Canllawiau ar gyfer Partneriaethau AGA i gefnogi cynllun cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth o fis Medi 2026.
Cynnwys
Trosolwg
Mae cynllun cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth yn darparu grant o £15,000 i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â thystysgrif addysg achrededig i raddedigion (TAR). Rhaid i'r rhaglen arwain at statws athro cymwysedig (SAC). Rhaid i fyfyrwyr fodloni’r meini prawf cymhwysedd.
Mae’r cynllun hwn ar gael i ddarpar athrawon amser llawn a rhan-amser.
Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi athrawon sy'n seiliedig ar gyflogaeth yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys y 'cynllun TAR cyflogedig'.
Nid yw'r cynllun hwn ar gael i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO).
Dogfennau'r cynllun
Mae dogfennau cynllun cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth yn cael eu diweddaru'n flynyddol.
Mae'r dogfennau canlynol sy’n ymwneud â’r cynllun ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:
- telerau ac amodau’r cynllun hwn
- hysbysiad preifatrwydd
- canllawiau i weinyddwyr a myfyrwyr
Rhoddir y dogfennau canlynol i Bartneriaethau AGA i helpu i weithredu’r cynllun:
- llythyr dyfarnu grant
- contract ar gyfer gweinyddu'r grant
Mae'r dogfennau hyn yn nodi gofynion y cynllun a byddant yn help wrth wirio cymhwysedd myfyrwyr. Gwnewch yn siŵr bod y flwyddyn astudio gywir wedi'i nodi ar y dogfennau yr ydych yn eu darllen.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r cynllun hwn neu gynlluniau o flynyddoedd blaenorol, cysylltwch â CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.
Sut i weinyddu ceisiadau ar gyfer y cynllun hwn
Partneriaethau AGA sy’n gyfrifol am weinyddu’r cynllun cymhelliant hwn, ac am asesu cymhwysedd myfyrwyr ar ei gyfer.
Cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu’r canlynol â Phartneriaethau AGA:
- gwe-ddolen i’r ffurflen gais ar-lein
- cod ymgeisio’r Bartneriaeth AGA
Rhaid ichi rannu’r rhain â’r myfyrwyr hynny yr ydych yn eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cymhelliant hwn.
Proses ymgeisio myfyrwyr
Dim ond ar sail y canlynol y caiff myfyrwyr wneud cais am grant cymhelliant:
- eu bod yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd
- eu bod yn astudio ar raglen gymwys
- eu bod wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru drwy’r porthol ar-lein
Gall myfyrwyr wneud cais rhwng 1 Medi a 15 Tachwedd.
Os bydd angen i fyfyriwr wneud cais y tu allan i’r cyfnod hwn, dylent gysylltu â Llywodraeth Cymru yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru
Bydd angen y we-ddolen i’r ffurflen gais a chod ymgeisio’r Bartneriaeth AGA ar fyfyrwyr.
Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau, dylent gysylltu â’u Partneriaeth AGA.
Sut i sicrhau bod ceisiadau wedi cyrraedd
Bydd myfyrwyr yn cael e-bost cadarnhau unwaith y byddant wedi cyflwyno eu cais. Dim ond ar ôl iddynt gael yr e-bost hwn y dylent ystyried bod eu cais wedi’i gyflwyno.
Os bydd myfyriwr yn gwneud camgymeriad, ni ddylai gyflwyno cais newydd. Caiff camgymeriadau eu cywiro yn ystod y broses ddilysu.
Adrodiad dilysu
Caiff cod ymgeisio’r Bartneriaeth AGA ei rhannu bob blwyddyn â’r Partneriaethau. Rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio’r cod hwn wrth wneud cais am y cymhelliant. Mae’n gwarantu’r cais ac yn cysylltu myfyrwyr â Phartneriaethau AGA.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu adroddiad dilysu â Phartneriaethau AGA cyn 30 Tachwedd. Mae’n ofynnol i Bartneriaethau AGA wirio’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn a darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen. Rhaid dychwelyd yr adroddiad dilysu i Lywodraeth Cymru erbyn 15 Rhagfyr. Mae’r amserlen hon yn gydnaws â’r broses hawlio.
Mae’r llythyr dyfarnu grant yn rhoi manylion y broses hon. Bydd yr adroddiad dilysu hefyd yn rhoi canllawiau o ran ei chwblhau.
