Neidio i'r prif gynnwy

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Y Cynllun Diogelu ar gyfer y Gaeaf (WPP) yw cynllun hollgynhwysfawr Llywodraeth Cymru a fydd yn amlinellu’r cyd-destun eang a chyfeiriad y daith ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol tan fis Mawrth 2021. Mae’n amlinellu gofynion rhanddeiliaid, ynghylch yr ystod o gamau gweithredu a’r camau wrth gefn y disgwylir iddynt gael ei rhoi ar waith a draws y system iechyd a gofal, a gyda phartneriaid ehangach, i reoli argyfwng iechyd y cyhoedd a darparu gwasanaethau dros gyfnod heriol y gaeaf sydd o’n blaenau ni. Mae’n rhoi sicrwydd i’r cyhoedd ein bod yn gweithio gyda’n gilydd ledled y wlad i gadw Cymru’n ddiogel.

Cynhaliwyd gweithgareddau ymchwil amrywiol (yn cynnwys arolygon plant) a fydd yn parhau i gael eu cynnal ledled Cymru a’r DU er mwyn deall effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc ac ar wasanaethau iechyd a gofal plant. Bydd canlyniadau’r astudiaethau hyn yn llywio egwyddorion a dulliau gweithredu a fabwysiedir gan Lywodraeth Cymru wrth inni barhau i ddysgu a deall y ffordd y mae COVID-19 yn gweithio.

Cydnabyddir ar hyn o bryd fod plant iau yn llai agored i COVID-19. Dangosir hyn gan y ffaith bod llai o berygl i blant iau ddal y clefyd yn ogystal â llai o berygl iddyn nhw ddatblygu symptomau difrifol yn sgil dal COVID-19. O ganlyniad y consensws cyffredinol yw bod llai o berygl i blant ledaenu’r clefyd na’r hyn a oedd yn cael ei gredu ar y dechrau. Mae’r WPP yn ymdrin â’r boblogaeth gyfan ac felly mae plant yn cael eu cynnwys yn y gofynion, er nad oes cyfeiriad arbennig atynt.

Mae ymchwil gan Brifysgol Rhydychen yn dangos y gallai effaith y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc fod yn sylweddol. Mae rhieni a gofalwyr plant rhwng 4 a 10 oed yn adrodd am gynnydd yn anawsterau emosiynol eu plant - teimlo’n ddigalon ac yn gofidio ac yn profi symptomau corfforol a gysylltir â gofid*. Mae 39% o blant a phobl ifanc 11-18 oed a ymatebodd i arolwg Comisiynydd Plant Cymru ‘Coronafeirws a Fi’** yn adrodd eu bod wedi teimlo’n ofidus y rhan fwyaf o’r amser neu ran o’r amser yn ystod y pandemig.

Mae gweithredu gwasanaethau hanfodol yn ystod gaeaf 2020/21 yn bwysig i blant o bob oed. Mae’r WPP yn cydnabod yr angen i wasanaethau hanfodol gael eu cynnal gan ddatgan bod angen:

  • I wasanaethau gael eu cynllunio o amgylch yr unigolyn ac o amgylch grwpiau o bobl, yn seiliedig ar eu hanghenion unigryw a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw yn ogystal â chanlyniadau o ansawdd a diogelwch;
  •  I bobl fynd i ysbyty cyffredinol dim ond pan fo’n hanfodol, gyda gwasanaethau

wedi eu cynllunio i leihau’r amser a dreulir yn yr ysbyty;

  • Symud adnoddau i’r gymuned er mwyn ei gwneud yn haws cael gofal yn yr ysbyty (pan fo’i angen) yn gynt; a
  •  Defnyddio technoleg i gefnogi gwasanaethau o ansawdd.

Bydd hyn yn cynnwys gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn ogystal ag oedolion.

