Neidio i'r prif gynnwy

Croeso

Ni yw Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru, a ffurfiwyd yn 2017. Rydym yn sefydliad bach ac aml-sgiliau o dros 80 o bobl gyda phrofiad sy’n cynnwys 14 o broffesiynau gwahanol. Rydym yn cydweithio er mwyn rheoli 2 dreth ddatganoledig:

  • Treth Trafodiadau Tir (TTT), sy'n cael ei thalu pan fyddwch yn prynu neu'n lesu adeilad neu dir dros bris penodol
  • Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT), sy'n cael ei thalu pan gaiff gwastraff ei waredu i safle tirlenwi neu rywle arall

Cafodd y 2 dreth yma’u cynllunio a'u gwneud ar gyfer Cymru, er mwyn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru drwy 'Ein Dull', sy’n ffordd Gymreig o drethu. Drwy gydweithio â threthdalwyr a'u cynrychiolwyr, sefydliadau partner a'r cyhoedd, rydym yn sicrhau bod trethi'n cael eu casglu'n deg, yn effeithlon ac yn effeithiol. Mae ein dull o wneud hyn wedi'i ysbrydoli gan Ein Siarter, a gellir ei grynhoi mewn 3 gair:

Cydweithio

Mae hyn yn golygu gweithio gyda’n gilydd tuag at nod cyffredin.

Cadarnhau

Mae hyn yn awgrymu cadernid y gellir dibynnu arno. Mae hyn yn ymwneud â darparu sicrwydd, bod yn gywir ac atgyfnerthu ymddiriedaeth.

Cywiro

Mae hyn yn llythrennol yn golygu ‘dychwelyd at y gwirionedd’ ac mae’n ymwneud â’r ffordd rydym yn gweithio gyda chi i ddatrys gwallau neu bryderon.

Ein prif gerrig milltir 2017 i 2022

  • Hydref 2017: Sefydlu ACC o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) i gasglu'r trethi datganoledig newydd: TTT a TGT.
  • Ionawr 2018: Sefydlu partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gydweithio ar TGT.
  • Ebrill 2018: ACC yn lansio, casglu TGT a TTT yn dechrau.
  • Hydref 2018: Penodi ein Haelod Staff Etholedig cyntaf i’n Bwrdd, a’n canlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil cyntaf yn ein gosod yn un o gyflogwyr gorau’r llywodraeth.
  • Tachwedd 2018: Enillydd Gwobrau Diwydiant TG y DU am ‘Y Defnydd Gorau o Wasanaethau Cwmwl’ am gyflwyno ein system dreth ddigidol.
  • Chwefror 2019: Lansio ein sianel YouTube, gan ategu ein gwefan, a’n sianeli Twitter a LinkedIn.
  • Mawrth 2019: Lansio ein dull ‘risg treth’, a lliniaru ein risg treth fawr gyntaf yn llwyddiannus yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
  • Chwefror 2020: Symud i weithio gartref – heb effeithio ar ein gwasanaethau – ar ôl y difrod i'n prif swyddfa yn ystod Storm Dennis.
  • Ebrill 2020: Cyhoeddi ein Adroddiad Cydraddoldeb Strategol cyntaf.
  • Mai 2021: Lansio ein offeryn gwirio cyfradd TTT uwch, wedi'i gynllunio a'i adeiladu gan ein gallu digidol mewnol.
  • Medi 2021: £1 biliwn mewn refeniw treth wedi’i godi i Gymru.
  • Tachwedd 2021: Yn rownd derfynol Gwobrau CIPD Cymru ‘Menter Gweithio Hyblyg/Gweithio o Bell Newydd Gorau.’
  • Ionawr 2022: lansio ein prosiect prawf cysyniad Llwyfan Data Tir ac Eiddo.
  • Chwefror 2022: Ein hystadegau swyddogol yn cael eu dynodi’n ‘Ystadegau Gwladol’ gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Mae ein 5 mlynedd cyntaf wedi bod yn llwyddiannus. Rydym wedi datblygu’n sylweddol ers ein lansiad, ac er ein bod yn dal i fod yn sefydliad ifanc, sy’n dysgu mewn sawl maes, rydym bellach wedi hen sefydlu. Rydym yn gwybod beth sydd wedi gweithio a beth nad yw wedi gweithio cystal o ran y ffordd rydym yn darparu ffordd Gymreig o drethu, ac rydym yn gwneud newidiadau’n unol â hynny.