Taliadau grant
Mae grant cymhelliant o £15,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd.
Bydd union ddyddiadau'r taliadau i Bartneriaethau AGA yn cael eu nodi yn y llythyr dyfarnu grant.
Myfyrwyr amser llawn
Telir y cymhelliant gwerth £15,000 mewn tri rhandaliad, yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr.
- £6,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR, wrth barhau â'i raglen AGA. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am wneud y rhandaliad hwn.
- £6,000 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am wneud y rhandaliad hwn.
- £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wneud y rhandaliad hwn.
Myfyrwyr rhan-amser
Telir y cymhelliant gwerth £15,000 mewn pedwar rhandaliad yn ystod rhaglen AGA ran-amser a dechrau gyrfa myfyriwr:
- £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR, wrth barhau â'i raglen AGA. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am wneud y rhandaliad hwn.
- £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ail flwyddyn ei gwrs TAR, wrth barhau â'i raglen AGA. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am wneud y rhandaliad hwn.
- £6,000 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am wneud y rhandaliad hwn.
- £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wneud y rhandaliad hwn.
Myfyrwyr a aseswyd gan fwrdd arholi ailgyflwyno
Dylai Partneriaethau AGA gyflwyno ffurflen hawlio ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cael eu hasesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno ac sydd wedi derbyn SAC. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl gwneud taliadau cyn 31 Rhagfyr.
Rhandaliadau yn ystod y rhaglen
Dim ond i fyfyrwyr sy'n parhau â'u rhaglen AGA y dylech dalu rhandaliadau yn ystod y rhaglen. Rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau tymor yr hydref a dechrau tymor y gaeaf neu'r gwanwyn gyda'r bwriad o barhau â'u hastudiaethau, er mwyn parhau i fod yn gymwys i gael y rhandaliad yn ystod y rhaglen.
Os bydd unrhyw fyfyriwr wedi tynnu'n ôl neu wedi gohirio rhaglen cyn dyddiad talu'r rhandaliad yn ystod y rhaglen, ni ddylid ei dalu. Gweler yr adran 'gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio' yn y canllawiau hyn.
Rhandaliad SAC
Dim ond i’r myfyrwyr hynny sydd wedi cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC y dylech wneud y rhandaliad SAC (ar ôl dyfarnu SAC). Os bydd myfyriwr yn methu ag ennill SAC, ni ddylid gwneud y taliad.
Os bydd myfyriwr wedi tynnu'n ôl o raglen neu wedi ei gohirio cyn i SAC gael ei ddyfarnu, ni ddylid gwneud y taliad.
Rhandaliad sefydlu
Mae'r rhandaliad sefydlu yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Rhaid i athrawon sydd newydd gymhwyso ddefnyddio'r broses gais ar-lein i ymgeisio am un neu sawl rhandaliad sefydlu o dan un neu fwy o'r cynlluniau cymhelliant. Mae angen i'r ysgol gadarnhau manylion yr unigolyn.
Gweler yr adran yn y canllawiau hyn ar y broses taliadau sefydlu am fanylion rôl Partneriaeth AGA.
Swyddogaethau a chyfrifoldebau
Caiff y cynllun cymhelliant hwn ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am delerau ac amodau'r cynllun, a hi sy'n rheoli data'r cynllun.
Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am asesu myfyrwyr ac am daliadau a wneir yn ystod y rhaglen ac ar ôl dyfarnu SAC.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y rhandaliad sefydlu.
Cyfrifoldebau Partneriaeth AGA o ran gweinyddu’r grant
- Defnyddio’r cynllun cymhelliant i helpu i recriwtio i raglenni AGA cymwys, lle bo’n briodol.
- Nodi'r myfyrwyr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd.
- Sicrhau mynediad i fyfyrwyr cymwys at y broses gais ar-lein ar ddechrau'r rhaglen AGA. Mae'r broses gais ar-lein yn cwmpasu pob un o'r tri chynllun cymhelliant AGA.
- Sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau'r cynllun.
- Dilysu ceisiadau myfyrwyr.
- Rhannu'r wybodaeth am fyfyrwyr, sy'n angenrheidiol ar gyfer y cynllun, â Llywodraeth Cymru mewn modd diogel (er enghraifft, adroddiad dilysu, ffurflenni hawlio). Rhaid cydymffurfio â gofynion diogelu data a thelerau'r llythyr dyfarnu grant.
