwasanaethau megabus stagecoach.

Defnyddio’r cynllun

Nid oes angen gwneud cais i ddefnyddio’r cynllun hwn.

Os na allwch ddangos tystiolaeth ddilys ni fyddwch yn cael teithio am ddim a bydd prisiau safonol yn berthnasol.

Bydd defnydd twyllodrus yn arwain at yr hawl i deithio am ddim yn cael ei thynnu’n ôl, a bydd yr awdurdodau perthnasol yn cael eu hysbysu. Gall hyn arwain at erlyniad.

Mae amodau teithio gweithredwyr unigol yn berthnasol ar gyfer pob taith a wneir.

Talu ac archebu ymlaen llaw

Os ydych yn gymwys, ni fydd angen ichi dalu i deithio os ydych yn gallu dangos un o’r dogfennau ID gofynnol. Bydd y gyrrwr yn rhoi tocyn teithio dim gwerth ichi.

Cewch deithio am ddim ac ni fydd angen ichi dalu.

Rhagor o wybodaeth

Mae gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar gael drwy’r isod: 

Gwefan: Traveline Cymru.

Ffôn: 0800 464 00 00