Rydym wedi cyflawni nodau ein cynllun corfforaethol blaenorol. Mae ein hamcanion strategol – Hawdd, Teg, Medrus ac Effeithlon – wedi ein gwasanaethu'n dda ac wedi cefnogi’n ffyrdd o weithio a'n nodau hirdymor. Rydym yn credu y byddant yn dal i wneud hynny yn ystod 2022 i 2025, er bod eu ffocws, eu gweithgareddau a'u mesurau newydd yn adlewyrchu'r hyn rydym wedi'i ddysgu hyd yn hyn. Bydd hyn yn ein galluogi i fynd ymhellach a chyflawni mwy ar y sylfeini cadarn rydym wedi'u sefydlu.

Rydym yn falch o fod wedi creu a chynnal diwylliant o lefelau uchel o berfformiad ac ymgysylltiad ymhlith cydweithwyr, gan wybod bod lefelau uchel o ymgysylltiad ymhlith ein gweithwyr yn creu'r amgylchedd gorau ar gyfer lefelau uchel o foddhad cwsmeriaid hefyd. Mae creu amgylchedd iach a chynhwysol lle gall ein pobl ddatblygu, a lle cânt eu gwobrwyo, eu clywed a'u cynrychioli'n deg, yr un mor bwysig i ni â darparu gwasanaethau rhagorol i'n cwsmeriaid.

Mae ein profiad o ddarparu gwasanaethau, ac o fod wedi adeiladu'r holl swyddogaethau sydd eu hangen er mwyn cynnal sefydliad – sy’n cynnwys gwasanaeth cwsmeriaid, arbenigwyr treth, gorfodi, data, digidol, diogelwch gwybodaeth, cyfathrebu, Adnoddau Dynol, mewnwelediad cwsmeriaid, polisi, cyllid – wedi’n rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer cefnogi Llywodraeth Cymru i greu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau refeniw ar gyfer y dyfodol. Edrychwn ymlaen at gefnogi’r Rhaglen Lywodraethu yn ehangach a chyfleoedd eraill nad ydynt yn hysbys eto.

Fel unrhyw sefydliad, mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni mai dim ond hyn a hyn o unrhyw gynlluniau y gellir eu gwireddu pan fydd yr annisgwyl yn digwydd. Mae bod yn wydn, yn ystwyth a gallu gafael yn dynn yn y pethau rydym yn eu gwerthfawrogi fwyaf yn ystod cyfnodau o newid yn sgìl y mae'n rhaid i ni barhau i'w hadeiladu.

Ac wedi dweud hynny, rydym yn falch iawn o rannu ein cynlluniau ar gyfer ein datblygiadau nesaf gyda chi.

Ein cynllun ar gyfer 2022 i 2025

Dyma ein trydydd cynllun corfforaethol, sy’n cwmpasu 2022 i 2025. Fe’i crëwyd ar y cyd gan bob un ohonom yn ACC.

Gan adeiladu ar sylfeini ein 5 mlynedd cyntaf, rydym am barhau i ddatblygu fel sefydliad a defnyddio’r hyn rydym wedi’i ddysgu hyd yn hyn er mwyn mynd ymhellach, a gwneud mwy, tra’n sicrhau bod ein gwasanaethau presennol yn parhau i fod o’r radd flaenaf.

Rydym wedi myfyrio ar yr hyn y gallwn ei wneud er mwyn dal i ffynnu.