- Llenwi ffurflenni hawlio yn unol â dyddiadau rhandaliadau yn ystod y rhaglen, a nodir yn y llythyr dyfarnu grant.
- Llenwi ffurflenni hawlio yn unol â dyddiadau dyfarnu SAC, a nodir yn y llythyr dyfarnu grant.
- Cefnogi myfyrwyr i lenwi ffurflen ddychwelyd, yn ôl yr angen.
- Gweinyddu rhandaliadau yn ystod y rhaglen a rhandaliadau SAC i fyfyrwyr.
- Delio â chwestiynau gan fyfyrwyr ynghylch y cynllun cymhelliant.
- Cynghori myfyrwyr ar y broses hawliadau sefydlu. Bydd hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth a gwe-ddolen i'r ffurflen gais ar-lein â’r myfyrwyr. Esbonnir hyn yn y llythyr dyfarnu a'r adran yn y canllawiau hyn ar y broses taliadau sefydlu.
- Rhoi anfoneb i Lywodraeth Cymru am gost gweinyddu'r cynllun, fel y nodir yn y contract.
Caiff holl gyfrifoldebau'r Partneriaethau AGA a'r dyddiadau pwysig eu cyhoeddi bob blwyddyn mewn llythyrau dyfarnu grant a llythyrau contract unigol. Dylai Partneriaethau AGA gysylltu â CymelldaliadauAGA@llyw.cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.
Sut caiff y taliad ei wneud i Bartneriaethau AGA
Rhaid i Bartneriaethau AGA lenwi a chyflwyno ffurflenni hawlio i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod arian priodol yn cael ei ryddhau ar gyfer rhandaliadau yn ystod y rhaglen a rhandaliadau SAC.
Dyma'r dyddiadau ar gyfer cyflwyno hawliadau:
- 1 i 13 Ionawr ar gyfer rhandaliadau yn ystod y rhaglen
- 1 i 17 Awst ar gyfer rhandaliadau SAC
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y llythyr dyfarnu grant.
Dylai Partneriaethau AGA roi anfoneb i Lywodraeth Cymru unwaith y cytunir ar bob hawliad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghontract gweinyddu'r cynllun.
Dylai Partneriaethau AGA gyfeirio unrhyw gwestiynau sydd ganddynt ynghylch y broses dalu at CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.
Y broses taliadau sefydlu
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am dalu'r rhandaliad sefydlu o dan y cynllun cymhelliant. Caiff hwn ei dalu ar ôl cwblhau'r broses sefydlu yn llwyddiannus ac ar ôl i Gyngor y Gweithlu Addysg ddyfarnu tystysgrif sefydlu.
Rhaid i unigolion ddefnyddio'r broses gais ar-lein i ymgeisio am un neu sawl taliad sefydlu o dan y cynllun cymhelliant. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu gwe-ddolen i'r ffurflen gais i Bartneriaethau AGA. Rhaid i Bartneriaethau AGA rannu hon â'r myfyrwyr cymwys hynny ar ôl dyfarnu SAC iddynt.
Rhaid i fyfyrwyr fod wedi derbyn eu rhandaliad SAC, cwblhau eu proses sefydlu a derbyn eu tystysgrif sefydlu gan Gyngor y Gweithlu Addysg cyn y gallant wneud cais am y rhandaliad sefydlu.
Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau am y broses sefydlu, dylent gysylltu â Llywodraeth Cymru drwy e-bostio CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.
Y broses hawliadau sefydlu
Mae 3 rhan i broses hawliadau sefydlu AGA:
- ffurflen gais am randaliad sefydlu (rhaid i'r ymgeisydd gwblhau hon ar-lein)
- cadarnhad gan yr ysgol sefydlu (rhaid i'r ysgol sefydlu wneud hyn ar-lein)
- tystysgrif sefydlu (rhaid i'r ysgol sefydlu gyflwyno copi ohoni i Lywodraeth Cymru)
Dim ond ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn 3 rhan y broses y bydd cais sefydlu yn cael ei ystyried yn gyflawn.
Gall athrawon sydd newydd gymhwyso neu ysgolion gysylltu â Llywodraeth Cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y broses hon yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.
