Neidio i'r prif gynnwy

1. Crynodeb

Mae Cynllun Grant Allwedd Band Eang Cymru (ABC) yn darparu cyllid grant i gefnogi'r gwaith o osod atebion band eang i unrhyw safle yng Nghymru nad yw'n gallu sicrhau cysylltiad drwy unrhyw ffordd arall. Gellir dewis unrhyw ateb ar yr amod bod y cyflymder lawrlwytho cyfartalog a geir ar ôl y gwaith gosod yn 30mbps (megadid yr eiliad) o leiaf.  

Mae cyllid o hyd at £800 fesul safle ar gael. 

Mae'r cyllid wedi'i rannu rhwng

  • Cyfarpar: £550
  • Costau Gosod: £250

Y gyllideb flynyddol ar gyfer y Cynllun yw £1,000,000.

2. Meini prawf cymhwysedd

Mae'r cynllun yn agored i safleoedd ar yr amod eu bod yn bodloni'r holl feini prawf canlynol:

  • O fewn ffin ddaearyddol Cymru.
  • Nid yw'n gallu sicrhau cysylltiad â chyflymder lawrlwytho o 30mbps o leiaf drwy unrhyw ddarparwr.   
  • Heb dderbyn unrhyw gyllid cyhoeddus o'r blaen gan unrhyw ymyrraeth band eang sector cyhoeddus arall yn y DU.  
  • Heb dderbyn cyllid gan Gynllun Allwedd Band Eang Cymru yn ystod y 48 mis diwethaf (gan gynnwys y cynllun a gafodd ei oedi) waeth beth fo'r cyflymderau a gafwyd yn ystod cyfnod hwn o amser.
  • Mae ganddo gyfeirnod eiddo unigryw (UPRN). 

Dyrennir UPRN i bob safle gan eich awdurdod lleol. Er mwyn i safle fod yn gymwys i gael cyllid, rhaid bod ganddo UPRN. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chasglu pan fyddwch yn gwneud cais, nid yw'n ofynnol i chi ei gyflwyno. Fodd bynnag, os hoffech wirio manylion UPRN eich safle, ewch i http://www.findmyaddress.co.uk/

I wirio a oes gennych fynediad eisoes at wasanaeth 30Mbps o leiaf cyn gwneud cais, defnyddiwch declyn gwirio gwasanaethau band eang Ofcom. Sylwch y bydd yn rhaid i chi gysylltu ag un o'r darparwyr a restrir er mwyn derbyn gwasanaeth.

3. Amodau'r cynllun

Sylwch fod Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i gau neu newid amodau'r cynllun, meini prawf cymhwysedd grantiau, symiau cyllid a rhaniadau cyllid ar unrhyw adeg.

Safleoedd – Pawb

  • Rhaid i bob cais gael ei wneud drwy berchennog y safle. Os ydych chi'n gwneud cais am safle nad ydych chi'n berchen arno, rhaid i chi ofyn am ganiatâd gan y perchennog cyn gwneud cais.
  • Ni all unrhyw ddarparwr wneud ceisiadau ar ran yr ymgeisydd. Bydd unrhyw gais sy'n cael ei wneud gan unrhyw ddarparwr ar ran ymgeisydd yn cael ei ystyried yn anghymwys ac yn cael ei wrthod.
  • Rhaid i bob cais gynnwys y cyfeiriad post llawn, gan gynnwys cod post. Bydd unrhyw gais heb y cod post yn cael ei wrthod yn awtomatig.
  • Gellir gwneud un cais ar y mwyaf fesul safle, waeth beth fo cyfanswm y costau cyffredinol.
  • Rhaid i'r holl atebion a osodir aros yn y safle y gwnaed cais amdano, ac ni ellir eu trosglwyddo o dan unrhyw amgylchiadau.

Safleoedd – Busnesau

  • Os ydych chi'n gwneud cais ar gyfer busnes neu fenter, rhaid i bob cais gadarnhau statws TAW a rhif cofrestru TAW pan fo hynny'n berthnasol.  
  • Bydd ymgeiswyr sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW yn gymwys ar gyfer y swm net yn unig, h.y. ni fyddwch yn gallu hawlio unrhyw TAW.
  • Bydd pob cais a wneir ar gyfer busnesau yn cael ei ddyfarnu yn unol â Rhan 3, Pennod 2 o Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 fel Cymorth Ariannol Lleiaf:
    Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 (legislation.gov.uk).
  • Mae angen i bob ymgeisydd gadarnhau nad ydynt wedi derbyn dros £315,000 yn y flwyddyn gyfredol a'r ddwy flynedd ariannol flaenorol i fod yn gymwys. Cysylltwch â'r blwch post Band Eang bandeang@llyw.cymru os ydych chi'n credu y byddwch yn torri'r terfynau hyn cyn gwneud cais.  