Ein hamcanion strategol

Rydym wedi cadw'r un amcanion strategol – bod yn hawdd, teg, medrus ac effeithlon – ond rydym wedi aeddfedu a dysgu, felly mae'r gweithgareddau oddi tanynt, a'u mesurau llwyddiant, wedi esblygu. Rydym wedi gwerthfawrogi'n arbennig y tensiwn sydd rhwng ein 4 amcan, a sut mae hynny'n ein helpu i wneud penderfyniadau da. Er enghraifft, gallem ei gwneud yn hawdd i gyflwyno ffurflen dreth ddigidol drwy leihau faint o wybodaeth yr ydym yn gofyn amdani, ond fe wyddwn ni (o ddefnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau rydym wedi'u datblygu fel rhan o fod yn fedrus) y byddai hyn yn arwain at fwy o wallau – na fyddai'n effeithlon gan y byddai angen i ni fuddsoddi mwy o amser yn eu cywiro wedyn – ac a fyddai bosibl yn caniatáu i rai pobl dalu llai o dreth nag y dylent, ac ni fyddai hynny'n deg.

Ffordd Gymreig o drethu

Mae Ein Dull o reoli trethi Cymreig – a lansiwyd yn ein cynllun corfforaethol blaenorol – wedi profi'n llwyddiannus. Rydym wedi'i ddatblygu dros amser er mwyn gallu cynyddu ein gallu i reoli risg treth (meysydd risg rydym wedi'u nodi lle mae trethdalwyr wedi cael eu trethi'n anghywir). Drwy brofi, dysgu a mesur ein heffaith drwy ein data a'n hadborth, gallwn weld y manteision yn glir. Rydym wedi defnyddio gwahanol fathau o ddulliau i ysgogi newid, yn dibynnu ar y gynulleidfa a'r risg dan sylw. Er enghraifft, rydym wedi gweithredu newidiadau i'n gwasanaethau digidol, neu wedi creu canllawiau neu fideos ychwanegol, neu wedi cynnal sesiynau gwybodaeth. Ond nid yw'r dull hwn yn rhywbeth a fydd byth wedi ei gwblhau: wrth i gymdeithas a'r economi newid, bydd gwahanol risgiau'n ymddangos na fyddwn wedi'u gweld o'r blaen. Mae angen i ddull llwyddiannus o reoli treth adlewyrchu hyn.

Dysgu a datblygu

Rydym wedi tyfu o grŵp amrywiol, medrus o weithwyr proffesiynol gyda phrofiad mewn nifer o sectorau, i fod yn weithlu datblygedig ac unedig sydd wedi meithrin gwybodaeth a ffyrdd o gydweithio o fewn ACC – rydym yn dal i fod yn sefydliad bach, ifanc, ond mae gennym brofiadau gwerthfawr o redeg gwasanaethau refeniw y gallwn bellach eu rhannu ag eraill. Mae hyn hefyd yn dod â her newydd yn ei sgil, sef ysgogi a datblygu gweithlu sy'n bodoli eisoes, yn hytrach na chanolbwyntio ar recriwtio a chyflwyno sgiliau newydd. Rydym am barhau i wthio’n hunain i ddatblygu o fod yn ddefnyddwyr technolegau a thechnegau digidol cymwys, i fod yn sefydliad cwbl ddigidol. Ac er mwyn gwneud hynny, rydym am drefnu ein hunain i raddau mwy o amgylch y gwasanaethau a ddarperir gennym, boed hynny’n cefnogi pobl i asesu eu trethi, neu eu talu.

Ein diwylliant

Gwyddom mai ein diwylliant yw ein ‘USP’ neu’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw ac mae’n rhaid i ni ei ddiogelu a'i gynnal wrth i ni ddysgu sgiliau newydd a chreu patrymau newydd o weithio hybrid, ar ôl 2 flynedd o weithio gartref yn bennaf oherwydd coronafeirws (COVID-19). Mae arnom angen lleoliad parhaol hefyd, ar ôl cau ein swyddfa o ganlyniad i Storm Dennis yn 2020, ac mae angen i’r lle hwnnw gefnogi diben newydd ein swyddfa, gan fod llawer o'n pobl yn parhau i weithio o gartref yn rhannol. Ar ein gorau, rydym yn sefydliad sy'n arloesol, yn gydweithredol ac yn garedig, ond nawr ein bod wedi'n sefydlu'n well, rydym am fynd ymhellach tuag at system ddatganoledig o wneud penderfyniadau a chynyddu ymreolaeth i'n pobl. Bydd hyn yn ein galluogi i fod yn fwy cynhyrchiol ac yn lle gwell i weithio drwy leihau biwrocratiaeth ddiangen a chaniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud yn gyflym, gan y rhai sydd â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth fwyaf uniongyrchol.