Hawliad sefydlu Rhan 1
Rhaid i unigolion cymwys wneud cais i Lywodraeth Cymru i hawlio eu rhandaliad sefydlu drwy gwblhau cais ar-lein o dan y cynllun cymhelliant.
Gall unigolion gysylltu â Llywodraeth Cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y broses hon yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru
Hawliad sefydlu Rhannau 2 a 3
Rhaid i'r ysgol lle cwblhawyd cyfnod sefydlu athro sydd newydd gymhwyso gadarnhau cais sefydlu o dan gynllun cymhelliant AGA. Rhaid iddynt lenwi ffurflen gadarnhau ar-lein a chyflwyno copi o dystysgrif sefydlu'r ymgeisydd i Lywodraeth Cymru.
Dylai Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, Pennaeth Cynorthwyol neu Bennaeth Adran ysgol lenwi rhannau 2 a 3 o'r ffurflen hawlio hon. Bydd methu â darparu cadarnhad neu gyflwyno'r dystysgrif sefydlu yn golygu bod cais yr ymgeisydd am randaliad sefydlu AGA yn cael ei wrthod.
Bydd yr holl gyfarwyddiadau i gwblhau rhannau 2 a 3 yn cael eu rhoi'n uniongyrchol i'r Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth, y Pennaeth Cynorthwyol neu'r Pennaeth Adran. Os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y broses hon, gallant gysylltu â Llywodraeth Cymru yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru
Amserlen taliadau sefydlu
Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n ennill SAC, ond nad ydynt yn cwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn y cyfnod penodedig mewn ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru, hawl i gael y rhandaliad sefydlu.
I barhau i fod yn gymwys i dderbyn y rhandaliad sefydlu:
- rhaid cwblhau'r cyfnod sefydlu o fewn 3 blynedd i ennill SAC mewn lleoliad a gynhelir yng Nghymru
- rhaid gwneud cais ar-lein i Lywodraeth Cymru o fewn blwyddyn ar ôl i'r athro newydd gymhwyso gwblhau ei gyfnod sefydlu.
Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio
Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol i'r flwyddyn pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr neu pan gawsant eu gohirio, gwneir taliadau ar yr un gyfradd (os o gwbl) a oedd yn weithredol y flwyddyn academaidd pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr neu pan gawsant eu gohirio, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig.
Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA, bydd angen iddo lenwi ffurflen gohirio ac ailgydio. Rhaid i'r myfyriwr gwblhau'r ffurflen hon a'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru. Rhaid i Bartneriaethau AGA gynnwys y manylion hyn yn y ffurflen hawlio briodol.
Mae ffurflenni gohirio ac ailgydio ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gais. Caiff ffurflenni a gwblheir eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a'u rhannu â'r Bartneriaeth AGA berthnasol. Bydd unrhyw daliadau a wneir i fyfyrwyr sy’n ailgydio mewn rhaglen AGA yn ystyried unrhyw daliadau a dderbyniwyd yn flaenorol.
Taliadau yn ystod y rhaglen (a delir ym mis Ionawr)
Os yw myfyriwr amser llawn yn gohirio ei astudiaethau:
- cyn y bydd y rhandaliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus,
- neu os nad yw'n dychwelyd neu'n bwriadu dychwelyd i'w raglen AGA,
ni fydd yn gymwys i dderbyn y rhandaliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y rhandaliad a gollwyd ar ôl dyfarnu SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y rhandaliad SAC.
Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau cyn y bydd y rhandaliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus, ni fydd yn gymwys i dderbyn y rhandaliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y rhandaliad a gollwyd yn ei ail flwyddyn. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl i’r myfyriwr gwblhau ei flwyddyn gyntaf ac yn ychwanegol at yr ail randaliad a wneir yn ystod y rhaglen (ym mis Ionawr).
Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau ar ôl derbyn y rhandaliad cyntaf yn ystod y rhaglen (ym mis Ionawr ei flwyddyn gyntaf) a chyn y bydd yr ail randaliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus (ym mis Ionawr ei ail flwyddyn), ni fydd yn gymwys i dderbyn yr ail randaliad a oedd i'w dalu yn ystod y rhaglen. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr ail flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y rhandaliad a gollwyd ar ôl dyfarnu SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y rhandaliad SAC.
Ni chaiff myfyrwyr amser llawn sy'n tynnu'n ôl o raglen cyn y bydd y rhandaliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus unrhyw daliad.
