Cynllun Cartrefi Clyd Nyth: adroddiad blynyddol 2023 i 2024
Sut mae cynllun Cartrefi Clyd Nyth wedi gwneud cartrefi yng Nghymru yn gynhesach ac yn fwy effeithlon o ran ynni rhwng 2023 a 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair Gweinidogol
Roedd y cyfnod adrodd hwn yn heriol unwaith eto, gyda chostau ynni yn dal i fod yn sylweddol uwch na'r lefelau cyn yr argyfwng a'r rhyfel yn yr Wcráin yn dal i achosi ansicrwydd ynghylch cyflenwadau tanwydd. Mae hyn wedi arwain at argyfwng ynni a chostau byw parhaus sy'n effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Ni bu cynllun Nyth erioed mor bwysig o ran gwella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi.
Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i’r fenter hon gyda buddsoddiad o £39.3 miliwn yn 2023-24. Mae hyn yn dod â chyfanswm yr arian rydym wedi’i ddarparu ar gyfer y Cynllun i dros £251 miliwn ers ei sefydlu yn 2011. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi aelwydydd agored i niwed ar draws y wlad. Mae'r buddsoddiadau hyn nid yn unig wedi cefnogi gwelliannau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi perchen-feddianwyr a chartrefi sy'n cael eu rhentu'n breifat; maent hefyd wedi cynnig cymorth hanfodol i'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Drwy ganolbwyntio ar aelwydydd incwm isel ac ardaloedd difreintiedig, mae Nyth wedi helpu dros 66,000 o deuluoedd i ostwng eu biliau ynni, gan wella’u hiechyd a’u lles ar yr un pryd.
Gwyddom y gall cartrefi gwyrddach a chynhesach arwain at roi mwy o arian ym mhocedi pobl. Rwy’n falch o weld, dros y flwyddyn ddiwethaf, fod Nyth wedi darparu cyngor arbed ynni i hyd at 13,000 o aelwydydd ac wedi cyflawni gwelliannau ynni cartref cynhwysfawr i dros 4,800 o gartrefi. Ar gyfartaledd, llwyddodd y mesurau hyn i arbed £595 y flwyddyn i gartrefi oddi ar eu biliau ynni, ac maent wedi cyfrannu at ostyngiad mewn allyriadau carbon. Nododd gwiriadau hawl i fudd-daliadau hefyd enillion posibl o £4,200 y cartref ar gyfartaledd, gan amlygu effaith ehangach Nyth.
Ym mlwyddyn ariannol 2023-2024, llwyddodd Nyth hefyd i wella’i ymdrechion allgymorth. Mae wedi mabwysiadu ffyrdd o ddeall data er mwyn mireinio gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu â chartrefi agored i niwed drwy bost uniongyrchol, hysbysebu digidol, a phartneriaethau gyda byrddau iechyd, elusennau a sefydliadau cymunedol. Drwy addasu ei gymorth i anghenion unigol, sicrhaodd Nyth fod cymorth yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf mewn angen.
Mae ymrwymiad Nyth i wella ansawdd bywyd trigolion ledled Cymru hefyd wedi arwain at gyngor wedi’i deilwra ar effeithlonrwydd dŵr, rheolaeth ariannol, a mynediad at wasanaethau cymorth eraill, gan gynnwys asiantaethau Tân ac Achub, Gofal a Thrwsio, a Gostyngiadau Cartrefi Cynnes. Wrth fyfyrio ar lwyddiannau’r flwyddyn ddiwethaf, mae’n amlwg bod Nyth wedi darparu buddion ariannol hanfodol i gartrefi gan feithrin ymdeimlad o gymuned a chefnogaeth ar yr un pryd.
Ar 1 Ebrill 2024, lansiwyd fersiwn nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd, gan sicrhau na fyddai bwlch yn y ddarpariaeth rhwng y Rhaglen flaenorol a’r Rhaglen newydd. Bydd Nyth yn parhau fel prif fecanwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi tanwydd. Mae’r cynllun newydd yn rhoi pwyslais cryfach ar dechnolegau carbon isel sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol sero net. Mae Nyth yn dal i fod yn un o’r conglfeini yn y frwydr yn erbyn tlodi tanwydd yng Nghymru, gan ddarparu cymorth hanfodol i’r rhai mwyaf agored i niwed a gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol mwy teg a mwy cynaliadwy.
Cynllun Nyth
Cynigiodd cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni i gartrefi incwm isel a'r rhai oedd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru.
