Yn y canllaw hwn
2. Cymhwysedd
I fod yn gymwys i gael cymorth gan y Cynllun Cymorth Lesddeiliaid mae'n rhaid i chi:
- fod yn berchennog eiddo mewn adeilad cymwys
- pasio'r asesiad cymhwysedd ariannol (ffurflen gwariant incwm i fesur eich incwm gwario yn erbyn diffiniad y Comisiwn Metrigau Cymdeithasol o galedi ariannol sylweddol)
Os nad ydych yn gymwys ar hyn o bryd a bod eich amgylchiadau'n newid yna gallwch ailymgeisio.
Defnyddiwch wiriwr cymhwysedd y Cynllun Cymorth Lesddeiliaid i weld a allwch fod yn gymwys i gael cymorth gan y cynllun.