Ychwanegu gwerth gydag eraill ar gyfer y dyfodol

Ers ein lansio, rydym wedi meithrin perthynas o ymddiriedaeth gyda phartneriaid fel Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym wedi gweithio â nhw i ddatblygu ein dull cydweithredol o gymhwyso TGT i waredu gwastraff heb ei awdurdodi – gan helpu i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol yng Nghymru.

Nawr rydym hefyd yn awyddus i rannu’n profiadau o'n 5 mlynedd cyntaf o weithredu. Fel un o adrannau anweinidogol Llywodraeth Cymru, rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr eraill yn Llywodraeth Cymru, yn enwedig Trysorlys Cymru. Drwy weithio gyda'n gilydd o'r cychwyn cyntaf ar fentrau polisi newydd, gallwn gyd-greu gwasanaethau newydd yn well drwy gyfuno meddylfryd polisi â'n profiad o effeithiau posibl ar weithredu a darparu. Gallwn nodi risgiau cyflenwi yn gynnar, dod o hyd i atebion creadigol a darparu gwell cyngor ynghylch manteision a heriau gwahanol opsiynau polisi. Felly edrychwn ymlaen at ddal i gyfrannu'n llawn yn y Rhaglen Lywodraethu: gan gefnogi'r gwaith o gynllunio gwasanaethau treth a refeniw newydd posibl, fel amrywio cyfraddau TTT yn lleol a'r ardoll ymwelwyr. Er mwyn gwneud hynny, byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn hyblyg ac yn ystwyth fel sefydliad – fel y gallwn ymateb yn y ffordd orau i flaenoriaethau newydd, gan gynnwys unrhyw beth sydd ei angen er mwyn newid ein trethi presennol.

Cyn y pandemig, roeddem wedi dechrau sgyrsiau gydag Awdurdodau Lleol ynglŷn â rhannu’n data, ond bu'n rhaid i ni oedi'r sgyrsiau hyn wrth i ni ailflaenoriaethu. Gan weithio o bell, rydym bellach wedi ymgymryd â'r gwaith hwn gydag uchelgais newydd, gan arwain gwaith gyda’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i archwilio potensial llwyfan data tir ac eiddo yng Nghymru. Heblaw am fod yn ddefnyddiol ar gyfer ein trethi presennol, mae gan yr isadeiledd hwn botensial i greu gwell gwasanaethau cyhoeddus a data ar gyfer llunio polisïau ar gyfer y dyfodol.

Nid yw'r meysydd newydd hyn wedi cyrraedd y man eto lle byddwch yn gweld amcanion a mesurau penodol ar eu cyfer yn y Cynllun hwn, a gall mesurau cychwynnol ymwneud â chyflawni prosiectau a cherrig milltir, fel datblygu prototeipiau neu brofi cwsmeriaid. Os byddwn yn ymgymryd â meysydd gwaith newydd sylweddol, efallai y bydd angen i ni ailysgrifennu'r cynllun corfforaethol hwn er mwyn eu cynnwys.

Ein diben a’n hamcanion strategol

Ein diben yw:

  • llunio a darparu gwasanaethau cyllid
  • arwain y defnydd gwell o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru

Byddwn yn cyflawni hyn drwy fod yn:

  • hawdd: byddwn yn ei gwneud hi’n hawdd talu'r swm cywir o dreth
  • teg: byddwn yn deg ac yn gyson yn y ffordd rydym yn casglu ac yn rheoli treth, gan gymryd camau cymesur pan nad yw pobl yn cyflawni eu hymrwymiadauions
  • medrus: byddwn yn datblygu ac yn manteisio i'r eithaf ar ein gallu unigol a chyfunol
  • effeithlon: byddwn yn cyflawni mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn gymesur, gan ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym yn y ffordd orau

Hawdd

Byddwn yn ei gwneud hi’n haws talu'r swm cywir o dreth.