Ateb Band Eang

Y cyllid sydd ar gael

Uchafswm y cyllid a ddyfernir yw £800, wedi'i rannu rhwng:

  • Cyfarpar fesul safle: £550
  • Ffioedd gosod fesul safle: £250

Dangosir enghreifftiau o eitemau cymwys ac eitemau nad ydynt yn gymwys isod. Dylech nodi nad yw’r rhestr hon yn nodi popeth. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch a yw eich gwariant arfaethedig yn gymwys, cysylltwch â ni cyn gosod. Ni fydd unrhyw eitemau a ystyrir yn anghymwys yn cael eu hariannu, waeth beth fo'u gwerth neu eu dyfarniad grant.  

Eitemau cyfarpar cymwys

  • Derbynnydd / dysgl lloeren
  • Derbynnydd di-wifr / symudol
  • Llwybrydd
  • Cebl ffeibr / copr
  • Polion / bracedi ac ati

Eitemau cyfarpar nad ydynt yn gymwys

  • Systemau Atgyfnerthu Mewnol / Rhwyll
  • Cyfarpar Teledu / Ffôn
  • Caledwedd fel cyfrifiaduron, argraffwyr ac ati

Eitemau gosod cymwys

  • Ffioedd Peirianwyr / Gosodwyr
  • Arolygon Safle

Eitemau gosod nad ydynt yn gymwys

  • Cymorth a Hyfforddiant ar gyfer ymgeisydd
  • Ffioedd Cysylltu
  • Cyfarpar Gosod

Eitemau eraill nad ydynt yn gymwys

  • Ffioedd Tanysgrifio Misol
  • Ffioedd Canslo

Hawlio’r cyllid

  • Mae'r holl gyllid yn cael ei dalu mewn ôl-daliadau – h.y. mae'n rhaid i'r gwaith gosod fod wedi’i wneud cyn hawlio cyllid.
  • Mae gennych yr opsiwn i naill ai dalu eich darparwr yn uniongyrchol a hawlio cyllid yn ôl gan Lywodraeth Cymru NEU ofyn i Lywodraeth Cymru dalu'r cyllid yn uniongyrchol i'ch darparwr.  Gofynnir i chi nodi eich dewis pan fyddwch yn cyflwyno'ch hawliad am gyllid.  
  • Dylech gadarnhau gyda'ch darparwr a ydynt: 
    a)    yn fodlon derbyn y cyllid yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru
    b)    wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer unrhyw gynllun o'r blaen. Os nad ydynt, bydd angen eu rhoi ar ein systemau. Cysylltwch â ni i gael rhagor o arweiniad drwy'r blwch post Band Eang bandeang@llyw.cymru os yw hyn yn wir.  

Cyffredinol

  • Bydd pob cais ôl-weithredol yn cael ei wrthod waeth beth fo'r amgylchiadau ac ni fyddwn yn gohebu yn ei gylch.
  • Nid yw safleoedd sydd wedi cael cyllid Allwedd Band Eang Cymru, gan gynnwys y cynllun a gafodd ei oedi, yn ystod y 48 mis diwethaf yn gymwys i ailymgeisio waeth beth fo'r cyflymderau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwn.
  • Atgoffir pob ymgeisydd nad yw Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor nac arweiniad ar addasrwydd unrhyw ateb. Mae'r holl ymgeiswyr yn gyfrifol am ddewis eu hatebion a'u darparwyr eu hunain. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw unrhyw broblemau naill gyda'r cyfarpar neu'r darparwr ar ôl yr hawliad ac nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. 

4. Sut i ymgeisio

Os ydych chi'n credu bod eich safle yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, dylid gwneud ceisiadau drwy Borth Ymgeisio Allwedd Band Eang Cymru. Bydd gofyn i chi gofrestru ar y porth, a bydd angen i chi ddarparu manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost. 

Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu gwneud cais am y cynllun.  Yr unig wybodaeth fydd ei hangen ar hyn o bryd yw'r manylion cyfeiriad ar gyfer gosod y cyfarpar ac mae'n rhaid iddo gynnwys y cod post. Os ydych chi'n fusnes, yn fenter neu'n sefydliad trydydd sector, byddwch angen eich Rhif Cofrestru TAW (os oes gennych un) hefyd. Bydd angen i chi hefyd gadarnhau eich statws o ran Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA).

Cychwyn nawr

Byddwch yn gallu olrhain statws eich cais ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi i'r porth.