Rhwng 2011 a 2024, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £251 miliwn yn y cynllun, a gwariwyd £39.3 miliwn yn 2023-24. Cefnogodd y buddsoddiad hwn effeithlonrwydd ynni’r stoc tai sy’n eiddo i berchen-feddianwyr a’r stoc tai sy’n cael eu rhentu’n breifat ledled Cymru, a helpodd i leihau biliau tanwydd a gwella iechyd a lles y cartrefi mwyaf anghenus.
Ein blaenoriaethau oedd:
- Rhoi cyngor diduedd, rhad ac am ddim i gartrefi a’u cyfeirio at ystod o wasanaethau cymorth;
- Cefnogi cartrefi cymwys gyda phecyn o fesurau ynni cartref am ddim;
- Gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau partner a sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd y cartrefi mwyaf bregus yng Nghymru;
- Cefnogi Strategaeth Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru i helpu pobl sy’n ei chael yn anodd talu costau eu hanghenion ynni domestig.
Ein llwyddiannau:
Drwy’r cynllun yn 2023-24, darparwyd:
- Cyngor arbed ynni diduedd am ddim i 12,809 o gartrefi;
- Pecyn gwella ynni cartref, fel system gwres canolog, boeler, inswleiddio, panel solar ffotofoltäig neu bwmp gwres o’r aer, a hynny i 4,816 o gartrefi;
- Arbediad bil ynni wedi'i fodelu o £595 y flwyddyn ar gyfartaledd;
- Gwiriadau hawl i fudd-daliadau yn arwain at botensial o hyd at £4,233 y cartref o fudd-daliadau ychwanegol ar gyfartaledd;
- 100% o'r gosodiadau wedi’u cwblhau gan osodwyr o Gymru.
Rheolwyd cynllun Nyth 2023-24 gan Nwy Prydain, yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, ar ran Llywodraeth Cymru.
Cyrraedd cartrefi bregus
Cafodd mewnwelediadau data a gwaith dadansoddi cwsmeriaid, a ddatblygwyd ers sefydlu Nyth yn 2011, eu defnyddio i lywio’r gwaith marchnata, er mwyn sicrhau bod cyfathrebiadau priodol yn cyrraedd y cwsmeriaid mwyaf anghenus.
Roedd hyn yn cynnwys:
- hyrwyddo gwefan Nyth gyda 152,865 o ddefnyddwyr yn ystod 2023-24;
- ymgyrch postio uniongyrchol a gyrhaeddodd 50,662 o gartrefi bregus yng Nghymru;
- talu am hysbysebion Facebook a Google wedi'u targedu at gwsmeriaid cymwys ar draws y wlad;
- cefnogi byrddau iechyd, elusennau, a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i gyrraedd cartrefi a allai elwa ar ein cyngor a’n cymorth.
Cyngor a chymorth
Yn 2023-24, rhoddodd Nyth gyngor a chymorth wedi’u teilwra i 12,809 o gartrefi.
Cafodd pob cwsmer a ffoniodd linell gymorth Nyth gyngor a chymorth wedi’u teilwra gan ein tîm cynghori i sicrhau eu bod yn cael y cymorth mwyaf priodol i gyd-fynd â’u hanghenion penodol nhw. Roedd hyn yn cynnwys cyngor ar arbed ynni ac effeithlonrwydd dŵr, pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim, a chael eu cyfeirio a’u hatgyfeirio at amrywiaeth o wasanaethau cymorth.
Cymorth trydydd parti
Cyfeiriodd Nyth gartrefi at sefydliadau eraill i ddarparu cymorth pellach pan oedd hynny'n briodol.
Gwiriadau Hawl i Fudd-daliadau
Yn ystod y flwyddyn, canfuwyd bod 155 o gartrefi yn gymwys i gael budd-daliadau newydd neu ychwanegol, yn dod i gyfanswm o £4,233 y cartref ar gyfartaledd. Mae hyn yn cyfateb i £656,115 o fudd-daliadau yn ystod 2023-24.
Gwasanaethau Gofal a Thrwsio
Darparodd asiantaethau Gofal a Thrwsio amrywiaeth o wasanaethau i helpu pobl hŷn i fyw mewn cartrefi sy'n saff, yn ddiogel, ac yn briodol i'w hanghenion. Atgyfeiriodd Nyth 414 o gartrefi at wasanaethau Gofal a Thrwsio yn 2023-24, gyda 192 o ddeiliaid cartrefi’n defnyddio’r gwasanaeth gweithwyr achos.