Byddwn yn gwneud hyn trwy:

Fod yn hygyrch, yn gefnogol ac yn rhagweithiol

  • Annog trethdalwyr i wirio ymholiadau gyda ni gan geisio datrys cynifer o ymholiadau â phosibl y tro cyntaf.
  • Adolygu systemau sy’n bodoli eisoes, ac ystyried rhai newydd, er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb.
  • Darparu gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg – ac yn glir ac yn syml i’w defnyddio, fel y gall y rhan fwyaf o bobl eu defnyddio heb orfod eu haddasu tra’n cefnogi’r rhai sydd angen addasu pethau.
  • Creu ac adolygu'r ffordd orau o rannu canllawiau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd: drwy weminarau, fideos, dosbarthiadau meistr, canllawiau technegol, cyfrifianellau ar-lein neu drwy alwadau ac e-byst unigol.

Bod â gwasanaethau sy'n ysgogi, yn hyrwyddo ac yn cefnogi talu'r swm cywir o dreth y tro cyntaf

  • Nodi gwallau cyffredin a diwygio ein gwasanaethau digidol er mwyn dileu neu leihau'r siawns y byddant yn digwydd eto.
  • Gweithio mewn partneriaeth â threthdalwyr i annog a chefnogi datrys y camgymeriadau a nodwyd.
  • Datblygu gwasanaethau mwy integredig, felly pan fydd angen help ar bobl, mae'n gyflym ac yn syml dod o hyd iddo.

Cefnogi pobl sydd ag anawsterau talu

  • Mynd ati'n rhagweithiol i geisio cefnogi'r rhai na allant dalu, gan eu helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.
  • Parhau i fod yn hyblyg yn ein hymateb i fethu â thalu – fel bod yn ystyriol o anawsterau a achoswyd oherwydd effaith COVID-19 ar yr economi – tra'n dal i sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu yn y pen draw.

Teg

Byddwn yn deg ac yn gyson yn y ffordd rydym yn casglu ac yn rheoli treth, gan gymryd camau cymesur pan nad yw pobl yn cyflawni eu hymrwymiadau.

Byddwn yn gwneud hyn trwy:

Leihau'r posibilrwydd o dalu'r swm anghywir o dreth

  • Casglu ac adolygu data er mwyn nodi risgiau sy'n dod i'r amlwg neu risgiau cynyddol, gan gynnwys drwy rannu a thrin gwybodaeth â phartneriaid gorfodi eraill.
  • Gwneud newidiadau i'n systemau a'n canllawiau i leihau'r posibilrwydd o’u camddehongli neu fewnbynnu’r wybodaeth anghywir.
  • Gweithio gyda Thrysorlys Cymru ar newidiadau i ddeddfwriaeth.

Cymryd camau pan fo’r swm anghywir o dreth yn cael ei thalu

  • Nodi, lliniaru a mesur ein heffaith yn erbyn meysydd newydd lle telir y swm anghywir o dreth.
  • Defnyddio ein pwerau cyfreithiol yn deg ac yn briodol i ymchwilio i osgoi ac efadu.
  • Cymryd camau priodol, megis rhoi cosbau neu gamau cyfreithiol er mwyn adennill treth sydd ddim wedi’i thalu.
  • Cyflwyno’n raddol ein dull o drethu gwarediadau gwastraff heb eu hawdurdodi, gan weithio'n agos gyda'n partner allweddol, Cyfoeth Naturiol Cymru, i helpu i leihau troseddau gwastraff yng Nghymru.

Medrus

Byddwn yn datblygu ac yn manteisio i'r eithaf ar ein gallu unigol a chyfunol.

Byddwn yn gwneud hyn trwy:

Harneisio ein ffyrdd llwyddiannus o weithio

  • Cynyddu ymreolaeth a datganoli gwneud penderfyniadau.
  • Dysgu'r ffordd orau o gynnal ein diwylliant tra'n gweithio rhwng y swyddfa a'r cartref.
  • Sicrhau swyddfeydd newydd addas, sy'n cefnogi ein ffyrdd newydd o gydweithio.

