Bydd cam olaf datblygiad Dangosfwrdd Cyffredinol SFS ar waith erbyn 1 Rhagfyr.
Taliadau ymlaen llaw a balans y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS)
O 15 Hydref rydym wedi bod yn dyrannu taliadau ymlaen llaw sy'n cyfateb i 80% o werth disgwyliedig eich hawliad.
Byddwn yn parhau i brosesu taliadau ymlaen llaw sy'n weddill hyd 3 Tachwedd. Os nad ydych wedi derbyn eich taliad ymlaen llaw, edrychwch ar RPW Ar-lein am negeseuon rhag ofn bod ymholiadau y mae angen i chi ymateb iddynt.
Byddwn yn paratoi taliadau balans/llawn ym mis Tachwedd a’n bwriad yw dechrau dyrannu taliadau o ganol mis Rhagfyr, ar ôl i'ch hawliad gael ei ddilysu yn llawn. Ni allwn gyfrifo eich taliad balans nes eich bod wedi diweddaru eich Dangosfwrdd Cyffredinol SFS i gadarnhau bod eich holl Weithredoedd Cyffredinol (UAs) perthnasol wedi'u cwblhau.
Integreiddio RPW a Cyswllt Ffermio
Bydd cam olaf datblygiad Dangosfwrdd Cyffredinol SFS ar waith erbyn 1 Rhagfyr. Bydd hyn yn diweddaru Dangosfwrdd Cyffredinol SFS yn awtomatig gydag unrhyw DPA (sy'n berthnasol i UA3) a dysgu (sy'n berthnasol i UA4) a gwblhawyd gyda Cyswllt Ffermio yn barod ar gyfer cyfrifo taliadau balans, ond dim ond os ydych wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio trwy RPW Ar-lein.
Cwblhau eich Gweithredoedd Cyffredinol
Rhaid cwblhau'r rhan fwyaf o* Weithredoedd Cyffredinol erbyn 31 Rhagfyr 2026, gyda chadarnhad wedi'i gyflwyno trwy eich Dangosfwrdd Cyffredinol SFS erbyn 15 Ionawr 2027.
Mae eich Dangosfwrdd Cyffredinol SFS yn rhestru'r holl Weithredoedd Cyffredinol sy'n berthnasol i'ch daliad.
- Gwybodaeth lawn ar gwblhau eich Gweithredoedd Cyffredinol.
- Canllawiau ar gyfer defnyddio'r Dangosfwrdd Cyffredinol.
Nodwch fod Datblygiad Proffesiynol Parhaus UA4 yn cynnwys gofyniad i ymgymryd â modiwl e-ddysgu Iechyd a Diogelwch gorfodol (un awr) Cyswllt Ffermio.
Bydd angen i chi gofrestru gyda Cyswllt Ffermio i allu cael mynediad i'r modiwl hwn ac unrhyw fodiwlau dysgu eraill gan Cyswllt Ffermio yr hoffech eu gwneud fel rhan o UA4.
Rydym yn gwerthfawrogi mai hon yw blwyddyn gyntaf y cynllun, ac yn ogystal â gorfod deall beth sydd ei angen ar gyfer eich Gweithredoedd Cyffredinol cymwys, rydych hefyd wedi bod yn delio â heriau sychder sy'n effeithio ar y gwaith o reoli fferm o ddydd i ddydd.
Os mai dim ond rhai o'ch Gweithredoedd Cyffredinol unigol yr ydych wedi gallu cwblhau'n rhannol, hoffem i chi ddiweddaru'ch Dangosfwrdd gan nodi'r hyn rydych chi wedi gallu ei gwblhau.
Er enghraifft, os nad oeddech yn gallu cwblhau profion pridd ar 20% o'ch parseli yn ôl yr angen, ond eich bod wedi ymgymryd ag o leiaf rhai profion pridd, rhowch wybod i ni.
Unwaith bydd Dangosfwrdd Cyffredinol SFS wedi’i ddiweddaru a’i fod yn gyflawn byddwn yn anfon llythyrau cynghori ar ôl taliadau mewn perthynas ag unrhyw Weithredoedd Cyffredinol sydd wedi'u cwblhau'n rhannol i'ch helpu i baratoi ar gyfer cwblhau'r Gweithredoedd Cyffredinol yn llawn y flwyddyn nesaf.
*Nid oes angen cwblhau Cynllun Rheoli Safle Dynodedig UA7 (DSMP) tan 2030.