Eglurwch sut y mae’r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Drwy ddatblygu’r WPP y bwriad yw iddo gael effaith gadarnhaol ar nifer o erthyglau’r CCUHP, yn arbennig: 

Erthygl 6: Yr hawl i fywyd ac i dyfu i fod yn iach

Erthygl 19: Yr hawl i beidio cael eu niweidio a dylent gael gofal a’u cadw’n ddiogel

Erthygl 20: Yr hawl i dderbyn gofal iawn os nad yw’r plentyn yn gallu byw gyda’i deulu/ei theulu ei hun

Erthygl 23: Yr hawl i ofal arbennig a chymorth os yw’r plentyn yn anabl er mwyn iddo/iddi gael byw bywyd llawn ac annibynnol

Erthygl 24: Yr hawl i fwyd a dŵr da ac i weld y meddyg os yw’n sâl

Erthygl 25: Dylid mynd i weld plant nad ydynt yn byw gyda’u teuluoedd yn gyson er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel

Erthygl 39: Yr hawl i gymorth arbennig os ydynt wedi cael eu cam-drin

Rhan o swyddogaeth WPP yw sicrhau’r cyhoedd ein bod yn gweithio gyda’n gilydd ledled y wlad i gadw Cymru’n ddiogel, ac mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc.

Mae’r WPP yn cydnabod y pedair lefel o niwed:

  1. Niwed o Covid ei hun
  2. Niwed o Wasanaethau Iechyd a system gofal cymdeithasol sydd wedi’u gorlethu
  3. Niwed o leihad mewn gweithgarwch nad yw’n gysylltiedig â Covid
  4. Niwed o gamau / cyfyngiadau cymdeithasol ehangach

Mae’r WPP yn atgyfnerthu’r angen i gynnal gwasanaethau hanfodol yn ystod gaeaf 2020/21 a thu hwnt. Ar gyfer plant a phobl ifanc yn arbennig mae hyn yn hanfodol i sicrhau eu bod yn gallu cael y cymorth a’r driniaeth y maent eu hangen ar gyfer llesiant meddyliol neu lesiant corfforol.

Oherwydd i nifer o ddatrysiadau digidol ar gyfer ymdrin ag anghenion cymorth plant a phobl ifanc gael eu cyflwyno (er enghraifft, pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc a chanolfan wybodaeth ar gyfer plant ifanc sydd wedi profi gofal), bydd angen cefnogi’r rheini sydd wedi’u heithrio’n ddigidol, boed hynny ar gyfer achosion o Covid-19 yn unig neu yn ehangach yn y gymdeithas. 

Bydd angen sicrhau bod plant, pobl ifanc, eu teuluoedd a gofalwyr yn cael gafael ar wasanaethau digidol a’u bod yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen er mwyn eu defnyddio. O ganlyniad, yn ystod y cyfnodau cychwynnol, gall rhai plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi neu mewn ardaloedd gwledig lle nad oes band eang ar gael, ddioddef effeithiau negyddol o ran cael gafael ar wybodaeth.

Mae’r WPP yn amlinellu ystod o feysydd y dylai sefydliadau’r GIG a’u partneriaid gofal cymdeithasol fod yn ymwybodol ohonynt wrth gynllunio ar gyfer y gaeaf. Er nad oes adran benodol ar gyfer plant, mae disgwyl i sefydliadau partner gynllunio a darparu gwasanaethau priodol ar gyfer plant a phobl ifanc yn unol â’u dyletswyddau statudol.

Mae’r WPP yn cydnabod pwysigrwydd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb am sut y mae Covid-19 yn symud ac yn lledaenu dros Gymru y gaeaf hwn. Defnyddir dulliau amrywiol (gan gynnwys cynadleddau i’r wasg, defnyddio teledu, radio, papurau newydd a chyfryngau cymdeithasol). Bydd hyn yn cynnwys safleoedd cyfryngau cyfeillgar i blant a chymorth a reolir drwy ysgolion a sefydliadau addysgol (e.e. meithrinfeydd ac addysg bellach).