Datblygu ein sgiliau a pharhau i ddysgu

  • Cynyddu ein sgiliau o ran diffinio anghenion gallu ar gyfer unigolion, timau a'r sefydliad cyfan ar gyfer y dyfodol.
  • Cynnal a datblygu ein dulliau rheoli data a gwybodaeth, a galluoedd seiberddiogelwch.
  • Ymgorffori ymhellach y defnydd o'r Gymraeg drwy'r sefydliad cyfan.
  • Gweithredu technegau rheoli gwybodaeth er mwyn sicrhau bod ein dysgu sefydliadol yn cael ei gadw i'r eithaf wrth i ni gael mwy o flynyddoedd o brofiad i ddysgu oddi wrtho.

Creu amgylchedd iach, teg a chynhwysol

  • Datblygu nodau llesiant, ochr yn ochr â dod yn sefydliad a enwir o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Trin ein pobl yn deg, a pharchu a chlywed eu barn.
  • Sicrhau bod ein sefydliad yn gynhwysol o bawb, gan ganiatáu i bawb deimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu llwyddo.

Effeithlon

Byddwn yn cyflawni mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn gymesur, gan ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym yn y ffordd orau.

Byddwn yn gwneud hyn trwy:

Wneud penderfyniadau meddylgar

  • Defnyddio ein hadnoddau'n ddoeth, mewn ffordd sy'n golygu y gallwn gael yr effaith fwyaf, drwy flaenoriaethu, cynllunio a gweithredu'n gymesur.
  • Bod yn feddylgar yn ein gweithredoedd a gosod safonau uchel i ni’n hunain.
  • Creu gwerth a gwydnwch drwy reoli risg.
  • Dysgu o'n camgymeriadau, llwyddiannau, data, adborth, gwerthuso a mewnwelediad cwsmeriaid er mwyn gwella'n barhaus.

Gwneud y gorau o’n hadnoddau

  • Sicrhau bod gennym y bobl iawn, gyda'r sgiliau iawn, yn y rolau iawn ar yr adeg iawn.
  • Awtomeiddio tasgau lle gallwn ni, gan ryddhau amser ein pobl ar gyfer tasgau mwy manwl.

Dod yn fwy cynaliadwy

  • Bod yn ymwybodol o'n heffaith ar yr amgylchedd a chael effaith gadarnhaol lle bo hynny'n bosibl, fel yn y cadwyni cyflenwi a ddefnyddir gennym, neu'r angen am deithio ar fusnes rydym yn ei greu.
  • Defnyddio’n harbenigedd a'n gwybodaeth am TGT i weithio gyda phartneriaid er mwyn lleihau troseddau gwastraff ledled Cymru.
  • Bod o fudd i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru drwy greu swyddi sgiliau uchel sy’n talu’n deg.
  • Ariannu gwasanaethau cyhoeddus drwy’r trethi a gesglir gennym.

Ein mesurau

Mae datblygu'r mesurau perfformiad cywir yn bwysig iawn i ni. Mae ein mesurau’n llywio ein dewisiadau mewnol yn ddyddiol, a hefyd yn cynnig darlun ehangach: maent yn caniatáu i ni gael ein dwyn i gyfrif fel sefydliad ac yn egluro sut rydym yn mesur llwyddiant – dyma sy’n dangos beth sy'n bwysig i ni.

Ein targedau newydd sy’n dangos lle’r ydym am fod ar ôl 3 blynedd. Ein nod yw gwelliant parhaus tuag ein targedau yn ystod 2022 i 2025. Byddwn yn adolygu ein targedau'n flynyddol i weld a oes angen eu diwygio.

Rydym wedi dewis rhai mesurau nad yw eu diben efallai'n amlwg ar yr olwg gyntaf. Eglurir y rhain isod.