Gostyngiad Cartrefi Cynnes
At ei gilydd, atgyfeiriwyd 2,041 o gwsmeriaid at eu cyflenwr ynni i gael y Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn 2023-24.
Gwasanaethau Tân ac Achub
Cyfeiriodd Nyth 1,518 o gwsmeriaid at y Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru, a chafodd 205 ohonynt wiriad diogelwch tân yn y cartref am ddim.
Cwmnïau Dŵr
Cyfeiriodd Nyth gwsmeriaid at gynlluniau fforddiadwyedd gan Dŵr Cymru a oedd yn cynnwys HelpU, Dŵr Uniongyrchol, y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid a WaterSure. Yn ystod 2023-24, atgyfeiriwyd 1,675 o gwsmeriaid, gyda:
- 44 o gwsmeriaid yn elwa o HelpU;
- 22 o gwsmeriaid yn elwa o Dŵr Uniongyrchol;
- 76 o gwsmeriaid yn elwa o'r Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid; a
- 23 o gwsmeriaid yn elwa o WaterSure.
Cyngor ar reoli arian
Cafodd 1,612 o gwsmeriaid gyngor ar reoli arian yn 2023-24 a chafodd 1,138 pellach o gwsmeriaid gyngor ar reoli dyled.
Pecynnau gwella ynni cartref
Helpodd cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru gartrefi sydd mewn tlodi tanwydd i leihau eu biliau ynni drwy welliannau effeithlonrwydd ynni rhad ac am ddim yn y cartref.
Aseswyd cwsmeriaid a gysylltodd â Nyth i gael cyngor a chymorth er mwyn gweld a oeddent yn gymwys i gael pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim.
Y meini prawf i gael gwelliannau cartref oedd:
- bod aelod o’r cartref yn cael budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd a’r eiddo yn eiddo preifat neu’n cael ei rentu gyda sgôr ynni dangosol o E, F neu G; neu
- bod aelod o’r cartref yn byw gyda chyflwr iechyd (mewn eiddo preifat neu oedd yn cael ei rentu gyda sgôr o D, E, F neu G) a bod eu hincwm islaw trothwyon penodol.
Data meini prawf iechyd
Cafodd cyfanswm o 31,078 o gartrefi eu hasesu drwy’r meini prawf iechyd rhwng mis Gorffennaf 2019 a diwedd mis Mawrth 2024 ar ôl methu bodloni meini prawf y cynllun o ran budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd. O’r rhain, roedd 14,571 (46.9%) yn bodloni’r meini prawf eiddo a chyflwr iechyd ac fe’u cyfeiriwyd i gael asesiad incwm gyda 8,107 (26.1%) yn pasio’r asesiad incwm ac felly’n bodloni’r holl feini prawf iechyd – gosodwyd mesurau yn 6,564 o’r cartrefi hyn.
Roedd llawer o’r atgyfeiriadau meini prawf iechyd yn gartrefi bregus:
- Roedd 72.9% yn 60 oed neu’n hŷn;
- Roedd 70.0% mewn cartrefi un incwm ac yn 60 oed neu’n hŷn;
- Roedd 19.9% mewn cartrefi dau oedolyn 60 oed neu hŷn;
- Roedd 70.0% yn byw mewn eiddo oedd â sgôr effeithlonrwydd ynni o E, F neu G;
- Roedd 30.0% yn byw mewn eiddo oedd â sgôr effeithlonrwydd ynni o D;
- Roedd incwm 71.1% o’r cartrefi yn is nag 80% o'r trothwy incwm;
- Roedd incwm 23.2% o’r cartrefi yn is na 50% o'r trothwy incwm.
Proses gosod pecyn gwella ynni cartref
Gweithiodd Nyth mewn partneriaeth â Rhentu Doeth Cymru i sicrhau bod pob landlord preifat wedi’i gofrestru’n swyddogol cyn cael mynediad at gymorth gan y cynllun ar gyfer eu heiddo rhent.
Byddai asesydd cwbl gymwys:
- yn ymweld â chartref y cwsmer i gwblhau asesiad tŷ cyfan;
- yn nodi'r mesurau mwyaf priodol a chost-effeithiol ar gyfer yr eiddo; ac
- yn cadarnhau a oedd y cwsmer yn gymwys.
Gwnaeth tîm Nyth yn siŵr fod pob caniatâd a chydsyniad oedd yn ofynnol (landlordiaid, cynllunio ac ati) a phob gofyniad trydydd parti (cysylltiadau nwy, tynnu asbestos ac ati) wedi eu cwblhau cyn cytuno ar y dyddiadau gosod gyda'r cwsmer.
