Straeon pobl go iawn am Nyth: Mrs Brown o Bowys
Gweithio gyda'n gilydd i adfer cynhesrwydd, iechyd a thawelwch meddwl.
Mae Mrs Brown yn byw gyda heriau hirdymor sy'n gysylltiedig ag iechyd ac anabledd, a bu effaith fawr arnyn nhw pan stopiodd ei boeler weithio.
Dechreuodd problemau ar ôl gosod ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod yn ei thŷ sengl, a achosodd broblemau i'w system wresogi a dŵr poeth, gyda'r gweithiwr, yn y pen draw, yn gwrthod dod yn ôl. Roedd hyn yn gadael Mrs Brown gyda boeler annibynadwy am dros flwyddyn.
Roedd y sefyllfa'n golygu canlyniadau difrifol i iechyd, yn enwedig pan ddatblygodd Mrs Brown niwmonia dros fisoedd y gaeaf. Wrth siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cafodd ei theulu eu cyfeirio at y gwasanaethau cymorth sydd ar gael.
Darparu cymorth hanfodol
Ar ôl cysylltu â Gofal a Thrwsio Cymru, elusen sy'n helpu pobl hŷn i ddal i fyw'n annibynnol gartref, cafodd Mrs Brown ei chyfeirio at Nyth.
Roedd proses ymgeisio’r cynllun yn cynnig eglurder, strwythur a sicrwydd, gan helpu i leddfu’r straen roedd Mrs Brown wedi bod yn ei phrofi.
Rhoddodd Gofal a Thrwsio gefnogaeth i Mrs Brown a'i theulu drwy gydol y broses gyfan, gan gynnig arweiniad ymarferol ac eiriolaeth.
Beth yw Nyth?
Mae cynllun Nyth yn cynnig cyngor arbed ynni diduedd am ddim i gartrefi Cymru. Gall y cynllun hefyd ddarparu cymorth gyda gwelliannau ynni cartref, gan gynnwys inswleiddio a phaneli solar.
Os yw eich cartref heb wres neu heb ddŵr poeth, efallai y byddwch yn gymwys i gael trwsio'ch boeler neu i gael boeler newydd, heb ddim cost i chi.
Ers 2011, mae'r cynllun wedi gosod dros 60,000 o welliannau mewn cartrefi.
Creu cartref cynnes a diogel
Drwy gynllun Nyth, roedd Mrs Brown yn gymwys i gael boeler newydd a rheiddiaduron newydd, a osodwyd drwy'r eiddo, heb ddim cost iddi hi.
Er enghraifft, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, mae cost cael boeler gradd A newydd a rhaglennydd, thermostat ystafell a falfiau rheiddiadur thermostatig yn lle hen foeler nwy gradd G, yn £3,700; ond byddai cael rheiddiaduron newydd hefyd yn costio mwy eto.
Mae'r mesurau hyn wedi cael effaith ar lesiant Mrs Brown sydd wedi newid ei bywyd, gan roi cartref cynnes a diogel iddi a thawelwch meddwl sylweddol.
Disgrifiodd merch Mrs Brown y gefnogaeth fel “bendith” oedd wedi helpu i leihau caledi ac adfer ymdeimlad o sefydlogrwydd.
"Roedd yn fendith i ni. Ar ôl bod mor hir heb wres na dŵr poeth dibynadwy, mae cael cartref cynnes unwaith eto wedi rhoi tawelwch meddwl go iawn i ni."
"Dyden ni'n dal ddim wedi dod i arfer efo'r syniad o fod â gwres a dŵr poeth dibynadwy eto. Mae hyn wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i'n bywydau ni."
Allech chi elwa o gymorth Nyth?
I weld a ydych chi'n gymwys i gael gwelliannau ynni cartref am ddim, ffoniwch Nyth am ddim ar 0808 808 2244, neu ewch i wefan Nyth am ragor o wybodaeth.