Ein Dull a rheoli risg treth

Mae Ein Dull yn canolbwyntio ar gasglu'r swm cywir o dreth y tro cyntaf, felly mae ein mesurau'n caniatáu i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar weithgareddau fel:

  • rhoi'r arweiniad, yr hyfforddiant a'r gweminarau gorau er mwyn gwneud rhwymedigaethau'n glir
  • cael timau cefnogol ac arbenigol sy'n ymwneud â chwsmeriaid
  • nodi’r meysydd lle mae camgymeriadau'n cael eu gwneud a mynd ati i ddarparu cymorth ychwanegol

Mae'r dull hwn wedi bod yn llwyddiannus i ni, ac mae wedi golygu ein bod wedi gorfod treulio llai o amser yn:

  • cywiro camgymeriadau
  • gorfodi cosbau
  • mynd ar drywydd dyledion

Mae rhan o'r dull hwn yn ymwneud â'r hyn a elwir gennym yn reoli risg treth: sef defnyddio’n data i nodi meysydd lle mae'r swm anghywir o dreth yn cael ei dalu, a gweithio i leihau digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Er bod ei lwyddiant yn fwyaf perthnasol i'n hamcan o fod yn deg, mae hefyd yn cyfrannu at ddatblygu proses sy'n hawdd ac yn effeithlon: dyma ein dull sylfaenol o reoli treth yn gyffredinol.

Mabwysiadu dull gwasanaeth

Mae ein mesurau ar gyfer Hawdd a Theg bellach yn canolbwyntio ar ddull gwasanaeth. Rydym yn ystyried yr hyn a wnawn fel gwasanaethau o'r dechrau i'r diwedd, o safbwynt ein cwsmer, o gofrestru i dalu treth (fel unigolyn neu fel busnes), i gyfrifo faint o dreth sy'n ddyledus, ac yna'n olaf, y gwasanaeth talu. Mae trefnu ein mesurau fel hyn yn ein galluogi i brofi llwyddiant o safbwynt y defnyddwyr yn fwy effeithiol, gan fod y mesurau hyn yn cael eu ffurfio o amgylch y rhyngweithio sydd rhyngddynt â ni.

Mesurau na fyddwn yn eu cynnwys

Mae'n well disgrifio rhai o'n mesurau, ni ellir eu crynhoi mewn un rhif, drwy naratif. Nid yw bob amser yn hawdd, nac yn bosibl, rhannu rhifau ystyrlon, ac nid ydynt bob amser yn adrodd y stori gyfan. Weithiau byddai eu rhannu yn peryglu cyfrinachedd.

Yn yr un modd, nid yw rhai mesurau wedi'u cytuno eto. Bydd angen i ni ddysgu mwy er mwyn darganfod beth fyddai orau – fel ynglŷn â’n heffaith ar yr amgylchedd. Ond byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i rannu'r diweddariadau mwyaf addysgiadol a hygyrch y gallwn ni.

Mae mesurau eraill sy'n bwysig yn ein barn ni eisoes yn cael eu cyhoeddi gennym mewn mannau eraill, ac ni fyddwn yn eu dyblygu yma. Er enghraifft, rydym yn cyhoeddi adroddiad a chynllun cydraddoldeb sy'n cynnwys gwybodaeth am ddemograffeg staff, ac mae ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ein perfformiad, llywodraethiant, staffio a chyllid

Ein mesurau

Hawdd a Theg
 HawddTeg
Gwasanaethau cyfrifo
  • 98% wedi ffeilio ar-lein
  • sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o'r ffurflenni treth yn cael eu talu’n gywir y tro cyntaf
  • boddhad defnyddwyr â rhwyddineb ein gwasanaethau cyfrifo
  • 98% wedi ffeilio'n brydlon
  • gostyngiad dros amser o gyfran y ffurflenni treth sy’n cynnwys un o'n proffiliau risg
  • gostyngiadau dros amser o ran y ffurflenni treth o fewn pob proffil risg unigol
Gwasanaethau talu
  • 98% wedi'i dalu ar-lein
  • boddhad defnyddwyr â rhwyddineb ein gwasanaethau talu
  • 98% wedi talu'n brydlon
  • 90% o ddyledion y gellir eu rheoli wedi’u talu o fewn 30 diwrnod i'w creu, a 98% o fewn 90 diwrnod
  • 95% o ad-daliadau wedi’u gwneud o fewn 30 diwrnod i gais am ad-daliad / ad-daliad fod yn ddyledus, a 100% o fewn 60 diwrnod
Medrus
 Beth rydym yn ei fesur