Cafodd y gwasanaethau gosod eu darparu gan rwydwaith o osodwyr yng Nghymru o dan reolaeth tîm Nyth. Byddai arolygiad yn cael ei gynnal o'r pecyn gosod oedd wedi’i gwblhau ac roedd unrhyw ddiffygion fyddai’n cael eu nodi yn cael eu cywiro’n gyflym ac yn effeithiol.
Roedd pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref Nyth yn cael eu cynllunio ar gyfer pob eiddo unigol, felly doedd dim pecyn safonol o fesurau, ond gallai gynnwys boeler newydd, system gwres canolog, neu insiwleiddio atig a gallai rhai gynnwys technolegau mwy newydd fel paneli solar ffotofoltäig, pympiau gwres o’r aer ac inswleiddio waliau allanol.
Math o fesurau a osodwyd | Canran |
---|---|
Gosod gwres canolog | 68.3% |
Solar a batri | 19.2% |
Inswleiddio safonol | 9.1% |
Solar yn unig | 3.4% |
Gwelliannau inswleiddio | 0.1% |
Math o fesurau a osodwyd ar gyfer cartrefi nad ydynt ar y grid nwy 2023-24
Roedd mwyafrif y gwelliannau ynni cartref ar gyfer tanwydd nwy naturiol (78.88%). Dangosir cyfradd gosod gyda mathau eraill o danwydd yn y siart isod:
Nodweddion cartrefi ac eiddo
Pryd bynnag roedd modd, nod Nyth oedd dod â phobl allan o dlodi tanwydd.
Yn ystod y broses ymgeisio gychwynnol, gofynnwyd i ddeiliaid cartrefi gadarnhau eu hincwm. Aseswyd y wybodaeth hon yn erbyn costau rhedeg wedi'u modelu ar gyfer eu cartref. Roedd hyn yn galluogi Tîm Cyngor Nyth i asesu a oedd y cwsmer yn byw mewn tlodi tanwydd.
Barnwyd bod cartrefi oedd yn gwario dros 10% o'u hincwm ar filiau ynni yn byw mewn tlodi tanwydd, gyda chartrefi oedd yn gwario dros 20% yn cael eu hystyried fel rhai oedd yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol.
Proffil tlodi tanwydd
Cyn iddynt gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref, amcangyfrifwyd bod 64.6% o'r cartrefi a gysylltodd â Nyth yn byw mewn tlodi tanwydd. Roedd 30.6% yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol.
Daliadaeth derbynwyr pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref
Roedd 78.6% o'r cartrefi a gafodd becyn gwella effeithlonrwydd ynni cartref yn eiddo i berchen-feddianwyr, gyda 21.4% o gartrefi yn cael eu rhentu'n breifat.
Proffil oedran derbynwyr pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref
Roedd gan ychydig dros hanner y cartrefi a gafodd becyn gwella effeithlonrwydd ynni cartref broffil oedran o 60 neu hŷn:
- 1.1% oedd o dan 24 oed;
- Roedd 46.6% rhwng 24 a 59 oed;
- Roedd 17.8% rhwng 60 a 69 oed;
- Roedd 34.5% yn 70 oed neu'n hŷn.
Derbynwyr pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref yn ôl dosbarthiad trefol a gwledig
Mae dadansoddiad yn ôl dosbarthiad trefol a gwledig ar gyfer y cwsmeriaid a gafodd becyn gwella effeithlonrwydd ynni cartref yn dangos bod 65.1% yn byw mewn ardaloedd trefol a 34.9% yn byw mewn ardaloedd gwledig.
Derbynwyr pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref yn ôl cysylltiad nwy
Cyfran y cwsmeriaid nad oeddent wedi'u cysylltu â'r prif gyflenwad nwy cyn cael mesurau o dan y cynllun oedd 17.5%.
Derbynwyr pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref yn ôl y math o eiddo
Mae cyfran y rhai a gafodd becynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref yn seiliedig ar y math o eiddo fel a ganlyn:
- Tŷ yng nghanol teras 30.4%;
- Tŷ pâr 30.3%;
- Byngalo 13.3%;
- Tŷ sengl 10.2%;
- Tŷ ar ben teras 9.9%;
- Fflatiau 5.4%;
- Cartrefi mewn parciau 0.4%.
