Cynllun cyflawni strategol datgarboneiddio GIG Cymru 2025 i 2030 - Rhan 10: Gwasanaethau clinigol
Ein cynllun i leihau effaith amgylcheddol GIG Cymru a chefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sero net yn y sector cyhoeddus.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
23: Integreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol i ddatblygiad canllawiau clinigol a’u monitro
23a: Datblygu methodoleg i asesu effaith amgylcheddol llwybrau gofal iechyd – ffarmacolegol ac anffarmacolegol – i’w chynnwys yn y broses o ddatblygu canllawiau clinigol
Perchnogion arfaethedig: NWSSP (Partneriaeth Cydgwasanaethau GIG Cymru).
Gweithredu erbyn: Medi 2026.
23b: Yn yr adolygiad o'r fframwaith optimeiddio meddyginiaethau sydd ar ddod, ymgorffori'r gofyniad am asesiad effaith amgylcheddol (gan ddefnyddio'r fethodoleg a ddatblygwyd yn 23a) yn y broses o ddatblygu canllawiau clinigol
Perchnogion arfaethedig: AWTTC (Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan).
Gweithredu erbyn: hyd nes adolygir y fframwaith optimeiddio meddyginiaethau.
23c: Integreiddio maen prawf cynaliadwyedd amgylcheddol fel rhan o'r broses gymeradwyo ar gyfer canllawiau clinigol
Perchnogion arfaethedig: Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.
Gweithredu erbyn: tra’n disgwyl 23b.
23d: Ymgorffori Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) lle bo modd i gefnogi monitro gweithrediad yr ymddygiadau clinigol dymunol a amlinellir yn y canllawiau – er enghraifft, drwy ddangosyddion rhagnodi cenedlaethol, dangosfyrddau, neu offer tebyg
Perchnogion arfaethedig: Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan; byrddau iechyd.
Gweithredu erbyn: adroddiad blynyddol.
24: Hyrwyddo effaith gynaliadwy atebion digidol a data mewn darpariaeth glinigol drwy werthuso eu manteision amgylcheddol a blaenoriaethu arloesi graddadwy
24a: Ymgorffori adrodd ar effaith amgylcheddol ar draws ffrydiau gwaith y rhaglen meddyginiaethau digidol, gan gynnwys gwerthuso rhaglenni a dylunio rhaglenni yn y dyfodol
Perchnogion arfaethedig: Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gyda chefnogaeth partneriaid sy'n cyfrannu.
Gweithredu erbyn: Mai 2027.
24b: Cefnogi cydweithio a rhannu gwybodaeth ar gyfer ePMA trwy gyfarfodydd 'gwybodaeth a gweithredu cymunedol' rheolaidd
Perchnogion arfaethedig: Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Gweithredu erbyn: adroddiad blynyddol.
24c: Datblygu dull arfer gorau ar gyfer defnyddio technoleg ddigidol ac archwilio technoleg ymgynghori ddigidol ymhellach; cydweddu hyn â gweledigaethau taith gofal iechyd Cymru yn y dyfodol a'r cysyniad o ddarparu gofal yn nes at y cartref
Perchnogion arfaethedig: Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gyda chefnogaeth partneriaid sy'n cyfrannu.
Gweithredu erbyn: Medi 2026.
24d: Parhau i ddigideiddio cofnodion a chyfathrebiadau clinigol i gynyddu effeithlonrwydd adnoddau a lleihau gofynion adnoddau argraffu
Perchnogion arfaethedig: byrddau iechyd a Felindre.
Gweithredu erbyn: adroddiad blynyddol.