UA10 Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd: Mae'r Weithred Gyffredinol hon yn cynnwys gofyniad i chi gwblhau cynllun plannu erbyn diwedd eleni. Mae'r Weithred Gyffredinol hefyd yn cynnwys gofyniad i blannu o leiaf 0.1 ha o goetir newydd, neu 250 o goed newydd. Nid oes angen cwblhau'r plannu hwn tan ddiwedd 2028.
Gweithredoedd Cyffredinol anghyflawn a gostyngiadau i daliadau
Os ydych yn rhoi gwybod i ni nad ydych wedi cwblhau Gweithred Gyffredinol benodol, neu os nad ydych yn diweddaru'ch Dangosfwrdd erbyn 15 Ionawr i roi gwybod i ni eich bod wedi cwblhau Gweithred Gyffredinol benodol, bydd gostyngiad yn cael ei gymhwyso i gyfanswm eich Taliad Cynhwysol SFS. Bydd hyn yn cyfateb i 4% ar gyfer pob Gweithred Gyffredinol anghyflawn yn unol â'r safonau dilysadwy a matrics sancsiynau cyhoeddedig.
Cyngor ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y Ffair Aeaf
Bydd staff Llywodraeth Cymru ar gael yn y Ffair Aeaf i ateb eich cwestiynau am y cynllun a'ch cynghori. Mae ein prif stondin yn Neuadd Morgannwg, a byddwn hefyd yn agor Pafiliwn Llywodraeth Cymru (gyferbyn ag NFU Cymru) er mwyn i chi allu ymweld â ni i holi unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cynllun.
Sylwch na fyddwn ni'n gallu mynd i'ch cyfrif na'ch helpu i lenwi'ch cofnodion SFS ar-lein yn y Ffair Aeaf. Ond, fe allwn ni gynnig cyngor cyffredinol ar gwblhau eich Gweithredoedd Cyffredinol erbyn diwedd y flwyddyn cyn talu taliad olaf yr SFS i chi.
Cymorth Digidol
Os oes angen cymorth wyneb yn wyneb arnoch i gyrchu neu ddefnyddio RPW Ar-lein neu i ddiweddaru eich Dangosfwrdd, gallwch drefnu apwyntiad cymorth digidol yn un o'n Swyddfeydd Rhanbarthol drwy gysylltu â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004.
Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid RPW neu'r Gwasanaeth Cyswllt Fferm (FLS) am gymorth a chefnogaeth, gan gynnwys canllawiau ar ofynion y cynllun a chadw cofnodion.
Cymorth a chofrestru gyda Cyswllt Ffermio
Os oes angen help arnoch i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio, cysylltwch â'r Ganolfan Wasanaeth neu'ch Swyddog Datblygu lleol ar 03456 000 813, a all eich tywys drwy'r broses.
Trwy gofrestru gyda Cyswllt Ffermio gallwch gael mynediad at hyfforddiant a chyngor arall â chymhorthdal.
UA12 Integreiddio iechyd a lles anifeiliaid â chynlluniau sicrwydd fferm
Os yw UA12 Iechyd a lles anifeiliaid yn berthnasol i chi, rydym wedi cyhoeddi'n ddiweddar ein bod wedi integreiddio gofynion SFS ar gyfer y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) gyda'r cynlluniau Gwarant Fferm Da Byw (FAWL), Tractor Coch a Porfa am Oes .
- Trefniadau newydd yn lleihau dyblygu ar gyfer ffermwyr y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
- Datganiad Ysgrifenedig: Integreiddio Gofynion UA12 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy mewn Cynlluniau Gwarant Fferm.
Gall aelodau o'r cynlluniau sicrwydd hyn ddatgan eu haelodaeth trwy Ddangosffwrdd Cyffredinol SFS fel tystiolaeth bod gofynion AHIC UA12 wedi'u bodloni trwy gwblhau gofynion iechyd a lles anifeiliaid eu cynllun yn llwyddiannus. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod yn rhaid i chi gwblhau'r holl ofynion UA12 perthnasol eraill, gan gynnwys y gofynion lles anifeiliaid perthnasol a'r Asesiad Bioddiogelwch ar gyfer Stoc sy'n Dod i Mewn (BAIS) ar gyfer blwyddyn cynllun 2026.
Nid yw'r cyhoeddiad hwn yn effeithio ar ffermwyr nad ydynt yn aelodau o gynllun gwarant fferm cydnabyddedig a dylent barhau i ddilyn canllawiau UA12 a gyhoeddwyd a chwblhau'r gofynion a nodwyd erbyn diwedd mis Rhagfyr. Rydym yn eich annog i gysylltu â'ch milfeddyg cyn gynted â phosibl, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, i ddechrau'r broses hon.