Gwella effeithlonrwydd ynni
Mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref Nyth wedi arbed amcangyfrif o £595 y flwyddyn yr un oddi ar fil cartrefi ar gyfartaledd, gan wneud gwahaniaeth go iawn i gartrefi tlawd o ran tanwydd.
Sgôr SAP: esboniad
Cyfrifodd cynllun Nyth effeithiau ei welliannau effeithlonrwydd ynni ar gartrefi gan ddefnyddio sgôr Gweithdrefn Asesu Safonol Data Gostyngol (SAP)1. Mae'r feddalwedd yn mesur y sgôr SAP cyn ac ar ôl gosod mesurau addas. Y nod yw gosod pecyn o fesurau i gynyddu sgôr ynni eiddo tuag at sgôr SAP o C pan fo gwneud hynny’n bosib ac yn gost-effeithlon. Cafodd y mesurau a osodwyd eu hailfodelu i gyfrif am unrhyw newidiadau i'r pecyn gwreiddiol oherwydd anawsterau technegol neu gwsmeriaid yn newid eu meddwl.
Byddai asesydd Nyth yn sefydlu sgôr SAP presennol yr eiddo a'r sgôr SAP posib pe bai pecyn gwella effeithlonrwydd ynni cartref yn cael ei osod. Mae eiddo Band A yn ynni-effeithlon iawn a’r rhain fydd â’r costau rhedeg isaf, tra bod band G yn golygu bod cyfraddau effeithlonrwydd ynni eiddo yn wael ac y bydd y costau rhedeg yn uwch er mwyn cynnal yr un safonau gwresogi a goleuo.
Mae’r buddion yn seiliedig ar ddeilliannau sydd wedi’u modelu, a bydd y gostyngiadau a’r arbedion go iawn yn dibynnu ar ymddygiad y cwsmer unigol. Yn aml, nid yw cartrefi mewn tlodi tanwydd yn gwresogi eu cartrefi’n effeithiol ac felly, mewn rhai achosion, y budd i’r cwsmer fydd mwy o gysur a lles drwy’r gallu i wresogi’r cartref yn fwy effeithiol yn hytrach na gostyngiad mewn biliau tanwydd.
Newidiadau yn y sgôr SAP cyn ac ar ôl gosod pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref
Sgôr SAP cyn gosod
Roedd sgoriau SAP cartrefi cyn gosod pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref fel a ganlyn:
- Sgôr SAP o E oedd gan 5.6% o gartrefi;
- Sgôr o F oedd gan 29.8% o gartrefi; a
- Sgôr o G oedd gan 64.6% o gartrefi.
Sgôr SAP ar ôl gosod
Roedd sgoriau SAP cartrefi ar ôl gosod pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref fel a ganlyn:
- Roedd gan 20.2% o gartrefi sgôr SAP o C;
- Roedd gan 61.2% o gartrefi sgôr o D;
- Roedd gan 14.9% o gartrefi sgôr o E; a
- 3.6% o gartrefi oedd â sgôr o F.
Arbedion cartrefi: costau, ynni ac allyriadau carbon deuocsid
Mae'r tabl yn dangos dadansoddiad o'r arbedion ynni wedi'u modelu ar gyfer pob cartref a gafodd fesurau, yn ôl awdurdod lleol, gydag amcangyfrif o £595 y flwyddyn o arbediad ar gyfartaledd, neu 22,193 megajoule (unedau ynni) y flwyddyn.
Mae hefyd yn dangos y dadansoddiad yn ôl gostyngiadau mewn allyriadau carbon gydol oes ar gyfer cartrefi a gafodd becyn gwella effeithlonrwydd ynni cartref. Yn ôl y gwaith modelu, mae lleihad o dros 107,525 tunnell o ran CO2 yng nghyfanswm yr allyriadau oes.
