Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cefndir

O ganlyniad i bandemig COVID-19, cafodd llawer o'r casgliadau data tai/allbynnau ystadegol a gynhyrchwyd yn rheolaidd gan Lywodraeth Cymru eu canslo neu eu gohirio yn ystod 2020.

Ar ddechrau 2021, cynhaliodd y tîm casglu data a'r tîm ystadegau tai yn Llywodraeth Cymru gyfres o drafodaethau â chydweithwyr polisi i bennu’r gofynion tystiolaeth parhaus ac adolygu'r amserlen i gyflwyno/cyhoeddi data ar gyfer 2021-22 (a fyddai’n cipio data ar gyfer cyfnod 2020-21).

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adegau yr oedd angen data ar wahanol bynciau yn ystod y flwyddyn, y baich a roddir ar ddarparwyr data a'r tîm casglu data, yn ogystal â sut y mae trefn casgu’r data yn ystod y flwyddyn yn effeithio ar ddilysiant y gwahanol gasgliadau. 

Mae'r papur hwn yn crynhoi cyfres o gynigion sy'n deillio o'r trafodaethau hyn ac yn gofyn am adborth gan y rheini sy’n rhan o’r Grŵp Gwybodaeth Tai.

Crynodeb o’r cynigion

Rydym yn cynnig y newidiadau canlynol i gasgliadau data tai / datganiadau ystadegol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22:

  • Bydd gwybodaeth reoli am lety i'r rhai sy'n ddigartref / am y rhai sy'n cysgu allan yn parhau i gael ei chasglu gan awdurdodau lleol a'i chyhoeddi'n fisol tan fis Mawrth 2022 o leiaf.
  • Bydd y gwaith blynyddol a statudol o gasglu a chyhoeddi data ar ddigartrefedd ar gyfer 2020-21 yn cael ei gynnal, a rhai tablau data yn cael eu dileu. Ni ofynnir am ddata ar gyfer chwarteri unigol (cyfnodau o dri mis) ac ni chyhoeddir penawdau ystadegol chwarterol.
  • Bydd data ar dai newydd eu hadeiladu ar gyfer 2020-21 yn cael eu casglu a'u cyhoeddi'n flynyddol yn unig. Ni ofynnir am ddata ar gyfer chwarteri unigol ac ni chyhoeddir penawdau ystadegol chwarterol.
  • Bydd amserlen a gwaith comisiynu rhai casgliadau data yn dechrau'n hwyrach nag sydd wedi digwydd mewn blynyddoedd blaenorol. A’r rheswm am hyn yw y bydd angen i Lywodraeth Cymru a darparwyr data ddal i fyny â'r casgliadau a ohiriwyd yn 2020-21.

Nodwch fod y cynigion hyn yn ymwneud â 2021-22 yn unig ac y byddant yn cael eu hadolygu ar gyfer y blynyddoedd dilynnol.

Amlinellir amserlen fanwl o gasgliadau data yn y tabl isod.

Amserlen o gasgliadau data
Casgliadau data neu datganiadau Dyddiad anfon ffurflenni Dyddiad dychwelyd ffurflenni
Gwerthiannau gan landlordiaid cymdeithasol Cymru 2020-21 19 Mai 2021 3 Mehefin 2021
Y stoc ar 31 Mawrth 2021 a rhenti wythnosol 2021-22 21 Mai 2021 11 Mehefin 2021
Tai newydd eu hadeiladu, blynyddol: Ebrill 2020 i Mawrth 2021 21 Mai 2021 9 Mehefin 2021
Digartrefedd, blynyddol: Ebrill 2020-Mawrth 2021  21 Mai 2021 15 Mehefin 2021
Darparu tai fforddiadwy 2020-21 18 Mehefin 2021 16 Gorffennaf 2021
Tai cymdeithasol: cytundeb rhentu / SAP 2020-21 6 Medi 2021 20 Medi 2021
Tai cymdeithasol: eiddo gwag 2020-21 22 Hydref 2021 26 Tachwedd 2021
Tai cymdeithasol: eiddo ar osod 2020-21 22 Hydref 2021 26 Tachwedd 2021
Tai cymdeithasol: ôl-ddyledion rhent 2020-21 22 Hydref 2021 26 Tachwedd 2021
Dymchweliadau, peryglon a thrwyddedau 2020-21 27 Awst 2021 8 Hydref 2021
Cymorth ar gyfer gwella tai 2020-21 15 Hydref 2021 12 Tachwedd 2021
Grantiau cyfleusterau i’r anabl 2020-21 15 Hydref 2021 12 Tachwedd 2021
Gweithgarwch ardaloedd adnewyddu 2020-21 15 Hydref 2021 12 Tachwedd 2021

Nodwch fod casgliadau data a drefnwyd ar gyfer hanner olaf 2021-22 yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Gallai'r casgliadau hyn gynnwys gofyniad data is, ond ni fyddant yn cynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol i'r hyn y gofynnwyd amdano mewn blynyddoedd blaenorol.