Mesurau llwyddiant

Rydym yn disgwyl rhannu naratif yn y maes hwn yn bennaf, ond efallai y byddwn yn rhannu canlyniadau’n benodol yn erbyn:

Defnyddio’n ffyrdd llwyddiannus o weithio
  • ymgysylltiad gweithwyr
  • sicrhau swyddfeydd priodol
  • datblygu ein dull o weithio hybrid mewn ffordd sy'n cynnal ein diwylliant a'n lefelau perfformiad
  • parhau i fod yn un o’r sefydliadau sy'n perfformio orau (yn y 25 % uchaf) yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil
  • datblygu a bodloni mesurau llwyddiant ar gyfer gweithio hybrid
Datblygu ein sgiliau a dal i ddysgu
  • nifer sy'n manteisio ar ddysgu a datblygu ac effaith y dysgu a'r datblygu ar gyfer ein pobl
  • y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gael pan fydd eu hangen arnom
  • amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn ein gweithlu
  • yr amser mae ein pobl yn ei dreulio ar ddysgu
  • cynnydd yn niferoedd a/neu ruglder y siaradwyr Cymraeg
  • demograffeg ein gweithlu
  • nifer y proffesiynau yn y sefydliad
Creu amgylchedd iach, teg a chynhwysol
  • cefnogir ein pobl i fod yn iach, yn feddyliol ac yn gorfforol
  • gwrandewir ar ein pobl
  • mae diwylliant ein gweithle’n un lle mae pawb yn teimlo y gallant ddatblygu a bod yn hapus
  • rhesymau a faint o absenoldeb salwch a gymerir gan ein pobl
  • parhau i fod yn un o’r perfformiwr gorau (yn y 25% uchaf) o ran llesiant a chynhwysiant yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil
  • nifer o'n pobl sy'n cael eu dyrchafu
Effeithlon
 Beth rydym yn ei fesur

Mesurau llwyddiant

Rydym yn disgwyl rhannu naratif yn y maes hwn yn bennaf, ond efallai y byddwn yn rhannu canlyniadau’n benodol yn erbyn:

Gwneud penderfyniadau meddylgar
  • cynllunio, blaenoriaethu, cyllidebu a rheoli risg effeithiol ar waith ac yn cefnogi ein nodau strategol
  • moeseg a gwerthoedd ein diwylliant sefydliadol
  • cydymffurfio â rheolau caffael
  • ymatebolrwydd i adborth a data
  • cyflawni prosiectau’n llwyddiannus (ar amser, o fewn y gyllideb, yr amcanion wedi’u cyflawni)
  • Canlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil ynglŷn ag ymddwyn yn foesegol
  • % y gwariant sydd wedi mynd drwy ein prosesau caffael safonol (yn hytrach nag eithriadau)
Gwneud y gorau o’n data
  • cynllunio gweithlu effeithiol ar waith
  • defnyddio awtomeiddio i ryddhau amser pobl ar gyfer tasgau mwy manwl
  • cadw cyfradd swyddi gwag o dan 5%
  • 98% o'r trafodiadau ar gyfer ein gwasanaethau’n cael eu cwblhau heb fod angen ymyrraeth â llaw
Dod yn fwy cynaliadwy
  • datblygu gwell dealltwriaeth o'n heffaith ar yr amgylchedd
  • cymryd camau ar droseddau amgylcheddol
  • darparu swyddi gyda thelerau ac amodau teg, a chyfleoedd i gynyddu sgiliau a datblygu
  • refeniw treth a gesglir yn cyfrannu at ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
  • ein heffaith amgylcheddol
  • parhau i fod yn un o berfformwyr gorau (yn y 25% uchaf) o ran tâl a gwobrwyo yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil
  • cynnal ein hachrediad Cyflog Byw
  • bylchau cyflog a thâl canolrifol
  • cyfanswm y dreth a gesglir