Awdurdod lleol | Arbediad Oes Swm y CO2 (tCO) | Arbediad Defnydd Ynni ar Gyfartaledd (megajouleau) | Arbediad Cost Tanwydd Cyfartalog Blynyddol |
Blaenau Gwent | 3,050 | 25,109 | £461 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 4,659 | 20,299 | £519 |
Caerffili | 7,903 | 23,369 | £628 |
Caerdydd | 8,196 | 18,460 | £798 |
Sir Gâr | 8,589 | 24,647 | £661 |
Ceredigion | 5,048 | 24,558 | £753 |
Conwy | 2,910 | 22,942 | £503 |
Sir Ddinbych | 2,956 | 21,687 | £400 |
Sir y Fflint | 2,508 | 20,674 | £403 |
Gwynedd | 5,364 | 24,612 | £699 |
Ynys Môn | 2,940 | 21,803 | £649 |
Merthyr Tudful | 2,392 | 23,353 | £541 |
Sir Fynwy | 2,068 | 22,560 | £591 |
Castell-nedd Port Talbot | 5,183 | 21,046 | £544 |
Sir Benfro | 5,741 | 22,844 | £716 |
Powys | 4,972 | 24,341 | £579 |
Rhondda Cynon Taf | 14,711 | 22,458 | £893 |
Abertawe | 5,936 | 20,372 | £475 |
Torfaen | 2,052 | 22,407 | £480 |
Wrecsam | 2,855 | 20,835 | £469 |
Casnewydd | 3,269 | 19,607 | £442 |
Bro Morgannwg | 4,227 | 20,274 | £878 |
Buddsoddiad Llywodraeth Cymru
Yn ystod 2023-24, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £39.3 miliwn drwy fesurau Nyth.
Pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni cartref a osodwyd yn ôl ardal awdurdod lleol, yn erbyn dosbarthiad y cartrefi tlawd o ran tanwydd yn ôl ardal awdurdod lleol
Mae’r siart isod yn dangos canran y gosodiadau a gwblhawyd yn ôl ardal awdurdod lleol yn 2023-24.
Gwariant cyfartalog fesul cartref ar welliannau effeithlonrwydd ynni cartref yn ôl awdurdod lleol
Mae'r siart hon yn dangos y gwariant cyfartalog ar welliannau effeithlonrwydd ynni cartref yn ôl awdurdod lleol. Mae'r gwariant yn uwch mewn rhai awdurdodau lleol oherwydd nifer yr eiddo nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy.
Boddhad deiliaid cartrefi
Mae boddhad cwsmeriaid gyda Nyth wedi bod yn gyson uchel ar hyd oes y cynllun: Dywedodd 97.8% o gwsmeriaid eu bod yn fodlon ar y gwasanaethau cynghori a gosod a ddarparwyd gan Nyth yn 2023-24.
Anfonwyd arolwg post i bob deiliad cartref a gafodd gyngor gan y cynllun a gofynnwyd iddynt sgorio'r gwasanaeth yn ôl eu boddhad. Cafodd boddhad deiliaid cartrefi ei gofnodi a'i reoli (gan gynnwys unrhyw gwynion) yn nghyd-destun pob cam o daith y cwsmer.
Roedd nifer y cwynion yn 2023-24 yn cynrychioli 1.57% yn unig o’r holl gwsmeriaid a gafodd becyn gwella effeithlonrwydd ynni cartref. Roedd mwyafrif helaeth y cwsmeriaid yn fodlon ar y gwasanaeth gosod a ddarparwyd.
Meithrin partneriaethau ledled Cymru
Gweithiodd y Rheolwyr Datblygu Partneriaethau gydag ystod eang o sefydliadau i helpu i gyrraedd cartrefi bregus gyda chymorth Nyth yn ystod 2023-2024. Roedd y rhain yn cynnwys:
- pob un o 22 awdurdod lleol Cymru;
- byrddau iechyd: Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys;
cwmnïau ynni a dŵr: Dŵr Cymru, Hafren Dyfrdwy, y Grid Cenedlaethol, SP Energy Networks a Wales and West Utilities; - asiantaethau cynghori: Cyngor ar Bopeth, Groundwork, Asiantaeth Ynni Hafren Gwy a Cymru Gynnes;
- sefydliadau sy’n cefnogi pobl hŷn: Age Cymru, Age Connects a Gofal a Thrwsio;
- cynghorau gwirfoddol rhanbarthol: Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO), Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC), Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC), Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO), Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW);
- gwasanaethau sy'n cefnogi cwsmeriaid sydd â chyflyrau iechyd: Hosbis y Cymoedd, Macmillan, Tîm Cymorth Canser Ysbyty Felindre, a Versus Arthritis;
- sefydliadau sy’n cefnogi cymunedau ethnig leiafrifol amrywiol yng Nghymru: Cyngor Dinas Casnewydd; a
- banciau bwyd ledled Cymru gan gynnwys Dewi Sant a Chanolfan Ask.