Ni chaiff myfyrwyr rhan-amser sy'n tynnu'n ôl o raglen cyn y bydd y rhandaliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus, yn eu blwyddyn gyntaf, unrhyw daliad. Ni chaiff myfyrwyr rhan-amser a dderbyniodd y rhandaliad cyntaf yn ystod y rhaglen (ym mis Ionawr eu blwyddyn gyntaf), ond sy'n tynnu'n ôl cyn y bydd yr ail randaliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus (ym mis Ionawr eu hail flwyddyn), unrhyw daliad pellach.
Taliad SAC
Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau ar ôl derbyn rhandaliad a wneir yn ystod y rhaglen a chyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i dderbyn y rhandaliad SAC. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i dderbyn y rhandaliad SAC ar ôl dyfarnu SAC iddo. Mae'n rhaid i ffurflen ddychwelyd fod wedi'i chwblhau a'i derbyn gan Lywodraeth Cymru. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd taliad yn cael ei wneud ar ôl cwblhau rhaglen (ar ôl dyfarnu SAC). Gall partneriaethau AGA ofyn am ddolen i’r ffurflen ddychwelyd o CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.
Os bydd myfyriwr yn tynnu'n ôl o raglen ar ôl derbyn y rhandaliad cyntaf yn ystod y rhaglen, ond cyn ennill SAC, dim ond i’r rhandaliad a dderbyniwyd eisoes y bydd ganddo hawl.
Ni fydd gan fyfyrwyr nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen hawl i gael y rhandaliad SAC.
Myfyrwyr a ddechreuodd raglen AGA cyn 2022 ac sy'n dychwelyd
Bydd myfyrwyr a ddechreuodd raglen AGA cyn Medi 2022 ac a ddychwelodd ar ôl Medi 2023 yn symud i'r strwythur taliadau a nodir yn y canllawiau hyn. Bydd cyfanswm y cymhelliant yn parhau yn unol â’r hyn a nodir o dan Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2021 a blynyddoedd blaenorol, ond gan dynnu unrhyw daliadau a dderbyniwyd eisoes. Nid yw taliadau tymhorol ar gael bellach o dan y cynllun hwn.
Adennill grantiau cymhelliant
Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddi ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn neu beidio, a bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.
Gall Llywodraeth Cymru arfer y pwerau hyn o dan yr amgylchiadau canlynol:
- os yw’r derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwysedd a nodir yn nhelerau ac amodau’r cynllun mewn perthynas â rhandaliad dilynol;
- os yw'r derbynnydd wedi darparu gwybodaeth sy'n ffug neu'n sylweddol gamarweiniol yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â'r cais;
- neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen neu nad oedd yn fwriad ganddo fynd i addysgu ar ôl ei chwblhau.
Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth
Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno, fel rhan o'u cais o dan gynllun cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (“y Ddeddf Diogelu Data").
Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ei disgresiwn llwyr:
- a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael o dan y Cyllid, neu mewn cysylltiad ag ef, i’r graddau y mae’n ofynnol iddi ddatgelu’r cyfryw wybodaeth i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR; a/neu
- a yw unrhyw wybodaeth wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
- a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Byddai hyn yn golygu rhannu eich data personol ag asiantaethau atal twyll trydydd parti.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gesglir gennym yn cael eu rheoli yn unol â’n Hysbysiad preifatrwydd a Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.
Cefndir y cynllun
Mae’r grantiau cymhelliant AGA sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru. Maent ar gael i fyfyrwyr cymwys ar raglenni AGA ôl-raddedig cymwys yng Nghymru.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol i hyrwyddo'r ymgais i recriwtio neu gadw athrawon neu staff nad ydynt yn addysgu. Mae'r grant hwn ar waith i annog unigolion i hyfforddi ar gyfer y proffesiwn addysgu, mynd i mewn i'r proffesiwn addysgu, ac aros yno. Nid yw cymhellion AGA yn rhan o becyn cyllid myfyrwyr.
Mae'r cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn cael ei adolygu'n flynyddol. Mae pob Cynllun yn gwneud darpariaeth i fyfyrwyr AGA ôl-raddedig, sy'n astudio eu rhaglen AGA achrededig mewn pwnc penodedig, gael manteisio ar y cymhellion.