Os oes gennych gyfrif grant cynllun Allwedd Band Eang Cymru eisoes, yna mewngofnodwch.

5. Beth nesaf

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, bydd yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf cymhwysedd. 

Ceisiadau

  • Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu o fewn 20 diwrnod gwaith.  Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i gynyddu'r amserlenni hyn os bydd angen. 

Cais llwyddiannus

  • Bydd llythyr cynnig yn cael ei e-bostio atoch sy'n cynnwys yr holl delerau ac amodau ar gyfer y Grant Allwedd Band Eang Cymru. Rhaid i chi ddarllen y telerau ac amodau hyn cyn derbyn y cynnig. Mae'r cynnig yn cael ei dderbyn drwy Borth Ymgeisio Allwedd Band Eang Cymru.
  • Rhaid i bob cynnig a wneir gael ei dderbyn o fewn 28 diwrnod calendr i unrhyw gynnig yn cael ei wneud, fel arall bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
  • Cliciwch ar y ddolen am lythyr cynnig enghreifftiol.

Cais aflwyddiannus

  • Anfonir e-bost yn cadarnhau bod y cais wedi bod yn aflwyddiannus. Byddwch yn cael cyfle i herio'r penderfyniad hwn os ydych chi'n credu ei fod yn anghywir. Bydd rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn yn yr e-bost.

Gosod 

  • Ar ôl i'r cynnig gael ei dderbyn, gallwch fwrw ymlaen â'r gwaith gosod. Rhaid i'r holl osodiadau ddigwydd o fewn 3 mis i'r cynnig yn cael ei dderbyn. Os na fydd hyn yn digwydd, bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl yn awtomatig, a bydd yn rhaid i chi ailymgeisio.

Pwysig

  • Peidiwch â rhoi gwybod i'ch darparwr na gosod unrhyw gyfarpar cyn i chi dderbyn y cynnig. Ym mhob achos os canfyddir bod hyn wedi digwydd, bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl ac ni ellir hawlio unrhyw arian.

Mewngofnodwch i'ch cyfrif grant cynllun Allwedd Band Eang Cymru i olrhain hynt eich cais.

6. Sut i hawlio

Ar ôl cwblhau'r gwaith gosod, dylech gyflwyno eich hawliad. Rhaid gwneud pob hawliad am gyllid drwy Borth Ymgeisio Allwedd Band Eang Cymru. Bydd disgwyl i chi gynnwys yr wybodaeth ganlynol fel rhan o'r broses hawlio

  • Canlyniadau prawf cyflymder. Dylid cadarnhau'r wybodaeth hon drwy declyn gwirio cyflymder, er enghraifft:
    o  Prawf Cyflymder Ookla gan Ookla - Y Prawf Cyflymder Band Eang Byd-eang
    o  Profwch eich cyflymder band eang - Prawf cyflymder rhyngrwyd Uswitch
  • Dylai'r swm rydych chi'n ei hawlio adlewyrchu'r anfonebau rydych chi wedi'u cael.
  • Rhaid lanlwytho copïau o anfonebau hefyd. Sylwch y dylai anfonebau nodi eitemau sy'n manylu ar y costau ar gyfer cyfarpar a ddarparwyd a'r gwaith gosod ar wahân. Bydd anfonebau heb eitemau wedi'u nodi yn cael eu gwrthod ac ni fydd yr hawliad yn cael ei dalu.
  • Dylid cyflwyno pob hawliad heb fod yn hwyrach na 28 diwrnod ar ôl i'r gosodiad gael ei gwblhau.  Bydd methu â chyflwyno'r hawliad yn arwain at y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl ac ni fydd cyllid yn cael ei dalu. Ni fydd unrhyw eithriadau i hyn.  

Mewngofnodwch i'ch cyfrif cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru i wneud hawliad

7. Talu'r hawliad

  • Bydd gwybodaeth am hawliad yn cael ei hasesu o fewn 15 diwrnod gwaith.
  • Unwaith y bydd yr hawliad wedi'i wirio, bydd yn cael ei gynnwys yn y gyfres nesaf o daliadau. Mae taliadau yn cael eu gwneud yn wythnosol ac unwaith y byddant wedi'u hawdurdodi dylent gyrraedd y cyfrif banc enwebedig o fewn 5 diwrnod gwaith.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i gynyddu'r amserlenni hyn os bydd angen.

8. Cysylltwch â ni

Ar gyfer pob gohebiaeth ac ymholiad ynglŷn â'r cynllun, cysylltwch â Thîm Allwedd Band Eang Cymru gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

bandeang@llyw.cymru

Dylid caniatáu o leiaf 5 diwrnod gwaith ar gyfer ymateb.