Gweithgarwch allgymorth
Bu’r Rheolwyr Datblygu Partneriaethau mewn nifer o sesiynau allgymorth a chyfarfodydd rhwydwaith ledled Cymru yn ystod 2023-2024. Roedd eu gweithgarwch yn cynnwys:
- mynd i ddigwyddiadau iechyd a lles gyda Chyngor ar Bopeth, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Dŵr Cymru, cynghorau Sir Gâr, Ceredigion a Chasnewydd;
- ymweld â Chanolfannau Clyd cynghorau Ceredigion, Sir y Fflint, Powys a Bwrdeistref Sirol Wrecsam drwy gydol y gaeaf a darparu deunydd marchnata i ddefnyddwyr gwasanaethau;
- mynd i ddigwyddiad arddangos i Aelodau’r Senedd a gafodd ymweliad gan bymtheg o gynrychiolwyr o bob rhan o’r wlad;
- mynd i ddigwyddiadau i Aelodau’r Senedd ac Aelodau Seneddol ym Mhowys, Wrecsam ac Ynys Môn;
- mynd i ddigwyddiad Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn gyda Chyngor Ceredigion, ac i ddigwyddiadau clinig imiwneiddio’r gaeaf gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda;
- cyflwyno i gynghorwyr a staff mewn canghennau Gofal a Thrwsio lleol, yn Dŵr Cymru, Dyfrdwy Hafren, Cymru Gynnes, canolfannau Cyngor ar Bopeth lleol a Macmillan; a
- mynd i gyfarfodydd rhwydweithio wedi’u cynnal gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Cyngor Caerdydd, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO), Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC), Rhwydwaith Llesiant Gogledd-Ddwyrain Cymru, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mynd i ddigwyddiadau
Bu’r Rheolwyr Datblygu Partneriaethau mewn 272 o ddigwyddiadau a chyfarfodydd yn 2023-2024. Roedd hyn yn cynnwys mynd i Gynhadledd Flynyddol Ynni Cymunedol Cymru, Cynhadledd Tlodi Tanwydd National Energy Action Cymru, a Chynadleddau Blynyddol Gofal a Thrwsio Cymru. Cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau yn canolbwyntio ar iechyd a lles mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, elusennau, a sefydliadau cymorth, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Dŵr Cymru, a Chyngor Dinas Casnewydd.
Darparu hyfforddiant
Cyflwynodd y Rheolwyr Datblygu Partneriaethau gyfanswm o 25 o sesiynau hyfforddi i sefydliadau a oedd yn cynnwys Adferiad Recovery, staff Iechyd Galwedigaethol Caerdydd a’r Fro, Grŵp Trechu Tlodi Sir Ddinbych, Tîm Bregusrwydd Cwsmeriaid Dŵr Cymru, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Macmillan, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, Tîm Cymorth Canser GIG Ysbyty Felindre, Versus Arthritis ac Ynni Llŷn.
Postio’n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol
Gweithiodd y Rheolwyr Datblygu Partneriaethau gyda deg awdurdod lleol i anfon ymgyrchoedd postio uniongyrchol er mwyn hyrwyddo Nyth, a gyrhaeddodd gyfanswm o 50,662 o gartrefi. Yr awdurdodau dan sylw oedd Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen. Roedd hon yn ffordd effeithiol o gyrraedd cartrefi bregus oedd mewn perygl o dlodi tanwydd.
Pwysigrwydd gwaith partneriaeth i Nyth
Bu’r Rheolwyr Datblygu Partneriaethau yn parhau i weithio ochr yn ochr â’r prif bartneriaid fel Gofal a Thrwsio Cymru, Cyngor ar Bopeth Cymru, Dŵr Cymru, SP Energy, Cymru Gynnes ac eraill i sicrhau bod trigolion Cymru’n cael gwybod sut i gael mynediad at y cymorth sydd ar gael.
Darparu buddion ychwanegol
Roedd ein strategaeth buddion cymunedol yn ymgorffori ac yn cyflawni canlyniadau er mwyn:
- creu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer grwpiau blaenoriaeth;
- darparu a chefnogi mentrau addysgol a mentrau cydraddoldeb ac amrywiaeth;
- helpu i feithrin capasiti mewn sefydliadau cymunedol;
- cefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi.
Ein maes o bwyslais ar gyfer 2023-24 oedd ‘helpu i feithrin capasiti mewn sefydliadau cymunedol’ ac roedd ein gweithgareddau’n cynnwys:
Cymdeithas Alzheimer’s
Mae Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol Nyth yn Llysgennad ar gyfer Cymdeithas Alzheimer’s. Gwahoddwyd tîm Nyth i hwyluso chwe sesiwn ymwybyddiaeth Cyfeillion Dementia ar gyfer tua 120 o fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 a 3, a chafodd pob un ohonynt ymwybyddiaeth o Nyth hefyd. Yn ogystal, aethon ni i bump o Gaffis Cof, a daeth dros 75 o bobl iddynt.
Caredigrwydd Caerllion
Cefnogodd tîm Nyth grŵp lleol yng Nghaerllion ger Casnewydd. Yn ddemograffig, nid yw'r ardal hon yn cael ei chyfrif yn un ddifreintiedig, felly nid oedd yn bodloni'r meini prawf ar gyfer banc bwyd. Fodd bynnag, roedd angen cynyddol i deuluoedd gael mynediad at ddarpariaethau bwyd ac mae Caredigrwydd Caerllion yn ceisio pontio’r bwlch hwnnw.
Ariannodd Nyth gynhwysydd morgludiant y gallai Caredigrwydd Caerllion weithio ohono; yn y gorffennol, roedd y sefydliad yn gweithio yn yr awyr agored, mewn tywydd eithafol ar brydiau. Dros gyfnod o wyth mis, mae nifer y teuluoedd mae Caredigrwydd Caerllion wedi’u cefnogi wedi cynyddu o 140 i dros 180 o deuluoedd yr wythnos. Wrth i nifer eu gwirfoddolwyr barhau i dyfu, maen nhw’n gallu cynyddu eu gweithgarwch pantri bwyd i ddwy neu dair gwaith yr wythnos.
Pwll Coffa Abercynon
Roedd Pwll Coffa Abercynon, a grëwyd yn 1952, wedi dechrau mynd â’i ben iddo, a doedd e ddim yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned. Daeth criw o wirfoddolwyr at ei gilydd gyda’r bwriad o ddod â’r pwll yn ôl i ddefnydd. Roedd gostyngiad yn nifer y gwirfoddolwyr yn golygu bod y pwll mewn perygl o beidio agor, felly penderfynodd tîm Nyth a’n contractwyr lleol gefnogi.
Helpodd saith gwirfoddolwr i wneud tasgau garddio a chynnal a chadw cyffredinol. Cyfrannodd tîm Nyth blanhigion, rhisgl, compost, potiau plannu mawr, meicrodon newydd a thrwsio’r llawr yn y ddau gwt newid.
Amcangyfrifir bod dros 1,800 o bobl wedi ymweld â’r pwll yn ystod haf 2023. Mae Nyth wedi ymrwymo i gefnogi’r grŵp bob blwyddyn, fel ei fod yn gallu aros ar agor fel adnodd gwerthfawr i’r gymuned.
Apêl y Nadolig
Yn ystod gaeaf 2023, cefnogodd tîm Nyth elusennau a grwpiau lleol oedd yn cynnwys:
Apêl Anrheg Nadolig Blaenau Gwent
Hon oedd y bedwaredd flwyddyn i Nyth gefnogi’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, ac fe gasglodd 200 o deganau a gemau newydd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’u teuluoedd sy’n hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol.
Apêl Nadolig y Tŷ a Fi Abacare
Cefnogodd Nyth 136 o ddefnyddwyr gwasanaeth a gafodd eu nodi fel pobl heb aelodau o'r teulu na chefnogaeth anwyliaid. Cafodd pob un ohonynt anrheg gan Nyth o’u ‘Rhestr Siôn Corn’. Yn ogystal, cafodd pedwar teulu bregus docynnau i De Prynhawn y Celtic Manor gyda Siôn Corn.
Cymru Ddiogelach
Rhoddodd tîm Nyth nwyddau ymolchi, setiau anrhegion ac eitemau hunanofal i Lochesi Menywod lleol yn ardal Cwm Taf a Chaerdydd.
Edrych tua'r dyfodol
Mae cynllun Nyth bellach wedi newid. O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae gan gynllun newydd Nyth fwy o bwyslais ar dechnolegau carbon isel ar gyfer y cartref i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o wneud Cymru'n wlad sero net erbyn 2050.
Bydd y Cynllun yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru ar arbed ynni a dŵr, gwneud y mwyaf o incwm, lleihau’ch ôl troed carbon a gosod technoleg carbon isel. Os ydych chi’n gymwys, mae Nyth hefyd yn cynnig pecyn wedi’i deilwra o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel inswleiddio, pwmp gwres neu baneli solar.
Cysylltu
Ewch i llyw.cymru/nyth i gael rhagor o wybodaeth am gynllun Nyth, gan gynnwys sut i gysylltu â’r tîm.